Mae undebau llafur yng Nghymru yn galw am adferiad gwyrdd er mwyn gallu dod at ein hunain yn well yn dilyn argyfwng Covid-19 a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Yn ein hadroddiad newydd, ‘Adferiad gwyrdd a thrawsnewidiad cyfiawn’, rydym yn galw am ysgogiad economaidd enfawr ac yn amlinellu cynllun i gyflawni ‘trawsnewidiad cyfiawn i economi sero-net ar gyfer gweithwyr a chymunedau yng Nghymru’.

Mae adeiladu'r adferiad o Coronafeirws yn her a wynebir unwaith mewn cenhedlaeth. Ond mae yn gyfle i gymryd y camau brys sydd eu hangen i adeiladu economi wyrddach a thecach yng Nghymru – un sy’n diogelu swyddi, iechyd a’r blaned.

Rhaid bod gan weithwyr lais canolog wrth gynllunio'r adferiad a'r trawsnewidiad i economi sero-net er mwyn sicrhau ei fod yn digwydd.

Yn ein hadroddiad, mae cynllun pum pwynt er mwyn sicrhau ‘trawsnewidiad cyfiawn’ i sero-net. Rydym yn gofyn am:

  • llwybr clir wedi’i ariannu tuag at sero-net sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddiogelu a chreu swyddi yng Nghymru
  • y gweithwyr yr effeithir arnynt fwyaf gan y symud i economi sero-net i gael llais canolog wrth gynllunio'r trawsnewidiad
  • pob swydd newydd yn yr economi werdd i gynnig ‘gwaith teg’ gyda chyflog da, sgiliau, pensiynau, iechyd a diogelwch a chydnabyddiaeth undeb llafur
  • cytuno ar ‘gytundebau trawsnewid’ rhwng y cyflogwyr a’r undebau er mwyn sicrhau trawsnewidiad teg. Hefyd cefnogi mentrau cynaliadwyedd dan arweiniad undeb ym mhob gweithle
  • mwy o gyllid ar gyfer dysgu a sgiliau i baratoi gweithwyr ar gyfer y trawsnewid a darparu llwybr clir i swyddi newydd

Research recently carried out for the Wales TUC by Transition Economics shows that almost 60,000 jobs could be created in Wales in the next two years through government investment in key infrastructure projects. Fast-tracking spending on projects such as social housing, public transport, and decarbonisation could make a significant contribution to the economic recovery.

Mae ymchwil diweddar a wnaed ar ran TUC Cymru gan Transition Economics yn dangos y gallai creu 60,000 o swyddi yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd nesaf drwy fuddsoddiad y Llywodraeth mewn prosiectau seilwaith allweddol. Gall gwario'n gyflym ar brosiectau fel tai cymdeithasol, trafnidiaeth gyhoeddus a datgarboneiddio cyfrannu'n sylweddol at adferiad yr economi.

Wedi'i ddadansoddi yn ôl sector, byddai creu swyddi rhagamcanol o fuddsoddiad o £6bn mewn seilwaith yn golygu:

  • 27,000 o swyddi mewn adeiladu tai ac ôl-osod effeithlonrwydd ynni
  • 18,000 o swyddi mewn uwchraddio trafnidiaeth
  • 9,000 o swyddi ym maes ynni, gweithgynhyrchu ac uwchraddio seilwaith band eang
  • 5,000 o swyddi mewn gwelliannau tir, coedwigaeth, ac amaethyddiaeth

Byddai'r swyddi hyn o fudd i rai o'r sectorau a demograffeg sy'n cael eu taro caletaf gan yr argyfwng Covid-19. Byddai dros 75% o'r swyddi yn cael eu creu mewn sectorau sy'n draddodiadol yn cyflogi gweithwyr nad ydynt yn raddedigion. Darllenwch mwy am yr ymchwil

Beth yw trawsnewidiad cyfiawn?

Mae ‘trawsnewidiad cyfiawn’ i economi wyrddach yn un lle mae gan weithwyr lais canolog wrth gynllunio’r trawsnewidiad, ac mae’n cael ei roi ar waith ‘gyda’ nhw yn hytrach nag ‘iddyn’ nhw. Mae’n drawsnewidiad lle nad oes unrhyw weithiwr neu gymuned yn cael ei gadael ar ôl. A hefyd, mae’r swyddi a gaiff eu creu yr un mor dda a’r rhai a gaiff eu colli o ran cyflog, sgiliau, pensiynau a chydnabyddiaeth yr undebau llafur.

Mae undebau llafur ledled y byd yn galw am drawsnewidiad cyfiawn.

Yn dilyn pwysau gan y mudiad undebau llafur rhyngwladol, cafodd y cysyniad o “drawsnewidiad cyfiawn o’r gweithlu a chreu gwaith addas a swyddi o safon” ei gynnwys yn y rhagymadrodd i Gytundeb Paris 2015 ac yn Natganiad Silesio yn y trafodaethau ar yr hinsawdd yn 2018.

Adferiad gwyrdd

Rydym am i gynlluniau adfer Covid Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i dwf gwyrdd i hybu swyddi a’r economi tra’n amddiffyn ein hinsawdd. 

Gallai Cymru weld enillion enfawr ar fuddsoddiad a miloedd o swyddi newydd pe bai gan Lywodraeth Cymru fwy o arian i fuddsoddi mewn adeiladwaith carbon isel, prosiectau ynni adnewyddadwy a chartrefi cynaliadwy.

