Sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn tarfu ar weithwyr mewn Colegau?

Dyddiad cyhoeddi
TUC Cymru yn cynnal cyfarfod â chynrychiolwyr Coleg

Mae deallusrwydd artiffisial yn dad-ddynoli gweithwyr wrth iddynt gael eu monitro’n barhaus. Hefyd, mae’n arwain at ddadsgilio gweithwyr, ailstrwythuro eu tasgau, ac weithiau mae’n eu gorfodi allan o’u swyddi.

Dyma farn grŵp profiadol o gynrychiolwyr ac aelodau undebau llafur mewn addysg bellach, a gasglwyd fel rhan o gyfres o weithdai digidol a oedd yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial. Cynhaliwyd y gweithdai hyn gan TUC Cymru, gyda chefnogaeth gan Dr Juan Grigera o Kings College Llundain, ac Adam Cantwell-Corn o Connected by Data.

Yn y Coleg Addysg Uwch hwn, nododd y cynrychiolwyr nifer o bryderon yn ymwneud â deallusrwydd artiffisial a digidoleiddio yn ehangach, yn ogystal ag amlinellu rhai o'r strategaethau er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn. Mae’r sector addysg yn mynd drwy cyfnod unigryw o drawsnewid, nid yn unig o ran y ffordd mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio gan reolwyr, a’r newidiadau y mae egwyddorion digidoleiddio yn eu creu yn yr ystafell ddosbarth, ond hefyd y ffordd mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr. Bu’r cynrychiolwyr hefyd yn nodi rhai o gryfderau darlithwyr, gan gynnwys yr angen am lafur dynol ym myd addysg. 

Ar ôl clywed gan wahanol randdeiliaid, daeth yn amlwg bod deallusrwydd artiffisial ac egwyddorion digidoleiddio yn ysgogi newid yn y sector addysg uwch. Nod y rheolwyr yw defnyddio’r technolegau hyn ar gyfer dadsgilio ac awtomeiddio, ond maent yn wynebu rhwystrau oherwydd natur unigryw addysg, cyfyngiadau rheoleiddiol, a thrafodaethau cenedlaethol.

Wrth i fyfyrwyr ddechrau defnyddio deallusrwydd artiffisial a Modelau Iaith Mawr yn eu gwaith, golygai hyn bod yn rhaid i ddulliau asesu gael eu hail-lunio. Mae hyn yn creu pryder ymhlith y darlithwyr, ac yn achosi cryn dipyn o gur pen i’r rheolwyr. Yn y coleg hwn, fe ddysgon ni hefyd am ddarlithwyr a chynrychiolwyr yn cymryd yr awenau drwy gychwyn rhaglenni peilot er mwyn llywio’r trawsnewid hwn.

“Gall deallusrwydd artiffisial arwain at lai o oriau cyflogedig”

"Nid deallusrwydd artiffisial yw’r unig broblem: mae digidoleiddio’n golygu eu bod yn ceisio dod â mwy o arddangoswyr "(J, darlithydd)
Un o’r pryderon a rannwyd yw bod gan integreiddio deallusrwydd artiffisial mewn addysg bellach y potensial i arwain at newidiadau sylweddol, fel y mae eisoes wedi’i wneud mewn diwydiannau eraill. Yn gyntaf, gall gael gwared â swyddi penodol – nid yn unig o fewn yr adran gymorth, ond gall effeithio ar swyddi addysgu hefyd. Hefyd, mae’n bosibl y gall hyn arwain at lai o oriau gwaith cyflogedig; pe bai deallusrwydd artiffisial yn dechrau cael ei ddefnyddio ar gyfer symleiddio tasgau, fel yr amser mae’n ei gymryd i egluro a pharatoi gwaith, mae risg y bydd cyflogwyr yn rhoi pwysau i leihau oriau digyswllt cyflogedig.

At hynny, roedd pryder ynghylch y ffaith nad oes digon o staff medrus ar gael: mae tuedd eisoes i arddangoswyr gymryd lle darlithwyr traddodiadol, ac mae’n bosibl i’r sefyllfa hon ddatblygu ymhellach – mae'n bosibl y bydd swyddi hybrid yn cael eu cyflwyno, sy’n cyfuno addysgu a dulliau arddangos. Yn amlwg, y cymhelliant mae hyn yn ei gynnig i gyflogwyr yw’r ffaith na fyddai’n rhaid iddynt dalu gymaint o gyflog i ddeiliad y swyddi hybrid hyn o'i gymharu â darlithwyr arferol.

