Fel undeb rydym yn poeni am effaith y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial - DA - ar y sector creadigol yn gyffredinnol, yn ogystal â'n haelodau ni yn benodol.
Dydi hyn ddim yn rhywbeth fydd yn digwydd yn y dyfodol – mae'n digwydd rwan. Mae'n wir i ddweud bod gweithwyr creadigol yn y cyfryngau - gohebu, perfformio, cerddoriaeth ac ysgrifennu ac ati - ac yn cael eu heffeithio yn barod, gan dwf sydyn a direol DA.
Mae datblygwyr DA wedi bod yn hyfforddi eu peiriannau iaith drwy grafu neu gloddio data o'r we - yn ddiarwybod i'r crewr gwreiddiol ac heb eu caniatâd gan sathru ar reolau hawlfraint. At hynny dydi’r cynnyrch “newydd” ddim yn nodi ble mae DA wedi cael ei ddefnyddio
Mae hyn oll yn cael effaith andwyol ar awduron:
• mae yna bosibilrwydd y bydd y defnydd o DA yn golygu llai o waith i awduron, yn cael effaith ar eu tâl a ffioedd,
• glastwreiddio cyfraniad y diwydiant creadigol i economi a hunaniaeth cenedlaethol y wlad.
Yn ôl adroddiad TUC Cymru mae defnydd heb hawl o waith cerddorion ac actorion eisoes wedi creu sefyllfa lle mae eu gwaith a’u doniau wedi cael eu dwyn, i bob pwrpas - ac yn aml, yn ddiarwybod iddyn nhw.
Er enghraifft, mae llais actor yn cael ei ddefnyddio i ddarllen llyfr llafar yn hollol ddiarwybod iddo. Ac mae achos deep fake Taylor Swift nôl ym mis Ionawr eleni yn tanlinellu un o'r pwyntiau eraill yn yr adroddiad am allu DA i greu delweddau credadwy o ddigwyddiadau sydd heb ddigwydd a thrwy hynny andwyo'r unigolion dan sylw. A hefyd hygrededd ffynonellau newyddion
O safbwynt awduron, ar hyn o bryd dydi Undeb yr Ysgrifenwyr ddim yn teimlo bod DA yn agos at allu cymryd lle, yn gyfan gwbwl, dyfeisgarwch, egni, deallusrwydd, empathi a chreadigrwydd unigryw y bod dynol sy'n awdur proffesiynol - hyd yma.
Darllenwch ganllaw’r TUC i gynrychiolwyr ar DA cynhyrchiol yn y gweithle
Mae yna achos arbennig i bryderu yng Nghymru am gyfieithu ac effaith algorithmau cyfieithu ar ein cyfleoedd i weithio ac ar ein diwylliant a'n hiaith hefyd.
“Yn barod, mae yna dystiolaeth bod rhai cynhyrchwyr cyfresi teledu back-to-back Saesneg/Cymraeg wedi bod yn anwybyddu'r cytundebau cyfieithu undebol ac yn trosi sgriptiau ‘yn fewnol’, weithiau yn frysiog, ac i safonau ansicr (mater ry'n ni ar hyn o bryd yn ymgyrchu amdano).
Mae hyn yn hynod o sarhaus ac yn golygu yn aml bod y fersiwn Gymraeg yn lletchwith ac yn dlawd yn ieithyddol ar y sgrin.
Er mwyn sicrhau dyfodol gwell yn sgil DA rydym fel undeb yn ymgyrchu o blaid y newidiadau yma:
• Rhaid rheoleiddio datblygwyr DA, a chyflwyno'r mesurau tryloywder, taliadau i’r awduron gwreiddiol, a labelu cynnyrch DA yn glir.
• Rhaid sefydlu corff rheoleiddio newydd DA. Ar hyn o bryd mae'r sefyllfa cyfreithiol eang yn dipyn o glytwaith felly mae'n dipyn o Wild West a dim rheolaeth ddigon clir i gwmnïau i fod yn dryloyw am yr hyn maen nhw wedi defnyddio.
• Rhaid hefyd cynnal a chryfhau amddiffyniadau hawlfraint. Mae angen i'r Llywodraeth helpu i sicrhau bod gan ddatblygwyr ddealltwriaeth o gyfraith hawlfraint
Dan ni hefyd yn gofyn am "Right to Human Review" h.y. os ydi DA yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau - e.e. efo budd-daliadau a threth ac ati - sydd yn hynod o bwysig i weithwyr llawrydd - dylid bod yna system hawdd a hawliau apel gyda rhywun cig-a-gwaed yn goruchwylio. Dylai bod yr unigolyn yn gallu cael gwybod os ydi penderfyniad wedi cael ei wneud gan DA ai peidio.
Darllenwch mwy am ofynion Undeb yr Ysgrifenwyr o ran Deallusrwydd Artiffisial