Ymgyrchwyr Ifanc TUC Cymru yn cael eu hysbrydoli gan undebau llafur yn Norwy

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Yr haf hwn teithiodd tri gweithiwr ifanc o Gymru i Norwy i gymryd rhan ym mhatrôl haf yr LO Norwy. Ar y patrôl mae gweithwyr ifanc yn ymweld â gweithleoedd ac yn siarad â gweithwyr ifanc eraill. Maen nhw'n cynnal arolwg i fapio materion a thoriadau amodau yn y gweithle, ac yn darganfod beth mae gweithwyr ifanc yn gwybod am eu hawliau. Dros y flwyddyn ddiwethaf mae TUC Cymru wedi bod yn cefnogi gweithwyr ifanc i greu model patrolio tebyg yng Nghymru o’r enw Newid!
Mae cynrychiolwyr ifanc o Gymru, James a Shannon, yn dweud wrthym beth ddysgon nhw yn ystod eu hwythnos yn Norwy'r haf hwn.

Cefnogaeth gref gan gyflogwyr

Cefnogaeth gref gan gyflogwyr

“Un o'r pethau a wnaeth argraff fawr arnaf yn ystod yr wythnos oedd pa mor adnabyddus yw patrôl haf LO mewn gwirionedd. Ar bob un o'r diwrnodau, daeth nifer o aelodau o'r cyhoedd at y grŵp ac roeddent yn gwybod yn syth ein bod ni yno ar batrôl haf. Cafodd pob un ohonyn nhw sgwrs sydyn gyda ni ac annog LO i ddal ati gyda'r gwaith da.

Dyma'r hyn sydd angen i ni ei gyflwyno i Newid yn fy marn i. Mae angen inni weithio ar hysbysebu’r rhaglen, a hysbysu’r busnesau lleol pam ein bod yno ychydig wythnosau cyn y patrolau gwirioneddol.

Yn ystod sesiwn gyntaf TUC Cymru fis Gorffennaf diwethaf, buom yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar fanwerthu a lletygarwch. Nid yw LO o'r farn y dylai unrhyw weithle gael ei hepgor (ac eithrio safleoedd adeiladu am resymau iechyd a diogelwch).

Aethom i weithleoedd manwerthu a lletygarwch, ond aethom hefyd i weithleoedd mwy anarferol fel swyddfeydd y cyngor, gorsafoedd heddlu a hyd yn oed stadiwm clwb pêl-droed Sandefjord. Pan fyddwn yn cynnal patrolau nesaf Newid!, credaf y dylem edrych ar fwrw “rhwyd ehangach” o ran y mathau o weithleoedd yr ydym yn ymweld â hwy.

Hoffwn ddiolch i TUC Cymru am roi’r cyfle i mi gymryd rhan yn y daith gyfnewid hon, a diolch i Unite Cymru am hwyluso fy mhresenoldeb. Hoffwn hefyd ddiolch i LO am eu lletygarwch gwych yn ystod ein taith” – James Archer, Unite the Union.

Cyffro am undebau llafur yn Norwy

Cyffro am undebau llafur yn Norwy

“Yn gyffredinol mae'r wlad, y bobl, ac agwedd pawb tuag at undebau yn Norwy yn hollol hyfryd i'w gweld. Byddai cael hynny yn y DU gyfan yn anhygoel ond i ni, hon fyddai'r 2il flwyddyn yn hytrach na 39ain Norwy. Byddwn wrth fy modd yn gweld yr un cyffro yn y TUC yma â'r hyn sydd gan bobl at yr LO yno.” - Shannon Walters, Unison Cymru.

Beth yw’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc?

Mae ein Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc yn gyfle i weithwyr ifanc ddatblygu eu sgiliau, rhwydweithio, ac ehangu cyfleoedd i weithio ar ymgyrchoedd a mentrau o fewn y mudiad undebau llafur. Yr haf hwn, bu’r rhaglen yn gweithio mewn partneriaeth â LO Norwy, a FES yr Almaen i gynnig cyfle i weithredwyr weld sut roedd undebau llafur yn trefnu gweithwyr ifanc ledled Ewrop.

