Ymchwilio i’n dealltwriaeth o ddeallusrwydd artiffisial a’i ddylanwad ar weithwyr ac undebwyr llafur yng Nghymru

Dyddiad cyhoeddi
Mae TUC Cymru yn edrych ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn dylanwadu ar weithwyr ar draws gwahanol sectorau, a sut mae undebwyr llafur yn rheoli’r nifer cynyddol o dechnolegau sy’n cael eu sbarduno gan ddata.

Mae TUC Cymru – gyda chymorth gan Dr Juan Grigera o Kings College Llundain ac Adam Cantwell-Corn o Connected by Data – yn ymchwilio i sut mae gweithwyr mewn amrywiaeth o sectorau yn deall ac yn ymateb i ddeallusrwydd artiffisial a digidoleiddio yn y gwaith. Bwriad y cylchlythyr hwn yw cofnodi prif sylwadau’r gweithwyr. Bydd rhain yn cyfrannu at adroddiad llawn yn ddiweddarach.

Mae deallusrwydd artiffisial yn dad-ddynoli gweithwyr oherwydd eu bod yn cael eu monitro’n barhaus. Hefyd, mae’n arwain at ddadsgilio gweithwyr, ailstrwythuro eu tasgau ac weithiau mae’n rheoli gweithwyr allan o’u swyddi.

Dyma farn grŵp o gynrychiolwyr undebau llafur profiadol yn y sector cyhoeddus. Cafodd y sylwadau eu cyflwyno yn y gweithdy cyntaf mewn cyfres.

Yn eu rôl fel gwirfoddolwyr sy’n cefnogi cydweithwyr yn y gwaith, nododd y cynrychiolwyr nifer o bryderon am ddeallusrwydd artiffisial a digidoleiddio yn ehangach. Roedd y pryderon hyn yn cynnwys datgelu beth sy’n cymell rheolwyr i gyflwyno meddalwedd, gan gynnwys gwyliadwriaeth barhaus a chynyddol o weithwyr, diffygion amlwg yn y meddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio i awtomeiddio tasgau, ac anghenion llafur dynol na ellir eu disodli ar gyfer llawer o swyddi.

“Diffyg ymddiriedaeth mewn staff sydd tu ôl i hyn”

Dywedodd Y, sef gwas sifil, fod gwyliadwriaeth drwy feddalwedd yn broblem yn y gwasanaeth sifil. Dywedodd Y:

“Mae gan ein cyflogwr ddiddordeb mewn defnyddio ‘Viva Insights’ Microsoft er mwyn edrych ar sut mae staff yn treulio eu hamser. [...] Rwy’n credu mai diffyg ymddiriedaeth mewn staff sydd tu ôl i hyn, a phwysau ar gyllidebau sy’n golygu bod pawb yn gorfod gweithio’n galetach byth.” Y, gwas sifil 

Mae ymgyrchwyr preifatrwydd wedi codi pryderon oherwydd bod platfform 365 Microsoft yn gallu monitro gweithwyr yn ddwys, a hynny heb i’r gweithwyr fod yn ymwybodol o hynny. Mae Microsoft wedi annog cyflogwyr i ganolbwyntio ar wella cynhyrchiant a phrofiadau gweithwyr yn hytrach na’u ‘gwylio’. Ond roedd M yn amheus. “Mae uwch reolwyr wedi dweud bod y data’n gallu eu helpu i ganfod lle mae’r llwythi gwaith yn ormodol, ac wedyn byddant yn gallu mynd i’r afael â’r llwythi gwaith hynny”. Mae ymdrech rheolwyr i gyfiawnhau cyflwyno system feddalwedd soffistigedig yn ymddangos yn gamarweiniol, ac mewn gwirionedd mae’n dweud “nid yw gwrando arnoch chi yn cyfrif”. Ychwanegodd Y, “ar hyn o bryd, does dim byd yn digwydd mewn gwirionedd pan fyddwch chi’n sôn am lwyth gwaith gormodol ar ran staff.  Nid yw’r honiad y byddai data gan Microsoft yn ateb y broblem yn argyhoeddi.”

