Rydyn ni’n eich annog i gysylltu â ni os hoffech siarad â’r tîm i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r pynciau yn y rhestr.
Rydyn ni hefyd yn parhau i ddatblygu’r pecynnau cymorth presennol a chreu adnoddau newydd i wella bywyd gwaith. Helpwch ni gyda’r broses hon drwy gadw llygad am ein harolygon a’n polau piniwn sy’n sail ar gyfer datblygu gwaith.
Dylai pawb gael bod yn nhw eu hunain. Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu yn y gwaith. Fodd bynnag, er bod cymunedau LHDTC+ wedi gweld llawer o newid cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o bobl yn dal i deimlo nad ydyn nhw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn y gwaith. Nod ein cynllun gweithredu newydd 10 cam yw newid yr agwedd hon.
Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched. Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd. Mae’n broblem fyd-eang ac mae gwahanol rannau o’r byd yn delio â hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon o ddifrif er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu.
Lawrlwythwch y pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle er mwyn dod o hyd i wybodaeth a chymorth i’ch helpu.
Mae TUC Cymru wedi datblygu cyfres o becynnau cymorth ac adroddiadau ar y menopos sydd â’r nod o helpu cynrychiolwyr undebau llafur i weithio gyda chyflogwyr i wneud gwelliannau yn y gweithle. Mae’r adnoddau’n ymdrin â gwybodaeth hanfodol am y menopos ac yn edrych ar rai o’r problemau cyffredin yn y gweithle sy’n effeithio ar y rheini sy’n ei wynebu. Maen nhw’n cynnig adnoddau ymarferol i gynrychiolwyr undebau llafur ac enghreifftiau o addasiadau i’r gweithle, camau gweithredu a rhestrau gwirio.
Nid yw gweithleoedd yn llefydd cyfartal, ac mae angen gweithredu i newid hynny. Mae undebau’n allweddol i wneud y newidiadau hyn drwy fargeinio, negodi a gweithredu ar y cyd. Fel Undebwyr Llafur, rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu undod, cyfleoedd a bargen deg i weithwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Rydyn ni wedi siarad â’r llywodraeth, wedi cyfrannu at bolisïau, ac wedi gwneud llawer o newidiadau a chynlluniau.
Nawr yw’r amser i weithredu er mwyn i ni allu cymryd camau gwirioneddol tuag at wrth-hiliaeth.
Mae eithafiaeth y dde eithafol ar gynnydd yn ein gweithleoedd a'n cymunedau. Ers refferendwm Brexit, rydyn ni wedi gweld cynnydd yng ngweithgareddau'r dde eithafol ledled Cymru.
Mae ymgyrchwyr y dde eithafol wedi bod yn ymgasglu yn ein strydoedd ac ar-lein, gan geisio recriwtio mewn cymunedau sy'n dioddef blynyddoedd o esgeulustod, tanariannu a diweithdra. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o'n cymunedau ni yma yng Nghymru.
Rhowch gynnig ar ein eNodyn Gwrthsefyll y Dde Eithafol heddiw.
Rhaid i gyflogwyr a’r llywodraeth wneud mwy i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle. Cynhaliodd TUC Cymru arolwg mawr ar fwy na 1000 o weithwyr yng Nghymru a chanfod bod llawer o weithwyr anabl eisiau gweld newid yn y ffordd mae anabledd yn cael ei drin yn y gwaith.
Felly, mae TUC Cymru wedi llunio rhestr o ofynion ymgyrchu ar gyfer llywodraethau Cymru a’r Du, yn ogystal â phecyn cymorth ymarferol y gall cynrychiolwyr yr undebau llafur ei ddefnyddio i bwyso am welliannau yn y gweithle.
Mae poblogaeth Cymru’n heneiddio’n gyflym, rydyn ni’n byw’n hirach ac yn cael llai o blant. Wrth i’r boblogaeth gyffredinol heneiddio, yna mae gweithlu Cymru’n dilyn ei esiampl. Mae mwy o weithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru nag erioed o’r blaen.
Mae nifer o weithwyr yn cael salwch difrifol rywbryd yn ystod eu bywydau. Efallai y bydd arnynt angen amser o'r gwaith, am fisoedd weithiau, i gael triniaeth neu i wella.
Ond, ar adegau, does dim triniaeth effeithiol. Yn yr achosion hynny, mae’r gweithiwr a’i deulu’n wynebu straen emosiynol enfawr, ofn, a phryderon ariannol o bosib. Gall y Siarter Afiechyd Marwol helpu i leddfu rhywfaint ar y straen hwnnw ac mae’n cyflwyno ffordd y cytunwyd arni i gyflogeion gael eu trin a’u cefnogi os ceir diagnosis o salwch terfynol.
Er gwaethaf y cynnydd mewn bod yn gaeth i gamblo, mae dioddefwyr yn teimlo llawer iawn o stigma a chywilydd. Gall undebau chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gael gwared ar y stigma hwnnw yn y gweithle a chyfeirio aelodau at y cymorth priodol.
Mae dysgu undebau yn cael dylanwad ar bopeth sy’n bwysig iddyn nhw. Gall helpu i wella Iechyd a Diogelwch, cyfle cyfartal, sicrwydd swydd a thâl.
Gall undebau llafur chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod gan aelodau'r sgiliau sydd eu hangen i gystadlu yn swyddi'r dyfodol. Gellir mynd i’r afael â llawer o’n heriau economaidd yn y dyfodol, fel digideiddio ac awtomeiddio drwy ddysgu a sgiliau.
Pwrpas y pecyn cymorth hwn yw darparu gwybodaeth i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur yng Nghymru sydd am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a negodi i gael gweithleoedd gwyrddach a thecach.
Dysgwch mwy am ein hymgyrch dros adferiad gwyrdd a thrawsnewidiad cyfiawn
Egwyddorion ar gyfer gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur wrth drafod gweithio gartref gyda’ch cyflogwr
Mae llawer mwy o bobl yn gweithio’n hyblyg nag o’r blaen. Mae hyn yn gallu cynnig llawer o fanteision i weithwyr. Gall eu helpu i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Gallai technoleg ddigidol newydd gael effaith ddifrifol ar weithlu gwasanaeth cyhoeddus Cymru.
Mae’r effeithiau posibl yn cynnwys colli swyddi, mwy o anghydraddoldeb, hyfforddiant annigonol a swyddi o ansawdd is. Bydd yn bwysig i undebau llafur ystyried eu hymateb i ddyfodiad technoleg ddigidol.
Mae’r ddau adroddiad yma’n tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi gweithwyr i gael gafael ar sgiliau newydd ac, yn hollbwysig, gwreiddio arferion da drwy negodi â chyflogwyr ar draws y sectorau allweddol rydyn ni’n gwybod y mae’r effaith fwyaf arnynt. Mae wedi’i anelu at ein cynrychiolwyr yn y gweithle. Mater i chi yw dechrau’r sgyrsiau hyn gyda’ch cyflogwyr a’ch cydweithwyr er mwyn gwireddu’r uchelgais o sicrhau trawsnewid cyfiawn yng Nghymru a mynd i’r afael â’r newidiadau mawr sy’n wynebu gweithwyr heddiw.
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn rhoi cipolwg ar brofiad cyfredol gweithwyr yng Nghymru o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI). Y nod yw llywio ymateb yr undeb i AI, a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Mae undebwyr llafur yng Nghymru yn addasu ac yn dysgu’n gyflym i ymateb i ddefnydd cynyddol o AI. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy gyda’n gilydd. Rhaid i weithwyr, undebau, cyflogwyr, technolegwyr a Llywodraeth Cymru weithio law yn llaw i wireddu’r cyfleoedd ac i reoli risgiau AI gyda’i gilydd.