Pam ymweld â Norwy?

Pam ymweld â Norwy?

Yn 2023, aeth dirprwyaeth o weithwyr ifanc o Gymru o’r Rhaglen Datblygu Gweithredwyr Ifanc i Batrôl Haf LO Norge. Pwrpas y daith oedd deall sut roedd y model Norwyaidd yn trefnu gweithwyr ifanc o fewn y mudiad yn effeithiol.

Mae'r patrolau yn Norwy yn weithgaredd blynyddol sydd wedi digwydd ers bron i 40 mlynedd. Trefnir y rhaglen a arweinir gan bobl ifanc ar draws pob rhanbarth, ac mae'n cynnwys aelodau ifanc yn mynd i mewn i weithleoedd ac yn cyfweld gweithwyr ifanc am eu hawliau a'u dyletswyddau yn y gwaith. Mae'r arolwg yn ddienw ac fe'i defnyddir i fapio tueddiadau o ran materion yn y gweithle, yn ogystal â nodi unrhyw achosion o dorri amodau yn y gweithle. Y rhan fwyaf o'r amser, mae hwn yn rhyngweithio cadarnhaol rhwng pobl ifanc ynghylch hawliau yn y gwaith y mae cyflogwyr yn eu croesawu.

Fodd bynnag, os canfyddir achos o dorri amodau, bydd LO yn codi hyn gyda'r undeb perthnasol. Mae'r cynllun mor llwyddiannus fel bod y rhan fwyaf o gyflogwyr yn disgwyl LO yn ystod yr haf. Mae ganddyn nhw linell ffôn hyd yn oed y gall aelodau'r cyhoedd ei ffonio i LO fynd i weithleoedd, os ydyn nhw'n meddwl bod achos o dorri amodau yn digwydd.

Gweithredu'r gwersi o'n taith gyntaf i Norwy

Ers ein taith gyntaf, mae TUC Cymru wedi bod yn gweithio gyda chyfranogwyr y Rhaglen Ddatblygu i sefydlu Newid!, gweithgaredd  tebyg i Batrôl Haf LO. Mae ein gweithgaredd yn dilyn strwythur tebyg i LO Norge, er bod ein ffocws presennol wedi bod ar letygarwch a manwerthu. Mae hyn oherwydd presenoldeb mawr gan weithwyr ifanc yn y maes, a chyfradd isel cytundebau cydfargeinio.

Yn ogystal â siarad am hawliau yn y gwaith, mae ein gweithgaredd wedi ceisio ymgysylltu â gweithwyr ifanc ynghylch y problemau gallent wynebu yn y gweithle. Mae hyn y cynnwys y ffordd orau o fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn eu sectorau, y ffyrdd y mae technoleg yn newid y ffordd y maent yn gweithio, a sut y gall undebau gefnogi pobl ifanc â dysgu gydol oes.

Y camau nesaf i Newid!

Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y ddirprwyaeth eleni nawr yn gweithio gyda TUC Cymru, a'r rhai ar y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc i lunio sut rydym yn datblygu ein gweithgaredd Newid! Byddem yn ystyried:

A ddylem ni fod yn ehangu’r sectorau a’r gweithleoedd yr ydym yn ymweld â nhw?

A oes materion eraill sy’n bwysig i weithwyr ifanc y dylem fod yn siarad â nhw amdanynt?

Sut ydym ni’n defnyddio trosoledd y bartneriaeth gymdeithasol, yn union fel y maent yn ei wneud yn Norwy, i ddefnyddio data a gasglwyd yn ystod y patrolau i greu newid cadarnhaol i weithwyr ifanc yng Nghymru?

Dyma’r pethau y byddwn yn eu hystyried wrth symud ymlaen – gwyliwch y gofod hwn i weld sut mae ein gweithgaredd Newid yn datblygu.

Cofrestrwch ar gyfer Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc i ymuno â'n trafodaethau ar ddyfodol y rhaglen Newid!