Mae gwyliadwriaeth hefyd yn fater byw i weithwyr dosbarthu, yn enwedig sut gallai’r data fethu ystyried gwahaniaethau ymysg gweithwyr o ran oedran a gallu corfforol. Bydd y data wedyn yn cael ei ddefnyddio i gosbi’r gweithwyr hynny sy’n ‘tanberfformio’. Er enghraifft, dywedodd J, sy’n gweithio i gwmni dosbarthu mawr, y “dylai technoleg helpu gweithwyr.  Ni ddylid ei ddefnyddio i gosbi pobl. Mae fy nghydweithwyr wedi gweld technoleg yn cael ei defnyddio’n ormodol er mwyn gwella perfformiad. Erbyn hyn, mae gweithwyr yn cael dyfeisiau electronig gyda thraciwr GPS. Os byddwn ni’n stopio gweithio am funud, bydd dot melyn yn ymddangos ar fap – ac mae rheolwr yn cael gwybod am hynny. Mae’n bosibl y bydd rhesymau da iawn dros stopio gweithio am funud. Er enghraifft, gallech chi fod yn siarad â chwsmer. Mae’r system newydd yn gallu arwain at alw pobl i mewn am sgwrs a chael gwybod eich bod ‘wedi stopio gweithio am bymtheg munud dros yr wythnos; i bob pwrpas doeddech chi ddim yn gweithio bryd hynny.’ Mae gofyn iddyn nhw gyfiawnhau eu hunain. Mae’r ap yn dad-ddynoli pobl yn y gweithle, yn fy marn i. [...] rydyn ni’n cael ein trin fel robotiaid. Mae galluoedd ac oed pob un ohonom ni’n wahanol, ond fydd yr ap perfformiad ddim yn ystyried hynny.”

Pwnc llosg yn ddiweddar oedd gwyliadwriaeth algorithmig a chynyddu llwyth gwaith, gyda seneddwyr a’r wasg yn holi Amazon a’r Post Brenhinol am eu harferion. Mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar y cyd gan y TUC a Connected by Data ym mis Mehefin 2023, bu gweithwyr o’r ddau gwmni yn sgwrsio’n uniongyrchol ag Aelodau Seneddol trawsbleidiol ynghylch sut gall y gyfraith a’r polisi fynd ati i ddiogelu hawliau gweithwyr.

“Mae’r offer yn ddiffygiol”

Mae gweithwyr hefyd yn poeni am ddiffygion yn nyluniad y dechnoleg a’r ffordd mae’n gweithio. Yn benodol, nid yw rhaglenni sy’n mesur cynhyrchiant yn gallu rhoi cyfrif am yr amseroedd prosesu amrywiol sydd eu hangen er mwyn prosesu materion sydd â lefelau gwahanol o gymhlethdod.  Gwas sifil yw G, sy’n delio â materion gwaith achos sensitif dinasyddion, a dyma’r hyn roedd ganddo i’w ddweud:

Gwas Sifil yw G, sy’n delio â materion gwaith achos sensitif dinasyddion. Dywedodd G, “mae gwyliadwriaeth a thargedau o ran perfformiad wedi bod ar waith ers y dechrau. Ond, mae’r offer yn ddiffygiol erbyn hyn. Mae’n cofnodi pryd fyddwch chi’n dechrau darn o waith a phryd fyddwch chi’n gorffen darn o waith, ond dydyn nhw ddim yn cofnodi’r cyfnod pan fyddwch chi’n ystyried yr ochr gyfreithiol fanwl wrth gwblhau’r gwaith. Mae pobl yn cael eu diswyddo am eu perfformiad.  Felly, dydy pethau ddim yn grêt.” G, gwas sifil

Mae G wedi gweld sut mae deallusrwydd artiffisial wedi cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau awtomatig ar achosion symlach. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi bod yn gadarnhaol i weithwyr, nac i’r dinasyddion sy’n gwneud y cwynion. Felly,

“Mae’r swyddi llai cymhleth wedi mynd, felly mae’r bobl hynny sy’n delio â’r rheini’n cael eu rheoli allan o’u swyddi ar sail perfformiad. Mae’n destun pryder. Mae’n anodd gorfod rhoi cyfrif am bob munud o’ch diwrnod. Mae rhai gweithwyr wedi bod yn cymryd mantais ers y dechrau - roedd rheolwyr yn gwybod am hynny – ac yn gallu delio â hynny. Ond mae hyn yn wahanol.” G, gwas sifil

Dywedodd G fod rheolwyr canol wedyn yn penderfynu rheoli cydweithwyr allan o waith – gyda chanlyniadau enbyd o ran rhoi straen ar berthnasoedd a diwylliant y gweithle.

