Mae dysgu drwy’ch undeb yn cael effaith ar bopeth mae undebau yn credu ynddo. Mae’n rhan hanfodol o waith TUC Cymru.

Cynrychiolwyr Dysgu Undebau

Mae Cynrychiolwyr Dysgu’r Undeb yn elfen amhrisiadwy sy’n helpu undebau i gyrraedd y dysgwyr. Law yn llaw â WULF, maent yn gallu cefnogi amrywiaeth o gyfleodd dysgu yn cynnwys llythrennedd digidol, cyrsiau proffesiynol pwrpasol, a chefnogaeth yn ystod newid mewn sefydliad neu mewn gyrfa. O fewn y gweithle, bydd cynrychiolwyr dysgu’r undeb yn:

  • codi ymwybyddiaeth am werth dysgu
  • helpu trefnu cyrsiau
  • cefnogi a hybu aelodau i gymryd rhan yn y dysgu
  • hyrwyddo cyfartaledd ac iechyd a llesiant drwy ddysgu

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gynrychiolydd dysgu’r undeb, mynnwch sgwrs ag ysgrifennydd eich cangen.

Darllenwch fwy (yn Saesneg) am waith Cynrychiolwyr Dysgu Undebau

Pecyn cymorth cynrychiolwyr dysgu undebau

Bydd ein pecyn cymorth i gynrychiolwyr dysgu undebau (ULRs) newydd yn cynorthwyo ULRs i gefnogi datblygiad dysgu yn y gweithle a'r gymuned ehangach. 

Mae angen rôl yr ULR fwyfwy ac mae'n rhan allweddol o waith unrhyw undeb llafur.  Mae'n ffactor hanfodol o ran gwella bywydau cannoedd o bobl bob blwyddyn yn y gweithle a thu hwnt.

Rydym yn ffodus yng Nghymru o allu gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau mynediad at gyllid ac amlygu gwir fanteision dysgu a datblygu sgiliau.

Mae dysgu drwy’ch undeb yn cael effaith ar bopeth mae undebau yn credu ynddo. Gall helpu i wella iechyd a diogelwch, cyfle cyfartal, sicrwydd swydd a thâl.

Gall Undebau Llafur chwarae rhan enfawr wrth sicrhau bod gan aelodau'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cystadlu yn y farchnad swyddi yn y dyfodol. Gellir rhoi sylw i nifer o’r heriau economaidd yn y dyfodol, fel digideiddio ac awtomatiaeth, trwy ddysgu a gloywi sgiliau.

Gwyliwch ein Swyddog Cymorth Polisi a Chyfathrebu Flick Stock yn siarad am yr hyn sydd yn y pecyn cymorth ULR a sut y gellir ei ddefnyddio yn eich gweithle.

Download the ULR toolkit


Cronfa Ddysgu Undeb Cymru (WULF)

Mae TUC Cymru wedi arwain y ffordd mewn dysgu drwy’r undeb am dros ugain mlynedd. Rydym yn cefnogi ein hundebau cyswllt a phrosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Mae’r prosiectau dysgu yma yn amrywio o Sgiliau Hanfodol a darllen, i gymwysterau plymio ac arlunwyr colur. Gan eu bod yn gweithio drwy’r Undebau ac yn y gweithle, mae prosiectau WULF yn gallu cyrraedd dysgwyr nad yw cronfeydd eraill yn gallu eu cyrraedd. Maen nhw’n cefnogi’r rhai sydd angen cymorth fwyaf.

Mae prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn parhau yn ystod argyfwng y coronafeirws - ewch i'n tudalen ar WULF i ddysgu mwy. 

Ar hyn o bryd mae TUC Cymru yn ymgyrchu dros sicrhau bod dysgu a sgiliau yn rhan o wneud Cymru yn 'Wlad Gwaith Teg'. Drwy gefnogi aelodau â’u haddysg, rydym yn gwella eu rhagolygon swydd ac maent yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ond mae yna hefyd fanteision ehangach - gall WULF greu gweithle mwy crefftus a gwella’r economi.


Arolwg Dysgu: Ffyrdd hawdd o arolygu eich gweithle

Mae arolygu neu fapio eich gweithle a’ch cydweithwyr yn dasg bwysig, a gall fod yn broses frawychus.
Does dim rhaid i bethau fod yn anodd.

Mae cymaint o apiau a rhaglenni ar gael am ddim y dyddiau hyn sy’n ei gwneud hi’n haws cynhyrchu arolwg, ei rannu ac yn bwysicach na hynny, chrynhoi’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu i adroddiad addas i’w rannu â’r tîm rheoli/AD neu eich Rheolwr Prosiect WULF.

Y tip gorau yw cadw pethau’n syml. Lluniwch amlinelliad clir o’r hyn yr ydych eisiau ei wybod a faint y byddech yn fodlon ei gwblhau eich hun. Nid oes unrhyw un eisiau ysgrifennu traethodau neu phentwr o wybodaeth i ateb cwestiynau ac yn sicr ni fyddant eisiau cymryd oes i lenwi un.

Manteisiwch ar alluoedd yr ap rydych chi wedi'i ddewis. Mae gan y rhan fwyaf o’r apiau modern hyn brosesau arbennig sy’n golygu bod modd cynhyrchu graffiau a chasglu data’n gyflym yn awtomatig. Pam ailddyfeisio’r olwyn?

Os yw’r ap rydych chi wedi’i ddewis yn gwneud hyn i chi, bydd yn arbed amser, ymdrech a straen.

Mae’r prosesau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws cyflwyno eich canfyddiadau. Maent yn glir ac yn hawdd eu darllen, yn haneru eich llwyth gwaith ac yn dangos yn glir feysydd a allai greu cyfleoedd dysgu i’ch cydweithwyr neu fylchau mewn sgiliau nad yw’r rheolwyr wedi bod yn ymwybodol ohonynt.

Cofiwch nad yw addysgu a hyfforddi yn helpu’r dysgwr yn unig, ond y cyflogwr hefyd a’r gymuned yn gyffredinol. 

Mae aelod staff hapus a llwyddiannus yn gwneud aelod staff mwy cynhyrchiol, gweithle hapusach a mwy effeithlon ac mae hynny’n cael effaith ddilynol ym mhob man.

Mae’r cyflwyniad isod yn tynnu sylw at y prif feysydd i’w hystyried wrth ddechrau arni, wrth rannu eich arolwg a’ch canfyddiadau ac mae arolwg enghreifftiol isod i’ch rhoi chi ar ben ffordd.

Yn olaf, cofiwch fod eich Rheolwr Prosiect WULF yn adnodd gwerthfawr ac mae yno i helpu fel y mae staff yn TUC Cymru.

Cysylltwch â: wulr@tuc.org.uk neu fstock@tuc.org.uk

Learning Survey - Example survey form [English version]

Learning Survey - Example survey form [Welsh version]

Learning Survey - Easy ways to survey your workplace presentation [Billingual]