Angen i warchod awduron yn sgil twf deallusrwydd artiffisial
Mae DA yn effeithio ar weithwyr creadigol yn barod. Fel undeb rydym yn poeni am effaith y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial - DA - ar y sector creadigol yn gyffredinnol, yn ogystal â'n haelodau ni yn benodol. Dydi hyn ddim yn rhywbeth fydd yn digwydd yn y dyfodol – mae'n digwydd rwan. Mae'n wir i ddweud bod gweithwyr creadigol yn y cyfryngau - gohebu, perfformio, cerddoriaeth ac ysgrifennu ac ati - ac yn cael eu heffeithio yn barod, gan dwf sydyn a direol DA.
11 Sep 2024