Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar 7 Mai. Ni fydd angen eich cerdyn pleidleisio nac ID arnoch chi.
Pan fyddwch yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio, byddwch yn cael papur pleidleisio. Bydd gofyn i chi roi un groes wrth ymyl enw un blaid, neu ymgeisydd annibynnol.
Os ydych wedi cofrestru am bleidlais drwy’r post ond nad ydych chi wedi anfon eich papur pleidleisio yn ôl mewn pryd, gallwch fynd ag ef i’ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod.
Mae costau byw yn broblem fawr i lawer o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd. Ers degawdau mae pris bwyd, tanwydd a rhent/morgais wedi codi. Ond nid yw ein cyflogau wedi codi ar yr un raddfa.
Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i helpu pobl gyda’u costau bob dydd.
Mae TUC Cymru eisiau i Lywodraeth nesaf Cymru helpu gyda chostau byw drwy fuddsoddi yn y canlynol:
Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau ar addysg, tai, iechyd, trafnidiaeth, yr iaith Gymraeg, ein diwylliant a mwy. Felly mae llawer yn y fantol ar 7 Mai.
Mae TUC eisiau Cymru Unedig, lle bydd ein harweinwyr yn gweithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod gan bawb cyflog teg, tai fforddiadwy a dyfodol disglair i’n plant.
Rydyn ni’n gwybod beth sydd ei angen ar weithwyr mewn cymunedau ledled Cymru, ac ar hynny mae ein gofynion i Lywodraeth nesaf Cymru yn seiliedig:
Darllenwch fwy am yr hyn rydyn ni’n meddwl y mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru ei wneud i adeiladu Cymru sy’n gweithio i bawb.
Os ydych yn cytuno bod Cymru ar ei gorau pan fyddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ymunwch ag ymgyrch Unedig Cymru.
Mae pob pleidlais yn cyfrif yn y system etholiadol newydd. Gallai pwy sy’n cael ei ethol ddod i lawr i lai na chant o bleidleisiau.
Yn y Senedd nesaf, bydd 6 gwahanol Aelod o’r Senedd yn eich cynrychioli, ac mae’n debyg y bydd mwy nag un blaid yn cael ei chynrychioli. Dysgwch beth yw eich etholaeth newydd.
Mae pleidleisio’n rhoi cyfle i chi ddewis y gwleidyddion a fydd yn gwneud penderfyniadau ar eich rhan. Mae’n dal swyddogion etholedig yn atebol am eu gweithredoedd, gan fod eich pleidlais yn penderfynu a ydynt yn aros yn eu swyddi ai peidio.
Os nad ydych chi’n siŵr am bleidleisio, neu os ydych chi’n ceisio perswadio ffrind i bleidleisio, dyma rai pethau i’w hystyried:
Gallwch bleidleisio yn etholiad y Senedd ar 7 Mai os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, yn byw yng Nghymru ac yn 16 oed neu’n hŷn.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad 7 Mai bellach wedi mynd heibio. Ond gallwch gofrestru ar gyfer etholiad nesaf y Senedd o 14 oed ymlaen. Cofrestrwch i bleidleisio heddiw.
Bydd 96 o Aelodau o’r Senedd yn y Senedd nesaf.
Mae aelodau’r Senedd yn cael eu hethol i siarad ar ran eich cymuned a mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar bobl yn lleol.
Pan fyddwch chi’n pleidleisio, rydych chi’n helpu i ddewis pwy fydd yn cynrychioli eich ardal yn y Senedd. Er bod Aelodau o’r Senedd (ASau) yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am bolisïau Cymru gyfan, maen nhw hefyd yn chwarae rhan bwysig ar lefel leol. Gallant fynegi pryderon gan eu hetholwyr a chynnig cymorth lle bo hynny’n bosibl. Gallwch gysylltu â’ch AS i gael arweiniad ar broblemau penodol neu ofyn iddo dynnu sylw at fater yn y Senedd.
Gall Aelodau o’r Senedd helpu gydag amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys tai, prosiectau lleol, a chwynion am wasanaethau cyhoeddus. Mewn rhai achosion, gall eu cyfraniad wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i fywydau pobl.
Mae pleidleisio yn rhoi cyfle i chi ddal eich cynrychiolwyr etholedig yn atebol am y gwaith maen nhw’n ei wneud.