Mae eithafiaeth y dde eithafol ar gynnydd yn ein gweithleoedd a'n cymunedau. Ers refferendwm Brexit rydym wedi gweld cynnydd yng ngweithgareddau'r dde eithafol ledled Cymru.

Mae ymgyrchwyr y dde eithafol wedi bod yn ymgasglu yn ein strydoedd ac ar-lein, gan geisio recriwtio mewn cymunedau sy'n dioddef blynyddoedd o esgeulustod, tanariannu a diweithdra.

Mae'r rhain yn cynnwys nifer o'n cymunedau ni yma yng Nghymru.

Rhowch gynnig ar ein eNodyn Gwrthsefyll y Dde Eithafol heddiw.

Ar gyfer pwy mae'r eNodyn hwn?

Mae'r eNodyn hwn ar gyfer cynrychiolwyr undebau llafur sydd eisiau dysgu am ffyrdd o wrthsefyll y dde eithafol yn eu gweithle a'u cymuned.

Sut bydd yr eNodyn o gymorth i mi?

Bydd yr eNodyn hwn yn:

esbonio pwy yw'r dde eithafol a pham rydym ni'n eu gwrthwynebu

rhoi awgrymiadau ymarferol i chi ar sut mae ymgyrchu yn erbyn y dde eithafol

rhoi cyfle i chi ymarfer ateb cwestiynau anodd y gallech chi eu cael.

Mae ein eNodyn Gwrthsefyll y Dde Eithafol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.