Dyma 10 ffordd y gall WULF helpu chi i barhau i ddysgu ac atebion i gwestiynau cyffredin am WULF.

Mae dysgu gydol oes yn rhywbeth mae llawer o bobl yn siarad amdano ond ychydig sy’n ei roi ar waith.  Mae’r lefelau cyfranogaeth wedi bod yn cwympo’n raddol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig ers blynyddoedd. Fodd bynnag, mae niferoedd y dysgwyr ar draws WULF yn dal i dyfu. Ein barn ni yw bod hyn yn seiliedig ar ychydig o egwyddorion sylfaenol y mae WULF wedi’i adeiladu arnynt. I ddechrau, mae prosiectau WULF yn cael eu creu at y pwrpas ac yn cael eu cyd-ddylunio gyda  gweithwyr. Egwyddor allweddol WULF yw y bwriedir iddo chwalu’r rhwystrau rhag cyfranogi i bobl sy’n gweithio ac mae’n gwneud hynny’n union. Fodd bynnag, mae hefyd yn caniatáu i aelodau a gweithwyr ddweud wrthyn ni beth maent eisiau ei ddysgu, ac mae arlwy ddysgu pob prosiect yn cael ei llywio gan lais y gweithiwr.

Yr ail egwyddor allweddol yw cyfle a mynediad cyfartal.  Mae WULF wastad wedi canolbwyntio ar ennyn diddordeb y rhai anoddaf i’w cyrraedd.  Mae gan bobl sy’n gweithio yn aml fwy o rwystrau yn enwedig o safbwynt amser, gofal plant a chost.  Mae undebau llafur yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau na chaiff yr un grŵp nac unigolyn ei hepgor na’i adael ar ôl. Maen nhw’n llunio cytundebau a pholisïau i sicrhau bod WULF yn newid y diwylliant yn y gweithle ac yn sicrhau tegwch yn y gweithle.

Roedd hyn yn amlwg yn y derbyniad Wythnos Addysg Oedolion a gynhaliwyd yn ddiweddar yn y Senedd, lle dathlwyd llwyddiant prosiectau WULF a’u cyfraniad i Wythnos Addysg Oedolion. Fe wnaeth prosiectau gan Unite ac Unsain ennill gwobrau am y niferoedd aruthrol o oedolion sy’n ddysgwyr y maent wedi ymgysylltu â nhw dros y blynyddoedd diwethaf a rhoddwyd hefyd sylw (31:35) i’r dysgwr o GMB Mark Church a’i siwrnai ddysgu anhygoel.

Fe all yr help a’r cymorth gael eu teilwra i’ch anghenion unigol chi, mae WULF yn gweithio i ddileu rhwystrau rhag dysgu a gall gyflwyno opsiynau hyblyg sy’n addas i chi.   

1.  Lechyd a Lles

“Sut all WULF helpu fy lles?”

Fe all prosiectau WULF drefnu a thalu am gyrsiau iechyd a lles. Mae cyrsiau poblogaidd fel meddylgarwch, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a dysgu am bresgripsiynu gwyrdd yn ddewisiadau iachus gwych.

Lles

Pan oedd y pandemig ar ei waethaf, fe wnaeth y galw am gefnogaeth iechyd a lles saethu i fyny. Mae WULF nawr yn cynnig arlwy ar-lein arloesol yn llwyddiannus drwy gefnogi a helpu pobl i ymdopi.

Fe wnaeth yr NEU yn ddiweddar ddatblygu a chyhoeddi pecyn cymorth a oedd wedi’i fwriadu’n benodol ar gyfer y sector addysg. 

Mae gan TUC Cymru gatalog ardderchog o diwtorialau hunan-gymorth bychan ‘Ymdopi â Covid’ a fwriadwyd i leddfu straen yn ystod y pandemig.  Rhowch gynnig arnyn nhw, mae’r sesiynau yn llawn awgrymiadau a thriciau wedi’u cyflwyno gan hwyluswyr arbenigol.

2.  Sgiliau Digidol a Hanfodol

“Beth yw sgiliau hanfodol?”

Bu Sgiliau Hanfodol yn ffocws craidd yn arlwy WULF ers blynyddoedd lawer, gan gyflwyno cyrsiau o ansawdd i wella cyfathrebu (darllen, ysgrifennu, gwrando) rhifedd, sgiliau digidol (technoleg) a sgiliau bywyd eraill.

