Gallwch ddysgu o adref, yn y gwaith, mynd i goleg neu anelu i astudio mewn Prifysgol. Er na all WULF ariannu cyrsiau gradd Prifysgol, gellir cynorthwyo dysgu megis cyrsiau Mynediad.

Mae gan bob gweithiwr yng Nghymru y cyfle i gael y cyllid er mwyn manteisio ar y gefnogaeth, y cyngor a’r arlwy cyfarwyddyd a hyfforddiant a ddarperir drwy gyfrwng prosiectau WULF.

Darperir Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) gan Lywodraeth Cymru i helpu i dalu am ddysgu i oedolion dan arweiniad undebau yn y gweithle.

WULF 2022-2025

A oes undeb(au) yn eich gweithle chi? Cliciwch ar eich undeb chi isod i weld beth sydd ar gael.  Os nad ydych yn aelod o undeb, peidiwch â phoeni, fe allwch wastad gael cymorth. Edrychwch ba undeb(au) sy’n gweithio yn eich sector chi drwy ddefnyddio ein hofferyn i ddod o hyd i undeb.

Neu fe allwch chwilio am gyrsiau dysgu ar-lein sydd ar gael ac sydd am ddim i bawb – gweler ein rhestr o gyfleoedd dysgu ar-lein.

ASLEF: Y Rhaglen Partneriaeth Ddysgu

Cysylltwch ag ASLEF 

Emma Penman
Gweithiwr Datblygu Addysg a Phrosiectau
07817 145 754

emma.penman@aslef.org.uk  
www.aslef.org.uk
Twitter: @ASLEF_Education

Swyddog Prosiectau ASLEF

Mae Rhaglen Partneriaeth Ddysgu ASLEF yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau dysgu ar-lein sydd ar gael i aelodau ASLEF, teuluoedd a ffrindiau a gweithwyr rheilffordd ledled y rhwydwaith. Mae’r cyrsiau ar gael i’w cwblhau ar-lein, a byddant yn cael eu cwblhau yn ystod amser personol. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw mynediad at y rhyngrwyd a pheth amser rhydd i ymrwymo i’ch nodau dysgu. Mae cyrsiau ar-lein yn hyblyg a byddant yn caniatáu i chi gwblhau eich dysgu ar adegau sy’n gyfleus i chi.

Mae’ cyrsiau hyn yn ddelfrydol i unrhyw un sydd am ddatblygu eu gwybodaeth, ehangu eu gorwelion, parhau â’u datblygiad proffesiynol, neu sydd eisiau dysgu am hwyl a phleser.

Mae llawer o’r cyrsiau’n gyrsiau byr sy’n cymryd ychydig oriau’n unig i’w cwblhau. Bydd cyrsiau eraill yn cymryd ychydig wythnosau i’w cwblhau ac maent yn gyrsiau 'achrededig'; a fydd yn eich galluogi i gael cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol (a all wella eich CV yn ogystal â’ch rhagolygon o gael gwaith).

I gofrestru ar y cyrsiau bydd angen i chi gwblhau peth dogfennaeth sylfaenol. Am ragor o wybodaeth ac i holi am gofrestru ar gyrsiau, cysylltwch â’r Cynrychiolydd Dysgu’r Undeb yn eich gweithle.  Neu, cysylltwch ag Emma yn ASLEF - Addysg.

Bectu Sector of Prospect: CULT Cymru

Cysylltwch â Bectu 

Siân Gale 
Rheolwr Sgiliau a Datblygiad

CULT Cymru
Bectu
029 2099 0132
sian@bectu.org.uk  

https://cult.cymru/ 
Twitter: @cult_cymru 
Facebook: @cultcymru

Swyddog Prosiect CULT Cymru

Mae CULT Cymru yn rhaglen ddysgu o dan arweiniad Bectu mewn partneriaeth ag Equity, Undeb y Cerddorion ac Urdd yr Awduron. Rydym yn gweithio â gweithwyr, cyflogwyr a sefydliadau eraill yn y diwydiant i drefnu gweithgaredd dysgu a digwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru.

Rydym yn gweithio â gweithwyr creadigol drwy:

  • Darganfod yr hyn yr hoffech ei gael o ran dysgu / datblygiad proffesiynol parhaus ac opsiynau llesiant a sut yr hoffech eu dysgu. Rydym yn ymdrechu i gynnig y rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn am brisiau gostyngol ac weithiau am ddim.
  • Canfod ffyrdd arloesol o ddefnyddio sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gweithwyr creadigol a galluogi’r rhai sydd am wneud hynny i rannu’r sgiliau hyn ag eraill. Byddai hyn yn cynnwys hyfforddwyr profiadol yn ogystal â’r sawl sydd am wybod mwy am rannu sgiliau a chyflwyno hyfforddiant.
  • Eich cyfeirio at wybodaeth a help arall sydd ar gael a hyfforddiant generig a phenodol i’r diwydiant, drwy ein gwefan.
  • Gweithio â sefydliadau eraill i ddod â newid diwylliannol i’r sector creadigol fel y bydd yn lle teg, cynhwysol a diogel i weithio, lle mae gan bawb y gallu i gyrraedd eu llawn botensial.

Rhan bwysig o’n gwaith yn CULT Cymru yw eich helpu i ganfod eich anghenion dysgu a datblygiad proffesiynol personol. Bydd angen inni ddysgu mwy amdanoch chi, y sgiliau yr hoffech eu datblygu a’r math o addysg a hyfforddiant sydd orau gennych, fel y gallwn sicrhau eich bod yn manteisio ar addysg a hyfforddiant o safon uchel sy’n berthnasol ac yn fforddiadwy.

