Mae deallusrwydd artiffisial yn defnyddio gwaith, lleisiau a delweddau gweithwyr creadigol

Dyddiad cyhoeddi
Ers iddynt gael eu sefydlu, mae undebau creadigol wedi brwydro i ddiogelu gwaith eu haelodau rhag cael ei gopïo a’i ddefnyddio heb ganiatâd a sicrhau eu bod yn derbyn tâl priodol. Ond, mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn creu ton llanw o dorri hawlfraint.

Datgelwyd hyn oll mewn gweithdy efo swyddogion a cynrychiolwyr undebau’r sector creadigol.   Cynhaliwyd fel rhan o gyfres gan TUC Cymru, gyda chefnogaeth gan Dr Juan Grigera o Kings College Llundain, ac Adam Cantwell-Corn o Connected by Data.  

Mae technolegau ar y we yn ei gwneud yn haws yn awr i raglenni cyfrifiadurol ddefnyddio ac addasu cerddoriaeth, gwaith ysgrifenedig, delwedd a llais pobl heb gydsyniad a heb dâl.   

Mae undebau yn ymateb yn gadarn  gyda galwadau a pholisïau cryf a thrafodaethau pengaled gyda chwmnïau cynhyrchu. Ond erys pryderon.

Gall Deallusrwydd Artiffisial droi fy ngwaith yn anghenfil Frankenstein 

Mae AI yn her yn benodol i actorion.  Cynhaliodd TUC Cymru grŵp ffocws yn ddiweddar gydag aelodau’r diwydiant creadigol.  Dywedodd Brian: 

“Mae’n hollbwysig bod actorion yn rhoi eu cydsyniad ar gyfer perfformiadau blaenorol, presennol ac yn y dyfodol.  Mae angen system arnom lle gall actorion drwyddedu eu perfformiad neu debygrwydd ar sail bersonol, anghyfyngedig, â therfyn amser.  Ac mae angen i ni sicrhau taliad teg a chymesur.” 

Gallai AI fygwth bywoliaeth cerddorion hefyd.  Dywedodd R, cynhyrchydd cerddoriaeth:  

“Mae eiddo deallusol yn cael ei grafu gan ddeallusrwydd artiffisial, gan gynnwys traciau cerddoriaeth fel y rhai yr wyf i wedi’u creu.  Gwaith pobl yw hyn.  Gall deallusrwydd artiffisial ei droi’n anghenfil Frankenstein.” 

Cytunodd Eric: 

“Mae crafu data heb ei guradu yn bryder gwirioneddol.  Mae angen i ni gael trafodaethau ynglŷn â moeseg y mater hwn, yn arbennig gyda phobl ifanc yn y diwydiant mewn prifysgolion, oherwydd maen nhw’n mynd i fod yn cario hyn ymlaen"

 Mae Deallusrwydd Artiffisial yn creu llyfrau llafar heb gydsyniad actorion i ddefnyddio eu lleisiau 

Mae Deallusrwydd Artiffisial yn golygu y gallai actorion fod yn methu allan ar swm sylweddol o waith. Pwysleisiodd Brian effaith AI ar lyfrau llafar:  

“Mae gennym bryderon ar gyfer gwaith actorion yn y dyfodol. Mae cynnydd aruthrol wedi bod yn y defnydd o AI. Mae llyfrau llafar awtomataidd yn un maes yn benodol. Ac yn yr un modd, hysbysebion radio. Yn y naill achos a’r llall, mae’r actor yn darparu eu llais unwaith ac yn cytuno iddo gael ei ddefnyddio i gynhyrchu symiau mawr o gynnwys. 

“Mae yna achos hyd yn oed gydag un aelod pan ddywedodd edmygwr wrthynt ‘roeddem ni wrth ein boddau eich bod wedi darllen y nofel benodol hon. Rydym wedi gwrando arni, ei lawrlwytho ac mae’n wych eich bod wedi’i darllen.’ Ond nid oedd yr actor wedi gwneud y llyfr fel llyfr llafar.

