Er mwyn cadw ein tiwtoriaid a’n myfyrwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig Coronafeirws, rydyn ni wedi penderfynu gohirio cyrsiau mewn dosbarthiadau am gyfnod. Bydd ein rhaglen wyneb yn wyneb sy’n cael ei chyflwyno gan Addysg Oedolion Cymru a Choleg Gwent yn dechrau’n ôl cyn gynted â phosibl.
Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod bod angen hyfforddiant a chymorth ar ein cynrychiolwyr fwy nag erioed yn ystod y cyfnodau anodd hyn. Felly, mae gwasanaeth addysg TUC wedi datblygu rhaglen ar-lein i gynrychiolwyr am y tro cyntaf.
Gallwch ddewis cyrsiau hir neu ein rhaglen blas ar ddysgu sy’n cynnwys eNodiadau. Gyda mynediad 24/7, dysgwch ar eich cyflymder eich hun, lle bynnag a phryd bynnag sy’n gyfleus i chi – mae’r cyrsiau hyn yn gweithio’r un mor dda ar eich ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dewis cwrs isod a dechrau arni.
Oherwydd effaith Covid-19 bydd y cyrsiau isod yn cael eu darparu ar-lein gan ein tiwtoriaid achrededig.
Enw'r cwrs | Darparwr | Dyddiad cychwyn | Patrwm | Cysylltwch â |
---|---|---|---|---|
Cynrychiolwyr undebau – rhan 1 | Addysg Oedolion Cymru | 11 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
Coleg Gwent | 13 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
07527 450276 |
|
Cynrychiolwyr undebau – rhan 2 | Coleg Gwent | 11 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru | 14 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
|
Cynrychiolwyr iechyd a diogelwch – rhan 1 | Coleg Gwent | 14 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru | 19 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
|
Cynrychiolwyr iechyd a diogelwch – rhan 2 | Coleg Gwent | 12 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
07527 450276 |
Addysg Oedolion Cymru | 15 Ionawr 2021 | 10 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
|
Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl | Addysg Oedolion Cymru | 20 Ionawr 2021 | 2 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
Addysg Oedolion Cymru | 17 Chwefror 2021 | 2 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
|
Addysg Oedolion Cymru | 24 Mawrth 2021 | 2 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
|
Cynrychiolwyr dysgu undebau – rhan 1 | Coleg Gwent | 3 Chwefror 2021 | 4 diwrnod |
07527 450276 |
Diswyddiadau – Covid-19 a'r gyfraith | Addysg Oedolion Cymru | 24 Chwefror 2021 | 2 diwrnod |
terry.bishop@adultlearning.wales 07943 591083 |
Cynrychiolwyr amgylcheddol/gwyrdd | Coleg Gwent | 25 Chwefror 2021 | 3 diwrnod |
07527 450276 |
Cliciwch ar enw'r cwrs isod ar gyfer mwy o wybodaeth am beth fyddech yn dysgu os ydych chi'n ymuno â'r cwrs.
Os ydych chi’n gynrychiolydd undeb newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu
Byddwch yn deall y rôl a’i chyfrifoldebau. Mae’r rhain yn cynnwys cydweithio ag aelodau a chynrychiolwyr undebau eraill, siarad ag aelodau a delio â’u problemau, recriwtio aelodau a’u helpu i gymryd rhan yn yr undeb, cwrdd â rheolwyr i drafod amrywiaeth o faterion yn y gwaith, a gwneud yn siŵr bod aelodau’n cael y wybodaeth ddiweddaraf.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Cynrychiolwyr Undebau – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gamu ymlaen yn eich rôl undeb llafur. Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
Yr amddiffyniad gorau yn y gweithle yw undebau llafur trefnus, ond mae deall beth yw ein hawliau a sut mae gwneud y defnydd gorau ohonynt yn hanfodol i’ch rôl. Byddwch yn dysgu am y canlynol:
Os ydych chi’n gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol. Byddwch yn dysgu:
Byddwch yn edrych ar y gyfraith iechyd a diogelwch, ar archwiliadau diogelwch, ar asesiadau risg ac ar fesurau ataliol. Bydd y cwrs hwn yn dysgu hanfodion iechyd a diogelwch i chi ac yn eich cyflenwi â’r sgiliau, y wybodaeth a’r hyder i gyflawni eich rôl yn effeithiol.