BFAWU: Ysbrydoli Cyflawniad

Cysylltwch â BFAWU

Claire James
Swyddog Datblygu Prosiectau
Prosiect Dysgu Cymru BFAWU
02920481518 dewis 4 neu
07896550460
claire.james@bfawu.org  

Addysg a Hyfforddiant – Undeb y Pobyddion, Gweithwyr Bwyd a Pherthynol (BFAWU)
Twitter: @BFAWUOfficial
Facebook: @bfawu

Swyddog Prosiectau BFAWU

Mae’r BFAWU yma i’ch helpu.

Yng Nghymru, mae’r BFAWU wedi sefydlu prosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) sy’n helpu cannoedd o unigolion bob blwyddyn drwy gynnig mynediad at gyrsiau hyfforddi.

Mae prosiect dysgu Cymru BFAWU wedi gwneud enw iddo’i hun fel un sy’n hybu addysg a deall pwysigrwydd dysgu, ffurfiol ac anffurfiol, i fywydau ein haelodau yn y gwaith ac yn eu bywydau teuluol a chymdeithasol. Bydd y prosiect yn gweithio’n ddiflino i sicrhau eich bod chi, fel dysgwr, yn cael help drwy bob cam o’ch siwrnai ddysgu. Wedi’r cyfan, mae eich llwyddiant chi yn galluogi ein llwyddiant ni, a’r cydweithio hwn sy’n galluogi’r prosiect i barhau i ddarparu’r gwasanaeth pwysig hwn ac i helpu unigolion i ddatblygu sgiliau, i ennill cymwysterau ac i gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu gydol oes yn y gweithle a thu hwnt.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r darparwyr hyfforddiant a’r colegau mwyaf yng Nghymru, nid yn unig y mae gan y prosiect amrywiaeth eang o gyrsiau sy’n ymwneud yn benodol â’r diwydiant bwyd ond mae hefyd yn cynnig cyrsiau a fydd yn helpu eich datblygiad personol ac a fydd yn cael eu cyflwyno’n hyblyg drwy bob math o ddulliau amrywiol.

Gall y cyfleoedd dysgu sydd ar gael roi sgiliau i chi i’ch helpu yn eich rôl bresennol, i wella eich cymwysterau i gael dyrchafiad ac i symud ymlaen yn eich gyrfa, neu hyd yn oed i newid gyrfa!

Mae pwyslais cryf ar ddatblygu sgiliau a chyflogadwyedd y gweithlu yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar ddileu rhwystrau i rai nad ydynt wedi arfer dysgu, yn ogystal â rhoi’r sgiliau i chi i wella cynhwysiant digidol o ddydd i ddydd a’ch helpu gyda’ch iechyd a’ch llesiant.

Ar hyn o bryd, y cyrsiau mwyaf poblogaidd yw:

- Llythrennedd digidol
- Cyrsiau iaith
- Llythrennedd a rhifedd
- Sgiliau rheoli a goruchwylio
- Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl

Mae’r cyrsiau eraill sydd ar gael yn cynnwys cyfrifyddu a chadw cyfrifon, rheoli prosiectau ac amrywiaeth o gyrsiau datblygiad personol .... a llawer iawn mwy!

Cysylltwch â ni

Os hoffech chi gael cymhwyster ychwanegol i hybu eich gyrfa a’ch bod am wybod mwy neu gael gwybodaeth ar sut i fanteisio ar unrhyw rai o’r cyrsiau hyfforddi sydd ar gael, cysylltwch â Claire James, Swyddog Datblygu Prosiectau drwy un o’r canlynol:

E-bost: Claire.james@bfawu.org

Ffôn: 02920481518 opt:4

Symudol: 07896550460

Neu ewch i’r wefan  https://bfawulearning.wales a chwblhewch y ffurflen ymholiadau.

Fel undeb, rydym yn croesawu ymholiadau gan aelodau ac aelodau o’u teulu, yn ogystal â chan gyflogeion cwmnïau mae BFAWU yn gweithio â hwy.

COMMUNITY: Dysgu Community; Hybu Cymru fwy gwyrdd a theg

Cysylltwch â Community

Lisa Francis
Trefnydd Dysgu
07834745809 neu 02920668800
lfrancis@community-tu.org 

Dysgu Community - Undeb Llafur Community (community-tu.org)

Twitter: @communityunion
Facebook: @CommunityUnion

Swyddog Prosiectau Community

Mae Community yn credu bod mynediad at ddysgu, datblygu sgiliau a hyfforddiant yn allweddol i lwyddiant yn y gwaith a thu hwnt.

Mi wyddom fod gan bob un o’n haelodau ofynion ac anghenion gwahanol pan ddaw’n fater o ddysgu. Dyna pam mae gennym dîm dysgu mewnol sy’n darparu cyfleoedd ymarferol a hyblyg a fydd yn unigryw i chi. Mi all fod yn hyfforddiant ar-lein byr neu’n sesiynau wyneb yn wyneb yn eich gweithle neu yn un o’r canolfannau dysgu sy’n cael eu hargymell gennym.

