Mae Cyngres y TUC yn gynulliad sy’n cynrychioli ysbryd cyfunol ein mudiad, yn ogystal â’n hymrwymiad ar y cyd i hawliau a lles pob gweithiwr yng Nghymru.
Ers ein Cyngres ddiwethaf ddwy flynedd yn ôl, bu adfywiad mewn gweithredu diwydiannol.
Yn erbyn y rhwystrau niferus a roddwyd ar waith gan gyfreithiau gwrth-undebau, mae gweithwyr wedi dangos dro ar ôl tro eu bod wedi cael digon. Wedi cael digon ar reolwyr drwg. Wedi cael digon ar godiadau cyflog is na chwyddiant. Wedi cael digon ar argyfwng costau byw.
Does dim un gweithiwr eisiau bod allan ar linell biced. Streiciau yw’r dewis olaf fel arfer.
Mae angen codiad cyflog ar weithwyr
Ond erbyn hyn rydym yn wynebu’r cyfnod hiraf o gyflog sydd wedi aros yn ei unfan ers dros ganrif. Mewn termau real, dim ond £12 yr wythnos ers 2008 mae cyflog wedi codi.
Mae gweithwyr wedi cael eu siomi dro ar ôl tro gan Brif Weinidogion sydd heb unrhyw syniad sut beth yw gweithio i fyw, a Changellorion sy’n poeni mwy am fanteision treth i’w ffrindiau cyfoethog nag ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Roedd y ddeddf Lefelau Gwasanaeth Gofynnol yn ymosodiad arall eto gan y llywodraeth hon ar weithwyr - diangen, ymrannol ac yn diystyru datganoli yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr.
Ac mae’r cyni diddiwedd wedi erydu gwasanaethau cyhoeddus ledled y DU. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn werth £1.3 biliwn yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021.
Y gweithwyr hynny sy’n dwyn y baich yw’r rhai sydd ar y cyflogau isaf – y gweithlu allanol, y gweithlu achlysurol, y rhai sydd ar waelod y gadwyn o gyllidwyr a chomisiynwyr. Rydw i’n siarad am weithwyr gofal cymdeithasol, cynorthwywyr addysgu, a’r sawl sydd yn ein diwydiannau creadigol.
Mae angen Bargen Newydd ar weithwyr
Mae gweithwyr yn haeddu gwell, mae angen bargen newydd arnom – bargen newydd sylweddol a radical, gan gynnwys rhoi terfyn ar gamfanteisio yn y sector cyhoeddus. Mae angen inni allu tyfu fel mudiad, yn hytrach na threulio ein hamser yn ceisio goresgyn yr holl rwystrau a roddir ar waith ar gyfer hawliau gweithwyr sylfaenol.
Ac mae angen i ni weld amodau sylfaenol yn gwella i bob gweithiwr – mae’n anghredadwy na fu unrhyw ddiwygio ar system tâl salwch y DU ar ôl pandemig byd-eang.
50 mlynedd o TUC Cymru
Mae’r Gyngres eleni yn nodi cyfnod arbennig yn ein hanes. Mae 50 mlynedd wedi mynd heibio ers i undebwyr llafur gwrdd am y tro cyntaf fel TUC Cymru.
Wrth edrych yn ôl ar adroddiad yr adroddiad blynyddol cyntaf hwnnw, mae cyfatebiaethau trawiadol. Roedd TUC Cymru yn cyflwyno sylwadau i’r llywodraeth am y bygythiad i’n diwydiant dur – hefyd ein brwydr ddiwydiannol fwyaf heddiw.
Rhybuddiwyd am adwaith cadwyn gymdeithasol gennym, gan nad yw’r contract cymdeithasol yn ymwneud â chynnal lefelau incwm yn unig, ond â chynnal swyddi a diogelwch cyflogaeth hefyd.
Newidiadau yn ein mudiad a’n cenedl
Roeddem hefyd yn gadarn o blaid datganoli. Roedd ein dogfen bolisi gyntaf, o’r enw ‘Datganoli i Gymru’, yn galw am greu “Cynulliad Cymru”. Dywedodd, a dyfynnaf, “Byddai’r Cynulliad yn gorff un siambr o ryw 100 o aelodau.” Rydyn ni ar – neu o leiaf yn agos at - y pwynt hwnnw nawr ac rydyn ni’n disgwyl ac yn mynnu bod ein Senedd gryfach nawr yn cyflawni pethau ar ran gweithwyr.
