Pecyn cymorth i undebwyr llafur TUC Cymru

Lawrlwytho’r pecyn cymorth yn Saesneg (pdf) | Lawrlwytho’r pecyn cymorth yn Gymraeg (pdf)

Nod y pecyn hwn yw darparu gwybodaeth i helpu cynrychiolwyr a swyddogion undebau yng Nghymru i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle a chynrychioli aelodau anabl, gan gynnwys pobl sydd â nam nad yw’n weledol neu “gudd”. Mae'n ceisio helpu cynrychiolwyr i fynd i’r afael â rhwystrau a materion yn y gweithle a all greu problemau ar gyfer gweithwyr anabl.

Mae’n darparu offer a syniadau i helpu cynrychiolwyr undebau i drechu rhagfarn yn ogystal ag enghreifftiau o arferion da. Mae’r pecyn hwn hefyd yn adnodd ar gyfer cwrs Anabledd a Namau ‘Cudd’ yn y Gweithle TUC Cymru.

Mae TUC Cymru wedi datblygu’r pecyn a’r cwrs mewn ymateb i arolwg a gynhaliwyd. Canfu’r arolwg fod nifer o weithwyr anabl yn dymuno gweld newid yn y ffordd yr ymdrinnir ag anabledd yn y gwaith.  Nod Cyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) yw gwneud y byd gwaith yn lle gwell i bawb. Rydym am i Gymru fod yn genedl gwaith teg.

Mae gan TUC Cymru 49 o undebau sy’n aelodau a dros 400,000 o aelodau yng Nghymru, felly mae ganddo rôl bwysig yn codi materion sy’n effeithio ar bobl anabl yn y gweithle. Rydym yn cefnogi undebau i dyfu a ffynnu, ac rydym yn sefyll dros bawb sy’n gweithio i ennill bywoliaeth. Ymunwch â ni.

Cwrs Anabledd a Namau ‘Cudd’ yn y Gweithle

Mae’r cwrs deuddydd hwn wedi’i gynllunio ar gyfer cynrychiolwyr undebau llafur. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle (gan gynnwys materion sy’n wynebu gweithwyr â namau ‘cudd’).

  • Mae'r cwrs hwn ar gyfer cynrychiolwyr pob undeb, a’i nod yw:
  • Codi ymwybyddiaeth o’r rhagfarn a’r stigma y gall gweithwyr anabl eu hwynebu
  • Helpu cynrychiolwyr i ganfod rhwystrau yn y gweithle a all gael effaith negyddol ar weithwyr anabl a deall pwysigrwydd y model cymdeithasol o anabledd
  • Ystyried polisïau, diwylliannau ac arferion yn y gweithle a allai wahaniaethu yn erbyn gweithwyr anabl
  • Ystyried yr arferion gorau o ran polisïau, arferion ac addasiadau rhesymol yn y gweithle
  • Cefnogi aelodau i ddatgelu eu namau (er mwyn cael addasiadau rhesymol)

Gweithio gydag aelodau anabl i drechu rhagfarn ac ymgyrchu dros well cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle. Cysylltwch â wtuceducation@tuc.org.uk i gael gwybodaeth am gyrsiau yn eich ardal chi. Mae eNodyn ategol (briff ar-lein ar gyfer cynrychiolwyr) ar gael yn www.tuceducation.org.uk

Lawrlwytho’r pecyn cymorth yn Saesneg (pdf)

Lawrlwytho'r pecyn cymorth yn Gymraeg (pdf)