Gyda dull partneriaeth gymdeithasol, gallwn sicrhau bod pawb yn ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn.
Gweithwyr ar gontractau ‘dim oriau’ yw rhai o’r bobl fwyaf bregus a dan fygythiad yn y gweithlu.
Mae gan weithwyr ar gontract ‘dim oriau’ hawliau statudol o hyd, gan gynnwys yr isafswm cyflog cenedlaethol, gwyliau â thâl, a’r hawl i gael seibiant gorffwys. Ac yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae ganddyn nhw’r hawl i gael cynnig contract rhan-amser neu amser llawn ar ôl cyfnod o ddeuddeg wythnos yn y swydd.
Mae angen i’n mudiad ni ehangu os ydyn ni eisiau parhau i fod yn un sy’n gallu newid byd gwaith. I wneud hynny, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd
o gael rhagor o aelodau ifanc yn ein hundebau llafur. Heb aelodau ifanc, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud y newidiadau rydyn ni eisiau eu gweld.
Rydyn ni’n ymgyrchu i sicrhau bod Cymru yn Wlad o Waith Teg – lle mae gweithwyr yn cael bargen well. Mae cyflogau isel, contractau dim oriau ac anghydraddoldeb yn difetha ein heconomi.
Os rydyn ni’n ychwanegu hyn at effaith bosibl Brexit, awtomateiddio a Chredyd Cynhwysol, mae’r cyfuniad yn wenwynig. Mae angen gweithredu nawr – mae angen sicrhau bod gwaith yn decach.
OU yng Nghymru
Tudalen WULF
Sefydliad Dysgu a Gweithio
Rhaglenni addysg cymunedol
Coleg Gwent
Addysg Oedolion Cymru
Colegau
Mae rhai gweithwyr wedi rhoi gwybod am gydweithwyr yn gwneud sylwadau amhriodol am weld y tu mewn i’w hystafelloedd gwely neu am benaethiaid yn gwneud gofynion afresymol o ran yr hyn y dylen nhw ei wisgo ar gamera. Mae gweithwyr eraill wedi derbyn sylwadau amhriodol drwy grwpiau Whatsapp staff. Mae diogelwch gweithwyr hefyd wedi cael ei roi mewn perygl yn ystod y pandemig yn sgil rheoliadau Covid oedd yn golygu bod rhai gweithwyr yn gorfod bod mewn gweithle ochr yn ochr â’r sawl oedd yn cyflawni'r aflonyddu ond mewn grwpiau llai nag arfer.
Bydd canfyddiadau arolwg TUC Cymru yn cael eu defnyddio i greu adnoddau newydd ar gyfer cynrychiolwyr undebau ac i ymgyrchu dros roi terfyn ar aflonyddu rhywiol i bawb.
Mae TUC Cymru a Gofalwyr Cymru nawr yn casglu gwybodaeth gan weithwyr yng Nghymru am eu profiadau unigol o weithio i ofalu am rywun. Mae eu harolwg newydd yn gofyn am allu gweithwyr i weithio a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn ogystal â’r effaith y mae gofalu yn ei chael ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Byddan nhw hefyd yn casglu data am yr hyn y mae gweithleoedd yng Nghymru yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu drwy bolisïau yn y gweithle, trefniadau gweithio hyblyg a mwy. Defnyddir y data i siarad â’r Llywodraeth am yr hyn sydd angen ei newid a gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr i wneud pethau’n well i’r rhai sy’n gofalu am bobl eraill.
Mae’r arolwg yn agored i bawb sy’n gweithio yng Nghymru, nid dim ond i aelodau undebau. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae pob ymateb yn gwbl ddienw. Defnyddiwch y botwm toglo yn y gornel dde uchaf i newid yr iaith i gyd-fynd â’ch dewis.
Er mwyn cadw ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig Coronafeirws, rydyn ni wedi penderfynu gohirio cyrsiau mewn dosbarthiadau am gyfnod. Bydd ein rhaglen wyneb yn wyneb sy’n cael ei chyflwyno gan Addysg Oedolion Cymru a Choleg Gwent yn dechrau’n ôl cyn gynted â phosibl.
Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod angen hyfforddiant a chymorth ar ein cynrychiolwyr fwy nag erioed yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Felly, mae gwasanaeth addysg TUC wedi datblygu rhaglen ar-lein i gynrychiolwyr am y tro cyntaf.
Gallwch ddewis cyrsiau hir neu ein rhaglen blas ar ddysgu sy’n cynnwys eNodiadau. Gyda mynediad 24/7, dysgwch ar eich cyflymder eich hun, lle bynnag a phryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dewis cwrs isod a dechrau arni.
Enw'r cwrs |
Darparwr |
Dyddiad cychwyn |
Patrwm |
Cyswllt |
Cynrychiolwyr Undebau – rhan 1 |
Addysg Oedolion Cymru |
11 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
|
Coleg Gwent |
17 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
07527 450276 |
|
Cynrychiolwyr Undebau – rhan 2 |
Coleg Gwent |
- |
- |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
11 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
||
Iechyd a Diogelwch – rhan 1 |
Coleg Gwent |
8 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
8 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
||
Iechyd a Diogelwch – rhan 2 |
Coleg Gwent |
16 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
9 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
||
Cynrychiolwyr Dysgu mewn Undebau – rhan 1 |
Coleg Gwent |
18 Ebrill 2024 |
4 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
- |
- |
||
Cynrychiolwyr Dysgu mewn Undebau – rhan 2 |
Coleg Gwent |
6 Mehefin 2024 |
2 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
10 Ebrill 2024 |
2 diwrnod |
||
Cwynion a Disgyblu |
Coleg Gwent | - | - |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
15 Mai 2024 | 4 diwrnod | mair.owen@adultlearning.wales | |
Gwneud y Gweithle’n Fwy Gwyrdd – Sgiliau Cynrychiolwyr Gwyrdd |
Coleg Gwent | 22 Ebrill 2024 | 3 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
- |
- |
||
Trafod er mwyn sicrhau Trawsnewid Cyfiawn |
Addysg Oedolion Cymru |
- |
- |
|
Coleg Gwent | 3 Mehefin 2024 | 3 diwrnod |
07527 450276 |
Cliciwch ar enw'r cwrs isod ar gyfer mwy o wybodaeth am beth fyddech yn dysgu os ydych chi'n ymuno â'r cwrs.
Os ydych chi’n gynrychiolydd undeb newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu
Byddwch yn deall y rôl a’i chyfrifoldebau. Mae’r rhain yn cynnwys cydweithio ag aelodau a chynrychiolwyr undebau eraill, siarad ag aelodau a delio â’u problemau, recriwtio aelodau a’u helpu i gymryd rhan yn yr undeb, cwrdd â rheolwyr i drafod amrywiaeth o faterion yn y gwaith, a gwneud yn siŵr bod aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gamu ymlaen yn eich rôl undeb llafur. Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
Yr amddiffyniad gorau yn y gweithle yw undebau llafur trefnus, ond mae deall beth yw ein hawliau a sut mae gwneud y defnydd gorau ohonynt yn hanfodol i’ch rôl. Byddwch yn dysgu am y canlynol:
Os ydych chi’n gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu:
Byddwch yn edrych ar y gyfraith iechyd a diogelwch, ar archwiliadau diogelwch, ar asesiadau risg ac ar fesurau ataliol. Bydd y cwrs hwn yn dysgu hanfodion iechyd a diogelwch i chi ac yn eich cyflenwi â’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i gyflawni eich rôl yn effeithiol.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Iechyd a Diogelwch – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddelio â’r materion pwysicach hynny. Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol
Er ein bod yn ceisio sicrhau gweithleoedd mwy diogel i’n haelodau, rhaid i ni gydnabod hefyd yr angen am gydraddoldeb ac amrywiaeth. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb fel:
Mae iechyd meddwl yn y gweithle yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r cwrs hwn yn trafod pam ei fod yn bwysig a sut gall cynrychiolwyr ddelio â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer cynrychiolwyr sydd eisiau gwella eu hymwybyddiaeth o sut gall y gweithle effeithio ar iechyd meddwl ac sydd am wella polisïau ar gyfer eu haelodau.
