Cyflawnwyd gwerth £633.7m o oramser di-dâl gan weithwyr yng Nghymru y llynedd, sy’n ddychrynllyd. I bron i un o bob 10 o’r rheini a weithiodd oramser yn ddi-dâl, roedd hyn yn golygu colli allan ar £5,819 ar gyfartaledd – sy’n ddigon i brynu’r math o wyliau moethus sydd ei angen arnoch ar ôl yr holl waith hwnnw!
Ychydig iawn o bobl a fyddai’n dweud “iawn” pe bai rhywun yn gofyn iddyn nhw weithio am ddim, felly pam ydyn ni’n dal ati i wneud hynny?
Mae'r tebygolrwydd o weithio goramser di-dâl yn cynyddu yn ddibynnol ar eich swydd a pha sector rydych chi'n gweithio ynddo.
Canfu ymchwil y TUC fod athrawon ar frig y rhestr ar gyfer cyfran y staff sy’n gweithio goramser di-dâl (40%) a’r goramser wythnosol cyfartalog uchaf ar draws yr holl weithwyr (4.4 awr).
Mae prif weithredwyr, rheolwyr a chyfarwyddwyr hefyd yn amlwg iawn ar y rhestr, gan gynnwys mewn sectorau fel iechyd, gofal cymdeithasol a logisteg. Mae’r ffigurau hefyd yn sylweddol uwch yn y sector cyhoeddus, ac yn llawer uwch mewn rhannau eraill o’r DU o’i gymharu â Chymru.
Un o’r rhesymau pam mae goramser di-dâl yn broblem mor barhaus yw bod y gyfraith yn gymharol wan yn y maes hwn. Dim ond cofnod “digonol” o’r oriau a weithir y mae’n ofynnol i gyflogwyr ei gadw.
Dyfarnodd Llys Cyfiawnder Ewrop y dylai cyflogwyr sefydlu “system wrthrychol, ddibynadwy a hygyrch” ar gyfer cofnodi oriau yn 2019, ond nid yw Llywodraeth y DU wedi llwyddo i ddeddfu ar hyn.
Mae’r ffaith mai gweithwyr mewn swyddi uwch sydd dan sylw yn llawer o’r galwedigaethau lle mae pobl yn wynebu mwy o risg o orfod gweithio goramser di-dâl, yn awgrymu nad yw eu cyfrifoldebau ychwanegol yn cael eu rheoli’n briodol gan gyflogwyr. Gall hyn gyfrannu at ddiwylliant lle mae disgwyl i bobl weithio goramser yn ddi-dâl.
Nid mater i weithwyr ar gyflogau uwch yn unig yw hyn chwaith. Canfu ymchwil i brofiadau bob dydd gweithwyr ym maes lletygarwch fod goramser di-dâl yn rhywbeth cyffredin, ynghyd ag enghreifftiau eraill o “ddwyn cyflog”, fel gweithio shifftiau treial am ddim.
Bûm ar gwrs hyfforddiant iechyd meddwl un tro, lle roedd yr hyfforddwr dweud bod gweithredoedd fel gweithio goramser di-dâl yn “ffyrdd o niweidio ein hunain”. Efallai nad ydych chi’n cytuno â hyn, ond mae cyfreithiau ar oriau gwaith wedi cael eu cyflwyno oherwydd y niwed mae oriau gwaith hir yn ei wneud.
Mae gwaith mwy dwys a gorweithio yn broblemau sy’n wynebu gweithwyr yn fwyfwy, wrth iddynt weithio'n galetach ac yn hirach nawr o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Mae dros hanner (55%) y gweithwyr yn teimlo bod eu gwaith yn mynd yn fwy dwys a heriol (yn ôl arolygon TUC o 2023 ymlaen), ac mae 3 gweithiwr o bob 5 (61%) yn dweud eu bod yn teimlo’n flinedig ar ddiwedd y rhan fwyaf o ddiwrnodau gwaith.
Os ydych chi’n poeni am yr oriau rydych chi’n eu gweithio a’r effaith y mae gwaith ei chael ar eich lles, mae llawer o help ar gael. Mae’r GIG yn cynnig cyngor a dolenni at adnoddau. Gallwch siarad â’ch cynrychiolydd undeb llafur, a’ch rheolwr os ydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny, am y pwysau sydd arnoch chi.
Fel y dywedodd Sarah Jaffe, wnaiff eich gwaith ddim eich caru chi nôl, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gofalu amdanoch chi eich hun.