Gydag ofnau o ddirwasgiad a diswyddiadau yn sgil argyfwng Covid, mae’r TUC yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer cynllun gwarantu swyddi. Dylai datgarboneiddio fod yn rhan o feini prawf y cynllun hwn. Yng Nghymru, dylai’r cynllun gwarantu swyddi gael ei reoli a’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur a chyflogwyr yng Nghymru.

Darllenwch mwy am alwadau'r TUC ar Lywodraeth y DU yn yr adroddiadau Rebuilding after recession: a plan for jobs a Voice and place: how to plan fair and successful paths to net-zero emissions.

Gweithio tuag at drawsnewidiad cyfiawn yng Nghymru

Mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru yn cefnogi’r frwydr i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ac mae’n barod i wynebu her yr hinsawdd a natur.

Ac rydym yn cefnogi’r gweithwyr hynny y mae eu swyddi mewn perygl os nad yw’r adferiad a’r trawsnewidiad ôl-Covid i economi sero-net yn un cyfiawn.

Yng Nghymru, rydym yn credu mai’r catalydd fydd undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth yn cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol er mwyn cyflawni adferiad gwyrddach a thecach, a llwybr tuag at Gymru sero-net.

Ariannu’r trawsnewidiad

Mae undebau llafur Cymru yn croesawu camau gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Ond rydym hefyd yn cydnabod bod rhai ysgogiadau nad ydynt o fewn pwerau Llywodraeth Cymru. Mae cyfyngiadau hefyd oherwydd setliad cyllido Llywodraeth y DU.

Rydym yn cefnogi galwadau ar i Gymru gael mwy o hyblygrwydd yn ei phwerau benthyg er mwyn buddsoddi yn ei blaenoriaethau hinsawdd. Ond, ni all Cymru gyflawni’r trawsnewidiad hwn heb gynnydd sylweddol mewn cyllid, buddsoddiad a newidiadau polisi gan San Steffan.

Gweithleoedd mwy gwyrdd – rôl undebau

Mae gan weithwyr lawer iawn o wybodaeth a all helpu sefydliadau gyda’r trawsnewidiad. Bydd yn rhaid i gwmni neu sefydliad sy’n symud o fodel tanwydd ffosil i system ynni carbon is, neu sector cyfan sy’n trawsnewid tuag at dechnolegau glanach, addasu prosesau penodol. Ac yn aml, y gweithwyr ar lawr gwlad sydd fwyaf tebygol o ddeall sut i wneud hynny’n effeithiol. 

Ac nid y diwydiannau carbon-ddwys yn unig mohonynt. Fe effeithir ar weithwyr o bob math o sectorau a byddant yn rhan o'r ymdrechion i ddatgarboneiddio a symud Cymru i economi gylchol fwy cynaliadwy, dim gwastraff.

Mae’n gwneud synnwyr i roi llais cryfach a rôl fwy amlwg i weithwyr mewn amgylchiadau o’r fath. Dyna pam y dylai cwmnïau weithio gydag undebau er mwyn nodi a chyflawni’r ymarfer amgylcheddol gorau ar lefel y gweithle.

Gellir gwneud hyn trwy gydnabod a rhoi amser cyfleuster i gynrychiolwyr 'gwyrdd' neu amgylcheddol undebau llafur. Neu drwy roi amser cyfleuster ychwanegol i gynrychiolwyr sy’n dymuno ymgymryd â’r gwaith hwn fel agwedd ychwanegol ar eu rôl.

Cynrychiolwyr ‘gwyrdd’ neu amgylcheddol

Mae cynrychiolydd gwyrdd neu amgylcheddol yn sicrhau bod ymdrechion i leihau effaith amgylcheddol y sefydliad yn cael eu datblygu ar y cyd ac mewn ymgynghoriad llawn â gweithwyr. Yn aml, dyma'r ffordd orau o nodi’r newidiadau sydd angen eu gwneud. Drwy gynnwys gweithwyr, gellir sicrhau bod y newidiadau a wneir yn deg, yn addas at y diben ac yn cael cefnogaeth lawn y gweithle.

Gall cynrychiolwyr gwyrdd ddatblygu mentrau codi ymwybyddiaeth. Gan weithio fel rhan o’u cangen, gallan nhw sicrhau bod materion amgylcheddol yn cael eu cynnwys ar yr agenda negodi a bargeinio. O ran datblygu polisïau gweithle effeithiol, nhw yw'r cyswllt allweddol rhwng rheolwyr a gweithwyr.

O gael digon o amser cyfleuster priodol a chefnogaeth y rheolwyr, gall cynrychiolwyr gwyrdd wneud gwahaniaeth mawr. Yn enwedig o ffurfio cydbwyllgor amgylcheddol. 

Ledled Cymru, mae cynrychiolwyr undeb eisoes yn gweithio gyda’i haelodau i wneud gweithleoedd yn fwy cynaliadwy. Maent yn dod o hyd i ffyrdd o leihau carbon a gwastraff, gan ymgyrchu dros aer glanach a chreu mannau gwyrdd i gynnal natur. 

Darllenwch ragor am rôl cynrychiolydd gwyrdd

Adnoddau ‘sgiliau gwyrdd’ newydd ar gael i gynrychiolwyr (ar gael yn fuan)

Pan fyddwn yn lansio adnoddau sgiliau gwyrdd newydd i gynrychiolwyr Cymru, byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth yma. Hefyd, beth am gofrestru er mwyn derbyn ein e-byst er mwyn cael gwybod am ein hymgyrchoedd a’n hadnoddau newydd.