Bydd y cwrs yn helpu cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
Os ydych yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol.
Bydd yn eich cyflenwi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau effeithiol. Mae llawer mwy i rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau na dim ond trefnu cyrsiau yn eich gweithle. Mae’n golygu gweithio yn eich cangen, gyda’ch cyflogwyr, darparwyr a chyllidwr i ehangu mynediad i ddysgu a sicrhau cyfle cyfartal yn eich gweithle.
Bydd y cwrs yn dysgu’r canlynol i chi:
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol newydd a phrofiadol yn ogystal ag undebwyr llafur eraill sydd am gymryd camau ymarferol i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle.
Hyd y cwrs: 3 diwrnod o ddysgu (1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos).
Yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno cymryd camau i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undebau, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu’r undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a syniadau i gynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr gwyrdd a swyddogion cangen a fydd yn eu helpu i wybod sut i ymateb yn strategol i’r her o roi llais i weithwyr ar y trawsnewid i economi sero-net.
Bydd yn helpu cynrychiolwyr undebau i ddatblygu strategaethau negodi at ddibenion cynllunio ar gyfer trawsnewid y gweithle a datblygu dealltwriaeth o effaith ehangach y newid ar faterion fel sgiliau yn y gweithle, swyddi ac iechyd a diogelwch.

Yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno cymryd camau ymarferol i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undebau, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu’r undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.
Bydd y cwrs hwn yn helpu cynrychiolwyr diogelwch profiadol i ddatblygu eu dealltwriaeth o egwyddorion ac ymarfer iechyd a diogelwch.
Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwestiynu datblygiad a swyddogaeth deddfwriaeth iechyd a diogelwch, dysgu sut mae creu cyfundrefn undeb llafur ar gyfer iechyd a diogelwch a sut mae mynd i'r afael â rhai o'r problemau mae gweithwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran iechyd, diogelwch, lles a'r amgylchedd.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer cynrychiolwyr iechyd a diogelwch profiadol.
Cyflwynir y cwrs dros dri thymor.
Bydd y cwrs yn eich helpu gyda’r canlynol:
Mae Diploma'r TUC wedi'i achredu gan NOCN ac mae wedi'i rannu'n sawl uned - tair uned graidd a phedair uned sgiliau astudio - gweler isod.
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar bedwar prif bwnc, sef iechyd galwedigaethol, problemau diogelwch a lles a phroblemau amgylcheddol yn y gwaith, ffynonellau neu wybodaeth, defnyddio tystiolaeth mewn proses datrys problemau, a strategaethau undebau llafur ar gyfer mynd i’r afael â materion sydd â blaenoriaeth.
Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddeall:
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddau brif bwnc, sef trefniadaeth undeb a threfn reoli.

Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar bedwar prif bwnc: y system gyfreithiol droseddol ar gyfer iechyd a diogelwch galwedigaethol a’r gwelliannau sydd eu hangen; y system gyfreithiol sifil ar gyfer iechyd a diogelwch galwedigaethol a’r gwelliannau sydd eu hangen; y ffordd y mae cyfreithiau’n cael eu datblygu yn y DU a sut y gall undebau llafur ddylanwadu ar y datblygiadau hyn; y ffordd y mae safonau rhyngwladol yn cael eu datblygu a sut y gall undebau llafur ddylanwadu ar y datblygiadau hyn.

We have short bite-sized pieces of learning and longer courses. Each piece of learning is self-contained and contains a mixture of text, video and quizzes. They last between 20 and 45 minutes and can be returned to as many times as you like. Access our interactive guides
Our webinars on specific workplace issues are a valuable training tool for reps and members. Sign-up to our upcoming events or watch our past webinars.
This booklet provides details of our latest courses. If you’re unable to find a course to suit your interests/needs or you have any queries please don’t hesitate to contact the Wales TUC education team at wtuc@tuc.org.uk.
The booklet covers:
- Guidance to paid release
- Code of conduct
- Accreditation and pathways
- Course listings
- How to apply
- Useful toolkits & resources
Mae TUC Cymru yn rhedeg fforymau cydraddoldeb i roi cyfle i aelodau undebau llafur drafod materion pwysig ynglŷn â’u hunaniaeth.
Mae'r fforymau cydraddoldeb yn ymdrin â’r ffrydiau cydraddoldeb canlynol:
Caiff y fforymau eu harwain gan aelodau etholedig Cyngor Cyffredinol TUC Cymru, a nod y grwpiau hyn yw darparu undod, mannau diogel a chyfle i weithio gydag undebwyr llafur eraill.
Os ydych chi’n uniaethu ag unrhyw un o’r rhain ac yn aelod o undeb, mae croeso i chi ymuno.
Mae TUC Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer cynrychiolwyr, gweithredwyr a swyddogion i rwydweithio a rhannu arfer da. Mae cyfarfodydd rhwydwaith hefyd yn aml yn cynnwys diweddariadau gan TUC Cymru a sefydliadau allanol perthnasol. Rydym yn rhedeg yn rheolaidd ar hyn o bryd:
I ddarganfod pryd mae'r cyfarfod nesaf ar gyfer y rhwydweithiau hyn, ewch i'n tudalen digwyddiadau neu cofrestrwch i dderbyn ein e-gylchlythyrau.
If you want to learn something new or improve your career prospects, take a look at unionlearning.wales.
ahalpin@tuc.org.uk 06 Mar 2024 A trade union bargaining guide on resource efficiencyThis guide is aimed at trade union green or environmental reps and other trade union representatives who want to work with employers and members to reduce the environmental impact of their
fstock 16 Feb 2024 A snapshot of workers in Wales’ understanding and experience of AIIn this report, we give a snapshot insight into workers in Wales’ current experience of AI. This is intended to inform the union response to AI, and future actions by the Welsh Government and wider
fstock 31 Jan 2024 Wales TUC: Time for Black and Ethnic Minority Workers in Wales to be heardUnion leaders and politicians met at the Senedd (Friday 26th January) to mark the end of the Wales TUC’s first Black Activist Development programme (BADP).
fstock 30 Jan 2024Mae’n bleser gennym wahodd pob Cynrychiolydd Dysgu Undeb i gofrestru ar gyfer Cynhadledd Cynrychiolwyr Dysgu Undebau 2022. Bydd y gynhadledd hon yn dechrau am 11.30 ar 24ain ac yn gorffen am 13.30 ar 25ain Tachwedd. Mae’r opsiynau ar gyfer cofrestru yn cynnwys Cinio gyda’r nos ar y 24ain a llety dros nos os oes angen.
Dyma gynhadledd i Gynrychiolwyr Dysgu Undebau ddod i fwynhau agenda lawn o siaradwyr, cyflwyniadau a gweithdai wedi’u teilwra o amgylch y gwaith maen nhw’n ei wneud ac yn ei gynllunio ar gyfer eu gweithgareddau’r flwyddyn nesaf.
Dim ond hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly cofrestrwch nawr i wneud yn siŵr nad ydych chi’n colli’r cyfle.