Os ydych chi wedi cwblhau ‘Iechyd a Diogelwch – Rhan 1’, neu’r hyn sydd gyfwerth yn eich undeb, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddelio â’r materion pwysicach hynny. Bydd y cwrs yn ymdrin â’r canlynol
Er ein bod yn ceisio sicrhau gweithleoedd mwy diogel i’n haelodau, rhaid i ni gydnabod hefyd yr angen am gydraddoldeb ac amrywiaeth. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn edrych ar faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb fel:
Mae iechyd meddwl yn y gweithle yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae’r cwrs hwn yn trafod pam ei fod yn bwysig a sut gall cynrychiolwyr ddelio â phroblemau iechyd meddwl.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer cynrychiolwyr sydd eisiau gwella eu hymwybyddiaeth o sut gall y gweithle effeithio ar iechyd meddwl ac sydd am wella polisïau ar gyfer eu haelodau.
Bydd y cwrs yn helpu cynrychiolwyr i wneud y canlynol:
Os ydych yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau newydd, mae’r cwrs hwn yn hanfodol.
Bydd yn eich cyflenwi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i fod yn Gynrychiolydd Dysgu Undebau effeithiol. Mae llawer mwy i rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau na dim ond trefnu cyrsiau yn eich gweithle. Mae’n golygu gweithio yn eich cangen, gyda’ch cyflogwyr, darparwyr a chyllidwr i ehangu mynediad i ddysgu a sicrhau cyfle cyfartal yn eich gweithle.
Bydd y cwrs yn dysgu’r canlynol i chi:
Bydd y cwrs hwn yn edrych ar hawliau’r gyfraith cyflogaeth ar ddiswyddiadau a pholisïau yn ymwneud â Covid-19.
Bydd newidiadau yn effeithio ar weithwyr ar draws pob sector a byddan nhw’n rhan o’r ymdrech i ddatgarboneiddio a symud Cymru tuag at economi gylchol, fwy cynaliadwy a diwastraff. Ac mae gan aelodau undebau llafur yr wybodaeth a’r syniadau i helpu i ddarparu’r newidiadau sydd eu hangen.
Mae gan weithwyr lawer iawn o wybodaeth a all helpu sefydliadau sy’n ceisio lleihau eu heffaith amgylcheddol. Yn aml iawn, y gweithwyr ar lawr gwlad sy’n fwyaf tebygol o ddeall sut mae gwneud hyn yn effeithiol. Mae’n bosib i undebau llafur chwarae rôl allweddol o ran nodi a darparu’r arferion amgylcheddol gorau mewn gweithleoedd.
Gall undebau sicrhau bod ymdrechion i leihau effaith amgylcheddol sefydliad yn cael eu datblygu ar y cyd â’r gweithwyr, a drwy ymgynghori’n llawn â nhw. Gall cynnwys gweithwyr yn y penderfyniadau sicrhau bod unrhyw newidiadau’n deg, yn effeithiol, a bod y gweithwyr yn eu cefnogi gant y cant.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i ddatblygu mentrau cynaliadwyedd o dan arweiniad undebau yn y gweithle. Mae’n cynnwys y sgiliau craidd sydd eu hangen ar undebwyr llafur sy’n dymuno gweithredu’n ymarferol ar gyfer yr amgylchedd yn eu gweithle neu sy’n dymuno dod yn gynrychiolydd ‘gwyrdd’ neu amgylcheddol undeb llafur.
Ledled Cymru mae cynrychiolwyr undeb eisoes yn gweithio gyda’u haelodau i wneud gweithleoedd yn fwy cynaliadwy. Maen nhw’n canfod ffyrdd o leihau carbon a lleihau gwastraff, yn ymgyrchu dros aer glanach ac yn creu mannau gwyrdd i gefnogi byd natur. Bydd y cwrs hwn yn cefnogi’r holl undebwyr llafur sy’n dymuno bod yn rhan o'r ymgyrch i wneud ein gweithleoedd yn fwy gwyrdd.
Mae’r cwrs yn ymdrin â’r canlynol:
Yr holl undebwyr llafur sy’n dymuno gweithredu ar yr argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol yn eu gweithle, gan gynnwys swyddogion undeb, swyddogion cangen, cynrychiolwyr, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr dysgu undebau, cynrychiolwyr cydraddoldeb.
Mae llawer o ffyrdd eraill i ddysgu yn 2021 hefyd: