Yn ystod y 50 mlynedd ganlynol, cafwyd llawer o frwydrau dros gymdeithas fwy cyfartal ac mae’n rhaid cyfaddef nad yw pob brwydr wedi’i hennill....Mae anghydraddoldeb, ableddiaeth, hiliaeth a chasineb tuag at bobl LHDTC+ yn parhau i fod yn llawer rhy gyffredin yn ein cymunedau a’n cymdeithas ac mewn rhai lleoedd mae’n endemig ac yn sefydliadol.
Fodd bynnag, mae llawer o ddatblygiadau i’w nodi, gyda llawer ohonynt wedi’u cyflawni yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol oherwydd undebau llafur a’n haelodau sydd wedi brwydro’n ddiflino dros gymdeithas sy’n fwy cyfartal, teg a gwell. Dros y 50 mlynedd ddiwethaf, mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb wedi bod yn ddiysgog ac mae undebau llafur yng Nghymru bob amser wedi bod yn llais blaengar dros newid.
Pam ei bod mor bwysig bod undebau llafur yn ymrwymedig i gyfiawnder cymdeithasol?
Wel, i ddechrau mae’n rhan allweddol o bwy ydym ni. Mae rhai pobl yn ystyried aelodaeth gydag undeb lafur fel dim mwy na help os byddwch yn profi anawsterau yn y gwaith. Ond rydym yn llawer mwy na hynny.
Rydym yn grŵp trefnus, yn gasgliad o bobl sy’n rhannu gwerthoedd cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant. Yn ogystal â brwydro dros degwch yn y gwaith, rydym yn brwydro ar draws cymdeithas yn gyffredinol.
Mae’n anodd mesur yr effaith mae undebau llafur wedi’i chael ar gyfiawnder cymdeithasol a materion cydraddoldeb yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.
Menopos – mater i undebau llafur?
Un o’r ymgyrchoedd mwyaf yr wyf wedi gweithio arno yn ystod fy negawd yn gweithio yn TUC Cymru yw’r ymgyrch menopos.
Yn 2016 pasiodd Cyngres TUC Cymru ei phenderfyniad cyntaf ar y menopos. Nid oedd yn gynnig arbennig o boblogaidd. Yn wir, pan gafodd ei drafod gyntaf gadawodd llawer o undebwyr llafur gwrywaidd yr ystafell, gan gredu nad oedd yn drafodaeth iddyn nhw.
Roedd y cynnig yn ceisio amlygu rôl undebau llafur yn herio agweddau at y menopos. Roedd hyn yn cynnwys ymgyrchu mewn gweithleoedd ac ym maes gofal iechyd, gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill, codi’r mater hwn gyda chyflogwyr a sicrhau bod canllawiau dwyieithog ar gael yn eang. Yn ffodus, cafodd ei basio’n unfrydol.
Fodd bynnag, yn 2016 ychydig iawn o waith a wnaed ar y menopos, a llai fyth ar fater penodol y menopos yn y gweithle. Fel pwnc, nid oedd yn cael ei drafod yn agored a byddai gwybodaeth fel arfer yn cael ei throsglwyddo o fam i ferch, os o gwbl.
Ymchwil yn arwain at newid gwirioneddol
Dechreuodd TUC Cymru gynnal arolwg a ddatblygodd i fod y set data fwyaf ar y menopos yn y DU ar y pryd. Fe wnaethom gynnal grwpiau ffocws gyda menywod Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, grwpiau LHDTC+, menywod anabl a meddygon ymgynghorol menopos.
Roedd y wybodaeth hon, ynghyd ag ymchwil gan WEN Cymru a’r Comisiynydd Pobl Hŷn, yn dangos i ni faint o waith yr oedd angen ei wneud yn y maes hwn. Ni wnaethom osgoi’r her honno.
Fe wnaethom gyhoeddi pecyn cymorth ar y menopos ac hyfforddiant arlein i helpu gweithwyr a chynrychiolwyr i ddeall mwy am y menopos.
Fe wnaethom weithio gydag undebau a phleidiau gwleidyddol, llywodraeth, Senedd y Deyrnas Unedig i ymgyrchu dros newidiadau ehangach. Fe wnaethom lwyddo i sicrhau bod polisi menopos yn cael ei fabwysiadu ar draws y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, sy’n cwmpasu miloedd o bobl. Buom yn gweithio’n agos hefyd gyda chyflogwyr i wneud newidiadau mewn partneriaethau â’u Hundebau Llafur.
Rhoi’r menopos ar y map
Nawr, i'r rhai sy'n profi'r menopos mae urddas yn y broses. Gellir negodi addasiadau rhesymol, mae cyflogwyr yn ymwybodol o effaith tymheredd, golau a ffibrau naturiol mewn gwisgoedd. Gellir trafod patrymau gwaith hyblyg ac mae grwpiau menopos sy'n caniatáu i bobl ddysgu, rhannu a derbyn eu profiadau unigol fel grŵp.
Ni wnaed hyn heb waith caled, a sgyrsiau anodd ar adegau. Fel swyddog undeb, rwyf wedi cynnal llawer o sesiynau hyfforddiant i gynrychiolwyr undeb ar hyn. Weithiau, o ystyried pa mor ryweddol oedd gweithleoedd penodol, mae wedi bod yn ddynion i gyd. Dynion sydd wedi edrych fel pe byddai’n well ganddynt fod unrhyw le arall. Mae’r hyfforddiant wedi dechrau gyda swildod ac anesmwythdra ynglŷn â thrafodaethau am y menopos ac, yn ddieithriad, erbyn diwedd y trafodaethau roedd y dynion yn gynghreiriaid mawr – yn cynllunio cynigion ar gyfer cynadleddau, yn cefnogi ac yn eiriol dros fenywod sy’n profi’r menopos yn y gweithle a’i gyflwyno mewn trafodaethau bargeinio.
Dyma un o'n hymgyrchoedd - un a ddechreuodd chwyldro menopos a newid bywydau llawer o weithwyr yn y pen draw. Ond mae’n ymgyrch a grëwyd gan weithredwyr undebau llafur fel fi a chi.
Ein hymgyrchoedd dros newid yw’r hyn sydd wedi datblygu’r mudiad hwn, ac mae ein cyfraniadau yn bwysig. Wrth i TUC Cymru ddechrau ar ei ail hanner canrif, rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae byd gwaith, cymdeithas a chyfiawnder cymdeithasol wedi’u siapio eto gan undebwyr llafur.