Cydraddoldeb AI yn y Gwaith

Dyddiad cyhoeddi
Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn creu risgiau i bob gweithiwr. Pan gaiff ei ddefnyddio i reoli pobl, gall creu ansicrwydd i weithwyr a gostwng cyflogau. Pan gaiff ei ddefnyddio i awtomeiddio tasgau gall arwain at ddiswyddiadau.

Roedd TUC Cymru eisiau darganfod sut roedd y risgiau hyn yn berthnasol i wahanol grwpiau o weithwyr, sef  

gweithwyr anabl

gweithwyr Du, Asiaidd ac o Leiafrif Ethnig

gweithwyr hŷn ac iau

gweithwyr sy'n siarad ieithoedd lleiafrifol, fel y Gymraeg

menywod.

Dyna pam y gofynnodd TUC Cymru i'r arbenigwr enwog yr Athro Lina Dencik, Cyfarwyddwr y Labordy Cyfiawnder Data a'i thîm i ymchwilio i effaith deallusrwydd artiffisial ar wahanol grwpiau o weithwyr.  Enw'r adroddiad yw ‘Anghydraddoldebau AI yn y Gwaith’ ac mae ar gael nawr.

Canfu'r ymchwil fod gweithwyr yn y grwpiau hyn yn wynebu risgiau penodol gan AI yn y gwaith.  Mae hynny oherwydd yn aml, mae'r gweithwyr hyn eisoes ar isafswm cyflog, neu ar gontract ansicr, lle mae AI yn cael ei ddefnyddio i'w rheoli a gyrru i lawr eu telerau ac amodau.  Ar ben hynny, mae'r gweithwyr hyn yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu yn sgil AI.

Mae’r awduron yn nodi trwy ddangos sut y mae anghydraddoldebau o’r fath yn bresennol ac yn amlygu eu hunain yn y gweithle ar draws gwahanol grwpiau o weithwyr, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at natur drawsdoriadol anghydraddoldebau AI a hefyd at nodweddion penodol gwahanol brofiadau byw.

Mae'r adroddiad yn ystyried y defnydd o AI ym mhob cam o'r berthynas gyflogaeth.  Heddiw, hyd yn oed cyn i chi ymuno â gweithle, rydych chi'n dod ar draws AI gan ei fod yn aml yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo recriwtio staff newydd.  Os ydych chi'n fenyw, yn aelod o leiafrif ethnig neu'n anabl, mae tystiolaeth i ddangos y gall AI wahaniaethu yn erbyn eich cais.

Unwaith y byddwch yn y gwaith, gellir defnyddio AI i reoli eich bywyd gwaith yn gyfan gwbl neu'n rhannol.  Canfu'r ymchwil fod menywod a gweithwyr ifanc yn tueddu i feddiannu swyddi mwy ansicr yn y farchnad lafur lle mae arbrofi gyda thechnolegau AI wrth reoli gweithwyr wedi dod yn fwy eang, fel gwaith gofal a llafur platfform, yn aml yn cynnwys mwy o wyliadwriaeth a dwysáu gwaith. Maent hefyd yn amlwg mewn swyddi sy'n fwy tebygol o gael eu disodli gan awtomeiddio sy'n cael ei yrru gan AI.

Byddwn yn eich annog chi, fel gweithiwr, i edrych ar yr ymchwil.  Ewch â'r mater i'ch cangen undeb.  Os ydych chi'n gynrychiolydd undeb, ewch â'r mater i'r rheolwyr.  Mae TUC Cymru wedi llwyddo i drafod canllawiau ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus.  Defnyddiwch ef, darllenwch ef a'i addasu ar gyfer eich gweithle.

Mae TUC yn darparu adnoddau defnyddiol eraill am AI i gynrychiolwyr ac ymgyrchoedd i lywodraeth y DU ddod â diogelwch newydd yn y gweithle.  Rydym am weld y gyfraith yn cael ei newid fel na ddylid gwneud unrhyw benderfyniadau gwahaniaethol anghyfreithlon gan ddefnyddio technoleg, fel rhan o'n Maniffesto AI.  

Mae AI yn peri cyfleoedd a risgiau i bob gweithiwr.  Mae'n peri risgiau penodol, yn aml ychwanegol i grwpiau penodol o weithwyr.  Eich cangen undeb llafur sy'n dal yr allwedd i fynd i'r afael â risgiau AI a gwireddu ei fanteision i bawb.