Sgiliau Hanfodol

Fe all WULF helpu i drefnu ar gyfer asesiad neu sgriniad megis WEST a wneir a gall gynnig cefnogaeth un i un ychwanegol.  Nod WULF yw sicrhau eich bod yn cael yr help ar y lefel iawn ar gyfer eich anghenion a’ch gallu, gyda’r nod o ddatblygu i gyrraedd eich llawn botensial.

Yn ystod argyfwng Covid fe ddaeth sgiliau digidol a defnyddio offer digidol yn flaenoriaeth, gorfodwyd gweithwyr, rhieni a dysgwyr i addasu’n gyflym i ffyrdd newydd o gyfathrebu a gweithio.  Mae WULF yn cyflwyno arlwy sgiliau digidol i helpu pobl i ddysgu, uwchraddio eu sgiliau, rhoi hwb i hyder a llenwi bylchau.

Fe gewch ddilyn cyrsiau sgiliau digidol a hanfodol ar-lein am ddim ar ein hyb OpenLearn with your union

Rhowch gynnig ar gwrs, dysgwch rywbeth newydd ar-lein neu darllenwch yr erthygl hon sy’n llawn dop o ffyrdd o ddysgu o adref.

3.  Galwedigaethol

“Beth yw hyfforddiant galwedigaethol?”

Dysgwch wrth ichi weithio a chymhwyso ar gyfer crefft neu broffesiwn.  Gwyliwch y fideo byr hwn i ddysgu mwy am beth yw cymhwyster galwedigaethol, a meddwl tybed a fyddai’r math hwn o ddysgu yn addas i chi.

Galwedigaethol

Mae WULF yn helpu gweithwyr i gael mynediad i gyfleoedd dysgu galwedigaethol drwy gymwysterau fel NVQs neu un o’r prentisiaethau pob oed yng Nghymru.

Bu undeb ASLEF yn gweithio’n galed am flynyddoedd lawer i helpu i ddatblygu arlwy prentisiaethau penodol i’r sector rheilffyrdd a fwriadwyd ar gyfer gyrwyr trenau newydd.  Mae undebau yn cael canlyniadau gwych drwy weithio mewn partneriaeth ag arweinyddion dysgu eraill.  Darllenwch astudiaeth achos ASLEF.

Fe all WULF hefyd eich cyfeirio ymlaen at brentisiaethau gradd am ddim. Er nad yw WULF yn talu am y cwrs, fe allai rhai prosiectau eich cynorthwyo wrth ichi ddysgu.

4.  Cymraeg

“Allaf fi ddysgu Cymraeg?”

Fe all WULF ariannu cyrsiau i ddysgu Cymraeg, fe all hefyd ddefnyddio cyllid i ddatblygu cyrsiau i gael eu cynnal yn Gymraeg i siaradwyr Cymraeg.

Mae Say something in Welsh yn gwrs poblogaidd iawn gyda dysgwyr WULF.

Cymraeg

Mae prosiectau wedi ymrwymo i gynyddu nifer y bobl sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg.  Fe all dysgu Cymraeg fod yn hwyl fawr a rhoi ichi gyfleoedd cyffrous i gwrdd â phobl newydd a dysgu am y diwylliant Cymreig.

Mae gan hyb OpenLearn with you union gwrs Cymraeg. Rhowch gynnig arn y cwrs Cymraeg am ddim i ddechreuwyr.

5.  Cyflogadwyedd a Newid Gyrfa

“A all WULF fy helpu i newid gyrfa?”

Fe all WULF roi ichi’r cyngor a’r arweiniad diweddaraf, eich cyfeirio ymlaen a’ch cefnogi tra byddwch chi’n cynllunio ac yn paratoi am newid yn eich gyrfa, yn ennill dyrchafiad neu hyd yn oed yn dechrau eich busnes eich hun.

Cyflogadwyedd

Pa un a oes gennych y swydd ddelfrydol, yn cael eich hun yn wynebu colli eich swydd neu dim ond awydd newid, fe all WULF ac ULRs eich helpu ym mhob cam.

Fe all WULF eich helpu i chwilio am swydd, ysgrifennu CV, dysgu sgiliau cyfweliad, rhoi hwb i hyder, dysgu sgiliau busnes ac arweinyddiaeth ac i ymgeisio am gyrsiau neu gyllid.

