Mae angen i’n mudiad ni dyfu os ydym eisiau parhau i fod yn un sy’n gallu newid byd gwaith. I wneud hynny, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o gael rhagor o aelodau ifanc yn ein hundebau llafur. Heb aelodau ifanc, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud y newidiadau rydyn ni eisiau eu gweld.
Gweithwyr Ifanc

Mae llai nag un aelod undeb o bob 20 rhwng 16 a 24 oed, ac mae dros hanner y cynrychiolwyr undeb yn 50 oed a hŷn. Mae hyn yn golygu byddwn ni’n colli dros hanner ein cynrychiolwyr dros y 10 i 15 mlynedd nesaf. Mae angen inni fynd i’r afael â’r sefyllfa ddemograffig hon ar frys.

Yn rhy aml, nid yw gweithwyr ifanc Prydain yn aelodau o undeb llafur oherwydd nid ydym wedi gwneud digon i’w helpu i sylweddoli manteision undebaeth lafur mewn iaith sy’n hygyrch, yn darbwyllo ac yn berthnasol i’w bywydau gwaith nhw.

Does dim tasg bwysicach i fudiad llafur sy’n bodoli er mwyn sicrhau gwaith teg i bawb. Un ffordd o wneud hynny yw sicrhau bod gweithwyr ifanc mewn undeb sy’n deall eu bywydau ac sy’n barod i ennill y newidiadau mewn gwaith sydd eu hangen arnyn nhw.

Gwyliwch ein digwyddiad ar-lein diweddar ar gyrraedd gweithwyr iau. Roedd y weminar yn cynnwys cyfraniadau gan Jo Galazka Unite Cymru, Nick Davies Unsain Cymru a Gareth Hathway a Stanley Wai Hong Ho o TUC Cymru.

Pecyn Cymorth i Weithwyr Ifanc

Yn wahanol i genedlaethau blaenorol, ni fydd gweithwyr ifanc bellach yn troi at undebau wrth iddyn nhw heneiddio a setlo.

Mae nifer o resymau a heriau cysylltiedig sy’n ymwneud â pham nad yw gweithwyr ifanc yn ymuno ag undebau llafur:

  • sut mae undebau’n trefnu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr
  • canfyddiad pobl ifanc o gyfunoliaeth
  • lefelau isel o undebu yn y sector preifat
  • Mae gweithwyr ifanc yn meddwl nad yw undebau ar eu cyfer nhw – gan gredu ein bod yma ar gyfer pobl hŷn

Ond rydyn ni’n gwybod yn wahanol. Mae undebau i bawb. Maen nhw wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar fywydau miliynau o bobl ac maen nhw’n

gallu parhau i wneud hynny. I gwrdd â’r heriau sy’n wynebu gweithwyr ifanc heddiw, rydyn ni wedi creu pecyn cymorth i Weithwyr Ifanc i’ch helpu i drefnu pobl ifanc yn eich gweithle.

Nod y pecyn yw cyfleu’r angen i undebau ymgysylltu’n weithredol â gweithwyr ifanc, a rhoi llwyfan iddyn nhw siarad drostyn nhw eu hunain.

Er mwyn i undebau fod yn berthnasol yn y dyfodol, rydyn ni’n gwybod bod angen iddyn nhw fod yn berthnasol i weithwyr ifanc nawr. Mae gweithwyr ifanc yn fwy nag aelodau yfory, maen nhw’n rhan o frwydr heddiw. Os ydym ni fel mudiad eisiau adeiladu a thyfu, mae angen i ni ymgysylltu â nhw gyda chynnig grymus mewn iaith maen nhw’n gallu uniaethu â hi.

Llwytho’r pecyn cymorth i Weithwyr Ifanc i lawr heddiw