Gall ein prosiect WULF gynnig nawdd unigol tuag at ddysgu a datblygu gydag oddeutu £200 ar gael ar gyfer unrhyw hyfforddiant sy’n gwella sgiliau cyflogadwyedd. Rydym wedi trefnu hyfforddiant mewn meysydd fel; Iechyd Meddwl a Chymorth Cyntaf, Excel, IOSH, i enwi dim ond rhai. Yn fwy diweddar rydym wedi edrych ar gyflwyno hyfforddiant mewn sgiliau gwyrdd, ymwybyddiaeth o’r amgylchedd a mwy o hyfforddiant sy’n seiliedig ar gydraddoldeb, fel ymwybyddiaeth o’r menopos, ac ymwybyddiaeth o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau.

Mae Community yn cydnabod bod pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol ac efallai y bydd angen mwy o hyblygrwydd arnynt ac felly rydym wedi sicrhau gostyngiadau gan amrywiaeth o ddarparwyr dysgu ar-lein fel y gallwch ddilyn cyrsiau heb boeni am y gost. Dyma rai enghreifftiau:

Hyfforddiant Sgiliau Staff

Mae gan Community fynediad diderfyn at blatfform Hyfforddiant Sgiliau Staff gyda hyfforddiant DPP achrededig. Mae’r cyrsiau’n amrywio o weinyddu, sgiliau cyfrifiadurol, datblygiad personol, gofal cymdeithasol, ac addysg.

Porwch drwy’r opsiynau e-ddysgu isod a chysylltwch â Lisa Francis drwy un o’r dulliau uchod cyn cofrestru. 

Cyrsiau (staffskillstraining.co.uk)

E-Careers

Mae Community ar hyn o bryd yn cynnig ystod o gyrsiau trwy e-careers Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys cyfrifyddu a chadw cyfrifon, seibrddiogelwch, TG a rheoli prosiectau. Mae Community wedi sicrhau gostyngiad o 15%-30% oddi ar bob cwrs ar e-careers i aelodau yn ogystal â’r cyfle i wneud cais am £200 ychwanegol oddi ar ein prosiect WULF project. Gweler y ddolen am yr ystod lawn.

Cymwysterau a chyrsiau hyfforddi Ar-lein ac Ystafelloedd Dosbarth Rhithiol | Undeb Community (community-tu.org)

Skills Network

Mae’r cyfle hwn yn rhoi mynediad at gynnwys dysgu diddorol a rhyngweithiol gan The Skills Network, cwmni sydd wedi ffurfio partneriaeth â nifer o sefydliadau dyfarnu blaenllaw, gan gynnwys NCFE, CACHE a TQUK, i ddatblygu adnoddau dysgu neilltuol sy’n diwallu ystod amrywiol o anghenion dysgu. Mae’r cyrsiau’n cynnwys AAT, busnes a gofal plant. Gweler y ddolen am yr ystod lawn.

https://communitylearnwales.theskillsnetwork.com

CWU: Learning for the Future | Dysgu i'r Dyfodol

Cysylltwch â CWU

Phil Cherrington
pcherrington@cwu.org
www.cwu.org

Twitter: @CWUnews
Facebook: @ThecommunicationsUnion

Swyddog Prosiectau CWU

Mae ein haelodau i gyd yn Weithwyr Allweddol ac mi hoffai prosiect WULF CWU eich helpu chi, eich teuluoedd a’ch cydweithwyr sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru drwy gynnig cyfle i fanteisio ar amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu.

Gall y cyfleoedd dysgu hyn roi sgiliau i’ch helpu yn eich rôl bresennol, i lenwi bylchau i ymgeisio am ddyrchafiad a hyd yn oed i newid eich gyrfa! Gallant fod yn ffordd hefyd i wella cynhwysiant digidol, i fyw bywyd mwy gwyrdd i helpu’r blaned, yn ogystal â helpu eich iechyd a’ch llesiant.

Os ydych chi’n aelod o CWU, ewch i wefan CWU i weld y cyrsiau am ddim. Gall y cyrsiau hyn eich helpu yn eich bywyd pob dydd; yn y gwaith, gartref, gyda’ch datblygiad personol, a gyda’ch diddordebau – neu dim ond fel tipyn o hwyl! Mae rhai o’r cyrsiau wedi’u datblygu gan CWU, ac eraill gan ddarparwyr allanol.

I aelodau’r CWU a rhai nad ydynt yn aelodau mae llawer o ddarparwyr ar-lein yn ogystal â darparwyr lleol sydd ag amrywiaeth enfawr o gyrsiau ar gael i chi. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i gwrs da a hefyd mae hyd at £300 ar gael tuag at gost y cyrsiau.

Cysylltwch â Phil am ragor o wybodaeth yn pcherrington@cwu.org.

FBU: Ysgol i Ddysgu Undeb y Brigadau Tân

Cysylltwch â FBU

Simon Fleming
Rheolwr y Prosiect WULF FBU
07809 725 684

Simon.Fleming@fbu.org.uk 

www.fbu.org.uk/wales
www.fbueducation.org

Twitter: @FBULearn
Facebook: @FireBrigadesUnion1918

Swyddog Prosiectau FBU

Nod y prosiect hwn yw gwella mynediad at ddysgu i ymladdwyr tân, yn enwedig y niferoedd uchel o weithwyr rhan amser yn y gwasanaeth, drwy gynnig cymorth dysgu a sgiliau personol. Cynigir cymwysterau ardystiedig, achrededig, yn ogystal â dysgu sgiliau hanfodol. Bydd y prosiect hefyd yn rhoi pwyslais ar wella llesiant y gweithlu.

