Mae Mahaboob yn gynadleddwr yn Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du 2024 ac yn ymgyrchydd brwd gydag Unite. Mae ei brofiadau a’i waith eiriolaeth yn canolbwyntio ar hyrwyddo cydraddoldeb yn y mudiad undebau, yn enwedig ar gyfer gweithwyr Du. Mae ymroddiad Mahaboob i gyfiawnder cymdeithasol yn enghraifft o bŵer trawsnewidiol ymgyrchu ar lawr gwlad.
Siaradodd yn y digwyddiad diweddar i lansio pecyn cymorth newydd gwrth-hiliaeth yn y gweithle TUC Cymru yn y Pierhead, Caerdydd.
Dyma beth sydd ganddo i’w ddweud am ei daith ddatblygu hyd yma a’r sgiliau pwysig y mae’n eu datblygu ar y Rhaglen.
Roedd cael cais i siarad yn nigwyddiad Mis Hanes Pobl Ddu TUC Cymru a bod yn rhan o lansio eu pecyn cymorth newydd ar wrth-hiliaeth yn y gweithle ar 2 Hydref, sef pen-blwydd geni Mahatma Gandhi, yn anrhydedd mawr.
Dywedodd Gandhi unwaith, “Rhaid i chi fod y newid rydych chi eisiau ei weld yn y byd.” Mae’r geiriau hyn yn taro tant â mi wrth i mi fyfyrio ar fy nhaith fy hun fel ymgyrchydd Du a’r profiad trawsnewidiol rydw i wedi’i gael yn y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du.
Fi yw’r unig ddyn yn y ddwy garfan o ymgyrchwyr, ac rydw i’n gweld hyn nid yn unig yn gyfrifoldeb, ond yn anrhydedd — pluen ychwanegol yn fy het.
Mae'r rhaglen wedi adnewyddu fy egni, newid ffocws fy angerdd, a'i sianelu i'r cyfeiriad cywir. Mae wedi bod yn daith o dwf personol, hunan-ddarganfod, a grymuso.
Un o’r heriau rydw i wedi’u hwynebu erioed, hyd yn oed yn ystod fy mhlentyndod, yw rhoi pobl eraill yn gyntaf. Boed hynny yn fy nheulu neu yn fy mywyd cyhoeddus - rydw i bob amser wedi poeni’n fawr am anghenion pobl eraill. Ond drwy’r rhaglen ddatblygu, rydw i wedi dysgu gofyn cwestiwn syml ond pwerus iawn i mi fy hun:
Pam ddim fi?
Pam ydw i’n dal i sefyll y tu ôl i bobl eraill pan mae gen i’r un faint i’w gynnig?
Pan ymunais â’r rhaglen, penderfynais ymgeisio am rôl fy hun o’r diwedd. Ar ôl dros ddeng mlynedd o fod yn rhan o’r Pwyllgor Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn Llafur Cymru, cymerais gam na fyddwn i erioed wedi’i gymryd o’r blaen. Fe wnes i sefyll i fod yn Gadeirydd..
Ac i fod yn onest, roedd pawb wedi dychryn - gan gynnwys fi fy hun!
Roeddwn i’n nerfus, ond roedd yna gyffro yn yr ystafell.
Roedd yn gefnogol, yn rymusol, ac, i’m syndod, cefais fy ethol yn Gadeirydd gan ddwy ran o dair o’r aelodau. Dyna’r dewrder rydw i wedi’i ennill hyd yma, ac rydw i’n edrych ymlaen at weld beth sy’n dod nesaf.
Gwers hanfodol arall rydw i wedi’i dysgu yw pwysigrwydd ffiniau.
Rydw i bob amser wedi cael trafferth dweud “na.” Boed hynny’n waith neu’n wasanaeth cymunedol, fi yw’r un y mae pobl yn troi ato bob amser – ac rydw i wastad wedi bod yn hapus i helpu. Ond dywedodd Humie, ein hwylusydd, rywbeth sydd wedi aros gyda mi:
Ac roedd hi’n iawn.
Mae dweud iawn yn gyson yn creu disgwyliadau uchel sy’n gallu arwain at gynhyrchiant is, i mi fy hun ac i’r rheini rydw i’n eu helpu.
Un o’r cysyniadau mwyaf pwerus rydw i wedi’i gymryd hyd yma o’r rhaglen yw’r syniad o fapio eich lles. Mae’n rhywbeth nad oeddwn i erioed wedi meddwl amdano o’r blaen, ond mae wedi dod yn adnodd hanfodol i mi.
Nawr, pan fydd rhywun yn dod ataf am gymorth, nid yn unig rydw i’n cynnig help, ond hefyd yn eu cyfeirio at yr adnoddau cywir.
Ar yr un pryd, rydw i’n treulio munud neu ddau yn meddwl amdanaf fy hun.
Ble ydw i o ran fy lles fy hun, a sut alla i gynnal fy egni a’m ffocws?
Rydw i’n hynod ffodus o fod yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du. Rydw i gyda rhai o’r bobl fwyaf gofalgar, angerddol a chefnogol rydw i erioed wedi cwrdd â nhw.
Rydw i wir yn argymell bod pobl eraill yn ymgymryd â’r datblygiad hwn mewn rhaglenni yn y dyfodol. Mae wedi effeithio arna i mewn ffyrdd na allwn i fyth fod wedi dychmygu, ac rydw i wir yn credu ei fod yn gam tuag at fy nyfodol – boed hynny fel aelod o’r Senedd, yn Senedd y Deyrnas Unedig neu fel cynghorydd lleol.