Dywedodd undebwyr llafur wrthym am eu pryderon, o ran eu swyddi, recriwtio yn y dyfodol, a’r iaith Gymraeg. Siaradodd rhai yn optimistaidd am swyddi’r dyfodol a gallu undebau llafur i ymateb i’r her sy’n dod yn sgil deallusrwydd artiffisial.
Mae cyflogwyr yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i wneud amrywiaeth o benderfyniadau am eu gweithlu. Gall hynny hyd yn oed gynnwys penderfyniadau am nifer y gweithwyr sy’n cael eu diswyddo pan fydd cwmnïau’n ailstrwythuro.
Yn ôl un undebwr llafur, defnyddiwyd deallusrwydd artiffisial gan ei gwmni i benderfynu ar nifer y swyddi i'w torri, dim ond i ganfod bod yr amcangyfrif yn anghywir. Darparwyd y dystiolaeth ganlynol i ni gan Stephen, undebwr llafur a pheiriannydd:
“Roeddwn i’n gweithio yn y diwydiant cyflenwi trydan am 42 o flynyddoedd. Prynwyd y cwmni. Roeddwn i’n gweithio yn yr adran fesur. Fe wnaethon nhw benderfynu defnyddio algorithm i ragweld maint y gwaith ac i benderfynu sawl aelod o staff oedd ei angen.
“Cawsom weld rhagolwg yr algorithm ganddyn nhw. Ond wnaethon nhw ddim dangos i ni sut roedd pethau’n gweithio. Gwelsom fod y ffigurau’n anghywir a’u herio nhw. Roedd hyn wedi helpu i liniaru nifer y swyddi a gollwyd.
“Fe wnes i adael y cwmni bryd hynny. Ond yr hyn rwy’n ei glywed yw eu bod yn sylweddoli eu bod wedi gwneud camgymeriad enfawr. Maen nhw nawr yn edrych ar recriwtio pobl eto. Roedden nhw’n ffonio pobl, yn gofyn iddyn nhw ddod yn ôl.
“Dywedodd y rheolwyr wrthym ni, ‘rydym ni wedi defnyddio’r algorithm o’r blaen, mae wedi’i brofi, ac mae ei ragfynegiadau’n fanwl gywir’.
“Doedden nhw ddim yn fodlon derbyn y dadleuon rhesymegol a gyflwynwyd iddyn nhw ynghylch beth oedd o’i le â’r rhagfynegiad.”
Mae defnyddio algorithmau i benderfynu sawl gweithiwr y dylid ei ddiswyddo yn rhan o duedd tuag at ddefnyddio mwy o ddeallusrwydd artiffisial mewn penderfyniadau a wneid yn flaenorol gan dimau Adnoddau Dynol a rheolwyr llinell. Er enghraifft, mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio fwyfwy wrth recriwtio. Dywedwyd wrthym am sbectrwm eang o swyddogaethau Adnoddau Dynol sy'n cael eu hawtomeiddio cynyddol, gan symud ymlaen trwy wahanol gamau gweithredu, yn amrywio o brosiectau a pheilotiaid i achosion ar raddfa lai a chyflwyniadau cynhwysfawr.
Mae'r swyddogaethau adnoddau dynol amrywiol yn cynnwys rhai tasgau isel honedig megis crynhoi cwynion a chamau disgyblu neu ddrafftio cytundebau setliad. I'r bobl yr oeddem yn eu cyfweld roedd dewis y cynlluniau peilot cychwynnol hwn yn ymddangos fel ceffylau Caer Droea. Hynny yw, maent ymddangos yn ddiddadleuol, ond yn agor y gofod ac yn arwain y ffordd at ddefnydd ehangach o AI.
Mewn achosion eraill, dywedwyd wrthym am y defnydd o AI wrth greu contractau cyflogaeth, cyfansoddi a dadansoddi disgrifiadau swydd, llunio cwestiynau cyfweliad yn seiliedig ar ddisgrifiadau swydd, a hyd yn oed gynhyrchu hysbysebion swyddi. Fe’u ddefnyddwyd hefyd mewn meysydd pellach o recriwtio, gan gynnwys didoli trwy ymgeiswyr neu prosiectau i ddefnyddio meddalwedd i fonitro patrymau lleferydd a mynegiadau yn ystod cyfweliadau.
