Creu'r Newid: Fy Nhaith fel Eiriolwr Hawliau Merched

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Mae Sheryl Perrett wedi bod yn undebwr llafur gweithgar ers blynyddoedd lawer. Yn 2024, ymunodd hi â Rhaglen TUC Cymru ar Ddatblygu Ymgyrchwyr sy'n Fenywod.

Mae Rhaglen TUC Cymru ar Ddatblygu Ymgyrchwyr sy'n Fenywod wedi rhoi llawer o hyder i mi. Mae wedi fy ngalluogi i fynd yn ôl at y gwerthoedd sy'n bwysig i mi, a dal fy ngafael arnynt, gan eu bod yn bwysig ni waeth beth mae pobl eraill yn ei feddwl ohonynt.

Ffocws ar ymgyrchu yn erbyn trais yn y cartref

Rwyf wedi bod yn aelod o undeb llafur ers blynyddoedd lawer. Yn 2019, deuthum yn gynrychiolydd undeb achrededig, gan eirioli dros degwch a chyfiawnder yn y gweithle.

Rwyf wedi mwynhau bod yn weithgar ar Bwyllgor Menywod Unison Cymru. Roeddwn hefyd yn dal un o seddi Menywod Cymru ar Bwyllgor Cenedlaethol Menywod Unison rhwng 2020 a 2024.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, cefais lawer o brofiadau gwych, gan gynnwys cyflwyno cynnig yn fy Nghynhadledd Grŵp Gwasanaeth cyntaf erioed ar gyfer y Pwyllgor Menywod Cenedlaethol, o'r enw “Mae trais yn y cartref yn fater yn y gweithle”.

Fe wnes i drefnu ein digwyddiad Rhuban Gwyn a rhoddion Cangen i dair elusen trais yn y cartref leol ychydig flynyddoedd yn ôl, ac roeddwn i’n falch iawn o’r rhain.

Tua'r un pryd ag yr oedd fy nhymor ar Bwyllgor Cenedlaethol Menywod Unsain yn dod i ben, gwelais daflen ar gyfer Rhaglen TUC Cymru ar Ddatblygu Ymgyrchwyr sy'n Fenywod.

Pam dylech chi gofrestru ar gyfer Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod?

Ar ôl mynychu'r sesiwn gyflwyno ar-lein, roeddwn i'n frwdfrydig iawn am y rhaglen hon. Roeddwn i’n wir eisiau bod yn rhan ohoni.

Creu'r Newid: Fy Nhaith fel Eiriolwr Hawliau Merched

Fe wnaeth Shirley, cydweithiwr o Gangen arall, siarad yn glir, yn rhugl ac yn frwdfrydig iawn am ei phrofiad ar y rhaglen gyntaf erioed i Ddatblygu Ymgyrchwyr Du ac fe wnaeth hyn fy ysgogi ymhellach.

Roedd Humie Webbe, ein hwylusydd gwych, hefyd yn rhan o'r alwad, ynghyd â nifer o staff benywaidd TUC Cymru, ac roedd pob un ohonyn nhw’n groesawgar. Roedd y syniad o fod yn rhan o rwydwaith ehangach a dod ynghyd â menywod o amrywiaeth o undebau, cefndiroedd a phawb sydd â'u natur unigryw eu hunain, yn ysbrydoledig.

Roeddwn i'n gobeithio y byddai ymuno â'r rhaglen yn rhoi'r llais, y llwyfan a'r ymgysylltiad i mi barhau i wneud mwy er lles pob menyw. Roeddwn i wrth fy modd pan glywais fy mod wedi cael fy newis ar gyfer y rhaglen.

Ymunwch â Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod 2025-26

Datblygu cyfeillgarwch

Mae wedi bod yn brofiad hynod fuddiol i mi ar adeg sydd wedi bod yn heriol yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae'r rhaglen wedi helpu i'm cadw i fynd a sylweddoli bod gwaith gwerthfawr i'w wneud o hyd y gallaf gyfrannu ato.

