Arolwg Enghreifftiol

1. Enw (ateb testun)

2. Adran (ateb testun)

3. Math o gyflogaeth: (ateb ticio blwch)
    a. Amser llawn
    b. Rhan-amser
    c. Asiantaeth
    d. Arall (bob amser yn ddefnyddiol – dylai roi opsiwn penodol i chi)

4. Mae sawl opsiwn ar gyfer cyrsiau a restrir isod. Ticiwch hyd at dri o’r cyrsiau sydd fwyaf o ddiddordeb i chi a/neu awgrymwch unrhyw gwrs arall sydd heb ei restru (gellir golygu/ychwanegu at y rhestr hon os gwyddoch am gyrsiau eraill gallwch gael mynediad atynt neu os oes gan eich Rheolwr Prosiect WULF rywfaint o syniadau – ceisiwch osgoi rhestru gormod a rhoi opsiwn “arall” bob amser)
    a. Sgiliau Hanfodol
    b. Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch
    c. Defnyddio Cyfrifiaduron
    d. Ysgrifennu Creadigol e. Mathemateg Ymarferol f. Paratoi ar gyfer Ymddeol g. Rheoli Straen h. Iaith Gymraeg i. Awgrymiadau Eraill (dylai roi opsiwn penodol i chi)

5. Pa amser o’r dydd fyddai orau i chi? (blychau ticio)
    a. Bore
    b. Prynhawn
    c. Gyda’r nos
    d. Penwythnosau
    e. Arall

6. Ydych chi’n teimlo bod gennych chi’r holl sgiliau a hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i wneud eich gwaith hyd eithaf eich gallu? Cofiwch, ni fyddwn yn rhannu unrhyw ymatebion unigol â [y cyflogwr]
    a. Ydw
    b. Nac ydw, mae angen mwy o hyfforddiant arna i

7. Ydych chi’n teimlo bod eich disgrifiad swydd yn ddisgrifiad cywir o’r sgiliau sydd eu hangen i wneud eich swydd?
    a. Ydy
    b. Ydy, i raddau helaeth, ond mae angen gwneud rhai newidiadau
    c. Nac ydy, mae angen gwneud llawer o newidiadau
    d. Nac ydy, mae’n gwbl anghywir
    e. Ddim yn gwybod

8. Oes gennych chi unrhyw sgiliau neu gymwysterau nad ydych chi'n eu defnyddio yn eich swydd?
    a. Oes
    b. Nac oes

9. Beth ydyn nhw? (ateb blwch testun)

10. A oes aelod o’r tîm rheoli erioed wedi ceisio darganfod pa sgiliau sydd gennych?
    a. Oes
    b. Nac oes
    c. Ddim yn gwybod

11. Ydych chi wedi cael arfarniad neu Adolygiad Datblygiad Personol yn y 12 mis diwethaf?
    a. Ydw
    b. Nac ydw
    c. Ddim yn gwybod

12. A yw eich cyflogwr wedi darparu unrhyw gyrsiau hyfforddi neu gyfleoedd datblygu i chi yn ystod y tair blynedd diwethaf?
    a. Do
    b. Naddo
    c. Ddim eto, ond mae hyn i fod i ddigwydd yn fuan

13. I ba raddau ydych chi’n teimlo bod eich sgiliau’n cael eu cyfateb i’r swydd rydych chi’n ei gwneud ar hyn o bryd?
    a. Mae gen i ormod o gymwysterau – mae gen i sgiliau nad ydw i’n eu defnyddio yn fy swydd
    b. Maen nhw’n cyd-fynd yn dda â fy rôl bresennol, o ystyried lefel fy sgiliau ar hyn o bryd
    c. Does gen i ddim cymwysterau, mae angen mwy o hyfforddiant arna i
    d. Ddim yn gwybod

14. Pa mor fodlon ydych chi yn eich rôl?
    a. Bodlon iawn
    b. Gweddol fodlon
    c. Gweddol anfodlon
    d. Anfodlon
    e. Anfodlon iawn

15. Pa mor bwysig yw hi i chi eich bod yn gallu defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth yn y gwaith?
    a. Pwysig iawn
    b. Gweddol bwysig
    c. Ddim yn bwysig

16. Hoffech chi gael cyfarfod un i un gyda’ch Cynrychiolydd Dysgu Undebau i drafod eich sgiliau, eich gwaith a’ch gyrfa – yn gwbl gyfrinachol?
    a. Hoffwn
    b. Na hoffwn
    c. Ansicr 

Cyflwyno