11.30 - Cyrraedd a chael bwffe i groesawu
12.00 - Cynhadledd Agored – Cadeirydd (Llywydd TUC Cymru, Brendan Kelly)
12.15 - Anerchiad y Siaradwr – Vaughan Gething AS
12.30 - 1.30 – Ehangu cyfranogiad, themâu a gwerthoedd, pwy sy’n elwa?
Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan (Prifysgol Caerdydd – Uned Ehangu Cyfranogiad)
1.30 - 1.45 - Egwyl
1.45 – 2.45 Sgiliau gwyrdd, Trawsnewid Cyfiawn a'r Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau – Yr hyn y mae angen i Gynrychiolwyr Dysgu'r Undebau ei wybod
Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan
2.45 - Gweithdai Grŵp x 3:
4.00 - Adborth o’r Gweithdai a Sesiwn Holi ac Ateb i’r panel
4.30 - Holi ni am unrhyw beth
5.00 - Cloi
7.30 - Swper
9.30 - Croeso
9.40 - Anerchiad Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj
10.00 - Adolygiad Sgiliau Canol Oes – Gyrfa Cymru
Cyflwyniad a Gweithdy
10.45 - Rôl Cynrychiolydd Dysgu’r Undebau, Ailymweld
Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan ar y prif swyddogaethau a chynllunio’r camau nesaf
11.45 - Break
12.00 - Cymorth TUC Cymru, fforymau a chyfathrebiadau Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau:
12.30 - Recriwtio ac ymgysylltu ag Ymgyrchwyr Ifanc
Cyflwyniad a gweithdy grŵp cyfan i gynnwys:
1.00 - Ymarfer gwerthuso
1.30 - Cloi’r Gynhadledd
Want to hear about our latest events?
Sign up now to get it straight to your inbox
Hyd y cwrs:
3 diwrnod o ddysgu (1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos).
Bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal ar-lein ar 3 dydd Mawrth yn olynol - 30 Ionawr, 6 a 13 Chwefror 2023 - bydd angen i ddysgwyr ddod i bob sesiwn.
Cyflwyno’r cwrs:
Sesiynau grŵp ar-lein, wedi’u hwyluso gan diwtor addysg undebau llafur drwy Microsoft Teams.
Pwy ddylai ddod?
Mae’r cwrs wedi’i anelu at gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol newydd a phrofiadol yn ogystal ag undebwyr llafur eraill sydd am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle. Mae’n addas i bob swyddog undeb, swyddogion y gangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu undebau a chynrychiolwyr cydraddoldeb sy’n dymuno dysgu mwy am ddull undebau llafur o ymdrin â chynaliadwyedd.
Disgrifiad o’r Cwrs:
Bydd newidiadau yn effeithio ar weithwyr ar draws pob sector, a byddan nhw’n rhan o’r ymdrech i ddatgarboneiddio a symud Cymru tuag at economi gylchol, fwy cynaliadwy a diwastraff. Mae gan aelodau undebau llafur yr wybodaeth a’r syniadau i helpu i ddarparu’r newidiadau sydd eu hangen.
Mae gan weithwyr lawer iawn o wybodaeth a all helpu sefydliadau sy’n ceisio lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Yn aml iawn, y gweithwyr ar lawr gwlad sy’n fwyaf tebygol o ddeall sut mae gwneud hyn yn effeithiol. Mae’n bosib i undebau llafur chwarae rôl allweddol o ran nodi a darparu’r arferion amgylcheddol gorau mewn gweithleoedd.
Gall undebau sicrhau bod ymdrechion i leihau effaith amgylcheddol sefydliad yn cael eu datblygu ar y cyd â’r gweithwyr, a drwy ymgynghori’n llawn â nhw. Gall cynnwys gweithwyr yn y penderfyniadau sicrhau bod unrhyw newidiadau’n deg, yn effeithiol, a bod y gweithwyr yn eu cefnogi gant y cant.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddatblygu mentrau cynaliadwyedd o dan arweiniad undebau yn y gweithle. Mae’n cynnwys y sgiliau craidd sydd eu hangen ar undebwyr llafur sy’n dymuno gweithredu’n ymarferol ar gyfer yr amgylchedd yn eu gweithle neu sy’n dymuno dod yn gynrychiolydd undeb llafur ‘gwyrdd’ neu amgylcheddol.
Ledled Cymru mae cynrychiolwyr undeb eisoes yn gweithio gyda’u haelodau i wneud gweithleoedd yn fwy cynaliadwy. Maen nhw’n dod o hyd i ffyrdd o leihau carbon a lleihau gwastraff, yn ymgyrchu dros aer glanach ac yn creu mannau gwyrdd i gynnal byd natur. Mae’r cwrs hwn yn defnyddio pecyn newydd TUC Cymru, Gweithleoedd Gwyrddach ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn, fel adnodd a’i nod yw cefnogi pob undebwr llafur sydd eisiau bod yn rhan o’r mudiad i wneud ein gweithleoedd yn wyrddach.
Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
➔ Deall yr argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol a nodi effaith hynny ar eich gweithle.
➔ Gweithio gyda’r gangen ac aelodau i ganfod materion cynaliadwyedd y mae angen eu codi â’r rheolwyr.
➔ Sut mae cynnal archwiliadau amgylcheddol yn y gweithle.
➔ Sut mae adolygu a datblygu polisïau a chytundebau amgylcheddol y gweithle
➔ Codi ymwybyddiaeth a hybu arferion gweithleoedd gwyrdd.
Sut mae gwneud cais: Llenwch ein ffurflen gais neu cysylltwch â thiwtor y cwrs, John James, yn uniongyrchol ar John.James.coleggwent.ac.uk neu 07527 450276
Lleoliad: ar-lein
Oriau: 9.15am tan 16.45pm
Amser o'r gwaith i fynychu hyfforddiant:
Ceir canllawiau ar ryddhad gyda thâl ar dudalennau 6 - 7 yng nghyfeiriadur cyrsiau addysg TUC Cymru.
Mae canllawiau ACAS yn nodi ei bod yn arfer da i gyflogwyr gynnig amser o’r gwaith gyda thâl i gynrychiolwyr arbenigol fel cynrychiolwyr gwyrdd neu amgylcheddol fynychu hyfforddiant a chyflawni eu dyletswyddau.
Siaradwch â'ch undeb eich hun i gael cyngor am gael amser o'r gwaith ac am arweiniad ar unrhyw gytundebau/gweithdrefnau perthnasol y cytunwyd arnynt rhwng eich cyflogwr a'ch undeb.
Profiadau dysgu cynhwysol a hwylus:
Efallai y bydd gan gynrychiolwyr sy'n dilyn y cyrsiau amrywiaeth o wahanol ofynion dysgu, boed hynny oherwydd nad ydynt wedi bod mewn amgylchedd dysgu ffurfiol ers peth amser, neu o ganlyniad i rwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd neu anawsterau llythrennedd a sgiliau eraill. Ar ein cyrsiau, rydyn ni'n gwneud ein gorau i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan lawn ac elwa cymaint ag y bo modd ar yr hyfforddiant.
Byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol i'n lleoliadau/dulliau darparu, ein dulliau addysgu a'n deunyddiau er mwyn darparu ar gyfer cynrychiolwyr anabl. Gofynnwn i chi roi cymaint o rybudd â phosib i ni er mwyn i ni allu bodloni eich anghenion.
Want to hear about our latest events?