Roedd yr edmygwr wedi mynd i wefan ac wedi gofyn i lyfr penodol, gan actor penodol ac fe ddarparodd drawsgrifiad llawn iddynt, oherwydd bod ganddynt lais yr actor. Nid oedd yr actor yn gwybod unrhyw beth am y llyfr! Cafodd ei gynhyrchu gan ddefnyddio AI.”

Mae actorion mewn perygl o golli gwaith 

Mae actorion hefyd mewn perygl o golli gwaith sylweddol mewn ffilmiau a chynyrchiadau teledu wrth i dechnoleg AI wella. Dywedodd Brian: 

“Fe wnaeth llawer o bobl fwynhau gwylio Peter Cushing yn dod yn ôl yn fyw ar gyfer ffilm Star Wars ddiweddar ac roedd yn braf gweld bod ei ystâd wedi cytuno i hynny.

“Ond nid yw actorion presennol, byw yn cael eu diogelu’n dda. Nid yw AI yn cael ei gwmpasu gan gyfreithiau hawlfraint. Nid yw’r gyfraith wedi dal i fyny gyda thechnoleg ac nid yw llywodraeth y DU wedi llofnodi cytuniad Sefydliad Eiddo Deallusol y Byd 2012 sy’n darparu’r gallu i actorion frwydro yn erbyn camddefnyddio delweddau, tebygrwydd a pherfformiadau. 

“Mae’r streic gan actorion ac awduron ynglŷn â chontractau yn yr UD yn ymwneud ag AI. Roedd yr undeb SAG-AFRA yn yr UD yn pryderu y gallai actor gael ei dalu am ddiwrnod yn unig ar gyfer sganio eu corff ar gyfer cynhyrchiad, yn hytrach na’r wythnosau y byddai’n eu cymryd ar gyfer ffilmio confensiynol.  Nid dyma sut mae cytundebau gwaith undebau yn gweithio. Mae gennym daliadau breindal sy’n adlewyrchu’r defnydd o ddelweddau actorion bob tro y bydd y cynhyrchiad yn cael ei ddangos.” 

Fodd bynnag, dywedodd Brian fod ei undeb yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r risgiau hyn. Dywedodd:  

“Rydym yn edrych i weld sut y gellir ymgorffori AI yn ein cytundebau ar y cyd, yn arbennig gyda phrif gynhyrchwyr rhaglenni teledu Prydain.”

Awduron yn poeni am gael eu hecsbloetio gan AI

Yn ystod ein grwpiau ffocws diweddar gyda gweithwyr sydd wedi’u heffeithio gan AI, cyfeiriodd Nerys o’r Urdd Awduron at yr heriau sy’n wynebu awduron creadigol.  Dywedodd:  

“Mae’r potensial ar gyfer cam-fanteisio o dan y sefyllfa gyfreithiol bresennol yn frawychus ac yn beryglus iawn.” 

Gan ddyfynnu egwyddorion yr Urdd Awduron, dywedodd:  

* Dylai datblygwyr AI ond defnyddio gwaith awduron os ydynt wedi derbyn caniatâd penodol i wneud hynny. 

* Pan fydd AI wedi’i ddefnyddio i greu cynnwys, dylai datblygwyr AI gydnabod yn briodol yr awduron hynny y defnyddiwyd eu gwaith i greu cynnwys o’r fath. 

* Ni ddylai’r Llywodraeth ganiatáu unrhyw eithriadau hawlfraint i ganiatáu i destun a data gael eu cloddio at ddibenion masnachol.  Byddai hyn yn caniatáu i ddatblygwyr AI grafu gwaith ysgrifenwyr o ffynonellau ar-lein heb ganiatâd neu daliad.

Mae ffotograffwyr yn dweud bod AI yn ei hanfod yn dwyn eu gwaith 

Dywedodd Evelyn o’r NUJ bod ffotograffwyr hefyd yn wynebu bygythiadau yn sgîl crafu. Dywedodd:

“Fel ffotograffwyr, rydym yn gorfod delio â thorri hawlfraint drwy'r amser. Mae crafu cynnwys oddi ar y we yn fath o ddwyn.