"Rwyf wedi casglu fy nata dros nifer o flynyddoedd – deunyddiau cyrsiau a darlithoedd. O ran cynnwys y data, maent yn dal yn berthnasol ac yn ddefnyddiol ar gyfer dosbarthiadau. Mae’r rhain bellach ar weinydd Google - a fydd y data hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer meddalwedd deallusrwydd artiffisial er mwyn fy niswyddo?" (D, darlithydd)

Roedd pryderon hefyd ynghylch rôl data a busnesau ‘TechEd’. Yn ddiweddar, mae’r Coleg wedi dechrau defnyddio gweinydd Google, ac nid oes polisïau ‘rheoli data’ clir ar waith – a fydd y deunydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer deallusrwydd artiffisial?
Mae’r sector hefyd yn wynebu’r her o orfod ymateb i strwythur rheoli sydd â diffyg tryloywder. Gan fod gymaint o haenau, mae’r hierarchaeth yn mynd yn gymhleth, ac yn arwain at brosesau aneglur i wneud penderfyniadau.Yn ogystal, mae presenoldeb cyfarwyddebau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd yn gwaethygu’r diffyg tryloywder yn y strwythur, ac yn gwanhau cyfrifoldeb am benderfyniadau.

“Ond eto, does dim modd osgoi darlithoedd”

Un o’r cryfderau mwyaf mewn addysg yw’r nad ydynt am gael gwared ar ddarlithwyr yn y dyfodol agos. Er gwaethaf y terfynau, gallant geisio gwthio mwy o fyfyrwyr i'r ystafell ddosbarth neu ymestyn ein horiau gwaith. Mae’n rhaid i’r myfyrwyr gael person go iawn, a dyna yw ein cryfder ni. (A, darlithydd)

Nododd y cynrychiolwyr hefyd rai cryfderau pwysig yn swyddi’r gweithwyr. Un elfen allweddol yw’r ffaith bod contract cenedlaethol a chytundeb llwyth gwaith yn bodoli, ynghyd â fframwaith trafodaethau cenedlaethol. Mae’r elfennau hyn yn darparu rhwyd ddiogelwch rhag pwysau rheoli. At hynny, mae’r cyfyngiadau a osodwyd gan gyrff cymwysterau Cymru, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud ag oriau cyswllt, wedi cyfrannu at gyfyngu ar newidiadau i’r dulliau addysgu (ee darpariaeth ar-lein).

Mae’r model asesu yn wynebu heriau - yn debyg i’r allbwn addysgol

Os yw myfyrwyr yn defnyddio ChatGPT, pryd byddant yn dysgu ysgrifennu drostynt eu hunain?
Mae dyfodiad modelau iaith mawr, fel ChatGPT, wedi arwain at oblygiadau enfawr i'r dulliau a ddefnyddir ar gyfer asesu myfyrwyr. Un pryder amlwg a godwyd oedd y posibilrwydd o ostyngiad yn nhrylwyredd y dysgu a gwerth cymwysterau. Wrth i fodelau iaith mawr ddod yn fwyfwy poblogaidd, mae posibilrwydd y gallai’r ddibyniaeth ar gynnwys a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial olygu bod rhai dulliau asesu yn llai effeithiol – os nad yw’r rhain yn cael eu newid, yna gellid dyfarnu cymwysterau heb wir feddu ar y sgiliau neu’r ddealltwriaeth angenrheidiol.

Roedd yn amlwg mai effaith drawsnewidiol modelau iaith mawr ar addysg yw un o brif bryderon y darlithwyr – am eu bod yn frwd dros addysg, a'r hyn maent yn ei wneud. Roedd hefyd yn amlwg nad oes gan y rheolwyr unrhyw strategaeth glir ar sut i ddelio â’r mater.

Rydym wedi cael cyngor cwbl wahanol ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngwaith y myfyrwyr. Dywedodd rheolwr wrthyf yn ddiweddar ein bod ni yn derbyn traethodau a baratowyd gyda deallusrwydd artiffisial, ac y dylem drafod cynnwys y traethawd gyda’r dysgwr er mwyn sicrhau ei fod yn ei ddeall. Fodd bynnag, cawsom wybod yn ddiweddarach – mewn llythyr gan gorff dyfarnu – y byddai derbyn darn o waith sy’n cynnwys elfennau a baratowyd gan ddeallusrwydd artiffisial yn cael ei ystyried yn “gamymarfer”. - Rydw i’n poeni am fy nghydweithwyr, ac amdanaf fi fy hun. Rydw i wedi bod yn y swydd hon ers 25 mlynedd. Erbyn hyn, gall safonwr allanol fy nyfarnu’n euog o gamymarfer am beidio â sylwi ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngwaith y myfyrwyr.

