Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn brysur i undebwyr llafur yng Nghymru.
Diolch i'r holl gynrychiolwyr, gweithredwyr a swyddogion undeb sydd wedi trefnu a sefyll dros fuddiannau gweithwyr. Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn mynd o nerth i nerth, gan gefnogi miloedd o weithwyr i uwchsgilio yn y gwaith drwy ddysgu dan arweiniad gweithwyr.
A diolch yn fawr iawn i’r holl diwtoriaid undebau llafur sy'n addysgu'r genhedlaeth nesaf o gynrychiolwyr.
Mae ein mudiad yn sefyll mewn undod gyda gweithwyr sy’n gweithredu’n ddiwydiannol - gan gynnwys y rhai sy'n streicio yn Oscar Mayer yn erbyn diswyddo ac ail-logi a gweithwyr yn Opera Cenedlaethol Cymru sy’n gweithredu dros swyddi a chyflogau.
Ac mae’r miloedd o weithwyr ym Mhort Talbot a'r gymuned ehangach sy'n wynebu dyfodol ansicr iawn hefyd yn ein meddyliau. Fel mudiad, byddwn ni’n parhau i sefyll dros eich buddiannau a buddsoddiad teg yn nyfodol un o gadarnleoedd diwydiannol Cymru.
Bellach mae gennym ni ddwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol Cymru, gan gynnwys buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, diolch i’r setliad mwyaf erioed i Gymru yng Nghyllideb Llywodraeth y DU.
Wrth edrych ymlaen yn 2025, disgwylir i'r Bil Hawliau Cyflogaeth ddod yn gyfraith, a byddwn ni’n ehangu ein hyfforddiant ar fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gan ganolbwyntio ar effaith AI ar weithwyr a'r argyfwng hinsawdd.
Yn 2025, gallech chi ein helpu i dyfu'r mudiad trwy gael ffrind i ymuno ag undeb yn ystod Wythnos CaruUndebau, neu drwy fynychu ein cynadleddau Trefnwch Nawr ym mis Mawrth.
Gallwch gofrestru i hyfforddi fel cynrychiolydd ar un o'n cyrsiau wyneb yn wyneb neu ar-lein. Rydyn ni’n cynnig popeth o gyrsiau traddodiadol fel sut i ddod yn gynrychiolydd iechyd a diogelwch, i gyrsiau newydd fel trafod trawsnewidiad cyfiawn.
Neu ymunwch ag un o'n rhaglenni Datblygu Gweithredwyr ar gyfer menywod, gweithwyr ifanc a gweithwyr Du i ddysgu sut i ddefnyddio eich doniau a'ch angerdd o fewn y mudiad undebau llafur. Yn olaf, ai 2025 fydd y flwyddyn y byddwch chi’n helpu i wneud eich gweithle yn lle gwell i fod? Cymerwch olwg ar ein hadnoddau ymgyrchu gan gynnwys adnoddau ar greu gweithleoedd gwrth-hiliaeth a mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith.