Amcangyfrifir bod gan 30,000 o bobl yng Nghymru brofiad o gamblo problemus. Mae llawer mwy mewn perygl o ddatblygu niweidiau sy’n ymwneud â gamblo, sydd y tu hwnt i’r gamblwr ac yn effeithio ar bobl eraill megis teuluoedd, ffrindiau a chydweithwyr.

Mae effaith niwed sy’n ymwneud â gamblo yn amrywiol ac yn bellgyrhaeddol. Mae gamblwyr a’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u cydweithwyr yn sôn am broblemau gyda:

  • llai o les meddyliol
  • cholledion ariannol
  • dyledion
  • problemau tai
  • mwy o risg o ddiweithdra
  • perthnasoedd yn torri i lawr

Sut gall undebau helpu gamblwyr problemus?

Er gwaethaf cyffredinolrwydd cynyddol bod yn gaeth i gamblo, mae dioddefwyr yn teimlo llawer iawn o stigma a chywilydd. Gall undebau chwarae rhan allweddol o ran gwaredu’r stigma yn y gweithle, a chyfeirio aelodau at y cymorth priodol.

Mae gamblo problemus yn broblem sylweddol yn y gweithle. Nododd adroddiad Reed in Partnership:

Y byddai’n well gan 28% o oedolion cyflogedig sy’n gamblo yn y DU – dros 4 miliwn o bobl – beidio â datgelu graddfa’r gamblo i gydweithwyr.

Pobl rhwng 25-34 oed yw’r grŵp oedran sydd fwyaf tebygol o gamblo yn y gweithle, un ai ar-lein neu ar ap ar eu ffôn symudol

Mae dros bedwar ym mhob pump o oedolion Prydain (82%) yn credu y gall gamblo a dyledion dynnu sylw pobl oddi ar eu gwaith.

Gall undebau llafur, wrth weithio gyda chyflogwyr goleuedig, chwarae rhan bwysig wrth daclo gamblo problemus yn y gweithle, a chefnogi aelodau yn ystod pob cam o’r daith at wella.

Llwythwch ein pecyn cymorth Gamblo Problemus i lawr i gael rhagor o wybodaeth ar y materion uchod, ac i ddysgu sut gallwch chi helpu.

Gwyliwch Gareth Hathway, Swyddog Addysg Undeb a Chymorth TUC Cymru, yn rhannu ystadegau am gamblo problemus yng Nghrymu ac yn egluro sut bydd y pecyn cymorth yma yn gweithio.