Er enghraifft, dywedodd George, cynrychiolydd o’r sector cyhoeddus, wrthym fod pryderon ynghylch defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddethol ymgeiswyr. Dywedodd:
“Rydym ni wedi derbyn ers tro ei fod yn gallu delio â’r atebion i gwestiynau ynghylch yr elfennau gofynnol y gallwch eu pennu ar gyfer swyddi, er enghraifft ‘rhaid cael gradd neu gymhwyster cyfatebol’.
“Felly, mae’n ddigon hawdd i chi gael peiriant i brosesu a oes gan rywun radd ar ôl iddyn nhw lenwi ffurflen. Gall deallusrwydd artiffisial asesu eich cais o ran a oes gennych radd ai peidio. Fodd bynnag, yn fy marn i, mae’n mynd yn anoddach pan fyddwch yn dibynnu ar ddeallusrwydd artiffisial i ddehongli materion goddrychol, er enghraifft, wrth asesu’r ateb i gwestiwn sy’n llawer mwy cynnil, fel ‘sut ydych chi’n gweithio gyda phobl eraill?’.”
Yn ystod yr un drafodaeth, ystyriwyd yr effaith bosibl ar siaradwyr Cymraeg. Dywedodd George, sy’n gweithio mewn adran sy’n delio ag ymgynghoriadau cyhoeddus ac sy’n monitro barn y cyhoedd ar y cyfryngau cymdeithasol:
“Rydw i’n nerfus iawn ynghylch pa mor dda mae cynnwys Cymraeg yn bwydo i mewn i ddeallusrwydd artiffisial. O ystyried y modelau iaith rydym ni wedi’u gweld o gwmpas y byd, maen nhw’n dda pan fyddwch chi’n cael cynnwys yn Saesneg. Ond dydyn nhw ddim mor dda am ddeall Cymraeg, yn enwedig Cymraeg anffurfiol. Hynny yw, y Gymraeg a ddefnyddir o ddydd i ddydd, yn hytrach na Chymraeg ffurfiol.
“Gallai hyn achosi problem pan fydd cyrff cyhoeddus yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i fonitro safbwyntiau’r cyhoedd ar fater. Er bod Bing Translate yn eithaf da o ran Cymraeg ffurfiol, nid yw mor dda am ddeall negeseuon trydar yn Gymraeg lle bydd pobl yn defnyddio Cymraeg mwy llac. Os nad ydym yn casglu gwybodaeth sy’n cael ei rannu mewn Cymraeg llai ffurfiol, a ydym ni mewn gwirionedd yn clywed yr hyn y mae pawb yng Nghymru yn ei ddweud?”
Cafodd hyn ei ategu gan eraill - roedden nhw i gyd yn cytuno y gallai awtomeiddio prosesu iaith - nid barn gyhoeddus yn unig fel yn yr achos hwn - arwain at ragfarnau beirniadol yn erbyn siaradwyr Cymraeg.
Er bod delio ag awtomatiaeth yn brofiad newydd i weithwyr sy’n delio ag ymgynghoriadau cyhoeddus, a rolau gwasanaethau cyhoeddus eraill, mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd lawer i’r rheini sy’n gweithio ym maes gweithgynhyrchu. Wrth fyfyrio ar y defnydd cynyddol o raglenni cyfrifiadurol i reoli peiriannau a llinellau cynhyrchu, dywedodd Eric, gweithiwr gweithgynhyrchu profiadol o ogledd-ddwyrain Cymru:
“Pe bai gen i blant, buaswn i’n eu cynghori i astudio roboteg. Bydd ffatrïoedd yn dal i gynnwys cydrannau sy’n symud, a dweud y gwir bydd mwy ohonynt. Bydd angen i chi drwsio’r peiriannau awtomatig. Bydd angen iddyn nhw fod yn dda am ddadansoddi data. O ran peirianneg a gwaith cynnal a chadw, mae’n mynd i fod yn ddiddorol iawn.”
Cytunodd ei gydweithiwr, Rory, gan ddweud:
“Mewn rhai ffyrdd mae’n eithaf cyffrous. Mae gan bobl ifanc heddiw ddiddordeb mewn technoleg a gallai hynny ddenu pobl ifanc i’n diwydiant. Mae pobl ifanc yn gyfarwydd â thechnoleg.”
