Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf newydd orffen ac rydw i mor falch o gyfraniad TUC Cymru. Mae’r ŵyl flynyddol sy’n dathlu Diwylliant Cymru a’r Iaith Gymraeg yr un fwyaf o’i math yn Ewrop.
Roedd hi’n hyfryd gweld yr Eisteddfod yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf, ardal dosbarth gweithiol yng nghymoedd De Cymru. Hwn oedd yr Eisteddfod gyntaf yn yr ardal ers bron i 70 mlynedd felly roedd yna dipyn o gyffro yn yr ardal yn y misoedd diwethaf.
Roedd yna groeso cynnes i bawb i’r Eisteddfod – i siaradwr Cymraeg, Dysgwr a rheini oedd yn cael eu profiad cyntaf o’r Eisteddfod. Roedd gan yr ŵyl rhywbeth i bawb gan gynnwys cerddoriaeth, perfformiadau, llenyddiaeth a stondinau crefftau. Theithiodd pobl o bob ban o’r byd i ymweld â’r ŵyl gyffrous, gynwysedig yma. Eleni roedd yna ystafell weddïo ar y safle. Ac, am y tro cyntaf erioed, roedd khutbah (pregeth) Cymraeg o dan ofal Imam Mirazam ar y Mosg ar Faes yr Eisteddfod.
Serch y dathliad mae’r undebau creadigol yng Nghymru’n poeni’n arw am ddyfodol y diwydiannau creadigol. Mae ein pryderon yn cynnwys prinder cyfleoedd gwaith, hyfforddi ac addysg i weithwyr y dyfodol a’r sawl sydd yn y diwydiant nawr. Ysgrifennwn at y Prif Weinidog newydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod i fynegi ein braw cyffredin a dwfn am y dyfodol.
Bu Undeb y PCS hefyd yn cynnal rali ar Faes yr Eisteddfod i dynnu sylw at effaith toriadau cyllid ar y sector diwylliant. Cafodd siantiau am yr angen am gyllid teg i’r Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol groeso cynnes gan fynychwyr yr ŵyl. Ymunodd y chwaer undebau Prospect, Bectu, Equity, Undeb y Cerddorion ac Undeb yr Ysgrifenwyr â nhw.
Wrth i TUC Cymru ddathlu ein pen-blwydd yn hanner cant, roeddwn yn hynod o falch o ansawdd y tri sesiwn panel cynhaliom dros yr wythnos. Ym mhob un cafwyd trafodaeth agored am bethau sy’n bwysig i ni fel undebau ac i’n cymunedau ar draws y wlad.
Ar ddydd Mawrth bu Pabell y Cymdeithasau yn brysur ar gyfer ein trafodaeth ar ddeallusrwydd artiffisial yn y gweithle a gafodd ei chadeirio gan Ffion Mair Dean o TUC Cymru.
Rhannodd Ceri Williams, TUC Cymru, a Manon Eames, Undeb yr Ysgrifenwyr, straeon o sawl sector am effaith deallusrwydd artiffisial a gwyliadwriaeth ar weithwyr heddiw.
Fel mudiad undebol rydym yn aml yn defnyddio’r ymadrodd “dim byd amdanom ni hebddo’n ni”. Ond dyna’n union y dywedodd Cate Corriea Hopkins o Brifysgol Caerdydd sydd wedi digwydd gyda chyflwyniad deallusrwydd artiffisial a digideiddio. Anogodd bob cynrychiolydd undeb i ymchwilio i'r hyn sy'n digwydd gyda DA yn eich gweithle. Ac i wneud yn siŵr eich bod chi'n rhan o'r sgwrs o hyn ymlaen.
Yn ystod y glaw trwm ar ddydd Iau’r Eisteddfod cefais y fraint o gadeirio trafodaeth hollbwysig ar aflonyddu rhywiol yn y gwaith.
Rhoddodd Rhianydd Williams, Swyddog Polisi TUC Cymru sy’n ddysgwr Cymraeg, cyflwyniad gwych, yn ei hail iaith, efo trosolwg o’n pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol. Nod y pecyn cymorth yw helpu cynrychiolwyr ac aelodau undebau, a chyflogwyr i gydweithio i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol.
Roeddwn mor falch i glywed Nerys Evans (Deryn) a Fflur Jones (Darwin Gray) yn sôn am ba mor ddefnyddiol y mae’r pecyn cymorth wedi bod iddynt wrth weithio gyda chyflogwyr i wella polisïau aflonyddu rhywiol.
Ar Ddydd Gwener rhoddodd fy nghyd-undebwr Meic Birtwistle o Undeb y Newyddiaduron cyflwyniad gwych ar ‘Y Cymoedd: Undebaeth a’r Gymraeg’. Dangosodd y cyswllt clòs rhwng gweithwyr y cymoedd a oedd yn siaradwyr Cymraeg ac undebaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r frwydr dros hawliau gwaith teg o’r cychwyn cyntaf. Y Gymraeg oedd yn brif gyfrwng cyfathrebu ar y pryd. Nid oedd y rhan fwyaf o’r gweithwyr hyn yn gallu siarad, na hyd yn oed deall, Saesneg, mwy na thebyg.
Mae pethau wedi newid tipyn ers hynny a gostyngodd niferoedd siaradwyr Cymraeg yr ardal yn aruthrol. Ond y newyddion da yw eu bod yn codi eto ‘nawr oherwydd y twf aruthrol mewn addysg cyfrwng Gymraeg yn yr ardal.
Yn dilyn cyflwyniad Meic roedd trafodaeth panel ar undebau llafur a’r iaith Gymraeg heddiw. Rhannais fy mhrofiad o fod yn blentyn ysgol uwchradd yn y 70au. Roedd yn rhaid i fi deithio 10 milltir y dydd o Gaerdydd i Rydfelen ger Pontypridd i gael addysg Gymraeg. Roedd rhai yn teithio llawer pellach - o Orllewin Cymru. Felly roedd y Sir ymhell ar y blaen o ran darparu addysg Gymraeg.
Yn anffodus mae’r angen i weithredu’n parhau yn y cymoedd cyfagos wrth i drigolion Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ymgyrchu dros ysgol uwchradd Gymraeg yn ei sir hwythau.
Wrth i’r frwydr dros ein hiaith barhau, mae TUC Cymru yn gweithio gyda’r undebau i’w cefnogi i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg i’w haelodau. Rydym hefyd yn cynnig help llaw i gynrychiolwyr undeb drafod hawliau’r Gymraeg yn y gwaith gyda chyflogwyr.
Welai chi yn Wrecsam blwyddyn nesaf!