Ar wahân i’r effaith ar swyddi, roedd G hefyd yn dweud bod diffygion mewn rhaglen hollbwysig wedi achosi problemau difrifol i’w hadran hi, ac maes o law, i ddinasyddion:

“Fel rhan o’n gwaith, rydyn ni’n talu ffioedd i ddarparwyr gwasanaethau allanol arbenigol drud. Erbyn hyn, mae’r system wedi’i hawtomeiddio – ‘heb fewnbwn gan bobl.’ Ond mae cyfradd diffygion y system yn 19%! Dim ond 3% yw’r gyfradd diffygion ar gyfer taliadau sy’n cael eu mewnbynnu gan aelod o staff.”

“Rydych chi angen pobl”

Codwyd amheuaeth hefyd am allu deallusrwydd artiffisial i ddisodli gwaith dynol yn gyfan gwbl. Dywedodd D, sef gwas sifil sy’n gweithio ar gyfieithu yn y Gymraeg:

“Fel cyfieithydd, rwy’n defnyddio technoleg yn aml. I bob pwrpas, golygydd ydw i. Erbyn hyn, rwy’n gallu cynhyrchu testun yn haws ac yn gyflymach. Rwy’n gweld y manteision. Roedd blas cas tua deng mlynedd yn ôl – pan roedd sôn am ‘dalu llai i gyfieithwyr Cymraeg os ydyn nhw’n defnyddio technoleg’ - ond aeth hynny’n angof.” D, cyfieithydd yn y gwasanaeth sifil

Hefyd, roedd D yn sôn am y mathau eraill o ddogfennau sy’n cael eu cynhyrchu yn ei weithle ac a fyddai modd defnyddio deallusrwydd artiffisial, yn ogystal â sut y byddai’n rhyngweithio â mewnbwn dynol.

“Does dim modd dibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial er mwyn llunio datganiadau i’r wasg, llythyrau a strategaethau. Rydych chi angen pobl. Does dim modd i ddeallusrwydd artiffisial asesu’r elfen wleidyddol, er enghraifft a ddylid dweud rhywbeth penodol mewn byd cymhleth sy’n newid yn ddi-baid.”  D, cyfieithydd yn y gwasanaeth sifil

Radiograffydd mewn ysbyty yw C. Mae’n gyfrifol am amrywiaeth o astudiaethau pelydr-x er mwyn creu delweddau o rannau mewnol o’r corff. Yn ddiweddar, roedd ei adran wedi cael cyfarpar wedi’i alluogi gan ddeallusrwydd artiffisial ar gyfer gwneud diagnosis, er nad yw ar waith eto. Esboniodd C y pryderon ynghylch y potensial i ddeallusrwydd artiffisial roi camddiagnosis a dadsgilio staff yn y tymor canolig. Hefyd, tynnodd C sylw at yr angen brys am ddeddfwriaeth briodol er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei reoli’n ddiogel.

Cyngor Partneriaeth Gweithlu Cymru ac ‘Egwyddorion Digidoleiddio’

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn “strwythur partneriaeth gymdeithasol deirochrog rhwng yr undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru, sy’n cwmpasu’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru”. Mae’r cyngor wedi llunio egwyddorion ar gyfer ‘Rheoli’r Newid i’r Gweithle Digidol’. Mae’r egwyddorion hyn yn nodi fframwaith ar gyfer dull o ddigidoleiddio sy’n canolbwyntio ar y gweithiwr.

