Mae newid y system bleidleisio i un fwy cyfrannol yn golygu bod pob pleidlais yn cyfri, a’i bod hi’n anoddach o lawer rhagfynegi’r canlyniadau.
Ond dydy rhan helaeth o’r cyhoedd ddim yn gwybod am y newid hwn ac mae’r polau piniwn yn dangos bod pleidleiswyr yn dal heb benderfynu pwy fydd yn cael eu pleidlais.
Mae hyn oll yng nghanol sefyllfa fyd-eang fwy a mwy anwadal, gwasanaethau cyhoeddus nad ydynt ond cysgod o’r hyn oeddent, a chyllidebau tynn i gartrefi.
Dim syndod bod y cyhoedd wedi blino ar hyn ac yn dymuno cael sicrwydd o ddyfodol tecach?
Er bod y sefyllfa wleidyddol bob sut, mae TUC Cymru’n dal i lynu wrth ein gwerthoedd a’n credoau – rydyn ni wedi ymrwymo’n angerddol i Gymru sy’n gweithio i bawb, ac mae ein hymgyrch United Cymru yn symbol o’r gwerthoedd hyn. Rydyn ni’n credu mewn Cymru lle mae gan bawb lais drwy eu hundeb ac incwm sy’n ddigon da i adeiladu bywyd. Rydyn ni’n credu bod gan bob gweithiwr hawl i fod yn ddiogel, ac i gael ei werthfawrogi a’i barchu.
Rydyn ni’n gwybod beth sydd ei angen ar weithwyr mewn cymunedau ledled Cymru, ac ar hynny mae ein gofynion i Lywodraeth nesaf Cymru yn seiliedig:
Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru adeiladu ar lwyddiant Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ac addysg undebau llafur TUC Cymru er mwyn hyfforddi gweithwyr ar y trawsnewidiadau technolegol a charbon isel sydd i ddod.
Rhaid i Strategaeth Ddiwydiannol Fodern greu a chynnal swyddi i bawb, gan gynnwys merched, gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a gweithwyr anabl. Os ydyn ni am fynd i’r arfer o ddefnyddio AI yn y gwaith, rhaid gwneud hynny mewn ffordd foesegol. Ac mae angen buddsoddi ymhellach mewn trafnidiaeth gyhoeddus.
Dylai cyflogwyr gymryd materion cydraddoldeb o ddifri, fel y menopos, iechyd meddwl, straen ac aflonyddu rhywiol. Dylid cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg yn y gweithle, ac mae angen gwneud cynnydd at ddileu’r Bwlch Cyflogaeth Anabledd.
Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru gydnabod a gwobrwyo gweithwyr ymroddedig yn y sector cyhoeddus ledled Cymru. A dylai gael gwared ar elw o’r maes gofal, a chryfhau partneriaeth gymdeithasol.
Dylai Llywodraeth nesaf Cymru ymgyrchu i sicrhau bod unrhyw fformiwla gyllido yn adlewyrchu anghenion pobl yng Nghymru yn briodol.
Mae ein dogfen Blaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru yn cynnwys rhagor o fanylion am beth sydd ei angen ar weithwyr yng Nghymru, a bydd yn rhan hanfodol o’n gwaith yn y cyfnod cyn yr etholiad a thu hwnt.
Gallwch chi gofrestru i bleidleisio ac annog eich cyd-weithwyr, eich ffrindiau a’ch teulu i wneud hynny hefyd.
Oeddech chi’n gwybod y bydd pobl ifanc 16 oed yn cael pleidleisio yn yr etholiad ar 7 Mai?
Cofrestrwch i bleidleisio heddiw
Rhannwch ein ffilm Cofrestru i Bleidleisio
Mae’n anoddach gwneud cynnydd pan na fyddwn yn unedig. Ac mae angen cynnydd ar frys yng Nghymru. Dyna pam mae ein hymgyrch United Cymru yn galw ar bawb yng Nghymru i roi eu gwahaniaethau i’r naill ochr a sefyll fel un i ddangos i’r byd na fydd byth modd gwahanu Cymru unedig.
Ymunwch ag ymgyrch United Cymru heddiw – archebwch eich posteri a’ch sticeri heddiw
Bydd pob cam, bach neu fawr, yn ein helpu i adeiladu’r genedl sy’n gweithio i bawb.