Mae TUC Cymru wedi cynhyrchu nifer o becynnau cymorth y gellir eu defnyddio yn y gweithle i helpu gydag amrywiol feysydd cydraddoldeb, addysg a materion amgylcheddol.

Rydyn ni’n eich annog i gysylltu â ni os hoffech siarad â’r tîm i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r pynciau yn y rhestr.

Rydyn ni hefyd yn parhau i ddatblygu’r pecynnau cymorth presennol a chreu adnoddau newydd i wella bywyd gwaith. Helpwch ni gyda’r broses hon drwy gadw llygad am ein harolygon a’n polau piniwn sy’n sail ar gyfer datblygu gwaith.

Cydraddoldeb a gwahaniaethu

 

Cefnogi gweithwyr LHDTC+

Dylai pawb gael bod yn nhw eu hunain. Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel ac yn cael eu parchu yn y gwaith. Fodd bynnag, er bod cymunedau LHDTC+ wedi gweld llawer o newid cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf, mae gormod o bobl yn dal i deimlo nad ydyn nhw’n ddiogel ac yn gyfforddus yn y gwaith. Nod ein cynllun gweithredu newydd 10 cam yw newid yr agwedd hon.

Aflonyddu Rhywiol yn y gweithle

Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched. Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd. Mae’n broblem fyd-eang ac mae gwahanol rannau o’r byd yn delio â hi mewn gwahanol ffyrdd. Mae gennym gyfle i fynd i’r afael â’r broblem hon o ddifrif er mwyn gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i weithio, byw a chymdeithasu.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle er mwyn dod o hyd i wybodaeth a chymorth i’ch helpu.

Y Menopos

Mae TUC Cymru wedi datblygu cyfres o becynnau cymorth ac adroddiadau ar y menopos sydd â’r nod o helpu cynrychiolwyr undebau llafur i weithio gyda chyflogwyr i wneud gwelliannau yn y gweithle. Mae’r adnoddau’n ymdrin â gwybodaeth hanfodol am y menopos ac yn edrych ar rai o’r problemau cyffredin yn y gweithle sy’n effeithio ar y rheini sy’n ei wynebu. Maen nhw’n cynnig adnoddau ymarferol i gynrychiolwyr undebau llafur ac enghreifftiau o addasiadau i’r gweithle, camau gweithredu a rhestrau gwirio.

Gwrth-hiliaeth yn y gweithle - 10 cam gweithredu ar gyfer cynrychiolwyr yn y gweithle

Nid yw gweithleoedd yn llefydd cyfartal, ac mae angen gweithredu i newid hynny. Mae undebau’n allweddol i wneud y newidiadau hyn drwy fargeinio, negodi a gweithredu ar y cyd. Fel Undebwyr Llafur, rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i ddarparu undod, cyfleoedd a bargen deg i weithwyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol.

Rydyn ni wedi siarad â’r llywodraeth, wedi cyfrannu at bolisïau, ac wedi gwneud llawer o newidiadau a chynlluniau.

Nawr yw’r amser i weithredu er mwyn i ni allu cymryd camau gwirioneddol tuag at wrth-hiliaeth.

Gwrthsefyll y dde eithafol

Mae eithafiaeth y dde eithafol ar gynnydd yn ein gweithleoedd a'n cymunedau. Ers refferendwm Brexit, rydyn ni wedi gweld cynnydd yng ngweithgareddau'r dde eithafol ledled Cymru.

Mae ymgyrchwyr y dde eithafol wedi bod yn ymgasglu yn ein strydoedd ac ar-lein, gan geisio recriwtio mewn cymunedau sy'n dioddef blynyddoedd o esgeulustod, tanariannu a diweithdra. Mae'r rhain yn cynnwys nifer o'n cymunedau ni yma yng Nghymru.

Rhowch gynnig ar ein  eNodyn Gwrthsefyll y Dde Eithafol heddiw.

Anabledd a namau ‘cudd’

Rhaid i gyflogwyr a’r llywodraeth wneud mwy i wella cydraddoldeb i bobl anabl yn y gweithle. Cynhaliodd TUC Cymru  arolwg mawr ar fwy na 1000 o weithwyr yng Nghymru a chanfod bod llawer o weithwyr anabl eisiau gweld newid yn y ffordd mae anabledd yn cael ei drin yn y gwaith.

Felly, mae TUC Cymru wedi llunio rhestr o ofynion ymgyrchu ar gyfer llywodraethau Cymru a’r Du, yn ogystal â phecyn cymorth ymarferol y gall cynrychiolwyr yr undebau llafur ei ddefnyddio i bwyso am welliannau yn y gweithle.

Cefnogi gweithwyr hŷn

Mae poblogaeth Cymru’n heneiddio’n gyflym, rydyn ni’n byw’n hirach ac yn cael llai o blant. Wrth i’r boblogaeth gyffredinol heneiddio, yna mae gweithlu Cymru’n dilyn ei esiampl. Mae mwy o weithwyr 50 oed a hŷn yng Nghymru nag erioed o’r blaen.

Ymgyrch Siarter Afiechyd Marwol

Mae nifer o weithwyr yn cael salwch difrifol rywbryd yn ystod eu bywydau. Efallai y bydd arnynt angen amser o'r gwaith, am fisoedd weithiau, i gael triniaeth neu i wella.

Ond, ar adegau, does dim triniaeth effeithiol. Yn yr achosion hynny, mae’r gweithiwr a’i deulu’n wynebu straen emosiynol enfawr, ofn, a phryderon ariannol o bosib. Gall y Siarter Afiechyd Marwol helpu i leddfu rhywfaint ar y straen hwnnw ac mae’n cyflwyno ffordd y cytunwyd arni i gyflogeion gael eu trin a’u cefnogi os ceir diagnosis o salwch terfynol.

