Mae nifer y bobl sydd ar gontractau dim oriau wedi cynyddu’n aruthrol yn y degawd diwethaf. Golyga hyn fod nifer cynyddol o bobl heb isafswm oriau gweithio wedi’i warantu.
Mae gweithwyr ar gontractau dim oriau ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed sydd yn y gweithlu. Ond mae ganddynt hwythau hawliau statudol, gan gynnwys hawl i’r isafswm cyflog cenedlaethol, gwyliau â thâl, a’r hawl i gymryd egwyl yn ystod eu gwaith. Ac os ydynt yn gweithio yn sector cyhoeddus datganoledig Cymru mae ganddynt hawliau eraill – gan gynnwys cynnig awtomatig o gontract parhaol neu dros dro ar ôl deuddeg wythnos o oriau rheolaidd.
Mae contractau dim oriau yn caniatáu i gyflogwyr hurio staff heb sicrwydd o waith.
Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n gontractau cyflogaeth ysbeidiol, ac maen nhw’n golygu bod gweithwyr bob amser ar alwad cyflogwyr i weithio pryd bynnag mae eu hangen, a hynny’n aml ar fyr rybudd. Dan delerau cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC), cyfeirir atynt hefyd fel ‘trefniadau oriau heb eu gwarantu’.
Gan nad oes dyletswydd ar gyflogwyr i gynnig gwaith ar gontract dim oriau, mae shifftiau yn aml yn cael eu canslo heb fawr o rybudd – weithiau ar ôl i staff gyrraedd eu gweithle hyd yn oed.
Mae’r cyflog hefyd yn dibynnu ar faint o oriau mae gweithwyr yn eu gweithio o’r naill wythnos i’r llall. Gall hyn amrywio’n fawr yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, gan wneud cynllunio ariannol yn anodd iawn.
Ydyn, mae ‘contractau ysbeidiol’ a 'chontractau ‘dim oriau’ yn golygu’r un peth.
Yn aml iawn nid yw cyflogwyr yn y sector cyhoeddus datganoledig yn hoffi defnyddio’r term ‘contractau dim oriau’, yn rhannol oherwydd yr enw drwg sydd gan gontractau o’r fath. Yn hytrach, maen nhw’n defnyddio termau fel ‘contractau ysbeidiol’ a ‘threfniadau oriau heb eu gwarantu’.
Mae trefniadau nyrsys cronfa yn fath o gontract dim oriau hefyd. Fodd bynnag, mae’r undebau wedi cytuno â’r byrddau iechyd ynglŷn â defnydd o’r contractau hyn ar lefel leol.
Gall rheolwyr a chynrychiolwyr undebau llafur gytuno bod arnom eisiau cyfyngu ac atal y defnydd o gontractau dim oriau ecsbloetiol yn sector cyhoeddus Cymru.
Mae’n bwysig bod cyrff cyhoeddus yn cydnabod eu bod yn defnyddio contractau dim oriau pan fyddant yn cyflogi staff ar gontractau ysbeidiol neu gontractau oriau heb eu gwarantu – maen nhw’n defnyddio contractau dim oriau. Y peth pwysig yw bod y rhain ddim ond yn cael eu defnyddio yng nghyd-destun datganiad y cytunwyd arno’n lleol ynglŷn â’u defnydd a chytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y mater.
Yn ôl Adroddiad Data Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, contractau dim oriau yw 34 y cant o gontractau’r gweithlu gofal cartref sy’n cael eu trefnu drwy gontract allanol ac 11 y cant o weithlu’r awdurdod lleol. Mae gweithwyr gofal cartref yn darparu gofal i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Maen nhw’n darparu gwasanaeth hanfodol i’r wlad a dylent gael cynnig contractau dros dro neu barhaol.
Ym mis Mawrth 2023, canfu arolwg gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu mai dim ond un o’r holl gyrff sector cyhoeddus datganoledig sydd yng Nghymru oedd yn dweud bod ganddo bolisi i reoli a chyfyngu ar y defnydd o gontractau dim oriau.
Gall undebau llafur helpu mewn nifer o ffyrdd:
Lawrlwythwch Adroddiad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu
Mae gan weithwyr dim oriau yn sector cyhoeddus datganoledig Cymru yr hawliau a ganlyn:
“Pan fo oriau rheolaidd wedi cael eu gweithio dros y 12 wythnos blaenorol ac y rhagwelir bod angen o hyd i’r oriau gael eu gweithio’n barhaus, bydd yr unigolyn yn cael cynnig contract cyflogaeth parhaol neu dros dro yn awtomatig i ddiwallu’r angen hwnnw.” Ffynhonnell: Pwynt 2 o broses weithredu cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar drefniadau oriau heb eu gwarantu (tudalen 8)
“Dylai fod gan staff a gyflogir trwy drefniadau oriau heb eu gwarantu delerau ac amodau gwasanaeth sy’n debyg i rai eu staff parhaol cyn belled ag y bo modd.” Ffynhonnell: Pwynt 5 o’r Egwyddorion sydd yng nghytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar drefniadau oriau heb eu gwarantu (tudalen 5)
“Bydd staff a gyflogir trwy drefniadau oriau heb eu gwarantu’n gallu cael cymorth priodol o ran cynefino, hyfforddiant a datblygu i’w galluogi i gyflawni eu swyddi’n effeithiol. Caiff staff eu talu am ymgymryd ag unrhyw sesiynau cynefino a hyfforddiant gofynnol sy’n berthnasol i’r gwaith maent yn ei wneud.” Ffynhonnell: Pwynt 3 o’r Egwyddorion sydd yng nghytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar drefniadau oriau heb eu gwarantu (tudalen 5)
“Disgwylir y bydd sefydliadau’n rhoi cymaint o rybudd â phosibl wrth ofyn i staff ar drefniadau oriau heb eu gwarantu gyflawni gwaith.” Pwynt 5 dan y Broses Weithredu yng nghytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar drefniadau oriau heb eu gwarantu (tudalen 9).
