Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched.Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd.

Mae’n broblem fyd-eang ac mae gwahanol rannau o’r byd yn delio â hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon o ddifrif er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu.

Beth ydy aflonyddu rhywiol?

Mae aflonyddu rhywiol yn golygu dangos grym gyda’r bwriad o godi ofn ar berson arall, ei orfodi neu ei iselhau. Gall ddigwydd unrhyw le ac mewn unrhyw sefyllfa – wrth gerdded i lawr y stryd, yn yr ysgol, yn y gweithle, ar-lein neu yn eich cartref eich hun.

Gall aflonyddu rhywiol fod yn gorfforol, ar lafar neu yn ddi-eiriau.

Faint o broblem yw aflonyddu rhywiol yn y gweithle?

Mae aflonyddu rhywiol yn broblem hollbresennol mewn gweithleoedd – mae dros un o bob dwy ferch wedi’i ddioddef. Mae’r gyfradd hon yn codi i bron i ddwy o bob tair merch sydd rhwng 18 a 24 oed.

Mewn rhai sectorau, megis manwerthu, dywedwyd naw o bob deg merch ifanc wrth yr undeb USDAW eu bod wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn ystod y 12 mis blaenorol.

“Mae angen i bethau newid gan fod effeithiau aflonyddu rhywiol yn ddinistriol ac yn newid bywydau”

(dienw, Adroddiad ‘Dim Ardal Lwyd’ Cymorth i Ferched Cymru (2021))

Sut gallaf fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn fy ngweithle?

Mae TUC Cymru wedi gweithio’n agos gyda Cymorth i Ferched Cymru i ddatblygu pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Bydd y pecyn  yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar gynrychiolwyr undebau i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle a’i atal rhag digwydd.

Lawr lwythwch y pecyn cymorth i ddarganfod gwybodaeth a chanllawiau i’ch helpu i wneud y canlynol:

  • Nodi aflonyddu rhywiol yn y gweithle a chynnig cymorth effeithiol i’r rhai sy’n ei ddioddef
  • Deall y gyfraith mewn cysylltiad ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle
  • Cynnal sgyrsiau a thrafodaethau â chyflogwyr ar ran aelodau sydd wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle
  • Gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn cyflawni eu cyfrifoldeb cyfreithiol i atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle
  • Ymgyrchu dros agwedd dim goddefgarwch at aflonyddu rhywiol yn y gweithle drwy amrywiaeth o fesurau ataliol

Ar adeg pan mae’n ymddangos bod pob math o aflonyddu rhywiol yn digwydd, bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu cynrychiolwyr undebau i gefnogi’r sawl sy’n dioddef aflonyddu rhywiol ac i ddod â’r troseddwyr o flaen eu gwell.

Joyce Watson AS (Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru) a oedd wedi noddi’r digwyddiad lansio ar 22 Mawrth 2023

Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn ymrwymo i beidio â goddef dim aflonyddu rhywiol a bod cyflogwyr yn gallu darparu ymatebion sy’n deall trawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r gweithwyr hynny sy’n dod ymlaen, ochr yn ochr â gweithredu mecanweithiau cadarn ar gyfer atebolrwydd.

 

Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru

Arolwg ar Aflonyddu Rhywiol

Mae undebau yn gwybod yn iawn fod aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn broblem eang, ond yng Nghymru rydyn ni’n brin o ddata i gadarnhau hynny.

Rydyn ni’n cynnal yr arolwg yma er mwyn darganfod rhagor ac i roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar undebau i atal hyn rhag digwydd. Cafodd yr arolwg yma ei gynnal am y tro cyntaf yn 2019, ond mae’r gwaith wedi newid llawer ers hynny.

Rydyn ni am glywed eich barn hyd yn oed os gwnaethoch chi gwblhau’r arolwg diwethaf i sicrhau ein bod yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib.

Cwblhewch yr arolwg (Cymraeg a Saesneg)