Roedd pethau’n edrych ychydig yn wahanol 50 mlynedd yn ôl hefyd. Dim ond un fenyw oedd ar y Cyngor Cyffredinol cyntaf hwnnw gan TUC Cymru – Miss S I Jones o APEX.
Rwyf mor falch o faint mae hynny wedi newid, o ba mor amrywiol yw ein mudiad a’n harweinyddiaeth, a sut rydym bellach yn gynrychiolaeth briodol o'r boblogaeth sy’n gweithio rydym yn ei gwasanaethu. Rydym yn gweithio drwy ein rhaglenni datblygu a chamau cadarnhaol i rymuso gweithwyr o bob rhan o gymdeithas i ddod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Rhaid peidio â mynd yn ôl i’r ffordd roedd pethau ar un adeg.
Dathlu ein 50fed pen-blwydd
Rhywbeth arall sydd wedi newid yw sut rydyn ni’n meddwl ac yn siarad amdanom ni ein hunain. I ddathlu ein pen-blwydd yn 50 oed, rydyn ni wedi creu ffilm newydd i ddathlu’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni dros y 50 mlynedd diwethaf, ac i ddangos i’r byd bod undebau llafur yma i aros. Ni fyddwn byth yn rhoi’r gorau i frwydro dros yr hyn sy’n iawn, yr hyn sy’n deg, yr hyn mae pobl sy’n gweithio yn ei haeddu.
Rhannwch y ffilm gyda’ch ffrindiau, eich teulu a’ch cydweithwyr
Rydyn ni hefyd wedi creu baner newydd lachar a gafodd ei dylunio a’i chreu gan The SPAF Collective.
Byddwch yn gweld rhai motiffau cyfarwydd ar y faner fel dwylo cyfeillgarwch, ac elfennau mwy modern fel cadwyn bapur pobl yr enfys, sy’n symbol o amrywiaeth.
Cadwch lygad amdani ar orymdeithiau yn hwyrach ymlaen eleni!
Mae blaen y faner yn falch o arddangos yr enw TUC Cymru. Cytunodd GC yn ddiweddar y byddwn, o hyn ymlaen, yn defnyddio TUC Cymru fel ein henw bob dydd. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i’r iaith Gymraeg ac yn dangos ein bod wedi datganoli o fewn teulu cyngres undebau llafur Prydain.
Uchelgais ar gyfer datganoli
Roedd gwaith caled a dyfalbarhad sylfaenwyr TUC Cymru o ran cael annibyniaeth gan y TUC hanner can mlynedd yn ôl yn baratoad ardderchog ar gyfer ein hymgyrch dros ddatganoli i Gymru fel cenedl.
Mae’r uchelgais hwnnw ar gyfer datganoli yng Nghymru bellach wedi’i wireddu. Mae gennym Senedd a llywodraeth sydd wedi ceisio cryfhau cyfiawnder cymdeithasol yn gyson. Mae wedi diddymu rhai o’r ymosodiadau gwrth-undebau gwaethaf yn y sector cyhoeddus datganoledig, ac wedi deddfu i roi sedd gyfartal i weithwyr wrth y bwrdd gyda’u penaethiaid.
Brwydrau ac ymgyrchoedd y dyfodol
Ond mae gennym gymaint mwy i’w wneud, yn enwedig i gryfhau ein mudiad sy’n seiliedig ar ddosbarth ac undod. Mae angen inni drefnu, mae angen inni dyfu, ac mae angen inni sicrhau mudiad llafur cryf ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae mwy na chwarter o blant yn y DU yn tyfu i fyny mewn tlodi. Nid oes gan dros hanner yr oedolion oed gweithio unrhyw gynllun ariannol ar gyfer eu hymddeoliad.
Ac mae’r risg o fod mewn gwaith gwael a chamfanteisiol yn dal yn fwy gan ddibynnu ar liw eich croen, eich rhyw ac a ydych chi’n berson anabl ai peidio. Mae ein gwlad yn parhau i fod yn anghyfartal mewn cynifer o ffyrdd, a rhaid inni barhau i frwydro dros weithwyr i gael eu cyfran deg.
Rwyf yn hyderus y bydd y mudiad undebau llafur, dros y 50 mlynedd nesaf, yn cydweithio i fynd i’r afael â’r heriau hyn, a’r heriau sydd eto i ddod.