Rhaid i gyflogwyr a’r llywodraeth wneud mwy i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle.
Cover image

Cynhaliodd TUC Cymru arolwg mawr ar fwy na 1000 o weithwyr yng Nghymru a chanfu bod llawer o weithwyr anabl eisiau gweld newid yn y ffordd mae anabledd yn cael ei drin yn y gwaith. Cynhaliwyd yr ymchwil yma er mwyn deall yn well yr agweddau tuag at anabledd a’r profiadau o anabledd yn y gweithle yng Nghymru, gan gynnwys y gweithwyr hynny sydd â namau ‘cudd’ neu anweladwy. Casglodd yr ymchwil dystiolaeth ystadegol yn ogystal â straeon gan weithwyr anabl i roi llais i’r profiadau.

Dyma ganfyddiadau allweddol ein hymchwil:

  • Dywedodd mwy na chwarter (28 y cant) o’r ymatebwyr anabl eu bod yn teimlo bod eu cyflogwr yn gweld anabledd fel 'problem’ yn y gweithle a dywedodd 1 o bob 3 (33 y cant) eu bod yn teimlo bod eu cydweithwyr yn gweld anabledd fel 'problem' yn y gweithle.
  • Dywedodd tua 1 o bob 3 (32 y cant) o’r ymatebwyr anabl bod anabledd wedi cael ei drin fel testun ‘sbort’ yn eu gweithle, a dywedodd llawer eu bod wedi profi aflonyddu.
  • Dywedodd dwy ran o dair o’r ymatebwyr anabl eu bod yn teimlo bod mwy o stigma gydag anableddau nad yw eraill yn gallu eu gweld.
  • Dywedodd mwy na hanner (57 y cant) o’r ymatebwyr anabl nad ydynt yn teimlo bod pobl yn cael eu trin yn gyfartal yn eu gweithle, o gymharu â 38 y cant o’r ymatebwyr heb anabledd.
  • Dywedodd mwy na thri chwarter yr holl ymatebwyr bod gan eu gweithle bolisïau yn eu lle i helpu gweithwyr anabl ond dywedodd nifer arwyddocaol ohonynt nad oedd y rhain yn gweithio’n ymarferol oherwydd eu bod yn cael eu gweithredu’n wael neu’n anghyson, neu ddim yn cael eu gweithredu o gwbl.

Roedd canfyddiadau’r ymchwil yn cefnogi’r angen am fwy o weithredu ynghylch y mater gan undebau llafur, er mwyn pwyso ar gyflogwyr a’r llywodraeth am welliannau mewn cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle. O ganlyniad, mae TUC Cymru wedi llunio rhestr o ofynion ymgyrchu ar gyfer llywodraethau Cymru a’r DU, yn ogystal â phecyn adnoddau ymarferol y gall cynrychiolwyr yr undebau llafur ei ddefnyddio i bwyso am welliannau yn y gweithle.

Crynodeb o ofynion yr ymgyrch

Mae’r camau gweithredu niferus y mae TUC Cymru yn credu y dylai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU eu rhoi ar waith er mwyn gwella’r sefyllfa i bobl anabl yng Nghymru fel a ganlyn:

Y camau gweithredu y gofynnir i Lywodraeth Cymru eu rhoi ar waith

  • Hybu ymgyrch codi ymwybyddiaeth genedlaethol
  • Gweithio drwy strwythurau partneriaeth cymdeithasol i sicrhau cyfarwyddyd priodol i gyflogwyr datganoledig y sector cyhoeddus
  • Ystyried arferion cyflogaeth sefydliadau mewn perthynas â chydraddoldeb i bobl anabl wrth wneud penderfyniadau cyllido a chaffael
  • Sefydlu a hybu safon hyfforddi genedlaethol ar gyfer gweithleoedd, yn seiliedig ar fodel cymdeithasol o anabledd ar gyfer cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau
  • Sefydlu cynllun gweithredu cenedlaethol i gau bwlch cyflog pobl anabl a gwella’r gwaith o gasglu gwybodaeth ac adrodd ar gynnydd tuag at gydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle
  • Cau ‘bylchau data’ eraill sy’n bodoli gyda chydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle yng Nghymru
  • Annog cynnwys mwy o bobl anabl mewn cynlluniau prentisiaeth

Y camau gweithredu y gofynnir i Lywodraeth y DU eu rhoi ar waith

  • Adolygu holl ddeddfwriaeth y DU sy’n effeithio ar bobl anabl
  • Cyllid gwell i'r gronfa Mynediad i Waith
  • ‘Rhaglenni gwaith’ effeithiol
  • System budd-daliadau deg
  • Ymestyn yr amrediad llawn o hawliau cyflogaeth statudol i gynnwys pob gweithiwr, heb ystyried statws cyflogaeth na math o gontract.

Darllen y rhestr fanwl.

Hefyd mae copïau papur o’r pecyn adnoddau, yn ogystal â phosteri a chardiau post ymgyrch y gweithle, ar gael i’w harchebu gan TUC Cymru - cysylltwch ar wtuceducation@tuc.org.uk neu ffoniwch 029 2034 7010 i archebu copïau. Mae’r adnoddau ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg.