Gall democratiaeth wael yn y gweithle lesteirio arloesedd ac iechyd a diogelwch, medd cynrychiolwyr undeb

Dyddiad cyhoeddi
Efallai nad ffatri anferth sy’n sefyll uwchben tref yn Ne Cymru sy'n dod i'ch meddwl gyntaf wrth feddwl am drawsnewid technolegol. Ond mae prosesau technoleg a data newydd sy'n effeithio ar y cynnyrch a'r gweithlu wedi hen ddechrau. Er bod problemau mwy cyfarwydd yn parhau.

Yn y pedwerydd mewn cyfres o grwpiau ffocws, mae TUC Cymru – gyda chefnogaeth Dr Juan Grigera o Kings College yn Llundain ac Adam Cantwell-Corn o Connected by Data – yn ymchwilio i sut mae gweithwyr mewn ystod o sectorau yn ymateb i ddigideiddio a deallusrwydd artiffisial yn y gwaith.

Bwriad yr adroddiad hwn o’r sesiwn gyda chynrychiolwyr dysgu undebau gweithgynhyrchu yw nodi sylwadau allweddol y cyfarfod hwn, a fydd yn cyfrannu at adroddiad llawn maes o law

Paradocs awtomeiddio, iechyd a diogelwch a chyflogaeth?

Fe wnaeth y cynrychiolwyr gydnabod bod prosesau newydd wedi sicrhau manteision sylweddol o ran moderneiddio prosesau peryglus mewn diwydiannau trwm. 

Er enghraifft, mae prosesau awtomeiddio yn helpu i roi pellter rhwng gweithwyr a'r broses losgi. Fel y dywedodd Ian, mae’r peiriant newydd “yn cymryd y gweithredwr i ffwrdd o'r llinell danio”, gan ychwanegu “cyn ei gyflwyno, byddai’r bechgyn yn ei lwytho fel cerbyd rhyfel. Hynafol.” 

Mae systemau sy'n cael eu llywio gan ddata ac AI yn gweithio eu ffordd yn araf i waith y safle, ond maen nhw’n wynebu heriau o beiriannau’n heneiddio a diffyg buddsoddiad. Mewn rhai rhannau o'r safle, mae rheolwyr hyd yn oed yn gwrthod cyflwyno technoleg sydd wedi bod yno ers y 1950au. [cafwyd cyfeiriad at hyn ar ddechrau’r sgwrs]. Mewn rhannau eraill, mae cynlluniau ar gyfer awtomeiddio hefyd yn dod â phryderon am ddi-sgilio a cholli swyddi, gyda swyddi yn cael eu colli. yn ôl pob sôn, yn sgil cyflwyno roboteg a uwch ddadansoddeg data. 

Serch hynny, nid yw’r peiriannau wastad yn iawn. Fel y dywedodd B “os yw’r system yn wynebu problem, yna mae’n gofyn i staff gymryd yr awenau. Unrhyw bryd roedd yn wynebu rhywbeth nad oedd yn ei wybod, byddai’n dweud ‘gallwch ei gael yn ôl nawr’”, gan danlinellu dibyniaeth sylweddol ar gyfranogiad dynol. 

Ond nid cyfyngiadau peiriannau’n unig sy’n effeithio ar gyflwyno’r dechnoleg newydd. Mae’n wall dynol hefyd.

Er enghraifft, mae un dyn yn cofio stori sydd bron iawn yn ddoniol, o osod desg weithredu newydd ar gyfer darn cymhleth o beiriant. Dywedodd “Fe wnaethon nhw ofyn i’r aelod o staff eistedd wrth y ddesg weithredu, yn y pulpud, er mwyn gallu ei chynllunio o'i gwmpas. Serch hynny, roedd e’n 6′ 10″.  Nawr, dydw i ddim yn gallu defnyddio’r ddesg weithredu heb orfod sefyll ar fy nhraed!” 