“Bydd sefydliadau’n cytuno ar drefniadau priodol gyda’u hundebau llafur cydnabyddedig i ddigolledu staff pan gaiff gwaith ei ganslo gan y sefydliad ar fyr rybudd.” Pwynt 7 dan y Broses Weithredu yng nghytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar drefniadau oriau heb eu gwarantu (tudalen 10)
“Bydd gan sefydliadau bolisïau clir yn galluogi staff a gyflogir drwy’r math hwn o drefniadau i gymryd gwyliau blynyddol.” Pwynt 11 dan y Broses Weithredu yng nghytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar drefniadau oriau heb eu gwarantu (tudalen 10)
Mae’r hawliau hyn yn deillio o Gytundeb cenedlaethol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y Defnydd Priodol o Drefniadau Oriau Heb eu Gwarantu
Gofynnwch am ddatganiad ar y defnydd o gontractau dim oriau – a’i adolygu
Y cam pwysicaf y gallwch ei gymryd fel cynrychiolydd i gefnogi gweithwyr contractau dim oriau a gyflogir gan eich corff cyhoeddus yw sicrhau bod eich sefydliad wedi llunio datganiad ar ddefnyddio contractau dim oriau, yn unol â thelerau cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y defnydd priodol o drefniadau oriau heb eu gwarantu.
Ysgrifennwch at eich tîm Adnoddau Dynol i ofyn faint o staff sy'n ymwneud ar hyn o bryd â threfniadau oriau achlysurol, neu gontractau dim oriau. Mae hyn yn wybodaeth ddefnyddiol iawn i lywio'ch ymgyrch.
Os oes gan eich sefydliad gytundeb yn barod, dylid ei adolygu’n rheolaidd.
Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu wedi llunio Defnydd Derbyniol o Drefniadau Oriau Heb eu Gwarantu – Ymarfer Gorau sy’n ganllaw defnyddiol y gall cyflogwyr ei ddefnyddio i gefnogi gweithwyr ar gontractau dim oriau. Gelwir contractau o’r fath hefyd yn gontractau ysbeidiol a threfniadau oriau heb eu gwarantu.
Gallech ddilyn esiampl un awdurdod lleol sy’n cyfarfod ei undebau i ddadansoddi sut a ble y mae wedi defnyddio contractau ysbeidiol neu ddim oriau.
Gyda’i gilydd, cytunodd y Cyngor a’r undebau llafur i ddiwygio eu dull gweithredu. Nawr, caiff statws cyflogaeth unigol pob unigolyn sy’n cael ei gyflogi ar gontract dim oriau ei adolygu’n rheolaidd.
Os ydynt yn gweithio oriau rheolaidd ac os disgwylir iddynt ddal i wneud hynny yna cynigir cyfle iddynt gael contract rheolaidd, yn unol â’r cytundeb.
Mae cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y defnydd priodol o’r contractau hyn yn nodi y bydd pob sefydliad yn llunio datganiad ynglŷn â’i ddull gweithredu.
Rhoddir un enghraifft o sut i gyflawni’r egwyddor hon gan gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru, a luniodd bapur gweithredu i gyflawni ei weithredoedd yn y maes hwn. Byddai hwn yn ddull buddiol i’w efelychu.
Efallai y byddech yn hoffi efelychu ymarfer un corff cyhoeddus a ddarparodd hyfforddiant i staff achlysurol o gefndiroedd agored i niwed â’r bwriad penodol o’u cynorthwyo i ddatblygu eu gyrfaoedd.
Mae Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar y Defnydd Priodol o Drefniadau Oriau Heb eu Gwarantu yn gymwys i’r holl gyrff cyhoeddus hynny sy’n rhan o’r Cyngor Partneriaeth, sef:
Er hyn, mae’n bwysig nodi, er mwyn gweithredu’r cytundeb cenedlaethol, bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus lunio datganiad ar y defnydd o drefniadau oriau heb eu gwarantu, y cytunir arno gan yr undebau llafur. Mae’r datganiad hwn yn sail i weithredu’r cytundeb ar gontractau dim oriau yn lleol.