Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio'n gyflym. Rydym yn byw yn hirach ac yn cael llai o blant. Wrth i'r boblogaeth gyffredinol heneiddio, bydd gweithlu Cymru yn dilyn. Mae mwy o weithwyr rhwng 50 oed a throsodd yng Nghymru nag erioed o'r blaen.
Gweithwyr Hŷn

Erbyn 2025, bydd 1 o bob 3 gweithiwr Cymreig dros-50 ac mae angen i weithfeydd paratoi ar gyfer gweithlu sy’n heneiddio trwy werthfawrogi ein gweithwyr hŷn ac annog gweithio rhwng y cenedlaethau.

Mae bywydau gwaith yn para'n hirach ac rydym yn newid swyddi yn fwy nag erioed o’r blaen. Ers y 1980au, mae'r oedran ymddeol cyfartalog wedi bod yn cynyddu ac mae gweithwyr yn fwy tebygol o newid swydd wrth i’r syniad o ‘swydd am fywyd’ dod yn atgof pell.

Mae ymchwil TUC Cymru wedi canfod bod traean o'r rhai dros 50 oed yn disgwyl ymddeol yn hwyrach nag a ragwelwyd ganddynt pan oeddent yn 40. Mae grŵp sylweddol o weithwyr yn credu y byddant yn parhau i weithio yn eu 70au.

Nododd TUC Cymru fod ansicrwydd ariannol, dileu'r oedran ymddeol gorfodol a galw cynyddol am sgiliau llawer o weithwyr hŷn yn ffactorau sy'n gyrru'r cynnydd hwn.

Mae ein pecyn cymorth newydd yn darparu syniadau ac adnoddau i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur  i:

  • gwthio cyflogwyr i gyflawni polisïau gweithle sy'n fwy oed-gyfeillgar  
  • mynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle 
  • creu amgylcheddau mwy cynhwysol, iach a chynaliadwy i'r holl weithwyr wrth iddynt dyfu'n hŷn

Lawrlwythwch ein pecyn cymorth heddiw

Older workers and Covid-19

Age is an important factor in how vulnerable you are to Covid-19 or its impacts. Older people are more likely to contract Covid-19 which can lead to serious illness or death. Older workers need to be protected both financially and physically within their workplace.

Read more about the impacts of Covid-19 on older workers and what employers and the Government can do to help them in our age and Covid equality guide