Taith Pontio Teg TUC Cymru i'r Almaen 2024

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Yr haf hwn, trafaelwyd 5 o weithredwyr undebau llafur ifanc o Gymru i'r Almaen i ddysgu am sut maent yn ysgogi gweithwyr ifanc ynghylch y pwnc Pontio Teg. Yma mae Ryan, Hazel a Tomos yn dweud wrthym am eu profiadau.

Trefnwyd yr ymweliad gan TUC Cymru mewn partneriaeth â FES, felin drafod Almaenig sy'n arbenigo mewn gwaith sy'n ymwneud â democratiaeth gymdeithasol. Mae FES yn ymfalchïo mewn gweithio ar dueddiadau mawr y cyfnod, gan fynd i'r afael â heriau heddiw ym myd addysg, rhwydweithio a llunio cymdeithas gyfiawn a chadarn y dyfodol.

Yn ystod y daith, bu’r cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai dan arweiniad DGB Jugend NRW (sy’n cyfateb i’r TUC yn yr Almaen), am strwythurau undebau yr Almaen a’u hinsawdd wleidyddol. Buont hefyd yn darparu hyfforddiant ynghylch rôl Cynghorau Gwaith yr Almaen a sut mae hyn yn dylanwadu ar roi'r gorau i danwydd ffosil yn raddol. A sut yr oedd undebau llafur yr Almaen yn llywio'r newidiadau strwythurol hyn. 

taith Pontio Teg i Dusseldorf

Yn ystod y daith, ymunodd dirprwyaeth ieuenctid o Awstria â'r cyfranogwyr a oedd yn gweithio ar frwydro yn erbyn y dde eithafol. I lawer o’r cynrychiolwyr o Gymru, roedd cydnabyddiaeth bod hwn yn faes gwaith allweddol y dylem fynd i'r afael ag ef yn ôl adref yng Nghymru.

Dyma'r hyn oedd gan rai o’r cyfranogwyr i’w ddweud am eu profiad:

Gofyn cwestiynau fyddwn i byth yn cael cyfle i’w gofyn fel arfer

“Roedd gyda’r TUC yn brofiad bendigedig, ac rwy’n ddiolchgar fy mod wedi cyfarfod â chynifer o bobl anhygoel o’r Almaen, Awstria a’r DU. Teimlaf fy mod wedi dod yn ôl gyda llawer o wybodaeth yr wyf yn benderfynol o'i datblygu yn fy ngweithle fy hun a'r mudiad undebau llafur.

Roedd ymweld â'r Tagebau Hambach yn agoriad llygad, ac roedd siarad â'r gweithwyr yn werthfawr iawn i mi. Roedd clywed sut roedden nhw’n poeni am eu dyfodol a sut mae’r undebau llafur yn gweithio i’w hamddiffyn yn ysbrydoledig. Roedd y gwaith dur yn hynod ddiddorol, ac roedd yn wych cael cipolwg ar ddiwydiant nad oeddwn i erioed wedi bod ynddo o’r blaen.

Yr ymweliad â senedd y wladwriaeth oedd fy hoff ran o’r daith. Roedd siarad ag AS am y gwahaniaethau rhwng llywodraeth yr Almaen a llywodraeth y DU yn addysgiadol a rhoddodd gyfle i mi ofyn cwestiynau na fyddwn i byth yn cael cyfle i’w gofyn fel arfer.

Yn olaf, roedd y sesiwn gyda'r Almaenwyr a'r Awstriaid ifanc yn ddiddorol iawn. Buom yn trafod y gwahaniaethau yn y ffordd y mae’r Almaen ac Awstria yn derbyn eu gorffennol ac yn addo gwneud yn well yn y dyfodol, o gymharu â diwylliant coffa yn y DU. Roedd y trafodaethau'n dreiddgar, a gwnes i gysylltiadau gwych.

Ar y cyfan, roedd y daith yn brofiad arbennig. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych ac wedi dychwelyd i'r DU gyda chyfoeth o wybodaeth. Mae'r mathau hyn o gyfnewidiadau mor bwysig i'n mudiad, a byddwn yn argymell pawb i wneud cais os gallant. Ac roedd cael y cyfle i weld yr Almaen yn sgorio gôl yn yr Ewros a theimlo'r awyrgylch wrth i bawb ddathlu yn anhygoel!” - Hazel Gambles, Unite the Union

Dysgu sut i beidio ag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol

Dysgu sut i beidio ag ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol

“Yng nghyd-destun Cymru rydym yn wynebu heriau ychwanegol ac amgylchiadau gwahanol [i’r hyn a gwelais yn yr Almaen]. Felly gan fod llawer o’n diwydiant ar gau am resymau ariannol, mae sicrhau bod yr hyn sydd gennym o ddiwydiant yn cael ei symud i ddulliau cynhyrchu mwy ecogyfeillgar yn hanfodol. Ond mae hefyd yr un mor hanfodol sicrhau bod y rhai sy'n gweithio mewn diwydiannau yr effeithir arnynt yn gallu trosglwyddo i gyflogaeth newydd.

