Anghydraddoldebau Deallusrwydd Artiffisial: Ieithoedd Lleiafrifol

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru yn pryderu am y peryglon sy'n gwynebu pob gweithiwr yn sgil twf Ddeallusrwydd Artiffisial (AI). Roeddem eisiau gwybod mwy am y peryglon y mae'n eu peri i grwpiau penodol o weithwyr. Felly, gofynom i'r Athro Lina Dencik o'r Data Justice Lab i gynhyrchu’r adroddiad Anghydraddoldebau AI yn y Gweithle. Yn y fan hon, mae'n ysgrifennu am effaith AI ar weithwyr sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol

Mae effaith Deallusrwydd Artiffisial ar siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn y gweithle wedi ennyn ychydig o sylw gan ymchwilwyr. Mae ymchwil ar sut y gall Deallusrwydd Artiffisial beryglu ieithoedd lleiafrifol drwy hybu twf ieithoedd mawr fel Saesneg ar lefel rhyngwladol, yn awgrymu bod siaradwyr ieithoedd lleiafrifol mewn perygl o gael eu hymyleiddio a’u heithrio o ganlyniad i dwf Deallusrwydd Artiffisial yn y gweithle. Er bod datblygiadau technolegol yn cael eu gwneud er mwyn creu offer Deallusrwydd Artiffisial a fydd yn cefnogi a chryfhau ieithoedd lleiafrifol, mae goruchafiaeth y systemau caeedig sydd wedi eu creu ar gyfer yr ieithoedd mwyafrifol yn rhwystr sylweddol i gadwraeth ieithoedd lleiafrifol. 

Un o’r prif heriau o ran defnyddio Deallusrwydd Artiffisial at ddiben cadwraeth ieithoedd lleiafrifol, yw'r nifer cyfyngedig o adnoddau sydd ar gael i hyfforddi'r modelau Deallusrwydd Artiffisial.  Mae hyn yn golygu bod angen creu cronfeydd data sy’n ddigon sylweddol ac amrywiol i hyfforddi modelau iaith. Dylai’r modelau iaith allu cael eu hyfforddi i safon uchel fel bod modd iddynt gyflawni tasgau yn y byd-go-iawn. Ond, mae goblygiadau ariannol ynghlwm wrth gynlluniau o'r fath, ac mae cwestiynau yn codi ynglŷn â chywirdeb, sy’n golygu bod siaradwyr ieithoedd lleiafrifol mewn mwy o berygl o gael eu hymyleiddio a’u heithrio.

Enghraifft amlwg o’r cyfyngiadau hyn yw’r ffordd y mae mwy a mwy o weithleoedd yn dibynnu ar adnoddau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol fel ChatGPT. Yr awgrym a geir gan ymchwilwyr yw y byddai hyfforddi ChatGPT mewn iaith ar wahân i’r Saesneg yn gallu bod yn anymarferol oherwydd y gwaith a’r amser fyddai’n ei gymryd. Mae’r asesiadau cyfredol yn dangos bod ChatGPT yn perfformio’n waeth ym mhob tasg nad yw’n ei chyflawni’n Saesneg. Mae’r ffordd y mae ChatGPT wedi ei fabwysiadu mewn amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd yn codi cwestiynau o ran a fyddai hi’n bosib i ieithoedd eraill ddefnyddio ChatGPT yn effeithiol, neu a oes angen datblygu technolegau penodol ar gyfer ieithoedd penodol. Dyma ganfyddiad pwysig a fydd yn cynorthwyo’r llywodraeth i greu mwy o bartneriaethau gyda sgwrsfotiaid Deallusrwydd Artiffisial, fel y bartneriaeth ddiweddar gyda OpenAI yng Nghymru. Yn yr un modd, mae’r ymchwil a wnaethpwyd yn y gorffennol ar y rhaglenni cyfrifiadurol Cymraeg sydd ar gael yn awgrymu bod marchnad gadarn yn bodoli ar gyfer rhaglenni cyfrifiadurol Cymraeg, a gallai'r farchnad honno ymestyn i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae prosiectau sylweddol ar waith yng Nghymru a’r Alban i wella’r ffordd y mae systemau cyfrifiadurol yn gweithio mewn ieithoedd lleiafrifol fel Cymraeg a Gaeleg, ac mae cyllid hefyd wedi ei roi i ymchwilio i greu modelau iaith ar gyfer siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.  

