Mae AI, sydd wedi bodoli ers y 1960au, bellach yn destun sgyrsiau cyson ar ôl i ChatGPT gael ei lansio ddiwedd 2022. Mae’r proffil gwleidyddol uchel a’r datblygiad technolegol yn cyflwyno nifer o fygythiadau; rhai yn amlwg ac eraill yn ddamcaniaethol. Fodd bynnag, mae’r amhariad hefyd wedi bod yn gyfle i bwysleisio anghenion gweithwyr mewn newid cymdeithasol a thechnolegol, ac i herio goruchafiaeth bresennol – y naratifau, arferion a pholisïau - gan amrywiaeth gul o safbwyntiau a chwmnïau technoleg.
Er gwaethaf y sylw dwys a’r diddordeb mewn AI, nid yw’r sgwrs wedi dod ag eglurder eang i fater technolegol cymhleth. Mae AI yn cynnwys popeth o’r modelau dysgu peirianyddol mwyaf datblygedig i fformiwlâu taenlenni ac algorithmau cyffredin a ddefnyddir bob dydd.
Mae wedi arwain at ddadlau ffyrnig ynghylch ei effaith benodol a chyffredinol ar wahanol sectorau a chymdeithas yn gyffredinol. Mae cael darlun cliriach yn rhagflaenydd hanfodol i weithredu.
Yn dilyn hyn, pasiwyd y Penderfyniad ar Ddata ac AI yng Nghyngres TUC Cymru 2022 i adeiladu ar y dull partneriaeth gymdeithasol sydd ar waith yng Nghymru.
Roedd y penderfyniad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith ar gyfer mynd i’r afael ag AI sy’n parchu’r angen am lais y gweithiwr, ‘cyfiawnder data’, a rheoli'r effeithiau andwyol ar swyddi, ymysg agweddau eraill (gweler atodiad isod).
I gefnogi’r penderfyniad hwn, ymrwymodd TUC Cymru i ymchwilio i brofiadau cyfredol undebwyr llafur yng Nghymru. Roedd Connected by Data a Dr Juan Grigera o Goleg y Brenin Llundain yn cefnogi'r fenter hon.
Canfu arolwg a gomisiynwyd gan undeb Prospect, ac a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023, fod y rhan fwyaf o weithwyr yn dymuno gweld y llywodraeth yn rheoleiddio AI cynhyrchiol yn y gwaith, ac y byddent yn anghyfforddus bod yn destun technolegau cuddwylio sy’n weithredol ar hyn o bryd mewn llawer o weithleoedd.
Nod y gwaith ymchwil hwn oedd cael mewnwelediad ansoddol a chyd-destunol i ategu'r dystiolaeth sylweddol o bryder cyffredinol gan weithwyr am effaith AI ar swyddi a bywydau gwaith.
Cafodd pum deg chwech o swyddogion undebau, cynrychiolwyr a gweithwyr undebol eu cyfweld mewn saith grŵp ffocws ac un sesiwn briffio a oedd yn rhychwantu 19 o undebau llafur a saith sector economaidd wedi’u diffinio’n fras (y sector cyhoeddus, addysg, gweithgynhyrchu, y diwydiannau creadigol, manwerthu, telegyfathrebu a logisteg).
Roedd y rhaglen ymchwil yn ceisio:
Cyhoeddodd y prosiect bostiadau blog o’r grwpiau ffocws wrth i’r gwaith ymchwil fynd rhagddo. Y nod oedd galluogi’r swyddog undeb llafur a’r gweithwyr a gymerodd ran i rannu mwy o fanylion a chyfraniadau sy’n benodol i’r sector.
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar safbwyntiau a phrofiadau’r gweithwyr undebol, y cynrychiolwyr a’r swyddogion undeb a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2023.
Cymerodd undebwyr llafur, cynrychiolwyr a swyddogion o’r undebau canlynol ran: BDA, Bectu, Coleg Brenhinol Podiatreg, Community, CWU, Cymdeithas y Radiograffwyr, Equity, FDA, Gild yr Ysgrifenwyr, GMB, NASUWT, NEU, NUJ, PCS, UCAC, UCU, Undeb y Cerddorion, UNSAIN a Unite.
Drwy ymgysylltu ag undebwyr llafur lleyg gweithredol a swyddogion undebau, mae’r gwaith ymchwil hwn yn cynnwys cyfraniadau ansoddol gan y garfan hon, ond o ganlyniad nid oes ganddo lawer o fewnwelediad o ran profiad gweithwyr nad ydynt yn aelodau o undeb neu weithleoedd sydd â chyfraddau isel o undebaeth.
Mae’r sectorau hyn yn cynnwys y rheini y disgwylir i AI gael effaith sylweddol arnynt, ond sydd yn hanesyddol â dwysedd undebol isel. Mae’r sectorau hyn yn cynnwys cyfrifyddiaeth, proffesiynau cyfreithiol a’r sector gwasanaethau, e.e. marchnata. Nid yw’r adroddiad hwn yn ymgysylltu’n benodol â phrofiad gweithwyr yr economi platfformau neu gìg, gan fod gwaith ymchwil sylweddol eisoes yn bodoli am effaith AI ar y sector hwn.
Yn olaf, nid oedd y gwaith ymchwil hwn yn ymchwilio i ddigwyddiadau penodol, gan fod y grwpiau ffocws yn ceisio casglu profiadau a safbwyntiau yr adroddwyd amdanynt gan weithwyr.
To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).