Mae eiriolaeth Shirley dros gymunedau ar y cyrion yn tynnu sylw at bwysigrwydd undod a gweithredu ar y cyd. Ar ôl bod yn rhan o Raglen beilot Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru, mae Shirley wedi arwain y gwaith tuag at newid yn ei gweithle ac wedi siarad yn nigwyddiad lansio pecyn cymorth newydd gwrth-hiliaeth TUC Cymru yn y gweithle ar 2 Hydref 2024.
Ymunais â Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC yn 2023 oherwydd roeddwn i’n teimlo bod diffyg dealltwriaeth o hiliaeth, a’r angen i gymryd camau ar unwaith i ddelio â digwyddiadau. Mae hiliaeth wedi bod yn digwydd ers gormod o amser, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o newid.
Roeddwn i’n meddwl mai rhaglen hyfforddi oedd hyn, ond roedd yn llawer mwy na hynny. Roedd y sesiynau’n procio’r meddwl, ac maen nhw wedi fy ysbrydoli a rhoi’r wybodaeth a’r gefnogaeth roedd eu hangen arnaf i gyflawni fy nodau. Mae’r tiwtor a’r staff cefnogi yn rhagorol, ac rydw i wedi gwneud cynnydd sylweddol.
Ers ymuno â’r rhaglen, rydw i wedi dod yn Gadeirydd y Rhwydwaith Gweithwyr Ethnig, wedi trefnu digwyddiad Gwrth-hiliaeth a Chynghreiriaeth UNSAIN, wedi trefnu digwyddiadau Windrush a Hanes Pobl Ddu Cymru, ac wedi cefnogi digwyddiad gwybodaeth am recriwtio ac Ethnigrwydd. Cyn bo hir, byddwn yn gweithredu polisi gwrth-hiliol cadarn, ac rydyn ni wedi hyfforddi eiriolwyr sy’n arbenigo ar gydraddoldeb hiliol i gefnogi dioddefwyr.
Rydyn ni hefyd yn cyflwyno gweithdai gwrth-hiliol a pharch i bob ysgol, mae hyfforddiant gwrth-hiliol wedi cael ei drefnu i lywodraethwyr ysgolion, a llawer iawn mwy. Rydw i bob amser yn meddwl am y cam nesaf. Rydw i’n bwriadu adeiladu ar y gwaith sydd wedi’i gyflawni hyd yma i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ymhellach, i sefydlu polisi ac ymarfer cadarn, er mwyn galluogi newid sylweddol.
Diolch o galon i’r trefnwyr am y rhaglen ragorol hon, ac am fy helpu i ddysgu a deall beth sydd ei angen er mwyn bod yn rhan o newid. Rydw i’n sicr y bydd pawb sy’n mynychu rhaglen eleni’n mwynhau, yn dysgu ac yn elwa ohoni, gymaint ag y gwnes i. Pob lwc iddyn nhw.