Fe all WULF eich arwain a’ch helpu i ymgeisio am Gyfrifon Dysgu Personol, a chyllid o fath arall megis rhaglen Agile Nation 2 Chwarae Teg a fwriedir ar gyfer menywod yn y sector preifat neu’r trydydd sector.

6.  Colli Swydd a Newid yn y Gweithle

“A all WULF fy helpu os wyf yn colli fy swydd neu os yw fy swydd dan fygythiad?”

Mae gan WULF becynnau cymorth ardderchog ar gyfer gweithleoedd ac unigolion sy’n wynebu’r profiad dychrynllyd ac anodd iawn o golli eu swydd neu o wynebu newid mawr yn y gweithle megis prosesau ad-drefnu a thechnoleg newydd.

Delio â Newid

Fe all WULF ddod â’r arbenigwyr atoch chi ac i’ch gweithle.  Gellir trefnu dyddiau agored gyda darparwyr a chyfarwyddyd gyrfa, rhennir manylion ffeiriau swyddi a chynigir cymorth unigol.  Mae WULF ac undebau mewn sefyllfa unigryw i drafod ar eich rhan a sicrhau eich bod yn cael cyngor ac arweiniad.

Mae Cymru'n GweithioGyrfa Cymru a WULF yn gweithio mewn partneriaeth i’ch helpu i wneud cais am gyllid megis ReAct+ a’ch cefnogi tra byddwch chi’n dysgu ac yn datblygu.

Pa un a ydych angen gwella eich sgiliau neu ddysgu sgiliau newydd, mae WULF yn gwybod bod y byd gwaith yn newid, yn mynd yn fwy gwyrdd ac yn fwy technolegol.  A yw eich sefydliad chi’n cyflwyno technoleg neu bolisïau gweithle newydd a allai effeithio ar eich rôl chi? A oes arnoch chi angen sgiliau gwyrdd newydd? 

Darllenwch esiampl o sut mae Unite yn cefnogi Cyngor Abertawe Abertawe i hyfforddi staff i gynnal a chadw cerbydau trydan.

7.  Gweithwyr ifanc a gweithwyr hŷn 

“A ydy oedran yn bwysig?”

Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Ni waeth faint oed ydych chi, fe all WULF helpu.  Yn ddibynnol ar eich anghenion, fe all WULF deilwra’r cyngor a’r arweiniad a chreu pecyn cymorth gyda’r nod o’ch helpu chi i gyrraedd eich potensial gan gefnogi eich lles ar yr un pryd.

I weithwyr ifanc sy’n newydd i’r byd gwaith, neu weithwyr profiadol sefydledig, fe all WULF helpu i ddeall y byd gwaith newidiol drwy gyplysu ag arlwy ehangach yr undeb i fynd i’r afael â materion gweithle a materion sy’n cael eu cydfargeinio megis hawliau a chyfrifoldebau, cydraddoldeb a bod yn egnïol.

Cymorth sy'n gysylltiedig ag oedran

Fe all WULF roi’r arweiniad diweddaraf a’ch cyfeirio ymlaen i wasanaethau, eich helpu i ddewis y cwrs iawn a darparu cyllid.

Boed chi’n newydd i waith; yn cael eich hun yn ailystyried ar ganol eich gyrfa, neu’n meddwl am ymddeol, fe all WULF eich helpu i ddeall y camau nesaf. 

Gweithiwr Ifanc

Yn weithiwr ifanc?  A oes arnoch angen cefnogaeth i wneud cais am brentisiaeth?  A oes arnoch angen cyngor ac arweiniad yn y gweithle?

Ewch i  Twf Swyddi Cymru+ a’r Warant i Bobl Ifanc

Gwelwch sut mae Unite yn helpu pobl ifanc i waith

Canol Gyrfa

Ar ganol eich Gyrfa?  Hoffech chi wneud newidiadau?  A oes arnoch angen help i gyrraedd eich nodau? 

Edrychwch ar wefan Age Cymru am eu gweminarau 

Yn Gadael Cyflogaeth?

Yn meddwl am Ymddeol? Efallai hoffech chi fentora gweithiwr ifanc neu helpu eich cymuned drwy rannu eich gwybodaeth a’ch sgiliau?  A oes arnoch angen help gydag arian neu ydych chi eisiau dysgu sgiliau digidol?

Edrychwch ar wefan Age UK a’u harweiniadau, neu’u straeon go iawn ar Cymru’n Gweithio.