Ar y llaw arall, roedd yn cydnabod bod “pobl fy oedran i yn pryderu, maen nhw’n byw mewn ofn.”
Mae sylwadau Rory yn tynnu sylw at bwysigrwydd darparu hyfforddiant o ansawdd uchel i bob gweithiwr er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu ffynnu yn y farchnad swyddi fodern.
Cytunodd y grŵp hefyd ar bwysigrwydd ceisio cynnwys cymalau ar dechnoleg newydd ac AI mewn cytundebau bargeinio ar y cyd.
Bydd yr un mor bwysig bod cynrychiolwyr undebau llafur hefyd yn cael eu hyfforddi ar y meysydd pwnc newydd. Credai David, tiwtor undeb llafur, mai’r ffordd orau o sicrhau hyn oedd adeiladu ar gyrsiau a deunyddiau presennol.
“Dwi’n meddwl, yn hytrach na cheisio ailddyfeisio’r olwyn, yn hytrach na chreu pethau newydd sbon, y dylem ni feddwl am yr hyn rydym ni’n ei wneud yn barod. Mae ‘When AI is Boss’ a’r adnodd e-ddysgu yn ardderchog.
“Mae angen i ni edrych ar y gweithgareddau rydym ni’n eu cynnal ar hyn o bryd a gofyn a oes modd ailysgrifennu neu ychwanegu rhywbeth arall at y gweithgareddau hyn? Er enghraifft, ar gwrs Cynrychiolwyr Undebau Cam 1, pan fyddwn yn addysgu cynrychiolwyr i ofyn am wybodaeth gan yr adran Adnoddau Dynol am wahanol bolisïau yn y gweithle – y polisi disgyblu, er enghraifft – gallem hefyd eu hannog i ofyn a yw deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn y gweithle.”
“Mae’r un peth yn wir am iechyd a diogelwch. Pan fyddwn yn gofyn i gynrychiolwyr chwilio am asesiadau risg, dylem ofyn iddyn nhw a oedd deallusrwydd artiffisial yn rhan o’r broses o'u creu?”
Yn gyffredinol, ar draws yr hanner dwsin o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym, pwysleisiodd undebwyr llafur eu pryderon am ddeallusrwydd artiffisial a’i effaith ar y gweithle. Ond mae’n bwysig cofnodi’r optimistiaeth a deimlai rhai, a’u penderfynoldeb i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd yn uniongyrchol.
Gall undebau weithredu nawr i sicrhau buddion i weithwyr ym myd newydd AI. Gall gweithwyr yn y sector cyhoeddus weithredu cytundeb y WPC ar AI, awtomeiddio a digideiddio yn y sector cyhoeddus.
Yn y cyfamser, gall gweithwyr yn y sector preifat geisio cynnwys cymalau ar AI yn eu cytundebau bargeinio ar y cyd. Mae ein hadroddiad Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd yn darparu mwy o wybodaeth.
Rhwng mis Mehefin a mis Tachwedd 2023, aethom i gyfres o grwpiau ffocws a chyfarfodydd gyda chynrychiolwyr, swyddogion ac aelodau o undebau llafur, gan adrodd ar hyn mewn cyfres o flogiau. Yn y blog hwn, rydym wedi adrodd ar farn a phrofiadau tiwtoriaid undebau llafur, swyddogion cydraddoldeb a chynrychiolwyr gweithgynhyrchu. Rhannwyd safbwyntiau yn anhysbys, felly rydym wedi newid enwau'r bobl yn yr erthygl hon.
Dyma blogiau eraill o’r un gyfres:
Mae deallusrwydd artiffisial yn fwy clyfar na chi, Awst 2023
Sut mae Deallusrwydd Artiffisial yn tarfu ar weithwyr mewn Colegau?, Medi 2023
Gall democratiaeth wael yn y gweithle lesteirio arloesedd ac iechyd a diogelwch, medd cynrychiolwyr undeb, Tachwedd 2023
Sut mae AI yn defnyddio gwaith, lleisiau a delweddau gweithwyr creadigol, Tachwedd 2023