Dylai undebau arwain y ffordd ar ddatganoli.

Dyddiad cyhoeddi
Traethawd gwadd gan Darren Williams, Swyddog Cenedlaethol Cymru PCS

Rwy’n falch iawn o fod yn gallu cyfrannu at y drafodaeth a ysgogwyd gan adroddiad y Comisiwn Datganoli a Gwaith ar ran PCS, sef undeb sydd ag ymrwymiad hirsefydlog i ddatganoli democrataidd; roedd ein prif undebau blaenorol wedi ymgyrchu dros gael Cynulliad yn refferendwm 1997, ac roeddem hefyd wedi cefnogi’r ymgyrch ‘ie’ yn refferendwm 2011 ar bwerau deddfu sylfaenol. 
Mae cyfiawnhad i’r gefnogaeth honno. Er nad ydyn ni wedi gweld lygad yn llygad bob amser gyda Llywodraeth Cymru, mae ein haelodau yn y sector datganoledig wedi cael eu trin yn well na’r rhai yn sector Whitehall, o ran eu cyflog, eu hamodau a gallu eu hundebau llafur i amddiffyn eu buddiannau. 
Yn fwy cyffredinol, fel y mae’r adroddiad yn ei ddweud, mae Llywodraeth Cymru wedi creu hinsawdd cysylltiadau diwydiannol sy’n parchu ac yn ymgysylltu ag undebau llafur, yn ogystal ag yn mabwysiadu agwedd fwy dyngarol a blaengar at lywodraeth yn gyffredinol. 

Felly, gallwn ddweud bod y duedd gyffredinol dros y 25 mlynedd diwethaf wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Fodd bynnag, mae’n ymddangos ein bod ni wedi gweld atchweliad mewn gwleidyddiaeth ar lefel y DU, gyda chyni o’r newydd, demoneiddio ffoaduriaid ac ymfudwyr, defnyddio rhethreg rhyfeloedd diwylliant, rhoi cyfyngiadau ar yr hawl i brotestio ac ymosodiadau ar hawliau undebau. Mae’r dyfodol yn ymddangos yn ansicr.  
Felly, rwy’n croesawu’r adroddiad a gafodd ei gynhyrchu gan yr Athro Jenkins a’i chydweithwyr fel ymgais enbyd i ymgysylltu â’r heriau sy’n wynebu gweithwyr a’u hundebau llafur, a’r agweddau ymarferol ar hyrwyddo economi decach drwy ddatganoli. Mae’r adroddiad yn pwysleisio cymhlethdodau’r sefyllfa ac yn archwilio’r broses rhyngweithio rhwng cronni pwerau deddfwriaethol, y gallu i weithredu’r pwerau hynny a gallu’r undebau i ddefnyddio pwerau er budd eu haelodau.
Bydd pob un ohonom sydd wedi bod yn rhan o drafodaethau ynghylch y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn gwerthfawrogi bod maes cyfreithiol a chyfansoddiadol i’w groesi pan fydd ymgais i roi newidiadau i’r setliad datganoli. 

Ond rwy’n credu bod y sefyllfa bresennol yn edrych yn fwy cadarnhaol mewn cyd-destun hanesyddol. Mae llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru wedi datblygu o ran ei dylanwad ymarferol dros fywydau pobl ac o ran y gefnogaeth y mae wedi’i chael gan y cyhoedd. 
Roedd bron i 30 mlynedd rhwng yr adeg y cafodd Senedd i Gymru ei chynnig am y tro cyntaf a’r adeg y cafodd pobl Cymru y cyfle i bleidleisio dros gynulliad ym 1979. Yn ystod y refferendwm cyntaf, cafwyd pleidlais pedwar-i-un yn erbyn datganoli, gyda’r cynnig yn cael ei drechu’n drwm ym mhob rhan o Gymru.

