Mae dros 60% o’r gweithwyr ym Mhrifysgol Bangor yn siarad Cymraeg ac mae’r Brifysgol fel cyflogwr yn cyfathrebu efo ni yn ddwyieithog. Felly, roeddwn i’n deall yn iawn pam fod aelodau a chydweithwyr yn dweud eu bod nhw’n teimlo’n chwithig iawn gan nad oedd yr Undeb yn cyfathrebu efo nhw drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd rhai aelodau o’r gweithlu eisiau ymuno gydag undeb, ond ddim eisiau ymuno ag UCU oherwydd nad oedd y gangen yn cyfathrebu yn y Gymraeg. Roeddynt yn teimlo bod UCU yn undeb Seisnig ac roedd hyn yn creu anhawster iddynt.
Pan gefais fy ethol fel Llywydd yn 2018 roedd hi’n teimlo fel yr amser iawn i geisio newid sut oedd y Gymraeg yn cael ei defnyddio o fewn y gangen. Roedd fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor yn awyddus i newid hyn hefyd.
Y peth cyntaf wnaethom ni oedd datblygu polisi iaith ddwyieithog ar gyfer y gangen. Roedd hyn yn cynnwys cyfathrebu’n ysgrifenedig yn ddwyieithog bob amser a chynnal cyfarfodydd yn ddwyieithog. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio cyfieithu ar y pryd.
Os nad yw hyn yn bosib rydw i’n cadeirio’r cyfarfod yn ddwyieithog. Rydw i’n gwahodd siaradwyr Cymraeg a dysgwyr i gyfrannu yn Gymraeg, ac yn crynhoi’r sylwadau yn Saesneg.
Wnaethon ni hefyd greu swydd Swyddog Dwyieithrwydd y gangen. Swydd etholedig yw hon gyda chyfrifoldeb penodol dros hybu’r Gymraeg o fewn y gangen a helpu gyda gwaith cyfieithu’r gangen. Mi wnaethom fargeinio dros gael cytundeb gyda’r Brifysgol ar gyfer y rôl yma oedd yn rhyddhau rhywun i hybu defnydd y Gymraeg yn ogystal â gwneud gwaith achos. Mae’r swydd yma, a phwysigrwydd hybu’r iaith, bellach yn rhan o’n Cytundeb Partneriaeth efo’r Brifysgol.
Rydym wedi cael adborth positif gan aelodau sy’n siaradwyr Cymraeg ac aelodau di-gymraeg. Mae’r aelodaeth gyfan yn ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi’r ffaith ein bod wedi Cymreigio’r gangen.
Ers gwneud y newidiadau yma rydw i wedi clywed aelodau yn dweud bod cangen UCU Bangor erbyn hyn yn fwy croesawgar tuag atynt fel siaradwyr Cymraeg. Maent hefyd yn teimlo l bod yr undeb yn berthnasol ac yn perthyn iddynt.
Gwyliwch Dyfrig yn siarad am daith Cymraeg UCU Bangor:
Rhai o’r aelodau mwyaf cefnogol i ddefnyddio’r Gymraeg oedd y nifer fawr o aelodau nad oeddynt yn siarad Cymraeg, neu’n ddysgwyr eu hunain. Maen nhw’n sylweddoli pa mor bwysig oedd Cymreigio’r gangen o safbwynt recriwtio, a rhoi cydnabyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg o fewn y mudiad Llafur.
Mae llawer o gefnogaeth i’r Gymraeg gan bobl sy’n ddysgwyr. Rhai o’r dysgwyr ar ein pwyllgor oedd Helena o Sbaen a Karin o’r Almaen. Roeddynt yn frwd dros Gymreigio’r gangen. Roedd ein haelodau yn eu gweld nhw ar eu teithiau dysgu Cymraeg ac yn cael eu hysbrydoli eu hunain i ddysgu a defnyddio Cymraeg.
Mae annog dysgwyr i gyfrannu at gyfarfodydd hefyd yn ffordd dda i ddangos i bawb taw defnyddio’r iaith sy’n bwysig, nid y safon. Mae hyn yn magu hyder dysgwyr a siaradwyr newydd ac yn creu cadernid iaith yn y gweithle.
Mae’n hanfodol bod yr undeb yn cydnabod gweithlu gyda chanran uchel o siaradwyr Cymraeg neu mi all hyn eu dieithrio a chreu risg nad yw aelodau eisiau ymuno â’r gangen.
Ond, mae ystyried y Gymraeg yn hynod bwysig hefyd mewn gweithleoedd lle mae nifer isel o siaradwyr Cymraeg. Mae gweithle gynhwysol sy’n cefnogi siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn hollol angenrheidiol o ran cyfiawnder ieithyddol a chymdeithasol. Mae’n dangos bod gennych ymagwedd deg yn seiliedig ar ecwiti a pharch tuag at sgiliau dwyieithog sy’n werthfawr o fewn cyflogaeth.
Mae cynyddu a chefnogi defnydd y Gymraeg yn rhywbeth gall bob cangen wneud. Gallwch ddechrau eich cyfarfodydd efo “bore da” a defnyddio “diolch” yn eich e-byst, er enghraifft.
Mae pob newid bach yn gallu eich helpu fel cangen i gynyddu eich perthynas gyda’ch aelodau Cymraeg. Mae’n helpu normaleiddio’r Gymraeg mewn gweithleoedd ar draws Cymru.
Yn ogystal, mae’n meithrin diwylliant Cymraeg a chydraddoldeb ar ran siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Mewn gwlad ddwyieithog, mae hyn yn hanfodol.
Barod i Gymreigio eich cangen a’ch gweithle? Dyma adnoddau defnyddiol gan TUC Cymru:
• Darllenwch am eich hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle
• Lawr lwythwch ein taflen hawliau er mwyn codi’r pwnc efo’ch cydweithwyr
• Dysgwch am Twf - Siarter y Gymraeg yn y Gwaith a sut gall gweithwyr, eu canghennau undebau llafur a chyflogwyr gydweithio i gefnogi'r ddarpariaeth o weithleoedd dwyieithog cynhwysol a thwf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.
• Darllenwch am y cymorth gall TUC Cymru rhoi i undebau llafur ar eu teithiau Cymraeg