Cytunwyd bod angen ail-werthuso dulliau asesu wrth i waith myfyrwyr a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial ddod i’r amlwg. Fel y nodwyd mewn sesiwn hyfforddi ar ddeallusrwydd artiffisial yn ddiweddar, mae meddalwedd canfod yn ei chael hi’n anodd canfod achosion lle mae deallusrwydd artiffisial wedi cael ei ddefnyddio mewn cyflwyniadau. O ganlyniad, nid yw’n cael ei ystyried fel y ffordd fwyaf cynhyrchiol ymlaen (yn debyg i’r ffordd mae sefydliadau wedi methu â chanfod achosion o ysgrifennu traethawd drwy “dorri a gludo”, neu ddelio ag achosion o fyfyrwyr yn twyllo drwy dalu pobl eraill i wneud y gwaith drostynt).

Mae angen datrys y mater hwn ar frys, yn enwedig gan fod angen lliniaru pryderon o gamymddwyn neu gamymarfer academaidd, a symud y cyfrifoldeb oddi wrth y darlithwyr. Roedd y cynrychiolwyr yn mynnu y dylai’r baich ddisgyn ar ysgwyddau’r coleg.Pryder arall a drafodwyd yw’r posibilrwydd y gall asesiadau llafar gael eu cyflwyno: os bydd y rhain yn cael eu cyflwyno, byddant yn creu gwaith ychwanegol i ddarlithwyr. Felly, effaith gyffredinol deallusrwydd artiffisial fyddai lleihau cynhyrchiant. 

Beth os byddwn ni’n penderfynu ei “sbarduno”?

Mae’n bosibl bod deallusrwydd artiffisial yn gwneud ei ffordd i’r ystafell ddosbarth, ond gyda’r cynllun peilot hwn, byddwn yn ceisio mynd i’r afael â’r mater. Un o’r pethau y gallwn ni ei wneud ydy ei sbarduno. (S, darlithydd)

Yn y cyd-destun hwn, mae cynrychiolwyr yr Undeb Prifysgolion a Cholegau yn y Coleg wedi ystyried arwain menter sy’n cael ei sbarduno gan ddigidoleiddio a deallusrwydd artiffisial. Byddant yn cynnal cynllun peilot, ar gyfer staff academaidd yn bennaf. Byddant yn canolbwyntio ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i leihau llwyth gwaith. Bydd y cynllun peilot hwn, a gynhelir gan gynrychiolwyr, yn ceisio lleihau ‘oriau cyswllt’ darlithwyr, sef nifer yr oriau a dreulir wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr – bydd hyn yn rhoi amser i ddarlithwyr gynllunio a pharatoi ar gyfer dosbarthiadau a gwaith academaidd arall. Mae potensial i ddarlithwyr ddefnyddio deallusrwydd artiffisial eu hunain i baratoi deunyddiau ar gyfer yr ystafell ddosbarth.

Mae'r fenter hon - sy'n rhoi deallusrwydd artiffisial yn nwylo’r gweithwyr, yn ymgais i achub y blaen er mwyn gallu defnyddio deallusrwydd artiffisial fel adnodd ymchwil gwerthfawr, yn enwedig mewn meysydd astudio newydd, ac nid fel adnodd rheoli yn unig. Gyda’r cynllun peilot, mae cynrychiolwyr eisiau edrych ar ddefnyddio deallusrwydd artiffisial mewn “cynlluniau gwaith” sy’n arwain y cwricwlwm addysgol, a hynny drwy ddechrau gyda’r egwyddor y gallai’r genhedlaeth iau elwa’n fawr o gymorth deallusrwydd artiffisial, sy’n golygu y dylai darlithwyr fynd ati i annog a hwyluso’r broses o’i ddefnyddio. Felly, mae'r cynllun peilot am archwilio a yw addysgwyr a myfyrwyr, drwy gofleidio galluoedd deallusrwydd artiffisial, yn gallu harneisio ei botensial i wella prosesau dysgu ac ymchwil, gan feithrin amgylchedd addysgol mwy effeithiol a chefnogol yn y pen draw.

Os bydd y cynllun peilot yn profi i fod yn un effeithiol, yna bydd heriau newydd yn codi yn y tymor hir - sut i sicrhau nad yw hyn yn cael ei ail-bwrpasu yn y Coleg hwn - neu pan gaiff ei gyflwyno i sefydliadau eraill. Heriau yn y dyfodol!
Fel y dywedodd un o’r cynrychiolwyr, nod y cynllun peilot yw defnyddio deallusrwydd artiffisial er mwyn
“Gwella, nid dad-ddynoli”, a dylai hynny fod yn nod ar gyfer unrhyw ddarn o dechnoleg arloesol!

*Mae'r erthygl hon yn dod o'r trydydd gweithdy yn y prosiect. Mae'r cofnod cyntaf ar gael yma, a'r ail un yma.