Ond pa mor agos yw’r Dai yn y ffilm Pride at y gwir Dai? A sut newidiodd ei fywyd ar ôl y streic? Dywed Dai wrthym am ei brofiadau o streic y glowyr yn 1984-85 a gwylio’r ffilm Pride.
“Roeddwn i wastad wedi dioddef o ddiffyg hyder.
Doeddwn i ddim yn dda iawn yn yr ysgol, ond doedd dim ots oherwydd fy mod i’n tyfu i fyny mewn teulu lle roeddwn i’n cael fy ngharu. Cefais fy ngeni i deulu glofaol; roeddwn yn löwr; glo oedd fy mywyd i. Dan ddaear, doedd dim ots nad oeddwn i wedi cyflawni llawer yn academaidd.
Cwrddais â Dr Hywel Francis, a oedd wedi sefydlu Grŵp Cefnogi Glowyr Cymoedd Castell-nedd, Dulais ac Abertawe. Ymunais â’r grŵp a sylweddolais fod fy syniadau ynghylch sut i gynnal y streic yn cael eu rhannu gan Hywel, a oedd yn foi clyfar iawn.
Erbyn diwedd y streic, roeddwn i’n teimlo bod gan fy mywyd gymaint o ystyr ag unrhyw un arall. Roeddwn i’n herio’r farn bod y glowyr i gyd yn hwliganiaid llinell biced, ac roedd hynny’n rhoi hyder i mi.
Roedd yn teimlo’n gwbl normal mynd i Lundain i gwrdd â nhw ac roedd yn amlwg ar unwaith ein bod ar yr un donfedd.
Roedd Mark Ashton yn unigolyn mor ddeinamig – ond roedden nhw i gyd felly. Roeddwn i’n teimlo’n ffodus o fod yn rhan o’r gwaith o ddod â materion hoyw i mewn i gartrefi pobl nad oedden nhw’n hoyw ac i’r gweithle – ac felly ar agenda undebau llafur ac agenda wleidyddol y wlad hon. Dyna beth newidiodd yn sylfaenol.
Felly pan aeth fy nghydweithwyr yn ôl i’r gwaith, es i i’r brifysgol. Astudiais hanes yn Rhydychen. Daeth fy nhraethawd cyntaf yn ôl gyda, “Rwtsh yw hwn” ar draws y top. Roeddwn i’n meddwl - mae dwy ffordd y galli di fynd: rhoi’r gorau iddi, neu ddweud, beth mae’n rhaid i mi ei wneud i wella?
Ar ôl graddio, cefais gyfweliad am swydd gydag ACTT, undeb y cyfryngau ac adloniant (BECTU erbyn hyn – rhan o Prospect). Roeddwn i’n nerfus iawn ar y bws i Lundain. Ond pan gerddais i fyny’r grisiau o orsaf danddaearol Piccadilly, roeddwn i’n teimlo’r hyder newydd hwnnw eto. Roeddwn i’n meddwl, “Dyma dy swydd di i'w cholli. Dos i mewn a dangos iddyn nhw beth wyt ti.” Rydw i’n dal i wneud y gwaith heddiw.
Mae cael galwad gan rywun sy’n poeni am rywbeth yn y gwaith ac, ar ddiwedd yr alwad, yn eu gadael nhw’n teimlo rhyddhad bod rhywun yn mynd i geisio eu helpu – wel, mae hynny’n wych.
Wedi cael eich ysbrydoli gan y stori hon?
Cefais fy nghyffroi’n fawr pan es i weld Pride gyda fy merch a fy meibion.
Dim ond am awr yr oeddwn i wedi cwrdd â Paddy Considine, ac eto dywedodd fy mhlant ei fod wedi fy mhortreadu i’r dim – fy ngonestrwydd, fy niffuantrwydd. Roedd ei bortread yn gwneud i mi deimlo’n wylaidd iawn, ond hefyd roedd gen i ychydig o embaras fy mod i yn cael y fath sylw.
Roedd y gwneuthurwyr ffilmiau yn poeni am yr hyn y bydden ni’n ei feddwl.
Ond roeddwn i’n meddwl bod Pride yn wych. Mae’n portreadu didwylledd pawb a gymerodd ran heb fod yn sentimental. Mae’n cyfleu’r negeseuon pwysig hynny ynghylch undod. Mae’n rhoi dewrder i bobl. Does gen i ddim byd ond balchder yn y ffilm.”