FDA: Llwybrau i Gynhwysiant – dull Gwaith Teg i sicrhau sector cyhoeddus amrywiol yng Nghymru

Cysylltwch ag FDA 

Deri Bevan
Pennaeth FDAlearn

07769971336
deri.bevan@fda.org.uk

www.fda.org.uk
Twitter: @FDA_union

Swyddog Prosiectau FDA

Nod ein prosiect yw gweld cynnydd sylweddol mewn amrywiaeth yn lefelau uchaf y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn adeiladu ar ac yn ehangu ein rhaglenni i sicrhau bod y sawl sy’n dod o’r cefndiroedd mwyaf amrywiol yn cael cyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Mae pwyslais ar y blaenoriaethau sy’n dod i’r amlwg yng Nghynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Llywodraeth Cymru, a gwneud yn siŵr bod pontio ar ôl COP26 yn cynnwys heriau amrywiaeth. Rydym hefyd wedi gwella’r hyn a gynigir gennym o ystyried yr heriau amrywiaeth ychwanegol wrth inni ddychwelyd i arferion gweithio cyfarwydd ar ôl COVID.

Mi wyddom fod egwyddorion Gwaith Teg yn hanfodol i’r gwaith rydym yn ei wneud. Rydym yn cynnig fforymau i aelodau’r FDA i annog arweinyddion yn Adrannau Llywodraeth Ganolog a’r GIG yng Nghymru i fabwysiadu egwyddorion Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn achos recriwtio a dyrchafu.

Rydym yn cyflwyno ein gwaith drwy gyrsiau, fforymau, cynadleddau a gweithdai cyflogadwyedd, gan ddefnyddio cymysgedd o ddulliau sy’n gyfan gwbl o bell, mewn ystafelloedd dosbarth a ffrydio byw (hybrid).

GMB: Eiriolaeth Dysgu Sgiliau Hanfodol

Cysylltu â’r GMB 

Mike Wilson
Rheolwr Prosiect WULF GMB
07462 575 666
michael.wilson@gmbactivist.org.uk  
www.gmb.org.uk/region/walesandsouthwest 

Twitter: @GMB_union
Facebook: @GMBunion

Prosiectau a gynigir gan y GMB

Mae prosiect Eiriolaeth Dysgu Sgiliau Hanfodol y GMB (2022-2025) yn rhoi pwyslais ar ddatblygu llwybrau sgiliau sector penodol. Prif nodau’r prosiect yw cynyddu cyfranogiad mewn dysgu i oedolion a helpu gweithwyr i uwchsgilio ac ailsgilio drwy ddatblygu llwybrau sector penodol.

Y prif sectorau fydd sectorau’r economi sylfaenol, llywodraeth leol, iechyd, ynni a chyfleustodau, manwerthu a dosbarthu, gofal cymdeithasol, tai, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch (AMM). Hefyd, bydd y prosiect yn ehangu’r hyn a gynigir i gynnwys sectorau newydd fel lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.

Ar hyn o bryd mae’r GMB yn cynnig ystod o gyrsiau am ddim drwy e-careers. Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys cyfrifyddu a chadw cyfrifon, seibrddiogelwch, TG a rheoli prosiectau.

Gall y GMB eich cynghori a’ch helpu mewn nifer o ffyrdd eraill hefyd drwy gydol y cyfnod hwn. Am ragor o wybodaeth am undeb y GMB cewch i’n gwefan -  www.gmb.org.uk/region/walesandsouthwest

NAPO:  Sgiliau a Dysgu i Bawb (SALFA)

Cyswllt NAPO

(Yr undeb llafur a’r gymdeithas broffesiynol i staff sy’n gweithio yn y maes Prawf a Llysoedd Teulu)

Ian Freshwater
Swyddog Prosiect WULF NAPO

ifreshwater@napo.org.uk  
www.napo.org.uk/  

NEU: Edify

Cysylltu â NEU

Beth Roberts
Cydlynydd WULF NEU
029 2049 1818
beth.roberts@neu.org.uk 

neu.org.uk/neu-cymru

Twitter: @neucymrutrain
Facebook: @neucymrutraining

Instagram: @neu_cymru_training

Swyddog Prosiectau NEU

Nod “Prosiect Edify” NEU Cymru yw cynnig cyfleoedd i weithwyr addysg proffesiynol i ddatblygu eu sgiliau ac i ddatblygu’n broffesiynol. Mae’r holl gyfleoedd dysgu a diweddariadau i’w cael yn:

Facebook:  www.facebook.com/neucymrutraining
Eventbrite:  http://neucymrutraining.eventbrite.com

https://neu.cymru/mhw/

#mhwcymru  #getinvolved

NUJ: Datblygiad Sgiliau Parhaus mewn Diwydiant sy’n Newid yn Gyflym

Cysylltu â’r NUJ

Rachel Howells
Rheolwr y Prosiect
Hyfforddiant Cymru NUJ Cymru
07974 376 631 
trainingwales@nuj.org.uk  

www.nujtrainingwales.org/resources
www.nuj.org.uk/where/wales

Twitter: @NUJTrainWales

Swyddog Prosiectau’r NUJ

Mae Hyfforddiant Cymru’r NUJ yn parhau i ddarparu hyfforddiant hanfodol i newyddiadurwyr a gweithwyr cyfathrebu proffesiynol yng Nghymru.

Mae’r NUJ yn darparu llawer o’i hyfforddiant o bell drwy weminarau, gan gynnwys gweminar Goroesi a Ffynnu ar gyfer newyddiadurwyr llawrydd i’w helpu i ddeall eu hawliau a pha help sydd ar gael iddynt.

