Mae nifer o weithwyr yn cael salwch difrifol rywbryd yn ystod eu bywydau. Efallai y bydd arnynt angen amser o'r gwaith, am fisoedd weithiau, i gael triniaeth neu i wella.
Siarter Afiechyd Marwol

Ond, ar adegau, does dim triniaeth effeithiol. Yn yr achosion hynny, mae’r gweithiwr a’i deulu’n wynebu straen emosiynol enfawr, ofn, a phryderon ariannol o bosib. Gall y Siarter Afiechyd Marwol helpu i leddfu rhywfaint ar y straen hwnnw ac mae’n cyflwyno ffordd y cytunwyd arni i gyflogeion gael eu trin a’u cefnogi os ceir diagnosis o salwch terfynol.

Mae’r siarter yn rhoi dewis i unigolyn ynglŷn â sut mae ef am symud ymlaen yn y gwaith. Mewn rhai achosion, bydd unigolyn eisiau parhau i weithio cyn hired ag y gallai, ar gyfer sicrwydd ariannol neu am fod gweithio’n gallu tynnu meddwl rhywun oddi ar ei salwch. Mewn achosion eraill, gall unigolyn benderfynu nad yw’n dymuno gweithio mwyach ac y byddai’n well ganddo dreulio’r amser sydd ganddo ar ôl gyda’i deulu a’i ffrindiau, yn cael trefn ar bethau, neu’n gwneud beth bynnag a fynno.  Beth bynnag fo dewis yr unigolyn, dylai allu disgwyl cael help a chymorth ei gyflogwr.

Mae llawer o gyflogwyr ledled Cymru wedi llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol eisoes, gan ddangos eu hymrwymiad i gefnogi staff pan mae arnynt ei angen fwyaf.

Mae awdurdodau lleol gan gynnwys Casnewydd, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chaeffili wedi ymrwymo, yn ogystal â chwmnïau fel Santander, grŵp The
Co-operative a’r Post Brenhinol.

Gallwch edrych i weld a yw eich gweithle chi wedi llofnodi drwy fynd i www.dyingtowork.co.uk ac, os nad yw, mae'r wefan yn nodi sut gall eich undeb helpu i’ch gwarchod chi a’ch cydweithwyr.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.dyingtowork.co.uk