Wrth gwrs, 18 mlynedd yn ddiweddarach, cafwyd pleidlais ‘ie’ yn yr ail refferendwm, er mai o drwch blewyn oedd hynny. Heb os, un ffactor mawr yn y newid rhwng 1979 a 1997 oedd Thatcheriaeth, pan welodd pobl Cymru y diwydiannau glo, dur a gweithgynhyrchu yn cael eu dinistrio o ganlyniad i bolisïau llywodraeth y DU. Doedd y rhan fwyaf o bobl Cymru ddim wedi pleidleisio am y polisïau hynny, a doedd ganddyn nhw ddim gwarchodaeth o gwbl ar lefel Cymru gyfan.
Pan gynhaliwyd refferendwm arall yn 2011 ar bwerau deddfu sylfaenol, cafodd y cynnig ei basio’n gyfforddus, gan awgrymu bod 12 mlynedd o brofiad o’r Cynulliad wedi newid barn y cyhoedd. Mae pwerau’r Cynulliad eisoes wedi datblygu’n sylweddol yn ystod y cyfnod hwnnw – gan gofio geiriau enwog Ron Davies am ddatganoli fel proses yn hytrach na digwyddiad – ac mae’r Cynulliad wedi parhau i ddatblygu ers hynny, gan sicrhau pwerau deddfu a chodi trethi a’u rhoi ar waith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gallu gwneud gwahaniaeth mewn meysydd fel cyflogau amaethyddol, wrth ddatgymhwyso agweddau gwaethaf Deddf Undebau Llafur 2016. Mae wedi mynd â masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau i berchnogaeth gyhoeddus pan ddaeth darpariaeth breifat i ben, ac mae wedi ymateb i bandemig Covid-19 mewn ffordd lawer mwy cydlynol, cyson a gwyddonol, yn wahanol i ddull llywodraeth y DU. Roedd hynny’n cynnwys ymgynghori ag undebau a phartneriaid cymdeithasol eraill ar bob cam o’r ffordd.
Yn y cyd-destun hwn, mae canlyniadau’r arolygon o weithwyr sy’n cael eu cyflwyno yn yr adroddiad yn galonogol, ac maent yn awgrymu bod mwy o gefnogaeth i Lywodraeth Cymru gael rheolaeth mewn meysydd polisi sydd eisoes wedi’u datganoli, fel iechyd ac addysg, lle mae gweithwyr wedi gweld canlyniadau buddiol. 
O ran hawliau cyflogaeth, lle nad oes gan Lywodraeth Cymru bron ddim cyfrifoldeb a lle nad oes gobaith uniongyrchol o gael cyfrifoldeb o’r fath, mae barn y cyhoedd wedi’i rhannu’n gyfartal bron. Mae hyn yn awgrymu y gallai’r gefnogaeth i’r syniad hwn gynyddu pe bai ymgyrch gadarnhaol yn cael ei chynnal i gael y posibilrwydd o ddatganoli yn y maes hwn ar yr agenda wleidyddol.

Un cwestiwn y mae’r adroddiad yn ei ofyn yw a ddylem ni ymgyrchu dros y newid hwnnw, yn enwedig os yw cryfder bargeinio diwydiannol yn bwysicach yn y pen draw na newid deddfwriaethol, ac os gallai datganoli hawliau cyflogaeth hyd yn oed danseilio gallu undebau i negodi canlyniadau cadarnhaol ar lefel y DU.
Gobeithio y bydd newid ar y gorwel i’r llywodraeth yn San Steffan, hyd yn oed os bydd yn rhaid i ni aros tan yr hydref i weld hynny’n digwydd. Mae’r Blaid Lafur yn dal i addo bargen newydd i bobl sy’n gweithio. Mae’n bosibl y bydd angen i ni reoli ein disgwyliadau ynghylch beth fydd hynny’n ei olygu yn y pen draw, o ystyried y ffordd y mae arweinwyr y Blaid Lafur yn y DU wedi methu bodloni rhai o’i hymrwymiadau. Serch hynny, mae’r newid disgwyliedig i’r llywodraeth yn newyddion cadarnhaol i weithwyr. 