“Dylai rheoliadau ddatgan yn glir y gallai ffotograffwyr allu dewis a yw eu delweddau yn cael eu crafu ai peidio, a’u bod yn derbyn incwm am hynny. Dylai fod system drwyddedu ar waith.

Yr effaith ar newyddion a democratiaeth 

Esboniodd Evelyn bod yr arfer o grafu data yn creu risgiau ehangach: 

“O ran crafu data sy’n llywio modelau AI cynhyrchiol, mae rhagfarnau mewn deunyddiau presennol yn dylanwadu ar y rhain. Os oes llawer llai o ymwneud dynol â chreu adroddiadau newyddion, yna bydd y rhagfarnau hyn yn cael eu hatgyfnerthu. Mae'n eithaf brawychus ac yn broblem fawr.  

“Ar ben hynny, bydd gallu AI i greu delweddau ffotograffig credadwy o ddigwyddiadau nad ydynt wedi digwydd yn tanseilio ymddiriedaeth mewn gwasanaethau newyddion ac mewn democratiaeth.

Mae AI yn ecsbloetio gweithwyr creadigol iau  

Yn y drafodaeth grŵp ffocws roedd pryder bod Ai yn ecsbloetio’r gweithlu creadigol, yn arbennig pobl ifanc.

Dywedodd Brian: “Mae pobl ifanc bob amser yn cael eu hecsbloetio yn y diwydiannau creadigol, a bydd hyn yn parhau os na fyddwn yn gweithredu. 

“Rwyf wedi gweld hysbysebion, roedden nhw’n gofyn yn benodol am actorion sy’n gallu siarad Cymraeg, i helpu rhaglenni AI gyda’r acen Gymraeg. Roedd cwmni yn chwilio am actorion er mwyn helpu i hyfforddi’r AI. Y gyfradd oedd £25 yr awr ar gyfer hyn.  Bu’n rhaid i mi gynghori ein haelodau i wrthod y gwaith. Dywedais wrthynt, “byddech yn helpu cyfrifiadur i gymryd eich lle!” Nid oeddent wedi ystyried hynny.” 

Cytunodd Angela drwy ddweud: 

“Rwyf wedi clywed hanesion erchyll am bobl ifanc yn cael eu twyllo i actio mewn gweithdai heb ddeall sut y byddai eu delwedd a’u tebygrwydd yn cael eu defnyddio.  Maent yn cyfrannu at eu tranc eu hunain.” 

Dywedodd Kevin, newyddiadurwr i gylchgrawn technoleg ac aelod o NUJ:  

“Gwelais hysbyseb yn ddiweddar ar gyfer swydd AI a oedd yn gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus greu hanner cant o erthyglau y dydd, gan ddefnyddio offer AI. Eu gwaith, yn honedig, oedd ysgrifennu'r penawdau, darparu delweddau ac ail-ysgrifennu fel y bo'n briodol. Y cyflog oedd £35,000.  

“Fe achosodd yr hysbyseb gryn helynt. Roedd yn gosod disgwyliadau afrealistig. Ni fyddai’n bosibl cynhyrchu’r swm hwn o waith, hyd yn oed gydag AI. Cafodd y swydd ei thynnu i lawr.  Ond dim ond y dechrau yw hyn. Wrth i AI wella, byddwn yn gweld mwy o’r math hwn o hysbyseb.” 

Colli swyddi o ganlyniad i AI 

Yn ogystal ag ecsbloetio gweithwyr, mae colli swyddi o ganlyniad i AI yn bryder mawr i’r grŵp. 

Dywedodd Arthur, newyddiadurwr:

“Rwy’n poeni y bydd y dechnoleg yn cael ei defnyddio i ddisodli swyddi. Mae AI eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn ystafelloedd newyddion i ysgrifennu adroddiadau ar chwaraeon lleol: mae sgôr gêm yn cael ei mewnbynnu ac mae’r rhaglen AI yn cynhyrchu adroddiad.” 