Mae ein hwyluswyr, ein trefnwyr, a staff TUC Cymru wedi bod yn anhygoel, yn gwbl gynhwysol ac yn galonogol. Mae pawb ar y rhaglen wedi bod mor gefnogol i'w gilydd.

Mae Humie Webbe yn hwylusydd anhygoel, ac yn berson gwych hefyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi mwynhau ymarfer arsyllu Johari, lle rydych chi'n cael mwy o wybodaeth amdanoch chi eich hun drwy lygaid pobl eraill, a rhai rhinweddau nad ydych chi efallai wedi sylwi arnyn nhw, neu nad ydych chi'n eu hadnabod ynoch chi eich hun.

Yn anad dim, rydym wedi datblygu ymdeimlad cryf o gyfeillgarwch, cefnogaeth ac anogaeth. Rydym wedi rhannu ein profiadau a'n heriau amrywiol mewn lle diogel ac wedi helpu ein gilydd i weithio drwyddynt.

Croestoriadedd fel ffordd o fynd i'r afael â thwf y dde eithafol

Yn ystod yr haf cefais y fraint o gael fy newis i gynrychioli'r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy'n Fenywod ar daith i'r Almaen. Dangoswyd inni'r hyn y mae undebau llafur yn ei wneud i ddelio â'r cynnydd pryderus iawn yn y dde eithafol yn Ewrop.

Croestoriadedd fel ffordd o fynd i'r afael â thwf y dde eithafol

Un peth a welais yn yr Almaen oedd sut na ellir tanbrisio undod croestoriadol.

Rwy'n credu, ers amser hir, bod gwahanol grwpiau croestoriadol wedi gweithio'n annibynnol. Felly, hoffwn weld cyfranogwyr o bob un o Raglenni Datblygu Ymgyrchwyr gwahanol TUC Cymru yn gallu dod at ei gilydd a gweithio ar rywbeth gwirioneddol werthfawr sy'n effeithio ar bob un ohonynt, fel cynnydd dychrynllyd y dde eithafol.

Mae'r dde eithafol yn ymdreiddio i gymdeithas dosbarth gweithiol, gyda strategaeth rhannu a choncro, sydd wedi gweithio yn y gorffennol.

Fodd bynnag, gadewch i ni edrych ar rai enghreifftiau hanesyddol, er enghraifft pan oedd y grwpiau LHDTC+ yn cefnogi streiciau'r glowyr yn y 1980au. O ystyried yr oes a'r hinsawdd, roedd perthnasoedd annhebygol ond nad oedd modd eu torri yn cael eu creu. Er ein bod ni i gyd yn gwybod am ganlyniad trist y diwydiant mwyngloddio ac i'r glowyr, cawsant lawer iawn o gymorth gan eu cyfeillion LHDTC+.

Bydd y dde eithafol, unbeniaid y byd a bwlis bob amser yn gwthio'r rhethreg ar gymdeithas i “feio” grŵp penodol o unigolion pan fydd pethau'n mynd o’i le. Gwelsom hyn gyda gwrthsemitiaeth (a gwrth-nifer o grwpiau eraill) ffiaidd cyfundrefn y Natsïaid. Yn aml, mae'r broblem yn ymwneud â chamreoli gan y llywodraeth, gwneud penderfyniadau gwael, neu ddigwyddiadau byd-eang na ellir eu rheoli, fel pandemig.

Un ffordd o fynd i'r afael â thwf y dde eithafol yng Nghymru yw denu pobl iau i'r mudiad undebau. Mae gennym genedlaethau nawr, sydd wedi tyfu gyda chyfryngau cymdeithasol sy'n aml yn hyrwyddo “newyddion ffug a delfrydiaethau” nad ydynt yn gwybod beth yw eu hawliau yn y gwaith.

Rydw i eisiau gweld gweithwyr ifanc yn dod at ei gilydd mewn mannau go iawn gydag undebwyr llafur o bob oed.

Ymunwch â Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr sy’n Fenywod 2025-26