Sign up now to get it straight to your inbox
If you want to learn something new or improve your career prospects, take a look at unionlearning.wales.
ahalpin@tuc.org.uk 06 Mar 2024 A trade union bargaining guide on resource efficiencyThis guide is aimed at trade union green or environmental reps and other trade union representatives who want to work with employers and members to reduce the environmental impact of their
fstock 16 Feb 2024 A snapshot of workers in Wales’ understanding and experience of AIIn this report, we give a snapshot insight into workers in Wales’ current experience of AI. This is intended to inform the union response to AI, and future actions by the Welsh Government and wider
fstock 31 Jan 2024 Wales TUC: Time for Black and Ethnic Minority Workers in Wales to be heardUnion leaders and politicians met at the Senedd (Friday 26th January) to mark the end of the Wales TUC’s first Black Activist Development programme (BADP).
fstock 30 Jan 2024Mae Cynrychiolwyr Dysgu’r Undeb yn elfen amhrisiadwy sy’n helpu undebau i gyrraedd y dysgwyr. Law yn llaw â WULF, maent yn gallu cefnogi amrywiaeth o gyfleodd dysgu yn cynnwys llythrennedd digidol, cyrsiau proffesiynol pwrpasol, a chefnogaeth yn ystod newid mewn sefydliad neu mewn gyrfa. O fewn y gweithle, bydd cynrychiolwyr dysgu’r undeb yn:
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gynrychiolydd dysgu’r undeb, mynnwch sgwrs ag ysgrifennydd eich cangen.
Darllenwch fwy (yn Saesneg) am waith Cynrychiolwyr Dysgu Undebau
Bydd ein pecyn cymorth i gynrychiolwyr dysgu undebau (ULRs) newydd yn cynorthwyo ULRs i gefnogi datblygiad dysgu yn y gweithle a'r gymuned ehangach.
Mae angen rôl yr ULR fwyfwy ac mae'n rhan allweddol o waith unrhyw undeb llafur. Mae'n ffactor hanfodol o ran gwella bywydau cannoedd o bobl bob blwyddyn yn y gweithle a thu hwnt.
Rydym yn ffodus yng Nghymru o allu gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau mynediad at gyllid ac amlygu gwir fanteision dysgu a datblygu sgiliau.
Mae dysgu drwy’ch undeb yn cael effaith ar bopeth mae undebau yn credu ynddo. Gall helpu i wella iechyd a diogelwch, cyfle cyfartal, sicrwydd swydd a thâl.
Gall Undebau Llafur chwarae rhan enfawr wrth sicrhau bod gan aelodau'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cystadlu yn y farchnad swyddi yn y dyfodol. Gellir rhoi sylw i nifer o’r heriau economaidd yn y dyfodol, fel digideiddio ac awtomatiaeth, trwy ddysgu a gloywi sgiliau.
Gwyliwch ein Swyddog Cymorth Polisi a Chyfathrebu Flick Stock yn siarad am yr hyn sydd yn y pecyn cymorth ULR a sut y gellir ei ddefnyddio yn eich gweithle.
Mae TUC Cymru wedi arwain y ffordd mewn dysgu drwy’r undeb am dros ugain mlynedd. Rydym yn cefnogi ein hundebau cyswllt a phrosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Mae’r prosiectau dysgu yma yn amrywio o Sgiliau Hanfodol a darllen, i gymwysterau plymio ac arlunwyr colur. Gan eu bod yn gweithio drwy’r Undebau ac yn y gweithle, mae prosiectau WULF yn gallu cyrraedd dysgwyr nad yw cronfeydd eraill yn gallu eu cyrraedd. Maen nhw’n cefnogi’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.
Mae prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn parhau yn ystod argyfwng y coronafeirws - ewch i'n tudalen ar WULF i ddysgu mwy.
Ar hyn o bryd mae TUC Cymru yn ymgyrchu dros sicrhau bod dysgu a sgiliau yn rhan o wneud Cymru yn 'Wlad Gwaith Teg'. Drwy gefnogi aelodau â’u haddysg, rydym yn gwella eu rhagolygon swydd ac maent yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ond mae yna hefyd fanteision ehangach - gall WULF greu gweithle mwy crefftus a gwella’r economi.
Mae arolygu neu fapio eich gweithle a’ch cydweithwyr yn dasg bwysig, a gall fod yn broses frawychus.
Does dim rhaid i bethau fod yn anodd.
Mae cymaint o apiau a rhaglenni ar gael am ddim y dyddiau hyn sy’n ei gwneud hi’n haws cynhyrchu arolwg, ei rannu ac yn bwysicach na hynny, chrynhoi’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu i adroddiad addas i’w rannu â’r tîm rheoli/AD neu eich Rheolwr Prosiect WULF.
Y tip gorau yw cadw pethau’n syml. Lluniwch amlinelliad clir o’r hyn yr ydych eisiau ei wybod a faint y byddech yn fodlon ei gwblhau eich hun. Nid oes unrhyw un eisiau ysgrifennu traethodau neu phentwr o wybodaeth i ateb cwestiynau ac yn sicr ni fyddant eisiau cymryd oes i lenwi un.
Manteisiwch ar alluoedd yr ap rydych chi wedi'i ddewis. Mae gan y rhan fwyaf o’r apiau modern hyn brosesau arbennig sy’n golygu bod modd cynhyrchu graffiau a chasglu data’n gyflym yn awtomatig. Pam ailddyfeisio’r olwyn?
Os yw’r ap rydych chi wedi’i ddewis yn gwneud hyn i chi, bydd yn arbed amser, ymdrech a straen.
Mae’r prosesau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws cyflwyno eich canfyddiadau. Maent yn glir ac yn hawdd eu darllen, yn haneru eich llwyth gwaith ac yn dangos yn glir feysydd a allai greu cyfleoedd dysgu i’ch cydweithwyr neu fylchau mewn sgiliau nad yw’r rheolwyr wedi bod yn ymwybodol ohonynt.
Cofiwch nad yw addysgu a hyfforddi yn helpu’r dysgwr yn unig, ond y cyflogwr hefyd a’r gymuned yn gyffredinol.
Mae aelod staff hapus a llwyddiannus yn gwneud aelod staff mwy cynhyrchiol, gweithle hapusach a mwy effeithlon ac mae hynny’n cael effaith ddilynol ym mhob man.
Mae’r cyflwyniad isod yn tynnu sylw at y prif feysydd i’w hystyried wrth ddechrau arni, wrth rannu eich arolwg a’ch canfyddiadau ac mae arolwg enghreifftiol isod i’ch rhoi chi ar ben ffordd.
Yn olaf, cofiwch fod eich Rheolwr Prosiect WULF yn adnodd gwerthfawr ac mae yno i helpu fel y mae staff yn TUC Cymru.
Cysylltwch â: wulr@tuc.org.uk neu fstock@tuc.org.uk
Learning Survey - Example survey form [English version]
Learning Survey - Example survey form [Welsh version]
Learning Survey - Easy ways to survey your workplace presentation [Billingual]

fstock 30 Jan 2024If you want to learn something new or improve your career prospects, take a look at unionlearning.wales.

fstock 30 Jan 2024Rydyn ni’n eich annog i gysylltu â ni os hoffech siarad â’r tîm i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r pynciau yn y rhestr.
Rydyn ni hefyd yn parhau i ddatblygu’r pecynnau cymorth presennol a chreu adnoddau newydd i wella bywyd gwaith. Helpwch ni gyda’r broses hon drwy gadw llygad am ein harolygon a’n polau piniwn sy’n sail ar gyfer datblygu gwaith.
Dylai pawb gael bod yn nhw eu hunain. Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu yn y gwaith. Fodd bynnag, er bod cymunedau LHDTC+ wedi gweld llawer o newid cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o bobl yn dal i deimlo nad ydyn nhw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn y gwaith. Nod ein cynllun gweithredu newydd 10 cam yw newid yr agwedd hon.
Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched. Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd. Mae’n broblem fyd-eang ac mae gwahanol rannau o’r byd yn delio â hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon o ddifrif er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu.
Lawrlwythwch y pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle er mwyn dod o hyd i wybodaeth a chymorth i’ch helpu.
Mae TUC Cymru wedi datblygu cyfres o becynnau cymorth ac adroddiadau ar y menopos sydd â’r nod o helpu cynrychiolwyr undebau llafur i weithio gyda chyflogwyr i wneud gwelliannau yn y gweithle. Mae’r adnoddau’n ymdrin â gwybodaeth hanfodol am y menopos ac yn edrych ar rai o’r problemau cyffredin yn y gweithle sy’n effeithio ar y rheini sy’n ei wynebu. Maen nhw’n cynnig adnoddau ymarferol i gynrychiolwyr undebau llafur ac enghreifftiau o addasiadau i’r gweithle, camau gweithredu a rhestrau gwirio.
Nid yw gweithleoedd yn llefydd cyfartal, ac mae angen gweithredu i newid hynny. Mae undebau’n allweddol i wneud y newidiadau hyn drwy fargeinio, negodi a gweithredu ar y cyd. Fel Undebwyr Llafur, rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu undod, cyfleoedd a bargen deg i weithwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.
Rydyn ni wedi siarad â’r llywodraeth, wedi cyfrannu at bolisïau, ac wedi gwneud llawer o newidiadau a chynlluniau.
Nawr yw’r amser i weithredu er mwyn i ni allu cymryd camau gwirioneddol tuag at wrth-hiliaeth.
Mae eithafiaeth y dde eithafol ar gynnydd yn ein gweithleoedd a'n cymunedau. Ers refferendwm Brexit, rydyn ni wedi gweld cynnydd yng ngweithgareddau'r dde eithafol ledled Cymru.
Mae ymgyrchwyr y dde eithafol wedi bod yn ymgasglu yn ein strydoedd ac ar-lein, gan geisio recriwtio mewn cymunedau sy'n dioddef blynyddoedd o esgeulustod, tanariannu a diweithdra. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o'n cymunedau ni yma yng Nghymru.
Rhowch gynnig ar ein eNodyn Gwrthsefyll y Dde Eithafol heddiw.
Rhaid i gyflogwyr a’r llywodraeth wneud mwy i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle. Cynhaliodd TUC Cymru arolwg mawr ar fwy na 1000 o weithwyr yng Nghymru a chanfod bod llawer o weithwyr anabl eisiau gweld newid yn y ffordd mae anabledd yn cael ei drin yn y gwaith.
Felly, mae TUC Cymru wedi llunio rhestr o ofynion ymgyrchu ar gyfer llywodraethau Cymru a’r Du, yn ogystal â phecyn cymorth ymarferol y gall cynrychiolwyr yr undebau llafur ei ddefnyddio i bwyso am welliannau yn y gweithle.
Mae poblogaeth Cymru’n heneiddio’n gyflym, rydyn ni’n byw’n hirach ac yn cael llai o blant. Wrth i’r boblogaeth gyffredinol heneiddio, yna mae gweithlu Cymru’n dilyn ei esiampl. Mae mwy o weithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru nag erioed o’r blaen.
Mae nifer o weithwyr yn cael salwch difrifol rywbryd yn ystod eu bywydau. Efallai y bydd arnynt angen amser o'r gwaith, am fisoedd weithiau, i gael triniaeth neu i wella.
Ond, ar adegau, does dim triniaeth effeithiol. Yn yr achosion hynny, mae’r gweithiwr a’i deulu’n wynebu straen emosiynol enfawr, ofn, a phryderon ariannol o bosib. Gall y Siarter Afiechyd Marwol helpu i leddfu rhywfaint ar y straen hwnnw ac mae’n cyflwyno ffordd y cytunwyd arni i gyflogeion gael eu trin a’u cefnogi os ceir diagnosis o salwch terfynol.
Er gwaethaf y cynnydd mewn bod yn gaeth i gamblo, mae dioddefwyr yn teimlo llawer iawn o stigma a chywilydd. Gall undebau chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gael gwared ar y stigma hwnnw yn y gweithle a chyfeirio aelodau at y cymorth priodol.
Mae dysgu undebau yn cael dylanwad ar bopeth sy’n bwysig iddyn nhw. Gall helpu i wella Iechyd a Diogelwch, cyfle cyfartal, sicrwydd swydd a thâl.
Gall undebau llafur chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod gan aelodau'r sgiliau sydd eu hangen i gystadlu yn swyddi'r dyfodol. Gellir mynd i’r afael â llawer o’n heriau economaidd yn y dyfodol, fel digideiddio ac awtomeiddio drwy ddysgu a sgiliau.
Pwrpas y pecyn cymorth hwn yw darparu gwybodaeth i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur yng Nghymru sydd am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a negodi i gael gweithleoedd gwyrddach a thecach.
Dysgwch mwy am ein hymgyrch dros adferiad gwyrdd a thrawsnewidiad cyfiawn
Egwyddorion ar gyfer gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur wrth drafod gweithio gartref gyda’ch cyflogwr
Mae llawer mwy o bobl yn gweithio’n hyblyg nag o’r blaen. Mae hyn yn gallu cynnig llawer o fanteision i weithwyr. Gall eu helpu i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Gallai technoleg ddigidol newydd gael effaith ddifrifol ar weithlu gwasanaeth cyhoeddus Cymru.
Mae’r effeithiau posibl yn cynnwys colli swyddi, mwy o anghydraddoldeb, hyfforddiant annigonol a swyddi o ansawdd is. Bydd yn bwysig i undebau llafur ystyried eu hymateb i ddyfodiad technoleg ddigidol.
Mae’r ddau adroddiad yma’n tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi gweithwyr i gael gafael ar sgiliau newydd ac, yn hollbwysig, gwreiddio arferion da drwy negodi â chyflogwyr ar draws y sectorau allweddol rydyn ni’n gwybod y mae’r effaith fwyaf arnynt. Mae wedi’i anelu at ein cynrychiolwyr yn y gweithle. Mater i chi yw dechrau’r sgyrsiau hyn gyda’ch cyflogwyr a’ch cydweithwyr er mwyn gwireddu’r uchelgais o sicrhau trawsnewid cyfiawn yng Nghymru a mynd i’r afael â’r newidiadau mawr sy’n wynebu gweithwyr heddiw.
Yn yr adroddiad hwn, rydym yn rhoi cipolwg ar brofiad cyfredol gweithwyr yng Nghymru o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI). Y nod yw llywio ymateb yr undeb i AI, a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Mae undebwyr llafur yng Nghymru yn addasu ac yn dysgu’n gyflym i ymateb i ddefnydd cynyddol o AI. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy gyda’n gilydd. Rhaid i weithwyr, undebau, cyflogwyr, technolegwyr a Llywodraeth Cymru weithio law yn llaw i wireddu’r cyfleoedd ac i reoli risgiau AI gyda’i gilydd.
Gyda dull partneriaeth gymdeithasol, gallwn sicrhau bod pawb yn ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn.
Gweithwyr ar gontractau ‘dim oriau’ yw rhai o’r bobl fwyaf bregus a dan fygythiad yn y gweithlu.
Mae gan weithwyr ar gontract ‘dim oriau’ hawliau statudol o hyd, gan gynnwys yr isafswm cyflog cenedlaethol, gwyliau â thâl, a’r hawl i gael seibiant gorffwys. Ac yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae ganddyn nhw’r hawl i gael cynnig contract rhan-amser neu amser llawn ar ôl cyfnod o ddeuddeg wythnos yn y swydd.