Gwyddom fod arallgyfeirio a sgiliau ychwanegol yn bwysig ac rydym yn sicrhau bod llawer o’n cyrsiau ar gael fel gweminarau, gan gynnwys gweithdai podledu, fideo, y we ac ysgrifennu. Mae’n bosibl y bydd gweithwyr sy’n gorfod gweithio o gartref yn ddirybudd neu sy’n wynebu’r her o ohebu ar yr argyfwng angen hyfforddiant mewn llesiant, iechyd meddwl a chydnerthedd.

Ewch i wefan hyfforddiant yr NUJ ac ymunwch â’n rhestr bostio i gael dyddiadau’r gweminarau diweddaraf wrth iddynt gael eu cyhoeddi.

PCS: Sicrhau Dysgu Hygyrch yng Nghymru 5 

Cysylltu â PCS

Rachel Williams, Rheolwr y Prosiect
teven Donoghue, Swyddog y Prosiect

stevedon@pcs.org.uk

02920 666 363
wulf@pcs.org.uk  

Facebook: @PCSWULF

Swyddog Prosiectau PCS

Mae staff y PCS yng Nghymru’n parhau i weithio’n galed i ddarparu cymorth a chyngor i aelodau’r PCS yn ystod y cyfnod anodd ac ansicr hwn, yn enwedig i aelodau ar y rheng flaen sy’n parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.

Bydd GALW5 yn darparu cymorth parhaus i weithwyr drwy gynnig dysgu yn y gweithle, cymorth dysgu unigol a threfnu cyrsiau er budd yr holl staff a’r cymunedau lle maent yn byw.  

Bydd GALW5 yn darparu cymorth parhaus i weithwyr ac yn dod o hyd i gyrsiau ar gyfer y gweithle. Bydd y prosiect yn cynyddu’r ddarpariaeth dysgu ar-lein ac o bell a ddatblygwyd yn y prosiect blaenorol i wneud dysgu’n fwy hygyrch. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar ddysgu achrededig sy’n hybu datblygiad gyrfaoedd a hefyd ar wella llesiant y gweithlu.

Bydd y prosiect yn cynorthwyo gweithlu’r gwasanaeth sifil, a bydd hefyd yn adeiladu ar gysylltiadau a ddatblygwyd â grwpiau dysgu yn y gymuned i gynyddu cyfranogiad mewn dysgu i oedolion yn gyffredinol.

Mae Prosiect WULF y PCS yn dal ar gael drwy e-bostio wulf@pcs.org.uk. Cysylltwch â  thîm y prosiect am ragor o fanylion am Brosiect Sicrhau Dysgu Hygyrch yng Nghymru 5 2022-25 WULF y PCS (GALW5).

POA: Dysgu a Sgiliau Cymru  

Cysylltu â’r POA

Nigel Williamson
Rheolwr Prosiect WULF POA
07951750889

Nigel.Williamson@poauk.org.uk  
www.poalearning.cymru

Swyddog Prosiectau POA

Bydd pwyslais y prosiect ar swyddogion carchar a staff eraill sy’n gweithio yn y gwasanaeth carchardai a phrawf yng Nghymru, gan ddarparu gwasanaethau dysgu pwrpasol, sy’n cynnwys cymorth i ddysgwyr unigol ynghyd â gwybodaeth, cyngor ac arweiniad drwy greu platfform sy’n sicrhau bod dysgu gydol oes a datblygu sgiliau dros yrfa gyfan yn bosibl i bawb.

Mae ein gwefan yn cynnwys manylion am ystod ac amrywiaeth y cyfleoedd dysgu y gallwn helpu unigolion i fanteisio arnynt. Mae’r rhain yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â chymwysterau dysgu o bell. Hefyd, rydym yn gweithio â nifer o bartneriaid gan gynnwys prosiectau Wulf a darparwyr dysgu eraill i drefnu cyfleoedd dysgu eraill fel sgiliau mewn Iaith Arwyddion Prydain a dealltwriaeth o fframwaith recriwtio a dyrchafiad proffiliau llwyddiant y gwasanaeth sifil.

Mae’r wefan hefyd yn cynnwys dolenni at sefydliadau eraill a all helpu’r unigolyn i ddatblygu eu gyrfa neu ddilyn nodau dysgu personol.

RCM: Dysgu Personol a Phroffesiynol i Fydwragedd a Gweithwyr Cymorth Mamolaeth yng Nghymru

Cysylltu â’r RCM

Hazel Marsh
Trefnydd Dysgu Cymru RCM
07825168258

Hazel.Marsh@rcm.org.uk  
www.rcm.org.uk

Twitter: @MidwivesRCM
Facebook: @MidwivesRCM

Bydd Prosiect WULF RCM Cymru Project : 2022 - 2025 yn cynorthwyo bydwragedd a gweithwyr cymorth mamolaeth â’u datblygiad personol a phroffesiynol. Byddwn yn darparu cyngor, gwybodaeth a dysgu ar-lein ac yn y gweithle, os bydd y cyfyngiadau’n caniatáu.   

