Dylai pawb gael y cyfle i fod yn nhw eu hunain. Mae pawb yn haeddu’r hawl i deimlo'n ddiogel a chael eu parchu yn y gwaith.

Ond, er bod cymunedau LHDTC+ wedi profi llawer o newidiadau cadarnhaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o bobl nad ydynt yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus yn y gwaith o hyd.

Mae’n cynllun gweithredu 10 cam yn bwriadu newid hyn.

Pa broblemau y gall pobl LHDTC+ eu hwynebu yn y gweithle? 

Mae pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o wynebu casineb ar ffurf trawsffobia, homoffobia, deuffobia neu fathau eraill o gasineb a gwahaniaethu.  Gall hyn effeithio ar eu iechyd meddwl, eu hyder i ddatblygu yn y gweithle, a'u perfformiad.

Efallai y bydd gan weithwyr LHDTC+ bryderon am eu diogelwch wrth deithio i neu o'r gwaith, yn enwedig os oes rhaid iddynt deithio yn y tywyllwch neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae profiadau pobl draws yn amrywiol.  Fodd bynnag, mae llawer o bobl draws, rhyngrywiol a phobl nad yw’n cydymffurfio â rhywedd yn datgan profiadau o drawsffobia parhaus, triniaeth negyddol, ac ymddygiad ymosodol tra byddant yn gweithio neu'n chwilio am waith.

Why LGBTQ+ rights are a trade union issue

Supporting LGBTQ+ workers

Fel unoliaethwyr llafur, rydym yn ymwybodol bod cael ein trin yn deg yn y gwaith yn hanfodol, ond nid yw hynny wedi’i warantu ar gyfer gweithwyr LHDTC+.

Mae gan unoliaethwyr llafur rôl bwysig i'w chwarae wrth negodi am newidiadau yn y gweithle a all wneud bywyd yn well i bobl LHDTC+. Gall hyn gynnwys pethau fel caniatáu i weithwyr fynegi eu rhagenwau neu adolygu'r polisi bwlio ac aflonyddu.

Mae TUC Cymru wedi creu canllaw syml sy’n cynnwys 10 cam y gallwch eu dilyn er mwyn creu gweithle sydd yn fwy cynhwysol i weithwyr LHDTC+.

Lle alla i gael cymorth gyda hawliau LHDTC+ yn y gweithle?

Siaradwch â'ch cynrychiolydd undeb am gefnogaeth.  Rhannwch y 10 cam ar gyfer gweithleoedd cynhwysol LHDTC+ gyda nhw.

Gall Stonewall Cymru gynnig cefnogaeth hefyd.

Ymgyrchu dros hawliau LHDTC+ yn y gweithle

Gallwch wneud gwahaniaeth drwy ymuno ag undeb ac yna gweithio gyda chydweithwyr i ymgymryd â materion hawliau LHDTC+ gyda'ch cyflogwr.

Ddim yn aelod? Ymunwch ag undeb heddiw – Defnyddiwch ein adnodd darganfod undeb i ddod o hyd i'r un iawn i chi.

Defnyddiwch ein canllaw 10 cam tuag at weithleoedd cynhwysol LHDTC+ i gael help i siarad gyda'ch cyflogwr am hawliau LHDTC+.

Mis Hanes LHDTC+

Gall Mis Hanes LHDTC+ (Chwefror) fod yn amser da i lansio ymgyrch yn y gweithle.

Bydd llawer o weithleoedd yn dathlu Mis Hanes LHDTC+ yn allanol heb gymryd camau i gefnogi eu gweithwyr eu hunain.  Nid yw hyn yn dderbyniol ac mae angen i weithleoedd sydd ond yn cymryd camau perfformiadol heb wella'r diwylliant a'r amodau i weithwyr gael eu galw allan.

Gweithiwch gyda'ch cyflogwr i sicrhau nad ydynt yn siarad yn wag am hawliau LHDTC+ yn unig a bod unrhyw ddathliadau’n parhau gyda gweithrediadau ystyrlon er budd pobl LHDTC+.

Dyma rai cwestiynau i'w gofyn i chi'ch hun cyn defnyddio Mis Hanes LHDTC+ er mwyn ymgyrchu yn eich gweithle:

  • A oes unrhyw waith ar faterion LHDTC+ sydd wedi'i greu ar y cyd â phobl LHDTC+?
  • A yw eich cyflogwr yn darparu cyfleoedd am gymorth i weithwyr LHDTC+ yn y sefydliad ac yn creu newid mewnol ystyrlon hefyd?
  • A yw eich cyflogwr yn gweithredu drwy gydol y flwyddyn?
  • A oes gogwydd gweithredol i’r gwaith ac a yw’n cael ei ailystyried yn rheolaidd?
Sut alla i fel cynrychiolydd gefnogi rhywun sy'n wynebu problemau oherwydd eu cyfeiriadedd rhywedd neu ailgyfeirio rhywedd?

