Os ychwanegwn effaith bosib Brexit, awtomeiddio a Chredyd Cynhwysol at hyn, mae'n gyfuniad andwyol iawn. Rhaid gwneud rhywbeth ar fyrder – i wneud gwaith yn decach.
Bydd creu Gwlad Gwaith Teg yn:
Y ffordd orau o wneud hyn yw drwy Gydfargeinio – lle mae gweithwyr a chyflogwyr yn negodi i sicrhau cyflog, telerau ac amodau teg.
Mae traean o holl weithwyr Cymru eisoes yn elwa o Gydgytundeb yn eu gweithle, ond rydym am ei weld yn dod yn arfer cyffredin ar draws Cymru.
Rydym eisiau i holl weithwyr Cymru dderbyn y swm a negodwyd yn dâl am eu gwaith, nid dim ond yr isafswm.
Cydfargeinio yw'r broses lle mae undebau llafur yn negodi â chyflogwyr ar ran eu haelodau ynghylch cyflog a materion cyflogaeth eraill. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn rhannu ym manteision cydfargeinio, sy'n cynnwys:
Nid yr undebau llafur yn unig sy'n dweud hyn – mae sefydliadau rhyngwladol fel yr OECD a'r ILO hefyd yn cytuno, ac mae cydfargeinio'n arfer cyffredin mewn gwledydd fel Norwy, yr Almaen a'r Iseldiroedd. |
Rhaid i ni gryfhau'r bartneriaeth gymdeithasol rhwng undebau, cyflogwyr a llywodraeth. Nid y cyflogwr yn unig sydd angen iddynt wrando ar fuddiannau gweithwyr, ond y llywodraeth hefyd.
Pan fydd gwleidyddion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar weithwyr, dylent wrando ar y gweithwyr a'r cyflogwyr.
Dyna pam yr ydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol.
Byddai Deddf Partneriaeth Gymdeithasol yn ysgogi newid diwylliant ym marchnad lafur Cymru, gyda chyd-lais y gweithwyr yn cael ei gydbwyso â llais eu cyflogwr. Bydd yn:
|
Mae undebau cryfach yn creu gweithleoedd mwy diogel a chynhyrchiol. Nid gweithwyr yn unig fydd yn elwa o'n cynlluniau; bydd eu teuluoedd, cymunedau a chyflogwyr hefyd yn ennill gan greu economi decach a mwy gwydn.
Y peth gorau i'w wneud yw ymuno ag undeb. Mwya'n byd ohonom sy'n sefyll gyda'n gilydd, y mwyaf cryf fydd ein llais - cliciwch yma i gael gwybod gyda pha undeb i ymuno.
Ar gyfartaledd, mae gweithwyr sy'n aelodau o undeb yn ennill mwy na gweithwyr nad ydynt yn aelodau. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fod â manteision salwch a phensiwn gwell, mwy o wyliau gyda thâl a mwy o reolaeth dros shifftiau ac oriau gwaith.
Y rheswm yw bod gweithwyr mewn sefyllfa well na'u rheolwyr i negodi cyflog ac amodau teg, ac yn gallu cyd-negodi drwy eu hundebau.
Mae undebau hefyd yn helpu i gadw gweithwyr yn iach. Mae gweithwyr sy'n aelodau o undebau'n dioddef llawer llai o anafiadau oherwydd bod cynrychiolwyr iechyd a diogelwch yn gweithio'n galed i adnabod a delio gydag amodau gwaith peryglus.
I ddeall mwy pam y dylech ymuno ag undeb, cliciwch yma.