Roedd yr enghraifft hon yn brawf o’r pryderon nad oedd y gweithlu yn cael eu hystyried yn llawn, neu nad oedd eu gwybodaeth a’u mewnwelediad yn cael eu defnyddio yn y broses o reoli’r safle. 

Cafwyd rhwystredigaeth hefyd nad oedd y cwmni’n buddsoddi digon mewn technolegau newydd.  

“Mae’r cwmni’n dueddol o fynd am yr opsiynau rhatach,” dywedodd un person.  “Mae yna un enghraifft rydyn ni'n cyfeirio ati'n aml, sef yr ‘israddio £1 miliwn.”

Er na chafodd ei fynegi’n uniongyrchol, roedd awgrym y byddai’n well gan weithwyr weld lefelau uwch o awtomeiddio ar y safle, hyd yn oed petai’n golygu diswyddiadau, gan y byddai’n arwydd o ymrwymiad hirdymor y cwmni i’r safle a chynnydd mewn diogelwch. 

“Dydy cyfarwyddwyr ddim hyd yn oed yn gwybod beth yw dyfodol y cwmni”, dywedodd un person. “Gall staff weld y diffyg buddsoddi”, dywedodd wrth adlewyrchu ar yr ansicrwydd a oedd yn effeithio ar y safle a gyrfaoedd y rheini a weithiai yno. 

Lle roedd y cwmni wedi buddsoddi mewn AI mewn proses ganolog, teimlai gweithwyr nad oedd yn gweithio mor effeithiol ag y gallai: 

“Ar hyn o bryd nid yw ein holl synwyryddion yn gywir. Felly dydyn nhw ddim wastad yn anfon negeseuon yn effeithiol i'r cyfrifiadur canolog,” dywedodd un aelod o staff.

Democratiaeth yn y gweithle a thechnoleg newydd 

Nid pryder oddi wrth weithwyr y cwmni yn unig yw hwn. Thema gyffredin sy’n deillio o’r sesiynau TUC Cymru hyn yw diffyg cyfranogiad y gweithlu wrth gyflwyno technolegau newydd. 

Dywedodd rhai o’r cyfranogwyr sut roedd hyn wedi newid dros y degawdau y buon nhw’n gweithio yno. Dywedodd A fod cyfranogiad y gweithlu “cyn 1995 yn dda. Pan gafodd peiriannau newydd eu gosod, cafodd staff arian ychwanegol gan fod angen mwy o hyfforddiant a mwy o sgiliau ar gyfer eu swyddi. Byddech wedi cael eich cludo i ble bynnag roedd yr offer yn cael ei ddefnyddio’n barod. Byddai’r undebau, y gweithredwyr a’r rheolwyr wedi edrych ar hyn gyda’i gilydd. A byddai’r undebau wedi negodi codiad cyflog oherwydd yr angen am sgiliau ychwanegol i weithredu.” 

Ond mae’n ymddengys erbyn hyn bod cyd-benderfyniad o'r fath wedi gwanhau, dywedodd A. “Mae technolegau newydd wastad yn cael eu gwerthu i ni fel pe bai rheolwyr yn gwneud ffafr â ni. Fel arfer, daw technolegau newydd ar adeg o adrefnu. Mae’r undeb yn cael gwybod am yr offer newydd ac efallai y cawn wybod y bydd hynny yn ei dro yn arwain at golli person. Rydyn ni’n cael ein gwthio ar hyd y llwybr iechyd a diogelwch o ran cael ein perswadio i fabwysiadu peiriannau newydd.” 

Neu fel y dywedodd B, “pan fydd meddalwedd newydd yn cael ei chyflwyno, rydych chi’n cael gwybod ‘dyna ni’”. Dyw gweithwyr llawr y safle ddim yn rhan o hyn o gwbl, ac efallai y bydd gan swyddogion undeb fwy o lais. “Does dim ymgysylltu go iawn mewn gwirionedd, mae gweithwyr yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain ar lawr y safle. Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio. Weithiau byddai system newydd yn cael ei gosod a bydden ni’n cael gwybod i  fwrw ymlaen. Nes iddyn nhw gael gwybod ei fod yn torri cyfraith iechyd a diogelwch” dywedodd B. 

Gyda’r sefyllfa wedi gwaethygu yn sgil cyfarfodydd o bell gyda rheolwyr, cytunodd y gweithiwr fod hyn wedi arwain at gysylltiadau diwydiannol gwael. “Maen nhw’n anfon polisïau newydd aton ni – a dyna ni” dywedodd B. “Dydy’r cyfarwyddwyr adnoddau dynol hen ffasiwn ddim yno mwyach. A does dim ymgynghori. Mae’r grefft wedi’i cholli. Yn y pen draw rydyn ni’n ffraeo gyda nhw, ac mae ‘na wrthdaro.” 

Gwelwyd pellter cynyddol rhwng y gweithlu a rheolwyr ar draws rhannau eraill o’r gwaith hefyd. Yn ôl y gweithwyr, roedd yn gwanhau’r broses o riportio iechyd a diogelwch yn ogystal â gwaethygu dulliau aneffeithlon. 

Er enghraifft, cafodd hen system syml ar gyfer riportio ac uwchgyfeirio damweiniau ‘fu bron â digwydd’ ei disodli. “Mae’r system newydd yn lled awtomataidd ar gyfrifiadur. Mae'n eich annog a cheir cwymplenni. Mae'n pennu lefel yr ymchwiliad yn ôl pa mor ddifrifol oedd y digwyddiad. Ond mae’n rhy gymhleth ac mae’n gwneud i bobl droi cefn arni. Rydyn ni wedi beirniadu’r system drosodd a throsodd yn y pwyllgor iechyd a diogelwch.” 

Fel y dywedodd rhywun arall, mae’n ymddangos mai casglu data oedd y brif flaenoriaeth, yn hytrach na riportio materion iechyd a diogelwch. “Mae data yn cael ei gasglu, ond dyw’r system newydd ddim yn gweithio ar gyfer y rheini sydd ar lawr y safle. Nid yw’n gwneud pethau’n fwy diogel, ond mae’n gwneud bywyd yn haws.” Ceir pryderon difrifol bellach am dan-riportio iechyd a diogelwch, rhywbeth y gellid bod wedi’i osgoi pe bai’r gweithlu wedi bod yn rhan o’r broses o gynllunio’r system, dywedodd y gweithwyr. 

Yn yr un modd, mae cynllun awgrymiadau i wella prosesau gwaith wedi’i led-awtomeiddio ac wedi’i wneud mor feichus fel bod gweithwyr yn teimlo nad oes ganddyn nhw unrhyw gymhelliant i awgrymu sut gallai’r safle weithio’n well. Mae cymhellion ariannol, a oedd yn arfer bod yn sylweddol pe bai cynigion yn cael eu mabwysiadu hefyd wedi'u lleihau i'r lleiafswm. 

Ystyriodd y gweithwyr hyn fel anwybyddu’r gwerth, yr ymddiriedaeth a’r wybodaeth y gallent eu cynnig.

Mae hyn wedi lledaenu hefyd i arferion monitro’r gweithlu ac arferion Adnoddau Dynol. “Y perygl yw ein bod yn colli’r elfennau dynol mewn Adnoddau Dynol” drwy awtomeiddio a gweithio o bell, “does derbyn rhywun ar eu gair, dim mannau llwyd”. Dywedodd Adrian “Rydw i’n gwybod bod pobl yn dweud wrthon ni na all cyfrifiaduron fod yn anghywir, ond maen nhw’n gallu bod yn anghywir. Maen nhw ond yn gwneud yr hyn y maen nhw’n cael cyfarwyddyd i’w wneud. Does dim elfen ddynol yno.” 

Fe wnaeth rhywun y jôc “Fe alla i ddychmygu’r sefyllfa.  Robot Undeb  yn cynrychioli aelod yn erbyn robot Adnoddau Dynol!”. Heb golli curiad, holodd rhywun arall “Fyddai hynny ddim mor wahanol â hynny i nawr!”.