Bydd y prosiect yn:

  • Cynnig cyngor, arweiniad a help i ddysgwyr, sy’n datgan eu hunain, neu drwy gynrychiolwyr dysgu.
  • Rhoi pwyslais ar ddysgwyr iau sy’n ymuno â’r gweithlu ar eu tiwtoriaeth. Bydd rhaglen cymorth tiwtoriaeth ‘Unwaith i Gymru’ yn sicrhau fframwaith safonol i Gymru, ac y gellir seilio cymorth dan gyfarwyddyd prosiect WULF arno.
  • Datblygu cyfres o gyrsiau ar gyfer Gweithwyr Cymorth Mamolaeth (MSW), sy’n sicrhau cynnydd mewn dysgu ac sy’n helpu i gynnal y sgiliau sydd eu hangen ar y gweithlu. 
  • Cynnig dysgu ar gyfer sgiliau digidol drwy hyfforddiant ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb.
  • Darparu hyfforddiant mewn sgiliau Iechyd Meddwl, Llesiant, Cyfathrebu a gweithio, sgiliau Cyfweliadau ac ymgeisio am swyddi; Diwylliannau gweithio positif; cydnerthedd ac ymwybyddiaeth o hil i helpu i hybu amgylchedd gweithio da a theg, a hyrwyddo dealltwriaeth o amrywiaeth a chymunedau BAME.
UNSAIN Cymru Wales: Cysylltu Dysgwyr mewn Partneriaeth Gymdeithasol 2022 – 2025

Cysylltu ag Unsain

Richard Speight 
Trefnydd Dysgu a Datblygiad Ardal – Gogledd Cymru
01492 511656 
r.speight@unison.co.uk 

Jenny Griffin
Trefnydd Dysgu a Datblygiad Ardal – De Cymru
Cysylltu Dysgwyr yn y Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru
02920 729 463 
j.griffin@unison.co.uk    

cymru-wales.unison.org.uk
Facebook: @unisoncymruwaleslearning 

Swyddog Prosiectau UNSAIN

Os ydych chi’n weithiwr gwasanaethau cyhoeddus mewn ysgolion, cynghorau lleol, gofal cymdeithasol neu’r GIG mae ein prosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yma i’ch helpu i wella eich sgiliau, eich hyder, eich llesiant a’ch cyflogadwyedd.

Wrth inni ddelio â chanlyniadau’r pandemig, yr argyfwng costau byw, a datgarboneiddio byddwn yn parhau i helpu miloedd o weithwyr rheng flaen fel chi o bob rhan o Gymru i fanteisio ar ystod eang o weminarau a arweinir gan diwtoriaid, e-ddysgu a grantiau, yn ogystal â sesiynau wyneb yn wyneb ar sgiliau digidol a magu hyder.

Rydym yn gobeithio y bydd ein storïau dysgwyr yn eich ysbrydoli chi hefyd i gymryd rhan. Gallwn eich helpu drwy ein rhaglenni o weminarau sy’n cael eu harwain gan diwtoriaid, drwy e-ddysgu hunangyfeiriedig, neu gallwn weithio mewn partneriaeth â'ch cangen UNSAIN a'ch cyflogwr i ddarparu cyfleoedd dysgu penodol i chi a’ch cydweithwyr.

Mae ein cyrsiau ar-lein yn cynnwys:

- Sgiliau Cyflogadwyedd fel Ysgrifennu CV a Cheisiadau am Swyddi, Sgiliau Cyfweliad
- Sgiliau Hanfodol llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol
- Iechyd a llesiant, e.e. Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl, Straen a Gorbryder, Delio â Galar
- Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus fel y Darpar Reolwr, Rheoli am y Tro Cyntaf, Rheoli Amser a Delio â Newid
- Cyrsiau Cydraddoldeb fel Ymwybyddiaeth o Hil, Ymwybyddiaeth o Bobl Draws, Ymwybyddiaeth o’r Menopos a Bwlio yn y Gweithle
- Hyfforddiant sector penodol i rai sy’n gweithio mewn ysgolion, iechyd a gofal cymdeithasol, e.e. Rheoli Ymddygiad, Ymwybyddiaeth o PTSD, Egwyddorion a Gwerthoedd mewn Gofal Cymdeithasol a Therapi Seiliedig ar Lego.

Mae ein partneriaeth ag Access e-Learning yn golygu bod gan weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ap dysgu symudol rhagorol i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’u sgiliau, lle bynnag y byddwch.

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Ymwybyddiaeth o’r Coronafeirws
  • Iechyd a Diogelwch
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gan gynnwys AWIF)
  • Diogelwch Ar-lein a Seibr
  • Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Cyfathrebu a Gwaith Tîm
  • Arweinyddiaeth a Rheoli

Mae ein partneriaeth ag Access e-Learning yn golygu bod gan weithwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ap dysgu symudol rhagorol i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’u sgiliau, lle bynnag y byddwch.

Ewch i cymru-wales.unison.org.uk/elearning/ i gofrestru ar gyfer yr ap ac i ddarganfod eich holl opsiynau e-ddysgu gyda darparwyr fel Wranx, Staff Skills Academy, Cymraeg Gwaith, y Brifysgol Agored a llawer mwy!