Fodd bynnag, hyd yn oed os a phan ddaw’r newid hwnnw i rym, bydd y pendil gwleidyddol ar lefel y DU yn troi’n ôl i’r dde yn y pen draw. Byddaf yn 54 oed mewn rhai wythnosau, ac am 36 o’r blynyddoedd hynny – dwy ran o dair o’m hoes – mae’r DU wedi cael ei dyfarnu gan lywodraethau Ceidwadol neu wedi bod dan arweiniad y Ceidwadwyr, gyda’r Blaid Lafur mewn grym am y 18 mlynedd arall. Heb reswm i dybio y bydd y patrwm hwnnw’n newid yn fuan, rhaid i ni dderbyn y bod modd i unrhyw enillion a fydd yn cael eu sicrhau dan y llywodraeth Lafur nesaf gael eu gwrthdroi yn weddol hawdd ac yn gyflym. 
Ar y llaw arall, mae enillion sy’n ffafrio pobl sy’n gweithio yn fwy tebygol o fod yn barhaol, oherwydd bod canolbwynt gwleidyddol Cymru’n ochri tuag at y chwith, a cheir consensws cynyddol ar faterion fel gwasanaethau cyhoeddus, partneriaeth gymdeithasol a hawliau undebau llafur.

Felly, mae ystyriaethau pragmatig yn dueddol o atgyfnerthu’r ddadl ddemocrataidd sylfaenol - sy’n cael ei chydnabod yn yr adroddiad - y dylid dod â’r broses o wneud penderfyniadau mor agos â phosibl at y bobl sy’n cael eu heffeithio. 
Drwy gael Llywodraeth Cymru yn y dyfodol gyda’r pŵer i godi safonau sylfaenol mewn hawliau cyflogaeth i bob gweithiwr yng Nghymru, gall hyn hefyd roi enghraifft gadarnhaol a fyddai’n helpu undebau sy’n negodi mewn mannau eraill yn y DU i roi pwysau ar gyflogwyr i gyfateb i’r datblygiadau hynny. Felly, mae dadl mai’r hyn y mae ar weithwyr yng Nghymru ei angen fwyaf yn y pen draw gan lywodraeth Lafur yn y DU yw ymestyn cyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli i’r Senedd a Llywodraeth Cymru, er mwyn diogelu llywodraethau’r DU yn y dyfodol rhag ymosod ar eu hawliau a’u tanseilio ymhellach fyth. 
Ond hoffwn ddweud hefyd bod yr adroddiad yn gwneud pwynt pwysig o ran cysylltu capasiti deddfwriaethol â’r adnoddau sydd eu hangen i wneud defnydd effeithiol o’r capasiti hwnnw. Dylai undebau yng Nghymru hefyd fod yn rhoi pwysau ar lywodraeth nesaf San Steffan i sicrhau bod cymorth ariannol digonol yn cyd-fynd ag unrhyw bwerau ychwanegol. Yn ogystal â hyn, yn unol â pholisi hirdymor TUC Cymru, dylid gwneud yn siŵr bod diwygiad radical o Fformiwla Barnett ar waith er mwyn sicrhau bod Cymru’n cael y cyllid sydd ei angen arni i gefnogi ei phobl a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol.
Mae’n werth cefnogi holl argymhellion yr adroddiad fel mesurau a allai wella gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar fyd gwaith mewn ffyrdd cadarnhaol a chymedrol. 

Rwy’n croesawu’r argymhelliad olaf yn arbennig, sef sefydlu gweithgor TUC Cymru i edrych ar agweddau ymarferol datganoli hawliau cyflogaeth. Ochr yn ochr â’r gwaith hwnnw, byddwn yn argymell y dylai TUC Cymru gyflwyno achos cadarnhaol dros ddatganoli pellach yn y maes hwn, gan fanteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o adroddiad arfaethedig y comisiwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru; y twf sylweddol mewn cefnogaeth ar gyfer gwahanol fathau o newid cyfansoddiadol, gan gynnwys ffederaliaeth radical ac annibyniaeth lwyr; a’r tebygolrwydd o newid llywodraeth y DU.

Yn union fel yr oedd undebau Cymru yn yr 1980au a’r 1990au wedi helpu i gyflwyno’r achos dros ddatganoli a arweiniodd at fuddugoliaeth refferendwm 1997, dylai TUC Cymru ac undebau Cymru heddiw geisio arwain barn y cyhoedd a bod yn uchelgeisiol ynghylch y potensial ar gyfer newid cyfansoddiadol i hwyluso economi decach, yn hytrach na chael eu cyfyngu’n ormodol gan derfynau barn y cyhoedd fel y mae heddiw.

(Darren Williams, Swyddog Cenedlaethol Cymru PCS)