Mae angen i’n mudiad ni ehangu os ydyn ni eisiau parhau i fod yn un sy’n gallu newid byd gwaith. I wneud hynny, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd
o gael rhagor o aelodau ifanc yn ein hundebau llafur. Heb aelodau ifanc, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud y newidiadau rydyn ni eisiau eu gweld.
Rydyn ni’n ymgyrchu i sicrhau bod Cymru yn Wlad o Waith Teg – lle mae gweithwyr yn cael bargen well. Mae cyflogau isel, contractau dim oriau ac anghydraddoldeb yn difetha ein heconomi.
Os rydyn ni’n ychwanegu hyn at effaith bosibl Brexit, awtomateiddio a Chredyd Cynhwysol, mae’r cyfuniad yn wenwynig. Mae angen gweithredu nawr – mae angen sicrhau bod gwaith yn decach.
OU yng Nghymru
Tudalen WULF
Sefydliad Dysgu a Gweithio
Rhaglenni addysg cymunedol
Coleg Gwent
Addysg Oedolion Cymru
Colegau
Mae rhai gweithwyr wedi rhoi gwybod am gydweithwyr yn gwneud sylwadau amhriodol am weld y tu mewn i’w hystafelloedd gwely neu am benaethiaid yn gwneud gofynion afresymol o ran yr hyn y dylen nhw ei wisgo ar gamera. Mae gweithwyr eraill wedi derbyn sylwadau amhriodol drwy grwpiau Whatsapp staff. Mae diogelwch gweithwyr hefyd wedi cael ei roi mewn perygl yn ystod y pandemig yn sgil rheoliadau Covid oedd yn golygu bod rhai gweithwyr yn gorfod bod mewn gweithle ochr yn ochr â’r sawl oedd yn cyflawni'r aflonyddu ond mewn grwpiau llai nag arfer.
Bydd canfyddiadau arolwg TUC Cymru yn cael eu defnyddio i greu adnoddau newydd ar gyfer cynrychiolwyr undebau ac i ymgyrchu dros roi terfyn ar aflonyddu rhywiol i bawb.
Mae TUC Cymru a Gofalwyr Cymru nawr yn casglu gwybodaeth gan weithwyr yng Nghymru am eu profiadau unigol o weithio i ofalu am rywun. Mae eu harolwg newydd yn gofyn am allu gweithwyr i weithio a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn ogystal â’r effaith y mae gofalu yn ei chael ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Byddan nhw hefyd yn casglu data am yr hyn y mae gweithleoedd yng Nghymru yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu drwy bolisïau yn y gweithle, trefniadau gweithio hyblyg a mwy. Defnyddir y data i siarad â’r Llywodraeth am yr hyn sydd angen ei newid a gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr i wneud pethau’n well i’r rhai sy’n gofalu am bobl eraill.
Mae’r arolwg yn agored i bawb sy’n gweithio yng Nghymru, nid dim ond i aelodau undebau. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae pob ymateb yn gwbl ddienw. Defnyddiwch y botwm toglo yn y gornel dde uchaf i newid yr iaith i gyd-fynd â’ch dewis.
Er mwyn cadw ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig Coronafeirws, rydyn ni wedi penderfynu gohirio cyrsiau mewn dosbarthiadau am gyfnod. Bydd ein rhaglen wyneb yn wyneb sy’n cael ei chyflwyno gan Addysg Oedolion Cymru a Choleg Gwent yn dechrau’n ôl cyn gynted â phosibl.
Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod angen hyfforddiant a chymorth ar ein cynrychiolwyr fwy nag erioed yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Felly, mae gwasanaeth addysg TUC wedi datblygu rhaglen ar-lein i gynrychiolwyr am y tro cyntaf.
Gallwch ddewis cyrsiau hir neu ein rhaglen blas ar ddysgu sy’n cynnwys eNodiadau. Gyda mynediad 24/7, dysgwch ar eich cyflymder eich hun, lle bynnag a phryd bynnag sy’n gyfleus i chi. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dewis cwrs isod a dechrau arni.
Enw'r cwrs |
Darparwr |
Dyddiad cychwyn |
Patrwm |
Cyswllt |
Cynrychiolwyr Undebau – rhan 1 |
Addysg Oedolion Cymru |
11 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
|
Coleg Gwent |
17 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
07527 450276 |
|
Cynrychiolwyr Undebau – rhan 2 |
Coleg Gwent |
- |
- |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
11 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
||
Iechyd a Diogelwch – rhan 1 |
Coleg Gwent |
8 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
8 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
||
Iechyd a Diogelwch – rhan 2 |
Coleg Gwent |
16 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
9 Ebrill 2024 |
10 diwrnod |
||
Cynrychiolwyr Dysgu mewn Undebau – rhan 1 |
Coleg Gwent |
18 Ebrill 2024 |
4 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
- |
- |
||
Cynrychiolwyr Dysgu mewn Undebau – rhan 2 |
Coleg Gwent |
6 Mehefin 2024 |
2 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
10 Ebrill 2024 |
2 diwrnod |
||
Cwynion a Disgyblu |
Coleg Gwent | - | - |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
15 Mai 2024 | 4 diwrnod | mair.owen@adultlearning.wales | |
Gwneud y Gweithle’n Fwy Gwyrdd – Sgiliau Cynrychiolwyr Gwyrdd |
Coleg Gwent | 22 Ebrill 2024 | 3 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru |
- |
- |
||
Trafod er mwyn sicrhau Trawsnewid Cyfiawn |
Addysg Oedolion Cymru |
- |
- |
|
Coleg Gwent | 3 Mehefin 2024 | 3 diwrnod |
07527 450276 |
Cliciwch ar enw'r cwrs isod ar gyfer mwy o wybodaeth am beth fyddech yn dysgu os ydych chi'n ymuno â'r cwrs.
Os ydych chi’n gynrychiolydd undeb newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu
Byddwch yn deall y rôl a’i chyfrifoldebau. Mae’r rhain yn cynnwys cydweithio ag aelodau a chynrychiolwyr undebau eraill, siarad ag aelodau a delio â’u problemau, recriwtio aelodau a’u helpu i gymryd rhan yn yr undeb, cwrdd â rheolwyr i drafod amrywiaeth o faterion yn y gwaith, a gwneud yn siŵr bod aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gamu ymlaen yn eich rôl undeb llafur. Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
Yr amddiffyniad gorau yn y gweithle yw undebau llafur trefnus, ond mae deall beth yw ein hawliau a sut mae gwneud y defnydd gorau ohonynt yn hanfodol i’ch rôl. Byddwch yn dysgu am y canlynol:
Os ydych chi’n gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu:
Byddwch yn edrych ar y gyfraith iechyd a diogelwch, ar archwiliadau diogelwch, ar asesiadau risg ac ar fesurau ataliol. Bydd y cwrs hwn yn dysgu hanfodion iechyd a diogelwch i chi ac yn eich cyflenwi â’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i gyflawni eich rôl yn effeithiol.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Iechyd a Diogelwch – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddelio â’r materion pwysicach hynny. Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol
Er ein bod yn ceisio sicrhau gweithleoedd mwy diogel i’n haelodau, rhaid i ni gydnabod hefyd yr angen am gydraddoldeb ac amrywiaeth. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb fel:
Mae iechyd meddwl yn y gweithle yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r cwrs hwn yn trafod pam ei fod yn bwysig a sut gall cynrychiolwyr ddelio â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer cynrychiolwyr sydd eisiau gwella eu hymwybyddiaeth o sut gall y gweithle effeithio ar iechyd meddwl ac sydd am wella polisïau ar gyfer eu haelodau.