Mae’r ymchwil yn dangos bod angen i'r technolegau sydd wedi eu creu ar gyfer ieithoedd lleiafrifol fod yn hawdd cael gafael arnynt os ydynt am lwyddo. Mae hyn yn cynnwys creu adnoddau addysgiadol a fydd yn cynorthwyo siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu offer o fewn eu cyd-destunau penodol nhw. Er mwyn gwneud hyn bydd angen cyfuno amgylchedd ddysgu sy’n ystyriol o ddiwylliant a chefnogi siaradwyr ieithoedd lleiafrifol, er mwyn iddynt allu defnyddio’r rhaglenni hyn i gael gafael ar gyfleoedd nad oedd ar gael iddynt yn y gorffennol.  Un o’r prif bryderon a godwyd gan ymchwilwyr yw natur gaeedig y modelau Deallusrwydd Artiffisial a ddefnyddir yn y gweithle. Maent yn cyfyngu ar ein gallu i addasu ac integreiddio'r adnoddau i amrywiaeth o osodiadau, yn enwedig ar gyfer grwpiau lleiafrifol fel siaradwyr ieithoedd lleiafrifol.  

Yn sgil y materion sy’n ymwneud â diffyg data i hyfforddi modelau Deallusrwydd Artiffisial i weithredu mewn ieithoedd eraill, mae ymdrechion yn cael eu gwneud i greu seilweithiau ieithyddol technolegol a fydd yn gallu cefnogi datblygiad modelau Deallusrwydd Artiffisial mewn ieithoedd lleiafrifol. Mae’r ieithoedd lleiafrifol hyn yn cynnwys y Gymraeg, lle mae pwyslais wedi ei roi ar greu adnoddau addysgiadol ac offer cyfieithu a fydd yn cefnogi siaradwyr Cymraeg ym mhob sector.  Serch hyn, mae rhai yn credu bod angen gwneud mwy er mwyn datblygu ‘cyfiawnder ieithyddol’ yng nghyd-destun Deallusrwydd Artiffisial, er mwyn galluogi siaradwyr ieithoedd lleiafrifol i gymryd rhan fwy gweithredol wrth i dechnolegau newydd gael eu dylunio a’u defnyddio, yn ogystal â'r buddsoddiad yn y seilweithiau ieithyddol.  Mae hon yn her sy’n ein hwynebu os ydym ni am i ieithoedd lleiafrifol ddatblygu gyda’r oes, sef oes Deallusrwydd Artiffisial. Mae’r ffaith bod y technolegau hyn wedi eu mabwysiadu ac yn chwarae rhan ganolog yn ein bywydau cyhoeddus a’n bywyd gwaith yn golygu ei bod hi’n fwy byth o her. Mae’r twf yn nefnydd y gweithleoedd o raglenni Deallusrwydd Artiffisial fel ChatGPT yn bygwth creu mwy o rwystrau ieithyddol, a sefyllfaoedd ble caiff siaradwyr Cymraeg eu heithrio. Mae pa mor gyflym y mae’r technolegau hyn yn cael eu datblygu a’u mabwysiadu yn ychwanegu at y pryder hwn.

Mae TUC Cymru yn ymgyrchu dros amddiffyn pob gweithiwr rhag peryglon AI.  Os ydych chi'n weithiwr sy'n siarad Cymraeg, neu iaith lleiafrifol arall ac yn poeni am y materion hyn, mynnwch eu trafod yn eich cangen undeb llafur.  Mae TUC Cymru wedi llwyddo i gyflwyno canllawiau ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus.  Defnyddiwch nhw a'u haddaswch ar gyfer eich gweithle.    

Mae'r TUC yn gofyn am deddf newydd i warchod gweithwyr rhag bygythiadau AI ac wedi cynhyrchu ystod o ddeunyddiau i gynorthwyo cynrychiolwyr a swyddogion.

Mae’r adroddiad Anghydraddoldebau AI yn y Gweithle ar gael ar wefan y Data Justice Lab.