Boed hynny gyda'u setiau sgiliau presennol, neu gyda sgiliau newydd a enillir drwy ailhyfforddi.

Pan drafodasom y pwnc o gynnydd y dde eithafol, gallwn weld y cysylltiadau clir rhwng eithafiaeth wleidyddol a diffyg cyfleoedd economaidd, sefyllfa a allai godi’n hawdd wrth inni gau diwydiannau i drosglwyddo i economi wyrddach. Yn yr un modd ag yn yr Almaen yn y 1920au a’r 1930au, gallwn weld pan fydd llawer iawn o’r gweithlu’n cael eu diswyddo, y gall y canlyniadau fod yn drychinebus, felly mae’n hollbwysig sicrhau nad ydym yn caniatáu i’r un amgylchiadau ddigwydd eto…

…Fel y profodd llawer o gymunedau ledled Cymru pan gaewyd y pyllau glo, ac fel y mae Port Talbot yn ei brofi ar hyn o bryd, rhaid inni hefyd ganolbwyntio ar y cymunedau sydd wedi'u hadeiladu o amgylch y diwydiannau yr effeithir arnynt. Pa un a ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â diwydiant perthnasol, y cadwyni cyflenwi ar gyfer y diwydiannau hynny, neu'n gwasanaethu gweithlu’r meysydd hynny. Rhaid inni beidio â chaniatáu i drefi, pentrefi a dinasoedd golli allan ar gyfle economaidd a dod yn dlotach, pan ellid bod wedi osgoi’r tyngedau hyn gyda chynllunio a pholisi priodol...” - Ryan Hopkins, Unison Cymru

Mae’r profiad wedi cryfhau fy undeb

“Hoffwn ddiolch i’r undeb DGB am ein cynnal ar y daith hon, popeth a welsom, y siaradom amdano a’i ddysgu a byddaf yn mynd â hyn ymlaen gyda mi drwy weddill fel fy mywyd. Hoffwn hefyd ddiolch i’r TUC/Undeb Community am drefnu’r daith a’n helpu gyda phopeth oedd ei angen arnom…

…Roedd yr ail ddiwrnod yn brofiad gwych Yn gyntaf fe aethon ni i'r pwll glo agored mwyaf yn Ewrop a chael gweld sut mae'r safle'n gweithio. Yna buom yn siarad am ddyfodol y safle ac er fy mod wedi fy siomi i glywed bod y safle’n cau roeddwn yn falch o glywed am yr help y maent yn ei gael i adnewyddu swyddi a chreu llyn i beidio â gadael i’r holl waith caled hwnnw fynd yn wastraff. Roedd yn drawiadol clywed pan wnaethon nhw gau pwll glo cyfagos gan roi 80,000 o swyddi mewn perygl, gyda chymorth yr undebau/gwladwriaeth nid aeth un person heb waith.   Mae hyn yn rhoi gobaith i mi ar gyfer y wlad hon a’r cyflwr y mae gwaith dur Port Talbot ynddo ar hyn o bryd.

Aethon ni wedyn i waith dur ThyssenKrupp sef y gwaith dur mwyaf yn Ewrop ac roedd yn agoriad llygad i mi fel rhywun sy'n dod o waith dur fy hun. Buom yn siarad am ddyfodol y diwydiant dur yn yr Almaen gan fod y fenter werdd wedi eu gorfodi i ymchwilio i weithdrefnau dur mwy ecogyfeillgar. Mae hyn eto’n rhoi gobaith i mi gan fod [gwaith dur] Port Talbot yn mynd drwy’r un sefyllfa ar hyn o bryd ac roedd gweld ThyssenKrupp yn arddangos y cynllunio mor dda mae’n ymddangos yn gyraeddadwy i ni wneud yr un peth…

…Bydd y profiad a gefais o'r daith gyfnewid hon yn fy helpu i wella fy undeb/gweithle fy hun a gobeithio yn y dyfodol y wlad hon. Mae'r hyn oedd yn ein gwahanu ar un adeg wedi diflannu a theimlaf fod y daith hon wedi fy ngwneud i ac yn ei thro fy undeb yn gryfach ac yn fwy gwybodus. Byddaf yn cymryd yr hyn yr wyf wedi ei ddysgu ac yn mynd ymlaen i ddysgu eraill yr hyn a ddangoswyd i mi…” -  Tomos Flood, Undeb Community

Camau nesaf i weithwyr ifanc yng Nghymru

Camau nesaf i weithwyr ifanc yng Nghymru

Mae’r rhai a fynychodd y daith i’r Almaen bellach yn gweithio gyda TUC Cymru ar sut y gall y profiadau hyn ddylanwadu ar ymgyrchoedd a gwaith polisi. Byddent hefyd yn gweithio gyda’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc ar ddarparu hyfforddiant ar faterion gwyrdd yn y gwaith, a brwydro yn erbyn y dde eithafol yng Nghymru.