Roedd Evelyn,  ffotonewyddiadurwr, yn poeni am y colledion swyddi uniongyrchol a’r sgil-effeithiau:

“Mae ffotograffiaeth yn talu’n wael fel y mae hi. Nawr gall AI gynhyrchu delweddau stoc rhad o safon isel. Bydd hyn yn achosi i lawer o ffotograffwyr golli eu gwaith a bydd llawer o swyddi’n cael eu colli. Heb fodau dynol yn y rolau hyn, byddwn yn colli creadigrwydd a sgiliau." 

“Ym maes ffotograffiaeth mae’n gwbl ddi-drefn ar hyn o bryd. Mae AI yn cael ei ddefnyddio i greu delweddau ffotograffig. Mae hyn yn fygythiad i gyfleoedd gwaith ffotograffwyr. Mae ffotograffwyr yn colli gwaith yn creu sgil-effaith. Os na fydd sesiwn ffotograffiaeth yn cael ei chynnal, mae hefyd yn effeithio ar y rhai sy’n rhentu gofod stiwdio, dylunwyr a modelau. Mae yna ficro-economi gyfan mewn perygl.

Llywodraeth Cymru yn cymryd camau cadarnhaol ar AI 

Dywedodd Evelyn wrthym: “Mae polisi datganedig Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn gadarnhaol. Mae ganddynt ddiddordeb mewn cynhyrchiant uwch, gan arwain at enillion i weithwyr, fel yr wythnos pedwar diwrnod. Ond, mae cyflogwyr yn mynd i'r cyfeiriad arall ac yn torri costau a swyddi.” 

Ychwanegodd Sioned:

“Rydym wedi gweld problemau yn lleol gyda chamerâu awtomataidd yn cael eu cyflwyno mewn rhaglenni teledu. Nid yw’r dechnoleg newydd bob amser yn gweithio, mae’n torri corneli ac yn arwain at golli swyddi. Pan fydd costau’n cael eu harbed mewn un maes, a fydd swyddi â chyflogau da yn cael eu canfod mewn maes arall, neu a fydd y cyflogwr yn creu mwy o elw?” 

Dywedodd Edward, sgriptiwr:

Rydym yn gweld cyflogaeth ‘anweledig’ yn cael ei dileu yn ein diwydiant. Er enghraifft, golygydd nofel - mae'n anodd gwerthuso eu rôl. Mae’n swydd nad yw’n cael ei gweld gan y cyhoedd, nac yn cael ei chydnabod. Yn anffodus mae pobl yn ddidaro am y peth.” 

Manteision posibl AI yn y diwydiant creadigol 

Yn ein trafodaeth, roedd aelodau undebau yn canolbwyntio ar y bygythiadau a gyflwynir gan AI. Fodd bynnag,  roedd cydnabyddiaeth y gallai gynnig rhai manteision mewn rhai meysydd.   

Dywedodd Arthur: 

“Fel newyddiadurwr, gall AI helpu. Er enghraifft, wrth gynnal cyfweliad, rwy’n ei recordio gan ddefnyddio ap sy’n trawsgrifio nodiadau manwl. Mae’r nodiadau yn cynnwys llawer o ‘gamgymeriadau’ – nid yw’r dechnoleg yn berffaith, ond mae’n arbed amser. Mae’n ddefnyddiol.”

Ychwanegodd Evelyn, ffotonewyddiadurwr: 

“Gallai AI wella gwaith, delio â’r ochr weinyddol, er enghraifft. Gallai hyn ryddhau amser.

“Gallai’r rhai sy’n gweithio ym maes ffotograffiaeth fasnachol weld cyfleoedd a gallu defnyddio AI yn eu gwaith creadigol i hyfforddi AI. Byddai hynny’n gadarnhaol, cyhyd ag y byddent yn derbyn rhyw fath o daliad yn gyfnewid am hyn.” 

Tryloywder 

Elfen gref o benderfyniad undebau i atal gwaith, lleisiau a delwedd eu haelodau rhag cael eu defnyddio heb dâl yw sicrhau tryloywder. 