Mae ein gwefan cymru-wales.unison.org.uk/learning/ yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda'r cyfleoedd diweddaraf i alluogi pawb i ddysgu mwy ac os ydych chi’n aelod o UNSAIN gallwch hefyd fanteisio ar dîm Gwasanaethau Dysgu a Threfnu UNSAIN (LAOS) sy’n cynnig cymorth am ddim, grantiau, bwrsariaethau, gostyngiadau a llawer mwy. Ewch i: https://learning.unison.org.uk/

UNITE: Dysgu ag Unite – Llwybrau i Gynnydd

Cysylltu ag Unite

Sue Da’Casto
Trefnydd Dysgu Rhanbarthol
Symudol 07768 931 284 / 02920 022759

E-bost: Learnwithunite.WULF@unitetheunion.org    

Eventbrite https://unitewulf.eventbrite.co.uk/

Gwefan WULF Unite:  https://unitewulf.cymru/

Dysgu gydag Unite (safle cenedlaethol) https://www.learnwithunite.org

Twitter: @UniteWales
Facebook: @learnwithunite.unitetheunion

Swyddog Prosiectau Unite

Mae gan Unite ystod eang o gyfleoedd hyfforddi i’w haelodau ym mhob sector yng Nghymru. Gellir manteisio ar lawer ohonynt ar-lein gyda chymorth tiwtoriaid, i efelychu hyfforddiant wyneb yn wyneb i’r graddau posibl, fel y bydd dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cymell a’u helpu. Bydd hyfforddiant hybrid ac mewn ystafelloedd dosbarth yn dychwelyd yn ystod 2022.

Rydym yn annog aelodau yng Nghymru i fanteisio ar ryw fath o hyfforddiant a datblygiad yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rydym yn croesawu ceisiadau’n fwyaf arbennig gan:

Gweithwyr allweddol a hoffai gwblhau cymhwyster i hybu eu gyrfa

Mae gan WULF Unite filoedd o gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn neu am bris gostyngol sy’n ymdrin â phob math o bynciau gan gynnwys cymwysterau galwedigaethol a diwydiant, sgiliau hanfodol a digidol, datblygiad personol, ac iechyd a llesiant.

Mae WULF Unite yn cynnig bwrsariaethau hyfforddi unigol i helpu â chostau hyfforddiant os ydych mewn unrhyw fath o gyflogaeth. Gallwn ariannu unrhyw gwrs cysylltiedig â gwaith sydd wedi’i achredu hyd at lefel 4.

Mae’r platfform cenedlaethol Dysgu ag Unite hefyd yn cynnig hyfforddiant penodol i aelodau wedi’i ariannu sy’n cynnwys Asesiadau ECS, 18fed Argraffiad, sgiliau digidol, a chyrsiau byr wedi a heb eu hachredu.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni’n uniongyrchol neu dilynwch y dolenni a roddwyd.

Gweithwyr sydd am newid swydd ac sydd angen cymwysterau a hyfforddiant.

Gweithwyr sydd mewn perygl o gael eu diswyddo ac sydd angen help gyda’u sgiliau digidol a chyflogadwyedd, ac a hoffai uwchsgilio neu ailhyfforddi i wella eu gyrfa a’u siawns o gael swydd

URTU: Hybu Sgiliau’r Dyfodol

Cysylltu ag URTU 

Agnieszka Zamonski
Rheol Prosiect WULF
07903 319 995

Agnieszka.zamonski@urtu.com
www.urtuulr.com

Swyddog Prosiectau URTU

Mae prosiect WULF URTU yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu i aelodau’r URTU yng Nghymru, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Rydym yn sylweddoli bod gweithio yn y sector cludo nwyddau ar y ffyrdd, dosbarthu a logisteg yn aml yn golygu sawl rhwystr rhag manteisio ar gyfleoedd addysgol oherwydd shifftiau hir ac oriau gweithio anghymdeithasol.

Mae modd dilyn y rhan fwyaf o’r cyrsiau a gynigir drwy’r prosiect o bell a gellir cynllunio i’r dysgu fod yn hyblyg yn ddibynnol ar ymrwymiadau gwaith a theulu. Mae llawer o’r cyfleoedd yn gyrsiau byrion, anffurfiol sydd ar gael drwy unrhyw ddyfais symudol ac y gellir eu cwblhau mewn amser byr.

Mae modd cael gwybodaeth a sgiliau newydd, a gwella rhagolygon gyrfaol drwy gyrsiau DPP byr a chymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, Gallwch hefyd gymryd rhan mewn sesiynau a digwyddiadau dysgu wyneb yn wyneb.  

Bydd y prosiect yn parhau i ddatblygu asesiadau sgiliau, hyfforddiant a chyfleoedd dysgu pwrpasol newydd a blaengar. Mae ein hyfforddiant cyfredol i’w weld ar ein gwefan.

Am ragor o wybodaeth neu os oes gennych ymholiadau ynglŷn â chofrestru ar gyrsiau, cysylltwch â Chynrychiolydd Dysgu’r Undeb yn eich gweithle. Neu, cysylltwch ag Agnieszka ar:

07903 319 995 neu agnieszka.zamonski@urtu.com

Usdaw: Siop Sgiliau Cynaliadwy ar gyfer Dyfodol Cymru

Cysylltu ag Usdaw

Pam Stanton
Gweithiwr Prosiect Dysgu Gydol Oes Usdaw
02920 731131
Pamela.Stanton@USDAW.ORG.UK  

www.usdaw.org.uk/learninggateway

De Cymru – Cardiff@usdaw.org.uk  Ffôn 029 2073 1131
Gogledd Cymru – Warrington@usdaw.org.uk Ffôn 019 2557 8050

Twitter - https://twitter.com/UsdawUnion

Facebook - https://www.facebook.com/UsdawUnion

Instagram - https://www.instagram.com/usdawunion

Swyddog Prosiectau Usdaw

Mi ydych chi, fel aelodau Usdaw a’ch teuluoedd wedi bod yn flaenllaw wrth sicrhau bod pobl Cymru’n medru prynu bwydydd a meddyginiaethau hanfodol yn ystod yr argyfwng diweddar. Mae Usdaw yma i’ch helpu drwy gynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad, ynghyd ag ariannu cyrsiau, i’ch helpu i gael cymwysterau, i addasu i newidiadau yn eich gweithle, i newid gyrfa neu i wella eich Iechyd a’ch Llesiant.

