Cafodd Mahaboob Basha ddiagnosis o liwddallineb a dyslecsia yn ei ugeiniau cynnar. Rhoddodd hyn y gallu iddo sefyll lan ar ran pobl eraill sy’n wynebu rhwystrau, a bod yn esiampl iddynt. Erbyn hyn, ers iddo gymryd rhan yn ein Cynllun Datblygu Ymgyrchwyr Du, mae wedi dod o hyd i'r hyder a’r sgiliau i fynd â’i ymgyrchu i'r lefel nesaf ac i fod yn “llais i'r di-lais.”
Tra oeddwn yn tyfu i fyny mewn teulu dosbarth canol yn Tamil Nadu yn India, cefais brofiad o gryfder ac undod aelwyd a oedd wedi’i hadeiladu ar waith caled a dyfalbarhad. Fe wnaeth fy rhieni, wrth fagu eu pedwar o blant, sicrhau bod pob un ohonom yn gwerthfawrogi pa mor bwysig yw diwydrwydd, ymroddiad, a chefnogaeth gymunedol.
Roeddwn i'n rhan o’r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu i wneud Lefel A a dilyn trywydd addysg uwch. Felly, roeddwn i'n teimlo cyfrifoldeb ar fy ysgwyddau i wneud yn fawr o’r cyfleoedd roedd fy rhieni wedi gweithio mor galed i'w gwneud yn bosibl. Cefais fy addysg mewn ysgolion a oedd yn ddibynnol ar arian cyhoeddus. Yma, roedd cynlluniau syml ond effeithiol, fel prydiau bwyd wedi’u darparu gan yr ysgol, yn magu teimlad o gyfeillgarwch a chydlyniad ymysg myfyrwyr.
Fe wnaeth y profiadau cynnar hyn osod y sylfaen ar gyfer fy ymrwymiad i wasanaethu, a fy awydd i gyfrannu i ’nghymuned a’r gymdeithas ehangach mewn ffyrdd cadarnhaol.
Dydy fy nhaith i le ydw i heddiw ddim wedi bod heb ei heriau.
Pan oeddwn i yn fy ugeiniau cynnar, cefais ddiagnosis o liwddallineb a dyslecsia. Cefais brofiad uniongyrchol o fyw ag anabledd anweledig.
Yn hytrach na troi’n rhwystrau, fe ddysgodd yr agweddau hyn ar fy mywyd i mi fod yn fwy gwydn ac addasadwy.
Ar ôl bod yn gadét y fyddin tra oeddwn yn yr ysgol, dechreuais fy ngyrfa fel swyddog mewn lifrai yn India.
Ar ôl hynny fe symudais i rôl yn y gwasanaeth sifil, rôl a aeth a fi i bedwar ban byd yn y pen draw.
Rydw i wedi gweithio â’r llywodraethau India a Phrydain, yn ogystal â sefydliadau rhyngwladol megis y Cenhedloedd Unedig. Cefais amryw o brofiadau yn sgil y swyddi hyn, mewn diplomyddiaeth, arweinyddiaeth, a gwasanaeth cymunedol.
Ar hyn o bryd, rwy’n Rheolwr Cysylltiadau Allanol ar gyfer Adran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe. Yma, rwyf wedi bod yn ffodus o gael meithrin partneriaethau rhyngwladol, a chyfrannu at ymchwil sy’n torri tir newydd ym maes diogelwch ynni a’r hinsawdd. Mae’r rolau hyn wedi fy arfogi â phersbectif byd-eang, ac wedi cyfrannu at fy natblygiad personol. Mae pob un o’m swyddi wedi ychwanegu haenau o wybodaeth a dealltwriaeth at fy nhaith.
Yn bersonol, fe wynebais i golled sylweddol yn ystod pandemig Covid-19, pan fu farw fy nhad. Oherwydd y cyfyngiadau, chefais i ddim mynd i’w angladd. Fe wnaeth y profiad hwn gadarnhau fy nealltwriaeth i o aberth hyd yn oed yn fwy.
Mae’r golled bersonol hon hefyd wedi fy atgoffa o bwysigrwydd cefnogi ein gilydd yn ystod cyfnodau heriol.
Fe ddechreuodd fy mhrofiad ag eiriolaeth undebol pan oeddwn i ond yn 13 oed, pan gefais fy ethol fel arweinydd disgyblion yn yr ysgol. Roedd hwn yn brofiad cynnar o rym cydweithio. Wrth i mi fynd drwy’r coleg a’r brifysgol, ymunais â’r Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol. Fe wnaeth hyn ategu fy nghred y “gallwn gyflawni mwy gyda’n gilydd nag ar ein pennau ein hunain.”
Ymaelodais ag Unite a GMB fel myfyriwr, a hefyd â’r UCU pan ddechreuais fy swydd bresennol. Mae’r undebau hyn yn rhoi hyfforddiant gwerthfawr, adnoddau, a chefnogaeth i mi.
Mae bod yn aelod o undeb wedi dysgu gwersi gwerthfawr i fi mewn cyngrheiriaeth, mentora, hunan-ddatblygiad, a phwysigrwydd trefnu ymdrechion wrth weithio tuag at yr un nodau
Rydw i wedi gweld sut mae undebau yn rhoi’r grym i bobl o gefndiroedd amrywiol ddod at ei gilydd. Drwy gydweithio, gallwn hyrwyddo achosion sydd o fudd i gymunedau, a gallwn roi llwyfan i leisiau a fyddai fel arall yn cael eu hanwybyddu.