Fodd bynnag, nid oedd y cynrychiolwyr yn y gweithdy wedi gweld na chlywed am yr egwyddorion o’r blaen. Er bod cynrychiolwyr yn cytuno’n gyffredinol y gallai’r egwyddorion fod yn ddefnyddiol, roedden nhw’n cwestiynu rhai o’r manylion. Er enghraifft, mae egwyddor gyntaf Llais a Chyfranogiad y Gweithwyr yn datgan y dylai gweithwyr gael “ymgynghoriad yn gynnar ynghylch cyflwyno’r broses o ddigidoleiddio”. Fodd bynnag, fel y nododd Y, “rydyn ni eisoes wedi symud ymlaen at ddigidoleiddio – felly pryd bydd hyn yn newydd (ac yn cael ei gyflwyno)?”

Cytunodd D bod dilyniannu yn bwysig, ond bod angen i weithwyr gymryd rhan yn gyson, yn hytrach na dim ond ar y dechrau. Dywedodd D ei bod weithiau’n

“anodd rhagweld problemau pan fydd rhywbeth yn cael ei gyflwyno.  Allwn ni ddim bod yn erbyn technoleg – mae’n rhaid i ni ei defnyddio. Ond mae gennym ni fandad clir i ddiogelu aelodau pan fydd pethau’n mynd o chwith. Yn amlwg, dylid ymgynghori ag undebau o’r cychwyn cyntaf hefyd.”

Beth all y profiadau hyn ddweud wrthym am ddull gweithredu sy’n canolbwyntio ar y gweithiwr o ran digidoleiddio a deallusrwydd artiffisial?

Dangosodd cyfraniadau’r gweithwyr hyn pa mor amrywiol yw’r profiad o ddeallusrwydd artiffisial a digidoleiddio yn y gweithle. Roedd pryder y byddai newid technolegol yn gwaethygu’r gweithle yn gyffredin ymysg y cyfranogwyr.

Yn 2022, rhybuddiodd y TUC fod risgiau o ran deallusrwydd artiffisial a thechnoleg gwyliadwriaeth ymwthiol ar gyfer gweithwyr yn “mynd allan o reolaeth” heb reoleiddio cryfach i ddiogelu gweithwyr. Fel rhan o ymdrech ehangach i sicrhau bod digidoleiddio’n gwella yn hytrach nag yn diraddio profiad y gweithwyr, galwodd y TUC am y canlynol: dyletswydd statudol i ymgynghori ag undebau llafur cyn i gyflogwr ddechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial a systemau i wneud penderfyniadau yn awtomatig; bil cyflogaeth sy’n cynnwys yr hawl i ddatgysylltu, ochr yn ochr â hawliau digidol i wella tryloywder o ran defnyddio technoleg; a hawl gyffredinol i bobl adolygu penderfyniadau risg uchel sy’n cael eu gwneud gan dechnoleg.

Yn anffodus, mae Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd ati i danseilio’r mesurau diogelu sydd eisoes yn annigonol o fewn GDPR. Mae’r TUC ac eraill yn ymgyrchu i ddiwygio’r Bil yn ogystal â hyrwyddo Bil newydd ar gyfer hawliau gweithwyr a deallusrwydd artiffisial.

Mae’n rhaid cael mentrau fel egwyddorion digidoleiddio Partneriaeth y Gweithlu er mwyn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod newid technolegol o fudd i weithwyr. Ac eto, mae’r ymatebion gan y grŵp hwn yn dangos bod angen cynnwys y gweithwyr sy’n gwneud y gwaith mewn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o sut i drafod a deall newidiadau technolegol yn y gweithle. Byddai’r trefniadau hyn ar lefel ddiwydiannol yn cael eu cefnogi gan y newidiadau deddfwriaethol a rheoleiddiol a argymhellwyd gan y TUC.

Daw’r cylchlythyr hwn o’r gweithdy cyntaf mewn prosiect sy’n ymchwilio i ddylanwad a dealltwriaeth o ddeallusrwydd artiffisial a digidoleiddio ymysg gweithwyr Cymru. TUC Cymru sy’n arwain yr ymchwil ac mae’n cael cymorth Dr Juan Grigera o Kings College Llundain ac Adam Cantwell-Corn o Connected by Data.