Ewch i Borth Dysgu Usdaw

Porth Dysgu Usdaw: 

  • Dolenni at gyrsiau i wella eich Saesneg, Mathemateg, Sgiliau Digidol ac Iechyd a Llesiant
  • Gallwch ddysgu ar adeg sy’n gyfleus i chi
  • Gallwch ddefnyddio’r Porth ar gyfer datblygiad personol neu yrfaol neu fel tipyn o hwyl
  • Gall teuluoedd gymryd rhan hefyd – perswadiwch y plant i gymryd rhan
  • Mae llawer o’r cyrsiau am ddim neu am bris gostyngol
  • Mae grantiau dewisol ar gael drwy WULF (sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru)
  • Gwybodaeth a chymorth yn gysylltiedig â diswyddiadau (cysylltwch â Pam yn Swyddfa Caerdydd am wybodaeth sy’n benodol i Gymru)
  • Mae’n cynnwys dolenni at Gynrychiolydd Dysgu’r Undeb a chyrsiau datblygiad i gynrychiolwyr
  • Newydd ar gyfer 2022 Lefel 2 The Skills Network a chyrsiau DPP byr drwy ein tudalen TSN Usdaw Cymru
  • Cael gafael ar Wybodaeth, Cyngor ar Arweiniad drwy ein Cynrychiolwyr Dysgu a Thîm y Prosiect. Mae llawer o’r cyrsiau a gynigir gennym wedi’u hariannu’n llawn neu ar gael am bris gostyngol gyda grantiau dewisol ar gyfer cyrsiau drwy WULF.
  • Cysylltwch â Pam Stanton ar 02920 731131 neu Pamela.Stanton@USDAW.ORG.UK am ragor o wybodaeth. 
  • Gogledd Cymru – Warrington@usdaw.org.uk Ffôn 019 2557 8050
  • Mae gennym dîm manwerthu pwrpasol: Crian Williams a Helen Couppleditch – De Cymru a Tina Davies – Gogledd Cymru

Sut mae WULF yn gweithio?

Mae undebau llafur yn bidio am gyllid am hyd at dair blynedd i drefnu a neu i dalu am gyfleoedd dysgu i aelodau’r undeb a’u cydweithwyr nad ydynt yn aelodau. Mae cyflenwi cynlluniau dysgu dan arweiniad undebau yn helpu pawb i wella ei sgiliau a datblygu yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol.
 
Gellir addasu prosiectau WULF i fodloni anghenion diwydiant, y llywodraeth ac unigolion drwy gyflawni ymrwymiadau Gwaith Teg a Dysgu a Sgiliau undebau.

Caiff prosiectau WULF eu llywio a’u cyflenwi gan arweinyddion dysgu angerddol, profiadol undebau.   Mae’r arweinyddion hyn; rheolwyr prosiectau a’u timau yn meddu ar wybodaeth ddofn am eu sectorau, maent yn gwybod sut i ddarparu cyfleoedd hyblyg, perthnasol ac o ansawdd i gynulleidfa eang mewn ffordd ddiogel, deg.

Gall prosiectau gynnwys cyrsiau ar-lein, dulliau cyfunol a hybrid, gallant drefnu cyfarfodydd, briffiau a digwyddiadau, maent ar gael i’ch cefnogi a’ch arwain ar eich siwrnai dysgu gydol oes.

Caiff undebau llafur eu cynrychioli mewn gweithleoedd a sectorau diwydiant ar draws Cymru.  Hyd yn oed os nad ydych chi’n aelod, bydd yna undeb llafur (ac, yn ôl pob tebyg, brosiect WULF), sy’n delio â’ch maes gwaith chi.  Edrychwch ba undeb(au) sy’n gweithio yn eich sector chi drwy ddefnyddio ein hofferyn i ddod o hyd i undeb.

Buddion dysgu gyda WULF

Yn ôl ymchwil gan Wavehill a gomisiynwyd gan TUC Cymru fod Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn ystod 2020-21, mae WULF wedi cefnogi mwy o gyfranogiad, gwella mynediad cyfartal a galluogi gweithwyr i symud ymlaen yn eu datblygiad personol eu hunain ac yn eu gyrfaoedd. 

Yn ystod 2020-21:

- Mae WULF wedi darparu dysgu i dros 8000 o weithwyr, sy’n uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, gyda chynnydd o ran bodlonrwydd dysgwyr.

- Roedd WULF yn arbennig o dda am gefnogi gweithwyr i symud ymlaen o ran dysgu ac yn eu gwaith. Dywedodd 16 y cant o'r ymatebwyr fod y dysgu wedi arwain at newid rôl y swydd a dywedodd 52 y cant ei fod wedi arwain at godiad cyflog.

- Mae WULF wedi darparu ar gyfer gweithwyr sy'n agored i niwed a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae 70 y cant o ddysgwyr yn WULF yn ferched a dywedodd 22 y cant o'r rhai a holwyd fod ganddynt namau corfforol, synhwyraidd, dysgu neu iechyd meddwl.

Darllenwch mwy am ganlyniadau'r arolwg yma