Y Fantais Gymraeg: cefnogi undebau ar eu teithiau Cymraeg

Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru wedi ymrwymo i wella ein cynnig Cymraeg ein hunain i aelodau undebau llafur. Nawr rydyn ni'n dechrau cefnogi undebau llafur ar eu teithiau Cymraeg hwythau.

Y Gymraeg a TUC Cymru 

Rydym wedi gwneud camau breision yn ddiweddar ynghylch cefnogi, hyrwyddo a diogelu hawliau defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Rydym wedi gwneud nifer o gamau gweithredu mewnol sy’n ychwanegol i’n Cynnig Cymraeg ni, gan gynnwys datblygu gwasanaethau  megis gwasanaeth ffôn ddwyieithog.  

Rydym hefyd wedi lansio Fforwm y Gymraeg, Dyma le i undebwyr llafur rannu profiadau s’yn ymwneud â'r Gymraeg yn y gwaith, hawliau gweithwyr, gan gynnwys  dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ac i drafod sut y gall TUC Cymru gefnogi undebau llafur gyda'u gwasanaethau Cymraeg. 

Ymunwch â Fforwm y Gymraeg

Y Fantais Gymraeg i Undebau 

Rydym yn falch o fod yn ehangu ein gwaith Cymraeg i helpu undebau llafur i wella eu gwasanaethau Cymraeg. Gall hwn gynnwys gweithio tuag at gydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg. 

P’un ai ydych yn dechrau ar eich siwrnai o gynnig gwasanaethau Cymraeg neu wedi gwneud twf yn barod, mae TUC Cymru yma i helpu pob un o’n hundebau llafur cysylltiedig. I’ch tywys ar eich siwrne defnyddiwn y profiad a gawsom wrth : 

- ddatblygu ein Polisi Iaith Gymraeg ein hunain,  

- ennill cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg,  

- sgwrsio ag undebau eraill  

Darllenwch  mwy am Y Fantais Gymraeg i Undebau  

Os yw eich undeb yn barod i drafod cael cefnogaeth i ddatblygu gwasanaethau Cymraeg mewnol cysylltwch â mi ar mjames@tuc.org.uk  

Mae hawliau defnyddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd yn fater i Undebau  

Mae cefnogi hawliau defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn rhan allweddol o gredau undebau mewn gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol. Ac fel undebwyr rydym yn hyrwyddo a diogelu cynhwysiant cymdeithasol yn nhermau’r iaith Gymraeg: 

  • Mae undebau yn hyrwyddo a diogelu rhyddid a hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle fel rhan o’n nodau gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol 

  • Mae undebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr mewn partneriaeth gymdeithasol yn unol â’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023. Mae dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol i geisio consensws neu gyfaddawd gydag  undebau llafur cydnabyddedig neu (pan nad oes undeb llafur cydnabyddedig) gynrychiolwyr eraill eu staff, wrth bennu eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny 

  • Mae Cymru sy’n meddu ar ddiwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu yn un o amcanion llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond mae iaith Gymraeg sy’n ffynnu ym mynd law yn llaw gyda mynediad i swyddi lleol, cartrefi, addysg a gwasanaethau.   

Felly mae hyrwyddo a diogelu rhyddid a hawliau gweithwyr i ddefnyddio a dysgu’r Gymraeg yn y gweithle yn golygu gall gweithwyr aros mewn swyddi lleol ac mae cymunedau Cymraeg yn cael eu diogelu hefyd. 

Dysgwch fwy am eich hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith gan gynnwys taflenni y gallwch eu rhannu gyda'ch cydweithwyr