Mae Llywodraeth Cymru newydd godi ei huchelgais i gyrraedd allyriadau carbon sero net erbyn 2050 (sy’n uwch na’r targed i’w lleihau sef 80%), gosod y targed diweddaraf ar gyfer cyllideb garbon 2021-5, a datgan ei bod yn bwriadu gwneud sector cyhoeddus Cymru yn ddi-garbon erbyn 2030.
Mae’r targedau newydd yn golygu bod datgarboneiddio yn fater brys erbyn hyn ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat. Yn ogystal â chyflawni rhagor o ostyngiadau yn y sector pŵer, bydd yn rhaid lleihau rhagor ar allyriadau mewn diwydiannau carbon-ddwys eraill; lle mae nifer fach o allyrwyr mawr, fel gwaith dur Port Talbot yn gyfrifol am gyfran fawr o allyriadau Cymru. Yn y diwydiannau hyn, ceir risg o ddadleoli swyddi ar raddfa fawr, oherwydd bydd rhai o’r swyddi mwyaf ‘budr’ naill ai'n diflannu'n gyfan gwbl neu'n cael eu trawsnewid yn sylweddol drwy gyflwyno technolegau newydd.
Yn ystod y degawd nesaf byddwn yn gweld ymdrechion trawsnewid ar draws sector cyhoeddus Cymru drwyddo draw, sy’n cyflogi 20% o’r gweithlu. Byddwn hefyd yn gweld newidiadau mawr yn ardaloedd diwydiannol pwysicaf Cymru, gan gynnwys Clwstwr Diwydiannol De Cymru, sydd â dim ond pymtheg mlynedd i newid o danwydd ffosil i ddewisiadau amgen carbon isel a/neu ddal a storio carbon ar raddfa fawr. Bydd trawsnewidiadau mawr hefyd yn mynd rhagddynt ar draws y diwydiannau trafnidiaeth, tai ac adeiladu.
Mae nifer o brosesau cynllunio eisoes ar waith sy’n canolbwyntio ar adferiad economaidd a thrawsnewid. Er bod TUC Cymru wedi sicrhau presenoldeb undeb ar y paneli sector cyhoeddus a phreifat sy’n cyfrannu at ddatblygu Cynllun Cymru Sero Net, bydd angen i undebau hefyd fod yn rhan o’r gwaith o roi’r Cynllun ar waith. Mae penderfyniadau ynghylch trawsnewid hefyd yn cael eu gwneud ar lefel cyflogwr a diwydiant lle mae gan undebau bresenoldeb.
➔ Mae ymyriadau llwyddiannus yn bosibl
➔ Nawr yw’r amser i weithredu
➔ Paratowch y ffordd ac ymgysylltu ag aelodau
➔ Defnyddiwch gryfder diwydiannol
➔ Cymerwch ran mewn deialog ar bob lefel