Gallai technoleg ddigidol newydd gael effaith ddifrifol ar weithlu gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

Mae’r effeithiau posibl yn cynnwys colli swyddi, mwy o anghydraddoldeb, hyfforddiant annigonol a swyddi o ansawdd is. Bydd yn bwysig i undebau llafur ystyried eu hymateb i ddyfodiad technoleg ddigidol.

Beth sy’n enghreifftiau o dechnoleg ddigidol newydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?

Dyma enghreifftiau diweddar o dechnoleg ddigidol arloesol sy’n cael ei mabwysiadu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru:
•    Defnyddio awtomatiaeth proses robotig ar gyfer tasgau gweinyddol ailadroddus 
•    Darparu gliniaduron newydd i hwyluso gweithio hyblyg
•    Cyflwyno dyfeisiau llaw i gyfathrebu â gweithwyr gofal cartref

Faint o broblem yw cyflwyno technoleg ddigidol arloesol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru? 

Yn ôl adroddiad gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, mae i dechnoleg arloesol fanteision posibl i wella bywyd gwaith pan ymgynghorir yn llawn â staff ynghylch ei chyflwyno a’i gweithredu.


Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn canfod bod pryderon ymysg staff am gyflwyno technoleg arloesol – yn enwedig o ran ansawdd swyddi a gwyliadwriaeth.  

Pa fesurau diogelu sydd ar waith gan weithwyr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru pan fydd technoleg newydd yn cael ei chyflwyno?

Ar lefel genedlaethol, mae undebau llafur wedi negodi cytundeb sy’n sicrhau bod y camau canlynol yn cael eu cymryd pan fydd cyflogwyr yn bwriadu cyflwyno technoleg newydd:

  1. Bod cyflogwyr yn ymgynghori ag undebau llafur yn gynnar yn y broses ynghylch unrhyw fwriad i gyflwyno digidoleiddio yn y gweithle
  2. Bod staff ac undebau llafur yn cael gwybod yn gynnar am unrhyw fwriad i ailstrwythuro swyddi presennol neu adleoli staff yn sgil cyflwyno technolegau digidol newydd
  3. Bod hyfforddiant a datblygiad ar gael
  4. Bod asesiadau risg ac asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yn cael eu datblygu a’u hadolygu’n rheolaidd mewn ymgynghoriad ag undebau llafur er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi’n llawn o ran cyflwyno technoleg ddigidol newydd
  5. Bod cyflogwyr, mewn ymgynghoriad ag undebau llafur, yn cynnal adolygiad o effaith technoleg newydd ar safonau a hawliau cyflogaeth, a’u bod yn sicrhau bod gweithwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf

Gallwch chi ddarllen manylion llawn cytundeb cenedlaethol yr undebau am y defnydd o dechnoleg ddigidol newydd ar dudalen 6 Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu: partneriaeth a rheoli newid

Sut alla i fynd ati i gyflwyno technoleg newydd fel cyflogwr yn y sector cyhoeddus?

Mae cytundeb cenedlaethol Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar gyflwyno technoleg newydd yn cynnwys cyngor ac arweiniad defnyddiol i gyflogwyr, sy'n cynnwys y canlynol:
1.    Bod cyfarfodydd strwythuredig yn cael eu cynnal yn rheolaidd gyda gweithwyr drwy eu hundebau llafur e.e. drwy Gyd-bwyllgorau Ymgynghorol neu strwythurau tebyg er mwyn eu cynnwys yn y gwaith o gyflwyno technolegau digidol newydd yn y gweithle
2.    Bod canllawiau clir yn cael eu llunio, ynghyd ag ymgysylltu rheolaidd, sy’n amlinellu trefniadau cynllunio’r gweithlu a’r broses sy’n cael ei mabwysiadu ar gyfer unrhyw waith ailstrwythuro neu adleoli staff, gan gynnwys meini prawf ac amserlenni allweddol.
3.    Bod pwysigrwydd datblygu sgiliau digidol yn cael ei gydnabod mewn cynlluniau hyfforddi a datblygu corfforaethol, ac yn cael ei hyrwyddo’n weithredol mewn sefydliad i sicrhau tryloywder llawn o ran y cyfleoedd sydd ar gael
4.    Bod asesiadau cynhwysfawr o risg ac effaith ar gydraddoldeb yn cael eu datblygu a’u hadolygu’n rheolaidd mewn ymgynghoriad ag undebau llafur er mwyn sicrhau bod staff yn cael eu cefnogi’n llawn o ran cyflwyno technoleg ddigidol newydd
5.    Bod cyflogwyr, mewn ymgynghoriad ag undebau llafur, yn cynnal adolygiad o effaith technoleg newydd ar safonau a hawliau cyflogaeth, ac yn sicrhau bod gweithwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Dysgu mwy am gyflwyno technolegau newydd i'r gweithle

Mae’r canllaw hwn gan y TUC yn nodi sut mae systemau deallusrwydd artiffisial yn gweithio, beth yw’r goblygiadau i weithwyr ac undebau, a rhai o’r datrysiadau y gall undebau eu cynnig.

Mae’r canllawiau hyn gan y TUC ar gyfer swyddogion a chynrychiolwyr undebau sydd eisiau gwneud y canlynol: 

datblygu eu dealltwriaeth o systemau rheoli digidol a’r goblygiadau i weithwyr paratoi i negodi gyda chyflogwr am y defnydd o systemau rheoli digidol sefydlu cydgytundeb â darpariaethau ar systemau rheoli digidol

Mae’r darn hwn o ddysgu ar gyfer cynrychiolwyr undebau ac aelodau sydd eisiau gwybod am yr effaith y mae deallusrwydd artiffisial yn ei chael yn y gweithle ac a hoffai gefnogi undebau i negodi cytundebau ar y mater hwn.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y prif faterion sy’n effeithio ar y gweithlu yn sgil technolegau newydd, gan gynnwys astudiaethau achos.  Caiff ei gyhoeddi gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu. 

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi enghreifftiau defnyddiol o weithleoedd lle mae undebau wedi llwyddo i negodi cytundebau ar dechnoleg newydd ac mae’n cael ei gyhoeddi gan TUC Cymru.

Pa gyrff cyhoeddus sy’n rhan o’r cytundeb cenedlaethol ar Reoli’r Newid i Weithle Digidol?

Mae Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ar Reoli’r Newid i Weithle Digidol yn berthnasol i’r holl gyrff cyhoeddus hynny sy’n rhan o Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, sef:

  • Byrddau iechyd
  • Awdurdodau lleol ac ysgolion
  • Llywodraeth Cymru a’r Cyrff a Noddir ganddi