Fel rhan allweddol o undebau llafur a radicaliaeth sosialaidd ers cenedlaethau, roedd gan undebwyr llafur yng Nghymru hunaniaeth unigryw. Hunaniaeth a oedd yn teimlo weithiau nad oedd yn cyd-fynd â strwythurau undebau’r DU. Wrth ddatblygu o’r bwlch hwn rhwng Cymru a mudiad ehangach y DU, daeth ymdeimlad cynyddol bod angen ei fforwm cenedlaethol ei hun ar Gymru. Roedd angen ei strwythur undeb ei hun i fynd i’r afael yn briodol â’r heriau sy’n wynebu gweithwyr yng Nghymru.
Arweinwyr undebau llafur yn llunio strwythur newydd
Cynhaliodd undebau llafur yng Nghymru gynhadledd gyntaf TUC Cymru ym 1974. Sefydlodd hyn yn gyfansoddiadol TUC Cymru fel rhan unigryw ac ymreolaethol o'r Gyngres Undebau Llafur ehangach.
Arweiniwyd y cyfarfod gan Tom Jones a George Wright o Undeb y Gweithwyr Cludiant a Chyffredinol, Dai Francis o Undeb Cenedlaethol y Glowyr, a Harold Jones o grŵp Undebau Llafur Plaid Cymru.
Yn ffynnu ers 50 o flynyddoedd, byddem yn maddau i chi am feddwl y byddai creu TUC Cymru, o ystyried ein profiad modern o bwerau a llywodraeth ddatganoledig, yn ymarfer syml. I’r gwrthwyneb. Ar ddechrau’r 1970au, ychydig iawn o awydd oedd yn bodoli i symud pŵer o Lundain. Hyd yn oed ymhlith y mudiad undebau llafur.
Trwy anesmwythder a gwrthwynebiad ffyrnig o bob ochr, bu ymgyrchwyr undebau llafur yng Nghymru yn ymgyrchu’n ddiflino dros sefydlu TUC Cymru. Gwobrwywyd eu gwaith caled a’u dyfalbarhad pan sefydlwyd TUC Cymru ym 1974.
Eu gwaddol yw sefydliad cadarn a pharhaol sy’n dod ag undebau ynghyd yng Nghymru i frwydro dros weithwyr ledled y wlad. Er mor allweddol oedd y foment hon, aeth TUC Cymru y tu hwnt i greu lle i’w hun mewn strwythurau undeb cyfansoddiadol. Mae wedi profi ac mae’n parhau i brofi bod dod â phŵer yn agosach at y bobl yn gweithio.
Mae’n galluogi’r mudiad undebau yng Nghymru i deimlo gwres materion gweithwyr ac addasu ac ymateb yn well na biwrocratiaeth undeb wedi’i gwreiddio mewn swyddfa cannoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Llwyddodd TUC Cymru hefyd i fod yn ysbrydoliaeth i achos datganoli, gan ddangos sut y gall datganoli pŵer lwyddo. Wrth sôn am ei arwyddocâd, dywedodd George Wright, a etholwyd yn ddiweddarach yn Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf TUC Cymru:
“Rwy’n credu’n gryf mai creu TUC Cymru oedd y weithred gyntaf o ddatganoli yng Nghymru. Fe wnaethom roi Cymru ar y map.”
Bum mlynedd cyn y refferendwm datganoli aflwyddiannus ym 1979 ac ymhell cyn refferendwm 1999, roedd TUC Cymru wedi sicrhau pŵer datganoledig ac wedi dangos i Gymru a gweddill y DU sut i wneud hynny.
Yn feiddgar, yn arloesol ac yn benderfynol, roedd creu TUC Cymru yn ddigwyddiad pwysig, nid yn unig yn hanes undebau llafur, ond yn hanes Cymru ei hun.
O lwch, llafur a budreddi diwydiant oes Fictoria, i waith ansicr yr 21ain ganrif, sy’n cael ei lywio gan dechnoleg, mae angen llais y gweithwyr yn awr ac yn y dyfodol. I frwydro yn erbyn yr anghyfiawnder a’r niwed a wneir i weithwyr. I gynnal gwedduster ac urddas yn y gwaith. Ac i barhau i wthio am well yfory i bobl sy'n gweithio ym mhobman.
Mae hyn yr un mor wir heddiw ag yr oedd ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw yn Aberystwyth ym 1974. Efallai bod yr heriau a wynebwn wedi newid, ond erys yr her ei hun.
Felly, wrth i ni ddathlu 50 mlynedd o TUC Cymru, rydym ni’n diolch i’r undebwyr llafur beiddgar hynny a baratôdd y ffordd i ni. Cawn ein hysbrydoli gan eu brwydr ac rydym yn parhau i sefyll dros weithwyr a bod yn llais i Gymru ar waith.