Mae ei hymrwymiad i frwydro dros hawliau gweithwyr a chanolbwyntio ar gynrychiolaeth yn yr undeb yn tynnu sylw at bwysigrwydd adeiladu rhwydweithiau o gefnogaeth ac undod ymysg grwpiau ar y cyrion.
Siaradodd yn agored am ei phrofiadau a’i theimladau ei hun ynghylch datblygu ei hymgyrchu, a mynegi ei barn am becyn cymorth newydd gwrth-hiliaeth yn y gweithle TUC Cymru yn y digwyddiad lansio yn y Pierhead, Caerdydd ar 2 Hydref 2024.
Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud:
Rydw i wedi bod yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du ers tua chwe mis. Pan welais yr hysbyseb am y tro cyntaf, roeddwn i’n gwybod bod hyn yn rhywbeth y gallwn i elwa ohono. Rydw i bob amser wedi bod yn rhan o undeb ac rydw i’n deall eu pwysigrwydd. Ond yn fwy diweddar, oherwydd blaenoriaethau eraill, doeddwn i ddim yn gallu cymryd rhan.
Mae’r rhaglen wedi rhoi sylfaen gref i mi.
Dydw i erioed wedi bod ar raglen lle mae llawer o’r cyfranogwyr eraill wedi bod ar deithiau tebyg i mi fy hun. Fel arfer, fi yw’r unig berson du neu frown yn yr ystafell, ac weithiau rydw i’n teimlo nad ydw i’n gallu rhannu fy mhrofiadau.
Mae’r rhaglen wedi rhoi lle diogel i ni rannu ein profiadau bywyd a’n teithiau â’n gilydd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld yr hiliaeth fwyaf hyll yn dod i'r amlwg eto, gydag unrhyw un nad yw’n cael ei ystyried yn wyn yn cael ei dargedu.
Roedd terfysgoedd yr haf yn sioc i lawer ohonom ni, gan ddod â realiti llym rhagfarn yn ein cymdeithas i’r wyneb. I mi, roedden nhw’n agoriad llygad, ac roedden nhw’n ysgogi emosiynau dwfn.
Roeddwn i’n teimlo wedi fferru ac yn ddigalon, wrth feddwl am fy mhlant a chenedlaethau’r dyfodol.
Roedd y digwyddiadau hyn yn sbarduno atgofion poenus o fy mhlentyndod fy hun – clwyfau rydw i wedi treulio blynyddoedd yn ceisio eu gwella.
Fe wnes i ddioddef hiliaeth uniongyrchol ac anuniongyrchol wrth i mi dyfu i fyny yn y 70au ac yn ystod fy arddegau yn yr 80au. Roedd yr ofn o gael fy erlid a’m harasio gan y pennau crwyn (skinheads) yn realiti bob dydd. Fi oedd yr unig ferch Ddu, Fwslimaidd yn fy mlwyddyn yn Ysgol Uwchradd Cathays, ar ôl i fy nhad wneud y penderfyniad llawn bwriadau da i'm trosglwyddo o'm hysgol leol gyda'r gobaith o roi addysg well a dyfodol gwell i mi.
Ychydig a wyddai, y byddwn yn wynebu hiliaeth systemig o fewn y system addysg. Roedd yn rhaid i mi brofi’n gyson fy mod i mor abl â fy nghyfoedion, ond doeddwn i byth yn cael yr un cyfleoedd i ffynnu.
Er bod yr holl drawma o fy mhlentyndod yn dal i fod ar fy meddwl, rydw i wedi dewis troi’r profiadau poenus hynny yn rym ar gyfer newid cadarnhaol. Am flynyddoedd, roeddwn i’n cario dicter, ond datblygodd y dicter hwnnw’n angerdd – i sefyll i fyny yn erbyn pob math o wahaniaethu.
Dechreuodd fy nhaith mewn ymgyrchu yn ddiarwybod i mi yn ystod fy mlynyddoedd yn yr ysgol uwchradd, er mai dim ond yn fy 20au hwyr y gwnes i sylweddoli hynny. Dechreuodd fy ngyrfa broffesiynol pan oeddwn yn 19 oed, yn gweithio yn y trydydd sector gyda Newemploy Cymru, elusen sy’n gwasanaethu cymunedau lleol sy’n amrywiol o ran ethnigrwydd.
Yno, dysgais nad fi oedd y broblem, bod hiliaeth yn real a bod fy ngwaith yn helpu i wella rhywfaint o’r boen y gwnes i ei brofi.
Nawr, 27 mlynedd yn ddiweddarach, rydw i’n parhau i sefyll fel llais i’r rheini sy’n wynebu hiliaeth a gwahaniaethu ar bob ffurf. Mae pecyn cymorth Gwrth-hiliaeth TUC Cymru yn gam hanfodol tuag at ddal cyflogwyr yn atebol a sicrhau cymdeithas deg a chyfiawn i bawb.
Mae’n effeithio nid yn unig ar hyder a lles unigolion ond ar eu hiechyd hefyd. Rydw i’n credu y bydd y pecyn cymorth hwn yn adnodd pwerus i’r rheini sy’n ceisio mynd i’r afael â hiliaeth a chreu dyfodol mwy teg.
“Os na allwch hedfan yna rhedwch, os na allwch redeg, cerddwch, os na allwch gerdded yna cropiwch, ond beth bynnag a wnewch chi, mae’n rhaid i chi ddal ati i symud ymlaen.
Mae bob amser yr amser iawn i wneud yr hyn sy’n iawn.” Martin Luther King, Jr.