8.  Llwybrau Cynnydd

“Beth yw fy lefelau, lle wyf fi’n dechrau?”

Fe all WULF eich helpu i adolygu, asesu a chynllunio eich siwrnai ddysgu.   Nid yw cynnydd, a chyflawniadau’n digwydd dros nos, bydd WULF yn eich cefnogi fesul cam.

Fe all lefelau, credydau a chymwysterau weithiau fod yn ddryslyd ac yn anodd eu deall, gadewch i’r arbenigwyr helpu.

Cynyddu a Datblygu

Fe all rhai darparwyr fapio eich sgiliau cyfredol a’ch dysgu blaenorol i’ch helpu i ennill cymhwyster neu gredyd. 

Mae gan y Brifysgol Agored (OU) fodiwl un-pwrpas o’r enw Making Your Learning Count, a fwriedir i gyfrif eich holl ddysgu blaenorol i’ch helpu i ennill cymhwyster OU ffurfiol. 

Fe all hwn fod yn gam cyntaf gwych, fe allwch yn hawdd symud ymlaen i gwrs Mynediad a thu hwnt i raglen radd lawn.

Mae yna offer hawdd eu defnyddio ar gael i’ch helpu i asesu pa lefelau rydych chi wedi’u cyrraedd.  Fe all fod o fantais gadael i Gynrychiolydd Dysgu eich Undeb neu ddarparwr helpu.

9. Cyllid

“Faint all WULF ei ariannu?”

Nid oes ateb syml i’r cwestiwn hwn, bydd pob prosiect yn rhedeg system sy’n cyd-fynd orau ag anghenion ei weithwyr a’i sector. 

Cysylltiadau Ariannu

Fe all rhai undebau gyfrannu a thalu cost lawn cyrsiau, mae rhai undebau yn trefnu cyrsiau am bris is ac yn gofyn am gyfraniadau gan y dysgwr neu’r cyflogwr, bydd rhai undebau yn cael cyllid o ffynonellau eraill megis cyllid strwythurol yr UE, gan ddarparwyr neu yn eich helpu i ymgeisio am gyllid o gynlluniau eraill megis ReAct+ ac am gymorth Cymru'n Gweithio.

Byddem yn awgrymu bod cyfanswm cyfartalog o oddeutu £200 y pen, y flwyddyn yn arferol i lawer o brosiectau.  Cysylltwch â thîm WULF i ddysgu rhagor.

10.  Cyd-drafod a Phecynnau at y Pwrpas. - Tîm yr undeb

“Gyda phwy mae angen imi siarad?”

Fe all tîm WULF a’ch cynrychiolwyr undeb wneud y siarad i gyd drosoch chi!  Cymerwch y cam cyntaf a chysylltu ag un o arweinyddion WULF neu ofyn i TUC Cymru am help.

Trafod Anghenion

Mae undebau, cynrychiolwyr gweithle fel ULRs a WULF yn gweithio fel un tîm mawr i’ch helpu; gellir trafod cymorth ar eich rhan.  Fe all trafodaethau gael eu cynnal gyda chyflogwyr, darparwyr dysgu, cyllidwyr a phartneriaid.

Bydd darparwyr hyblyg yn cynnig arlwyon hyfforddiant o ansawdd am bris da ar amser ac mewn lle sy’n addas i chi.

Fe all cytundebau gweithle sy’n cael eu cydfargeinio gael eu datblygu a’u cyflwyno i ddatgan ymrwymiadau y cytunwyd arnynt gyda’r cyflogwr ar gyfer pethau fel amser i ffwrdd i ddysgu a darparu cyfleoedd cynhwysol, teg ar draws y gweithlu.  Mae cytundebau i’w cael ar sawl ffurf a chanolbwyntient ar destunau penodol megis dysgu ac iechyd a lles.  Bydd cydraddoldeb, tegwch a hawliau yn themâu craidd yn y cytundebau.

FAQ

Un o swyddogaethau allweddol TUC Cymru yw llywio datblygiad dysgu dan arweiniad undebau a hyrwyddo Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) i weithleoedd ac oedolion sy’n ddysgwyr yng Nghymru.  Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r darparwyr gwasanaethau a dysgu gorau yng Nghymru.

“Beth yw WULF a sut all fy helpu fi?”

Chwaraewch y fideo YouTube yma i’ch helpu i ddeall beth yw WULF.