Fel arfer, os yw’r unigolyn yn credu eu bod yn cael eu trin yn annheg gan bennaeth neu gydweithiwr mewn modd neilltuol, mae'n debyg eu bod yn cael eu bwlio, ac yn sicr mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater.

Mae nifer o gamau cadarnhaol y gall cynrychiolwyr undebau eu cymryd er mwyn codi ymwybyddiaeth a mynd i'r afael â bwlio yn y gweithle.

  • Defnyddiwch bosteri a thaflenni i godi'r mater o fwlio gydag aelodau a manteisiwch ar y cyfle i drafod bwlio gyda nhw er mwyn canfod unrhyw broblemau sydd ganddynt.  Dylai cynrychiolwyr diogelwch hysbysu’u rheolwyr ynglŷn â’u pryderon nhw a phryderon eu haelodau.
  • Gall cynrychiolwyr diogelwch ddefnyddio eu harolygiadau arferol, neu gynnal arolygiadau arbennig er mwyn trafod bwlio gyda’u haelodau yn y gwaith.
  • Un o'r ffyrdd gorau o asesu graddfa’r bwlio yn y gweithle yw arolygu aelodau.  Gall hyn eich galluogi i gasglu tystiolaeth ar raddfa a maint y bwlio yn y gweithle. Gall yr undeb wneud hyn neu gellir casglu’r dystiolaeth ar y cyd gyda’r rheolwyr.  Mae’n rhaid i unrhyw arolwg fod yn gwbl gyfrinachol, ond mae'n bwysig bod staff yn derbyn gwybodaeth am ganfyddiadau cyffredinol yr arolwg.  Gall canlyniadau unrhyw arolwg helpu cyflogwyr i ddatblygu polisi ar ddelio gyda bwlio a gallant hefyd fod o ddefnydd wrth geisio newid ymddygiad rheolwyr a staff unigol.
Sut alla i gefnogi gweithwyr sy'n trawsnewid, fel cyflogwr?

Mae profiadau pobl draws yn amrywiol.  Fodd bynnag, mae llawer o bobl draws, rhyngrywiol a phobl nad ydynt yn cydymffurfio â rhywedd yn dweud eu bod yn profi trawsffobia parhaus, triniaeth negyddol, ac ymddygiad ymosodol tra byddant yn gweithio neu'n chwilio am waith.

Mae’n rhaid i weithleoedd weithredu’n ataliol er mwyn rhwystro trawsffobia rhag digwydd.  Mae hyn yn golygu gweithredu’n gadarnhaol yn y gweithle er mwyn creu diwylliant croesawgar a chynhwysol, p'un a oes gennych staff sy’n uniaethu â hunaniaeth draws ai peidio.  Gall hyn gynnwys creu diwylliant sy'n caniatáu i bobl LHDTC+ yn eich sefydliad ddweud wrthych beth y gellir ei wella.

Os ydych yn derbyn adroddiadau o drawsffobia fel aflonyddu, gwahaniaethu neu driniaeth annheg tuag at weithiwr traws, mae’n hanfodol eich bod yn gweithredu'n gyflym i'w datrys.

Rhestr wirio er mwyn cefnogi gweithwyr sy'n trawsnewid

  • Sicrhewch fod eich gweithle wedi cynnwys hunaniaeth rhywedd ac ailgyfeirio rhywedd mewn polisïau cyfleoedd cyfartal ac Adnoddau Dynol.  Dylai hyn gynnwys prosesau recriwtio a dethol teg.
  • Gwiriwch bolisïau a gweithdrefnau eraill fel polisïau recriwtio, cadw cofnodion a chodau gwisg i sicrhau nad ydyn nhw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl draws.
  • Os oes gan eich gweithle godau gwisg, sicrhewch fod gweithwyr yn cael gwisgo'r dillad sy'n cyd-fynd â'u hunaniaeth rhywedd.  Os nad oes côd gwisg, gallwch ddatgan yn rhagweithiol y gall gweithwyr fynegi eu rhywedd ym mha bynnag ffordd sy'n teimlo’n gyfforddus iddynt.
  • Pan fo’n briodol, rhowch dâl absenoldeb o’r gwaith i weithwyr sy'n ymgymryd ag ailgyfeirio rhywedd ar gyfer unrhyw apwyntiadau neu driniaethau meddygol.