Gamblo Problemus

Er gwaethaf y cynnydd mewn bod yn gaeth i gamblo, mae dioddefwyr yn teimlo llawer iawn o stigma a chywilydd. Gall undebau chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gael gwared ar y stigma hwnnw yn y gweithle a chyfeirio aelodau at y cymorth priodol.

Dysgu a sgiliau

Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau

Mae dysgu undebau yn cael dylanwad ar bopeth sy’n bwysig iddyn nhw. Gall helpu i wella Iechyd a Diogelwch, cyfle cyfartal, sicrwydd swydd a thâl.

Gall undebau llafur chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau bod gan aelodau'r sgiliau sydd eu hangen i gystadlu yn swyddi'r dyfodol. Gellir mynd i’r afael â llawer o’n heriau economaidd yn y dyfodol, fel digideiddio ac awtomeiddio drwy ddysgu a sgiliau.

Dyfodol y byd gwaith

Pecyn cymorth Gweithleoedd gwyrddach a phontio teg 

Pwrpas y pecyn cymorth hwn yw darparu gwybodaeth i helpu swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur yng Nghymru sydd am weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a negodi i gael gweithleoedd gwyrddach a thecach.

Dysgwch mwy am ein hymgyrch dros adferiad gwyrdd a thrawsnewidiad cyfiawn

Beth ddylwn i ei ddisgwyl gan fy rheolwr pan fyddaf yn gweithio gartref?

Egwyddorion ar gyfer gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur wrth drafod gweithio gartref gyda’ch cyflogwr

Mae llawer mwy o bobl yn gweithio’n hyblyg nag o’r blaen. Mae hyn yn gallu cynnig llawer o fanteision i weithwyr. Gall eu helpu i gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Deallusrwydd Artiffisial, awtomateiddio a digidoleiddio yn y sector cyhoeddus

Gallai technoleg ddigidol newydd gael effaith ddifrifol ar weithlu gwasanaeth cyhoeddus Cymru.

Mae’r effeithiau posibl yn cynnwys colli swyddi, mwy o anghydraddoldeb, hyfforddiant annigonol a swyddi o ansawdd is. Bydd yn bwysig i undebau llafur ystyried eu hymateb i ddyfodiad technoleg ddigidol.

Mae’r ddau adroddiad yma’n tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi gweithwyr i gael gafael ar sgiliau newydd ac, yn hollbwysig, gwreiddio arferion da drwy negodi â chyflogwyr ar draws y sectorau allweddol rydyn ni’n gwybod y mae’r effaith fwyaf arnynt. Mae wedi’i anelu at ein cynrychiolwyr yn y gweithle. Mater i chi yw dechrau’r sgyrsiau hyn gyda’ch cyflogwyr a’ch cydweithwyr er mwyn gwireddu’r uchelgais o sicrhau trawsnewid cyfiawn yng Nghymru a mynd i’r afael â’r newidiadau mawr sy’n wynebu gweithwyr heddiw.

  1. Negodi awtomatiaeth a thechnoleg newydd
  2. Negotiating the future of work: Net-zero

Cipolwg ar ddealltwriaeth a phrofiad gweithwyr Cymru o ddeallusrwydd artiffisial

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn rhoi cipolwg ar brofiad cyfredol gweithwyr yng Nghymru o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI). Y nod yw llywio ymateb yr undeb i AI, a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Mae undebwyr llafur yng Nghymru yn addasu ac yn dysgu’n gyflym i ymateb i ddefnydd cynyddol o AI. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy gyda’n gilydd. Rhaid i weithwyr, undebau, cyflogwyr, technolegwyr a Llywodraeth Cymru weithio law yn llaw i wireddu’r cyfleoedd ac i reoli risgiau AI gyda’i gilydd.

Gyda dull partneriaeth gymdeithasol, gallwn sicrhau bod pawb yn ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn.

Trefnu a bargeinio

 

Contractau dim oriau yn y sector cyhoeddus - canllaw sydyn i gynrychiolwyr

Gweithwyr ar gontractau ‘dim oriau’ yw rhai o’r bobl fwyaf bregus a dan fygythiad yn y gweithlu.

Mae gan weithwyr ar gontract ‘dim oriau’ hawliau statudol o hyd, gan gynnwys yr isafswm cyflog cenedlaethol, gwyliau â thâl, a’r hawl i gael seibiant gorffwys. Ac yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, mae ganddyn nhw’r hawl i gael cynnig contract rhan-amser neu amser llawn ar ôl cyfnod o ddeuddeg wythnos yn y swydd.

Cyrraedd gweithwyr ifanc

Mae angen i’n mudiad ni ehangu os ydyn ni eisiau parhau i fod yn un sy’n gallu newid byd gwaith. I wneud hynny, mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd
o gael rhagor o aelodau ifanc yn ein hundebau llafur. Heb aelodau ifanc, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud y newidiadau rydyn ni eisiau eu gweld.

Sicrhau bod Cymru’n Wlad o Waith Teg

Rydyn ni’n ymgyrchu i sicrhau bod Cymru yn Wlad o Waith Teg – lle mae gweithwyr yn cael bargen well. Mae cyflogau isel, contractau dim oriau ac anghydraddoldeb yn difetha ein heconomi.

Os rydyn ni’n ychwanegu hyn at effaith bosibl Brexit, awtomateiddio a Chredyd Cynhwysol, mae’r cyfuniad yn wenwynig. Mae angen gweithredu nawr – mae angen sicrhau bod gwaith yn decach.