Rydw i'n gweld gwelliannau yn amrywiaeth yr undebau, ond mae gennym ni gryn dipyn o waith i’w wneud cyn i ni gyrraedd sefyllfa lle mae undebau’n cynrychioli’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Cyn ymuno â Chynllun Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC, roedd fy nealltwriaeth o waith TUC Cymru yn gyfyngedig.
Drwy’r cynllun, rwyf wedi dod i werthfawrogi effaith y mudiad yng Nghymru, a chryfder cyfun undebau llafur Cymru. Mae’r cynllun wedi fy ysbrydoli i fod yn eiriolwr mwy angerddol a gweithgar dros leisiau Du, Asiaidd, ac ethnig leiafrifol. Diolch i'r cynllun, rwy’n teimlo bod gen i'r sgiliau a’r rhwydweithiau i ysgogi fy uchelgeisiau i greu newid ystyrlon.
Hyd yn hyn, mae’r cynllun wedi rhagori ar fy nisgwyliadau. Rydw i wedi cael cefnogaeth, mentoriaeth, ac awyrgylch cydweithredol a fydd, gobeithio, yn annog aelodau eraill i gamu ymlaen fel arweinyddion.
Wrth edrych i'r dyfodol, rwy’n gobeithio gweld y cynllun yn ehangu ei orwelion. Gallai’r cynllun alluogi mwy o arweinyddion y dyfodol i gysylltu, datblygu, a gwneud cyfraniadau hirdymor i degwch a chyfiawnder cymdeithasol.
Darllenwch fwy am Gynllun Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC
Wrth i mi edrych i'r dyfodol, mae fy uchelgeisiau wedi’u gwreiddio mewn datblygu cydraddoldeb, cynrychiolaeth, a chyfiawnder. Rwy’n benderfynol o weld cynnydd mewn cynrychiolaeth pobl Ddu, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol (BAME) ym maes llywodraethu yng Nghymru.
Drwy fy rôl fel Cadeirydd Aelodaeth BAME y Blaid Lafur yng Nghymru, rydw i'n gweithio ar wella ymwybyddiaeth o’r nod hwn a chefnogaeth ar ei gyfer.
Erbyn etholiadau 2026, rwy’n gobeithio gweld 100 o gynghorwyr BAME yn gweithio mewn llywodraeth leol ar hyd a lled Cymru. Rwyf hefyd yn eirioli dros ddeddfwriaeth gwrth-hiliaeth fel rhan o blatfform Llafur Cymru.
Rwy’n credu ein bod ni angen gweld mwy o aelodau etholedig yn Senedd Cymru.
Oherwydd hyn, rydw i wedi cyflawni rhaglen ‘Unite the Union’ ar gyfer ymgeiswyr gwleidyddol (Unite the Union Political Candidate Programme), ac rydw i'n bwriadu sefyll fel ymgeisydd ar gyfer un o etholaethau’r Senedd yn rhanbarth Abertawe a Phowys.
Os caf i'r cyfle i weithio yn y Senedd, rwy’n bwriadu bod yn llais i'r di-lais. Byddaf yn hybu cyfiawnder cymdeithasol, cyfleoedd cyfartal, a dyfodol mwy gwyrdd a mwy diogel i Gymru.
Fy ngobaith yw cyfrannu at Gymru lle mae pobl o bob math o gefndiroedd yn cael eu grymuso, a lle mae amrywiaeth, a bod yn gynhwysol, yn rhannau annatod o hunaniaeth y wlad.
Yn ogystal â’m gobeithion gwleidyddol, rwyf hefyd wedi ymrwymo’n daer i wasanaeth cymunedol. Drwy Glwb Ieuenctid Sgeti, rwyf wedi cefnogi plant BAME yn ystod tymor yr ysgol a gwyliau’r ysgol.
Rydym ni wedi darparu mwy na 22,000 o brydau poeth, ac wedi codi dros £100,000 i gefnogi’r rhaglenni.
Roedd hi’n anrhydedd derbyn medal y British Citizens Award (BCA) fel cydnabyddiaeth o fy ngwaith. Gwobr y byddaf yn ei derbyn â balchder ym Mhalas Westminster ym mis Ionawr 2025.
Mae fy ngweledigaeth ar gyfer Cymru yn seiliedig ar heddwch, cydraddoldeb, a chynaladwyedd. Drwy gynllun BADP TUC Cymru, rwyf wedi datblygu sgiliau gwerthfawr mewn siarad cyhoeddus, meddwl yn strategol, a gwytnwch, a fydd o gymorth i mi wrth i mi weithio tuag at y weledigaeth hon.
Rwy’n breuddwydio am Gymru sy’n esiampl o degwch a chynwysoldeb. Gallwn ni fod yn genedl lle mae cenedlaethau’r dyfodol yn gallu ffynnu mewn cymdeithas sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn gwarchod yr amgylchedd. Nid dim ond nod yw’r weledigaeth hon, ond addewid i genedlaethau’r dyfodol, addewid i greu gwaddol o undod, datblygiad, a chyfleoedd i bawb.
Mae fy nhaith yn brawf o bŵer addysg, dealltwriaeth, cefnogaeth gymunedol, a photensial trawsnewidiol cydweithio. Rwy’n benderfynol o hybu’r gwerthoedd sydd wedi fy siapio i, ac sicrhau bod Cymru’n dal i fod yn lle llawn cyfleoedd a gobaith i bawb y mae’r wlad yn gartref iddynt.
Darllenwch straeon cyfranogwyr eraill y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du