Wrth ddyfynnu egwyddorion ei hundeb, dywedodd Nerys o’r Urdd Awduron: 

“Dylai datblygwyr AI gynnal cofnodion clir a hygyrch o’r wybodaeth a ddefnyddir i hyfforddi eu hoffer er mwyn galluogi awduron i weld a yw eu gwaith wedi’i ddefnyddio. 

Yn ogystal, pan fydd cynnwys wedi’i gynhyrchu, neu pan fydd penderfyniadau wedi’u gwneud gan AI ac nid gan fod dynol, mae angen labelu hynny’n glir. 

Cytunodd Angela, aelod o Bectu â hyn a dywedodd:

“Gallai contract diwylliannol Llywodraeth Cymru wahodd tryloywder fel rhan o drafodaeth ehangach ar Waith Teg.  Gallai swyddogion llywodraeth Cymru a Cyngor Celfyddydau Cymru ystyried ffyrdd lle bydd cyllid ar gyfer prosiectau yn y diwydiannau creadigol yn mynnu tryloywder ynglŷn â’r defnydd o AI.” Yn yr un modd, dywedodd Jenny, aelod o’r NUJ: 

“Dylai cyhoeddwyr sicrhau goruchwyliaeth olygyddol gan fodau dynol a labelu cynnwys AI yn glir.” 

Undebau Llafur yn hyrwyddo ymwybyddiaeth a hyfforddiant ar hawliau 

Nid yn unig y mae undebau creadigol wedi cynhyrchu cynigion polisi manwl ar gyfer llywodraeth y DU ar y materion hyn. Maent hefyd yn cymryd camau i gryfhau dealltwriaeth eu haelodau o’r materion. 

Dywedodd Brian o Equity:

“Nid yw ein haelodau yn ymwybodol o’u hawliau.  Nid oedd gan 79 y cant o’r aelodau sydd wedi gweithio ar brosiectau sydd wedi cynnwys AI unrhyw syniad o’r goblygiadau ynghylch yr hyn roedden nhw’n ei wneud.  Felly, rydym yn addysgu aelodau ynghylch eu hawliau – a gwneud yn siŵr eu bod yn cwestiynu pethau.  Rydym wedi datblygu templed o gontractau hefyd, oherwydd mae llawer o’n haelodau yn weithwyr llawrydd.

Yn yr un modd, dywedodd Evelyn o’r NUJ eu bod yn cynhyrchu pecyn offer ar gyfer aelodau er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Llywodraeth Cymru a’i hasiantaethau 

Yn ogystal â gweithredu eu hunain a mynnu deddfwriaeth gryfach gan senedd y DU, roedd aelodau’r grŵp hefyd yn gweld rôl bwysig i lywodraeth Cymru a’i hasiantaethau. 

Dywedodd Angela: 

“Mae safbwynt Cyngor Celfyddydau Cymru ar y materion hyn yn bwysig.  Dylent fod yn datblygu polisïau ar hyn.  Sut mae ceidwaid y sectorau hyn yn ymateb i'r materion hyn ac yn amddiffyn artistiaid?

Dywedodd Sioned 

“O dan fodel partneriaeth gymdeithasol <https://www.tuc.org.uk/cy/blogs/partneriaeth-gymdeithasol-ffordd-newydd…; Llywodraeth Cymru, dylai undebau llafur bob amser fod yn gysylltiedig â hyn, yn arbennig pan fydd arian cyhoeddus yn cael ei roi.  Er enghraifft, mae Cymru Greadigol yn un o asiantaethau Llywodraeth Cymru, a sefydlwyd yn 2020 i gefnogi’r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae ganddi femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n cyfeirio at AI. Rydym fel undebau wedi gwneud yn siŵr bod hyn yn cael ei gynnwys. Pan fydd trafodaeth ar AI, dylai undebau fod yn rhan ohoni” 

Noder i ni newid enwau’r undebwyr gan y rhanwyd eu profiadau yn anhysbys