Bydd y cwrs yn helpu cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
Os ydych yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol.
Bydd yn eich cyflenwi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau effeithiol. Mae llawer mwy i rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau na dim ond trefnu cyrsiau yn eich gweithle. Mae’n golygu gweithio yn eich cangen, gyda’ch cyflogwyr, darparwyr a chyllidwr i ehangu mynediad i ddysgu a sicrhau cyfle cyfartal yn eich gweithle.
Bydd y cwrs yn dysgu’r canlynol i chi:
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol newydd a phrofiadol yn ogystal ag undebwyr llafur eraill sydd am gymryd camau ymarferol i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle.
Hyd y cwrs: 3 diwrnod o ddysgu (1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos).
Yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno cymryd camau i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undebau, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu’r undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth a syniadau i gynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr gwyrdd a swyddogion cangen a fydd yn eu helpu i wybod sut i ymateb yn strategol i’r her o roi llais i weithwyr ar y trawsnewid i economi sero-net.
Bydd yn helpu cynrychiolwyr undebau i ddatblygu strategaethau negodi at ddibenion cynllunio ar gyfer trawsnewid y gweithle a datblygu dealltwriaeth o effaith ehangach y newid ar faterion fel sgiliau yn y gweithle, swyddi ac iechyd a diogelwch.
Hyd y cwrs: 3 diwrnod o ddysgu (1 diwrnod yr wythnos dros gyfnod o 3 wythnos).
Yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno cymryd camau ymarferol i fynd i'r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undebau, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu’r undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.
Bydd y cwrs hwn yn helpu cynrychiolwyr diogelwch profiadol i ddatblygu eu dealltwriaeth o egwyddorion ac ymarfer iechyd a diogelwch.
Mae'r cwrs yn rhoi cyfle i ddysgwyr gwestiynu datblygiad a swyddogaeth deddfwriaeth iechyd a diogelwch, dysgu sut mae creu cyfundrefn undeb llafur ar gyfer iechyd a diogelwch a sut mae mynd i'r afael â rhai o'r problemau mae gweithwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran iechyd, diogelwch, lles a'r amgylchedd.
Mae’r cwrs wedi’i gynllunio’n benodol ar gyfer cynrychiolwyr iechyd a diogelwch profiadol.
Cyflwynir y cwrs dros dri thymor.
Bydd y cwrs yn eich helpu gyda’r canlynol:
Mae Diploma'r TUC wedi'i achredu gan NOCN ac mae wedi'i rannu'n sawl uned - tair uned graidd a phedair uned sgiliau astudio - gweler isod.
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar bedwar prif bwnc, sef iechyd galwedigaethol, problemau diogelwch a lles a phroblemau amgylcheddol yn y gwaith, ffynonellau neu wybodaeth, defnyddio tystiolaeth mewn proses datrys problemau, a strategaethau undebau llafur ar gyfer mynd i’r afael â materion sydd â blaenoriaeth.
Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddeall:
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar ddau brif bwnc, sef trefniadaeth undeb a threfn reoli.
Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddeall:
Mae’r uned hon yn canolbwyntio ar bedwar prif bwnc: y system gyfreithiol droseddol ar gyfer iechyd a diogelwch galwedigaethol a’r gwelliannau sydd eu hangen; y system gyfreithiol sifil ar gyfer iechyd a diogelwch galwedigaethol a’r gwelliannau sydd eu hangen; y ffordd y mae cyfreithiau’n cael eu datblygu yn y DU a sut y gall undebau llafur ddylanwadu ar y datblygiadau hyn; y ffordd y mae safonau rhyngwladol yn cael eu datblygu a sut y gall undebau llafur ddylanwadu ar y datblygiadau hyn.
Bydd yr uned hon yn eich helpu i ddeall:
We have short bite-sized pieces of learning and longer courses. Each piece of learning is self-contained and contains a mixture of text, video and quizzes. They last between 20 and 45 minutes and can be returned to as many times as you like. Access our interactive guides
Our webinars on specific workplace issues are a valuable training tool for reps and members. Sign-up to our upcoming events or watch our past webinars.
This booklet provides details of our latest courses. If you’re unable to find a course to suit your interests/needs or you have any queries please don’t hesitate to contact the Wales TUC education team at wtuc@tuc.org.uk.
The booklet covers:
- Guidance to paid release
- Code of conduct
- Accreditation and pathways
- Course listings
- How to apply
- Useful toolkits & resources
Mae TUC Cymru yn rhedeg fforymau cydraddoldeb i roi cyfle i aelodau undebau llafur drafod materion pwysig ynglŷn â’u hunaniaeth.
Mae'r fforymau cydraddoldeb yn ymdrin â’r ffrydiau cydraddoldeb canlynol:
Caiff y fforymau eu harwain gan aelodau etholedig Cyngor Cyffredinol TUC Cymru, a nod y grwpiau hyn yw darparu undod, mannau diogel a chyfle i weithio gydag undebwyr llafur eraill.
Os ydych chi’n uniaethu ag unrhyw un o’r rhain ac yn aelod o undeb, mae croeso i chi ymuno.
Mae TUC Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer cynrychiolwyr, gweithredwyr a swyddogion i rwydweithio a rhannu arfer da. Mae cyfarfodydd rhwydwaith hefyd yn aml yn cynnwys diweddariadau gan TUC Cymru a sefydliadau allanol perthnasol. Rydym yn rhedeg yn rheolaidd ar hyn o bryd:
I ddarganfod pryd mae'r cyfarfod nesaf ar gyfer y rhwydweithiau hyn, ewch i'n tudalen digwyddiadau neu cofrestrwch i dderbyn ein e-gylchlythyrau.
If you want to learn something new or improve your career prospects, take a look at unionlearning.wales.
ahalpin@tuc.org.uk 06 Mar 2024 A trade union bargaining guide on resource efficiencyThis guide is aimed at trade union green or environmental reps and other trade union representatives who want to work with employers and members to reduce the environmental impact of their
fstock 16 Feb 2024 A snapshot of workers in Wales’ understanding and experience of AIIn this report, we give a snapshot insight into workers in Wales’ current experience of AI. This is intended to inform the union response to AI, and future actions by the Welsh Government and wider
fstock 31 Jan 2024 Wales TUC: Time for Black and Ethnic Minority Workers in Wales to be heardUnion leaders and politicians met at the Senedd (Friday 26th January) to mark the end of the Wales TUC’s first Black Activist Development programme (BADP).
fstock 30 Jan 2024If you want to learn something new or improve your career prospects, take a look at unionlearning.wales.
ahalpin@tuc.org.uk 06 Mar 2024 A trade union bargaining guide on resource efficiencyThis guide is aimed at trade union green or environmental reps and other trade union representatives who want to work with employers and members to reduce the environmental impact of their
fstock 16 Feb 2024 A snapshot of workers in Wales’ understanding and experience of AIIn this report, we give a snapshot insight into workers in Wales’ current experience of AI. This is intended to inform the union response to AI, and future actions by the Welsh Government and wider
fstock 31 Jan 2024 Wales TUC: Time for Black and Ethnic Minority Workers in Wales to be heardUnion leaders and politicians met at the Senedd (Friday 26th January) to mark the end of the Wales TUC’s first Black Activist Development programme (BADP).
fstock 30 Jan 2024Want to hear about our latest news and blogs?
Sign up now to get it straight to your inbox
Want to hear about our latest news and blogs?
Sign up now to get it straight to your inbox
Want to hear about our latest events?
Sign up now to get it straight to your inbox
To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).