Mae WULF yn gronfa gwbl unigryw ac yn un o’r unig gynlluniau yng Nghymru sy’n agored i bob oedolyn sy’n gweithio sydd eisiau dysgu, nid oes rhaid ichi fod yn aelod o undeb, ychydig iawn o feini prawf cymhwyso sydd ganddi a’i nod yw helpu gweithwyr mewn diwydiannau a sectorau o bob math, sydd ag amrywiaeth eang o anghenion.   Caiff WULF ei chynnal gan arbenigwyr cyfeillgar sy’n trefnu cyfleoedd o ansawdd.

Ni all WULF ariannu: Cyrsiau Gradd Addysg Uwch (AU); na hyfforddiant y mae gan gyflogwr gyfrifoldeb cyfan gwbl i’w gynnig.

“Pam dysgu drwy undeb?”

Mae dysgu gyda chymorth undeb yn cynnig cyfle unigryw i gael cefnogaeth ychwanegol.  Rydych chi’n fwy tebygol o gael cyngor a chyfarwyddyd at y pwrpas, o ansawdd a llwyddo i gael cyllid at gost cwrs tra byddwch yn gweithio.

Fe all cefnogaeth hyblyg gael ei haddasu a’i dylunio o amgylch eich anghenion a’ch cyfrifoldebau chi.

Fe all Cynrychiolwyr Dysgu Undebau eich arwain a’ch cefnogi ym mhob cam o’ch siwrnai ddysgu.

Fe all timau arbenigwyr WULF drafod gyda chyflogwyr ar eich rhan, rhyddhau cyllid ar gyfer y cwrs o’ch dewis, talu’r darparwr yn uniongyrchol, cyflwyno cyrsiau ar amser sy’n addas i chi, a datblygu cyrsiau newydd, at y pwrpas.

“Pa sectorau y mae WULF yn eu cynnwys?”

Ar hyn o bryd mae gan WULF 18 o brosiectau sy’n cael eu hariannu hyd at fis Mawrth 2025, mae pob prosiect yn unigryw, cânt eu cynnal gan wahanol undebau a bydd ganddynt nodau arbenigol i helpu i sicrhau llwyddiant yn sectorau eu harbenigedd. 

Ym mha sector ydych chi’n gweithio?  Edrychwch ba undeb(au) sy’n gweithio yn eich diwydiant neu’ch sector chi drwy ddefnyddio ein hofferyn i ddod o hyd i undeb.

Fe all y mathau o sectorau a gynhwysir amrywio o adwerthu, bwyd a diod, addysg, rheilffyrdd, cludiant, bydwreigiaeth, iechyd a gofal cymdeithasol, creadigol a diwylliannol, newyddiaduraeth, gweithgynhyrchu, cyfiawnder, gwasanaethau cyhoeddus a llawer mwy.

“Beth yw nod WULF?”

Prif nod WULF yw datblygu pobl drwy roi iddynt gyfleoedd at y pwrpas i ddysgu sgiliau newydd, magu hyder a symud ymlaen i ddysgu pellach, heb ystyried eu cymwysterau blaenorol, eu profiad na’u cefndir.

Mae WULF yn llwyddiant gyda chyflogwyr a gweithwyr hunangyflogedig, mae’r prosiectau yn gweithio mewn partneriaeth i ddylunio pecynnau cymorth sydd wedi’u teilwra’n unigryw i anghenion sefydliad a’r gweithlu.

Meddyliwch am eich breuddwydion a’ch dyheadau, beth hoffech chi ddysgu?  Iaith newydd o bosibl, astudio i newid gyrfa neu helpu plant yn y teulu gyda’u gwaith cartref?  Fe all WULF eich helpu i gymryd y cam cyntaf.

Os hoffech chi ddysgu rhagor, byddem yn awgrymu eich bod yn holi pa undeb(au) sy’n trefnu yn eich gweithle neu’ch sector chi yna yn cysylltu ag arweinydd y prosiect WULF perthnasol.  Efallai y gofynnir ichi lenwi arolwg i ddysgwyr, neu gysylltu ag un o Gynrychiolwyr Dysgu eich Undeb sydd ar gael i roi cymorth cyfrinachol ychwanegol.  Mae Cynrychiolwyr Dysgu undebau wedi cael eu hyfforddi i helpu a rhoddir amser i ffwrdd iddynt gynghori eu cydweithwyr.